– Senedd Cymru am 7:00 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Eitem 10 ar ein hagenda heno yw datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynglŷn â Diwrnod Byd-eang y Plant y Cenhedloedd Unedig. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor, Lynne Neagle.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o allu gwneud y datganiad hwn heddiw, ar ran y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, i gydnabod pwysigrwydd Diwrnod Byd-eang y Plant y Cenhedloedd Unedig. Sefydlwyd Diwrnod Byd-eang y Plant gan y Cenhedloedd Unedig ym 1954 a chaiff ei ddathlu ar 20 Tachwedd bob blwyddyn i hybu undod rhyngwladol, ymwybyddiaeth ymhlith plant ledled y byd ac er mwyn gwella lles plant. Ers ei sefydlu, mae 20 Tachwedd wedi dod yn ddyddiad pwysig o ran cynyddu hawliau plant ledled y byd. Ar 20 Tachwedd 1959, mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y datganiad ar hawliau'r plentyn. Ar y dyddiad hwn hefyd ym 1989, mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y confensiwn ar hawliau'r plentyn. Ers 1990, mae Diwrnod Byd-eang y Plant wedi bod yn gyfle i ddathlu pen-blwydd mabwysiadu'r confensiwn a'r datganiad ar hawliau'r plentyn. Yn bwysicach, mae'n ddiwrnod pan gaiff plant ledled y byd eu hanrhydeddu a ble treulir amser i fyfyrio ar y cynnydd a wnaed o ran hyrwyddo eu hawliau.
Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru stori wych i'w hadrodd ynglŷn â'i waith yn craffu ar hawliau plant. Yn 2011, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn rhan o'i chyfraith ddomestig pan gafodd Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 ei basio. Nod y Mesur oedd atgyfnerthu a datblygu dull Llywodraeth Cymru o lunio polisïau ar gyfer plant a phobl ifanc. Roedd yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ac fe'i gwnaeth hi'n ofynnol i Weinidogion gyhoeddi cynllun hawliau plant, yn nodi'r trefniadau sydd ar waith i roi'r sylw dyledus hwnnw. Mae'n rhaid i'r dyletswyddau hyn fod yn gonglfaen i ddull Llywodraeth Cymru o lunio'i pholisïau ar gyfer plant. Mae'r pwyllgor hwn wedi monitro a chraffu ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru o dan y ddyletswydd hon, a bydd yn parhau i wneud hynny er mwyn sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn ddiogel, yn iach, yn hapus ac y caiff eu hawliau cyfreithiol eu parchu.
Mae gwaith y pwyllgor wedi cael effaith sylweddol ac mae wedi dylanwadu'n uniongyrchol ar newid a gwelliannau wrth ddarparu gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc mewn sawl maes. Rwy'n falch o'r cynnydd yr ydym ni wedi'i wneud wrth graffu ar feysydd polisi a deddfwriaeth allweddol yn hanner cyntaf y Cynulliad hwn. Ar ddechrau'r Cynulliad, fe wnaethom ni bennu egwyddorion ac uchelgeisiau clir ar gyfer ein gwaith. Un o'r egwyddorion hynny oedd y dylai ymgysylltu â phlant a phobl ifanc fod yn sylfaen i'r holl waith a wnawn, gan sicrhau bod eu safbwyntiau a'u profiadau yn cael eu cofnodi mewn ffordd ddefnyddiol, sensitif ac adeiladol. Rydym ni bellach hanner ffordd drwy'r pumed Cynulliad, felly mae hyn yn gyfle perffaith imi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am waith y pwyllgor ar faterion plant a sut yr ydym ni wedi ymgysylltu â phlant a phobl ifanc dros y cyfnod hwn. Yn anffodus, ni fyddaf i'n gallu trafod pob un o'r meysydd hyn yn y datganiad. Yn hytrach, byddaf yn canolbwyntio ar y rhai yr ydym ni wedi cael yr effaith fwyaf arnyn nhw, ac wedi ymgysylltu mwyaf â phlant, yn fy marn i.
Yn ein hymchwiliad cipolwg i wasanaethau ieuenctid yng Nghymru, rhoddodd mwy na 1,500 o bobl ifanc eu barn i ni. Roedd yr adborth gan bobl ifanc yn hynod o glir: pan fydd darpariaeth gwaith ieuenctid yn diflannu o fywyd person ifanc, mae'r effaith yn sylweddol. Ffurfiodd hyn ran hanfodol o'n canfyddiadau a'n hargymhellion. Roeddem yn falch o nodi bod Llywodraeth Cymru wedi adnewyddu'r pwyslais ar y gwasanaethau hyn yn dilyn ein hadroddiad ac ymddengys fod y cynnydd yn addawol, gyda bwrdd gwaith ieuenctid dros dro wedi ei benodi yn ddiweddar.
