10. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Diwrnod Byd-eang y Plant y Cenhedloedd Unedig

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:16 pm ar 20 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 7:16, 20 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni yn dathlu'r diwrnod hwn, Diwrnod Byd-eang y Plant, ac mae'n rhoi'r cyfle i ni asesu'r sefyllfa o ran hawliau plant. Rwyf i'n aelod o'r pwyllgor, ac fe hoffwn i ddiolch i'r Cadeirydd am ei datganiad. Mae'n rhoi blas ar waith y pwyllgor, ac rwy'n credu ei bod hi wedi cynnwys y meysydd mewn ffordd gynhwysfawr iawn. Rwy'n credu ei bod hi'n cyfeirio wrth fynd trwy'r gwahanol feysydd at y dylanwad penodol y mae'r pwyllgor wedi'i gael ar y Llywodraeth, yn ei thyb hi. Felly, nid wyf i'n gwybod a wnaiff hi ddweud rhagor am hynny. Rwy'n credu bod meysydd penodol lle cafwyd dylanwad sylweddol, ac rwy'n credu ei bod hi'n dda iawn ein bod ni wedi gallu llunio'r adroddiad 'Cadernid Meddwl' yn benodol, ac fe hoffwn i longyfarch y Cadeirydd am fod fel ffured wrth weithredu ar hynny—[chwerthin.] Daeargi, nid ffured. [Chwerthin.] Mae 'daeargi' yn air gwell. Ond, a bod o ddifrif, rwy'n credu eich bod wedi dangos arweinyddiaeth wych yn yr adroddiad hwnnw, a tybed a wnewch chi roi sylw ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i hynny.

Fel y mae eraill wedi'i ddweud, mae'n destun cyffro mawr ein bod yn dathlu'r Senedd Ieuenctid. Mae'r pleidleisio ar fin dod i ben, ac mae'n gam mawr ymlaen yn fy marn i. Nid wyf i'n gwybod a all hi ddweud sut y gallai'r pwyllgor weithio gyda'r Comisiwn a'r Senedd Ieuenctid efallai i weld hynny'n symud ymlaen. Ac eto, fe hoffwn i ddweud—nid wyf i'n gwybod a all Cadeirydd y pwyllgor wneud unrhyw sylwadau am y ffaith—ein bod ni, mewn gwirionedd, mewn sefyllfa anodd iawn o ran hawliau plant, gan nad ydym ni'n gwybod pa effaith y bydd Brexit yn ei chael ar hawliau plant, ac rydym ni hefyd wedi cael adroddiad tlodi y Cenhedloedd Unedig gan Philip Alston, y cyfeiriwyd ato yma yn y Siambr heddiw eisoes. Mae'n feirniadol iawn o effaith y credyd cynhwysol, a dywedodd Alston fod lefelau tlodi plant  yn ogystal â bod yn warthus, yn drychineb cymdeithasol ac yn drychineb economaidd.

Nid oedd yn galonogol iawn, yn fy marn i, mai ymateb Amber Rudd oedd sôn am natur hynod wleidyddol ei iaith. Tybed a wnaiff y Cadeirydd roi sylw am y ffaith ein bod ni'n edrych ar yr holl feysydd hyn yng Nghymru lle yr ydym ni'n gwneud cynnydd yn ein barn ni, ond mae'n anodd yn yr hinsawdd hon lle mae gweithredoedd Llywodraeth y DU yn cael effaith niweidiol ofnadwy ar blant yng Nghymru.