Er gwaethaf nifer o adroddiadau blaenllaw blaenorol yn ymwneud â gwasanaethau eiriolaeth, roedd y pwyllgor yn pryderu o hyd nad oedd y plant mwyaf agored i niwed yng Nghymru yn cael cefnogaeth i fynegi eu barn ynglŷn â materion sy'n effeithio arnyn nhw. Roedd hyn er gwaethaf y ffaith bod yr angen am eiriolaeth annibynnol yn argymhelliad allweddol yn adroddiad Waterhouse yn y flwyddyn 2000. Ni ellir tanbrisio pwysigrwydd sicrhau bod gan blant agored i niwed eiriolwr annibynnol. Felly, ym mis Hydref 2016, cynhaliwyd ymchwiliad byr, penodol i ddarpariaeth eiriolaeth statudol yng Nghymru. Rydym ni'n falch, ers ein hadroddiad, bod cynnydd wedi'i wneud a nodir yn eang bod prosesau craffu y pwyllgor yn gyfrifol am sicrhau bod y model cenedlaethol ar gyfer eiriolaeth wedi'i weithredu a'i ariannu'n llawn ledled Cymru.
Yn rhan o'n gwaith craffu ar y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), fe wnaethom ni gynnal cyfres o weithdai gyda phobl ifanc a chynhadledd ar gyfer y rhai sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol er mwyn helpu i gasglu sylwadau ynglŷn â sut mae'r Bil wedi effeithio arnyn nhw. Ffurfiodd yr ymgysylltiad hwn ran hanfodol o'n gwaith craffu ac yn rhoi dealltwriaeth dreiddgar o anghenion y plant hynny a sut y gellid defnyddio'r Bil i wella'r gwasanaethau maen nhw'n eu derbyn. Un ffordd hanfodol y gwellodd y Pwyllgor y Bil oedd cynnwys dyletswydd ar awdurdodau lleol a chyrff y GIG i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, a oedd yn ganlyniad i'n sylwadau ni a sylwadau'r comisiynydd plant.
Ystyrir bod Dechrau'n Deg yn un o raglenni blynyddoedd cynnar blaenllaw Llywodraeth Cymru. Fe wnaethom ni ddewis cynnal ymchwiliad yn canolbwyntio ar elfennau allgymorth Dechrau'n Deg, oherwydd dywedodd ymatebwyr i'n hymgynghoriad yn 2016 ar y 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd plentyn eu bod yn bryderus ynghylch cyrhaeddiad y rhaglen. Er bod cefnogaeth gyffredinol i nodau Dechrau'n Deg, roedd pryder y gall targedu daearyddol y rhaglen greu mwy o anghydraddoldeb drwy eithrio nifer sylweddol o blant sy'n byw mewn tlodi. Arweiniodd ystyriaeth y pwyllgor o'r mater hwn at newid cadarnhaol, yn arbennig o ran ymestyn y cyllid allgymorth, er mwyn i awdurdodau lleol gael mwy o hyblygrwydd i ddewis defnyddio eu cyllidebau i ddarparu gwasanaethau Dechrau'n Deg y tu allan i ardaloedd cod post dynodedig. Mae dros £600 miliwn wedi ei wario ar Dechrau'n Deg hyd yn hyn, a bydd ein pwyllgor yn parhau i dynnu sylw at ba un a all y buddsoddiad hwn ddarparu tystiolaeth ei fod yn cyflawni canlyniadau gwell yn y blynyddoedd cynnar.
Mae iechyd meddwl ac emosiynol ein plant a'n pobl ifanc yn hollbwysig. Yn ein hadroddiad 'Cadernid Meddwl', fe wnaethom ni alw ar Lywodraeth Cymru i drawsnewid y cymorth sydd ar gael. Fe wnaethom ni gasglu tystiolaeth helaeth a daethom i'r casgliad bod yr her frys bellach ym mhen blaen y llwybr gofal, a bod angen llawer mwy o gefnogaeth ar gyfer lles emosiynol, cydnerthedd ac ymyrraeth gynnar. Bydd methu â chyflawni ym mhen hwn y llwybr yn arwain at fwy o alw am wasanaethau arbenigol na'r hyn sydd ar gael a bydd yn gadael cyfran sylweddol o blant—y canol coll, fel y'u gelwir—heb y cymorth sydd ei angen. Mae ein siom ynghylch ymateb gwreiddiol Llywodraeth Cymru wedi'i gofnodi'n dda, ond rwy'n croesawu'r ffaith bod Ysgrifenyddion y Cabinet wedi myfyrio dros yr haf ac wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen a gyfarfu'n ddiweddar am y tro cyntaf i ystyried ffordd ymlaen. Fel Pwyllgor, ni fyddwn yn llaesu dwylo ar hyn ac rydym ni wedi gofyn am ymateb ysgrifenedig diwygiedig i'n hargymhellion erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Byddwn yn cadw llygaid barcud ar gamau gweithredu'r Llywodraeth yn y maes hwn.
Tynnwyd sylw'r pwyllgor at bryder ynghylch y mater o ddiffyg gwerslyfrau addas ac adnoddau addysgol eraill gan rai ar draws y sector ac yn bwysicaf gan ddisgyblion ysgol eu hunain. Mae darparu adnoddau priodol ar gyfer dysgwyr, yn arbennig ar gyfer TGAU a safon uwch, yn hanfodol. Felly gwnaeth y pwyllgor waith i weld yr hyn y gellid ei wneud i wella hyn. I helpu i ddeall y problemau, cawsom dystiolaeth yn uniongyrchol gan nifer o blant drwy gyfres o blogiau fideo. Trwy wrando'n uniongyrchol ar y plant helpodd hyn inni ddeall natur y materion yr oedden nhw'n eu hwynebu a maint y broblem.
Er nad yw'n rhan o waith y pwyllgor, byddai'n esgeulus imi beidio â sôn am Senedd Ieuenctid Cymru ar Ddiwrnod Byd-eang y Plant. Rwy'n ddiolchgar i'r Llywydd ac i'r tîm prosiect senedd ieuenctid am roi gwybodaeth reolaidd imi am y cynnydd. Mae sefydlu senedd yn gyfnod wirioneddol gyffrous yn hanes y Cynulliad. Mae'n gydnabyddiaeth wirioneddol o werth plant a phobl ifanc yn ein democratiaeth a dylai greu cysylltiadau ystyrlon a pharhaus rhwng ysgolion, pobl ifanc a'r Cynulliad. Mae'r broses o ethol y senedd ieuenctid cyntaf yn mynd rhagddi, fel y gwyddoch chi, ac mae pleidleisiau yn cau ar ddiwedd yr wythnos hon. Fe hoffwn i gynnig cefnogaeth lawn ein Pwyllgor i'r senedd ieuenctid a'i haelodau ac rwy'n edrych ymlaen at y Pwyllgor yn gweithio gyda'r senedd lle bynnag y bo modd.
Ceir llawer o feysydd eraill o waith y pwyllgor y gallwn i siarad amdanynt sydd wedi effeithio ar blant. Rydym ni wedi gwneud llawer o waith ac rydym ni'n ymrwymedig i weithredu ar ein holl ymchwiliadau. Enghraifft gyfredol o hyn yw'r gwaith dilynol yr ydym ni'n ei wneud ar hyn o bryd ar ein hymchwiliad iechyd meddwl amenedigol. Wrth edrych ymlaen, mae gennym ni faich gwaith trwm, sy'n cynnwys ymchwiliadau i effaith Brexit ar addysg uwch ac addysg bellach a statws Bagloriaeth Cymru, yn ogystal â'r gwaith sy'n parhau ar Fil Cyllido Gofal Plant (Cymru). Mae deddfwriaeth ar y gweill hefyd.
Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi cyhoeddi ei adroddiad heddiw ar blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Mae'n ofid mawr bod yr adroddiad yn dweud bod plant sy'n derbyn gofal ledled Cymru yn cael cam oherwydd nad yw sefydliadau yn cydnabod eu cyfrifoldebau rhianta corfforaethol. Yn rhan o'n rhaglen waith, byddwn yn edrych yn fanwl ar yr adroddiad hwn ac ar ymateb y Llywodraeth. Fel yr amlinellwyd, bydd y pwyllgor yn parhau â'i waith mewn cysylltiad â 'Cadernid Meddwl' ac mae wedi ymrwymo i gynnal ymchwiliadau i gyllid ysgolion a gordewdra ymhlith plant.
Yn olaf, byddwn yn gwneud gwaith i ystyried sut y mae Mesur hawliau'r plentyn wedi gweithio'n ymarferol, a sut y gellid gwella'r ddeddfwriaeth honno yn fwy i roi sylfaen gadarnach fyth i hawliau plant yng Nghymru. Rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau bod hawliau plant yn fwy na geiriau ar dudalen—rydym ni am fod yn glir eu bod yn cael eu hystyried, eu parchu a'u cynnal ar draws holl weithgarwch y Llywodraeth. I gloi fy natganiad heddiw, Dirprwy Lywydd, hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ein gwaith yn ystod y pumed Cynulliad hwn, ond, yn benodol, rydym yn ddiolchgar iawn i'r plant a'r bobl ifanc, mae eu cyfraniadau wedi chwarae rhan mor enfawr wrth helpu i lunio polisi a deddfwriaeth yng Nghymru. Diolch.
Diolch. Mae gen i nifer o siaradwyr, felly, os wnaiff bawb fod yn eithaf cryno, dylwn i allu eich cynnwys chi i gyd. Felly, mater i chi yn llwyr yw hynny. Janet Finch-Saunders.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Mae mor galonogol, mewn gwirionedd, clywed Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Gwn fel ffaith fod eich bwriadau a'ch dyheadau ar gyfer ein plant yng Nghymru yn ddidwyll ac yn ganmoladwy iawn, ac yn sicr mae eich penderfyniad yn amlwg iawn. Felly diolch am y gwaith yr ydych chi'n ei wneud, ac rwy'n falch iawn o fod yn aelod o'ch pwyllgor.
Rydym ni, wrth gwrs, heddiw yn dathlu ac yn croesawu Diwrnod Byd-eang y Plant y Cenhedloedd Unedig, a sefydlwyd ym 1954. Thema'r diwrnod eleni yw 'glas', ac mae pob un ohonom yn ceisio adeiladu byd lle mae pob plentyn yn yr ysgol, yn ddiogel rhag niwed ac yn gallu cyflawni ei botensial ei hun. Fodd bynnag, yng Nghymru, cawn ein hatgoffa drwy ein gwaith achos ein hunain fel Aelodau Cynulliad bod gan Lywodraeth Lafur Cymru fwy i'w wneud i sicrhau y cyflawnir y nodau sylfaenol hynny. Mae adroddiad diweddar y comisiynydd plant yn mynd i'r afael i raddau â rhai o'r diffygion amlwg, ac mae hi'n briodol iawn i dynnu sylw atyn nhw.
Y ffaith nad oes unrhyw asesiadau effaith hawliau plant o gyllideb Llywodraeth Cymru y llynedd—ac roedd hyn er gwaethaf argymhellion gan y comisiynydd plant i gynnal asesiadau effaith ar gyfer tri mater yn ymwneud â phlant: grantiau gwisg ysgol, grantiau cyrhaeddiad lleiafrifoedd ethnig, a rhaglen cyswllt ysgolion Cymru Gyfan. Pryder arbennig i mi yn yr adroddiad yw'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud fawr ddim cynnydd o ran ymyraethau cynnar ar gyfer iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Ac, unwaith eto, fe hoffwn i'ch canmol chi unwaith eto, Lynne Neagle AC, am y gwaith yr ydych chi wedi'i wneud i geisio cyflawni newid sylweddol trwy'r gwaith yr ydych chi wedi'i wneud o'r blaen. Rydym ni i gyd yn gyfarwydd iawn â pha mor annigonol yw'r ddarpariaeth ar gyfer anghenion ymddygiadol ac emosiynol, heb fod yn gymwys mewn gwirionedd ar gyfer ymyrraeth gan y gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc, a hynny er gwaethaf llawer o argymhellion blaenorol. Mae'n parhau heddiw bod ychydig neu, yn wir, dim tystiolaeth o—. Er gwaethaf llawer o rethreg yn y Siambr hon gan aelodau'r Cabinet yn y gorffennol, nid yw'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn rhoi digon o ddifrifoldeb i'w rhwymedigaethau ei hun.
Hoffwn i wybod sut y mae'r argymhellion yn yr adroddiad hwn gan y comisiynydd plant, yn enwedig y rhai coch, lle na wnaed argymhelliad ar y pwnc hwn eleni, sy'n datgan:
'Dylai Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol sicrhau cefnogaeth wladol briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu plant a phobl ifanc Byddar a rhai â nam ar eu clyw a’u teuluoedd, gan gynnwys cyfleoedd dysgu hygyrch a fforddiadwy ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar amrywiaeth o lefelau, a chyflogi staff mewn ysgolion sy’n cyfathrebu’n rhugl mewn BSL, i ymateb i anghenion unigolion.'
Meddwl oeddwn i, yn yr oes sydd ohoni, fod hynny'n ofyniad sylfaenol, ond mae'n un y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i ddewis ei anwybyddu.
I gloi ar nodyn cadarnhaol, fodd bynnag, rydym ni i gyd wedi ein calonogi gan sefydliad Senedd Ieuenctid Cymru. Mae'n gydnabyddiaeth wirioneddol o'n hieuenctid a'u gwerth eu hunain i'n cymdeithas, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda phleidiau eraill ar draws y Siambr hon ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, gyda fy nghyd-Aelod Suzy Davies AC, er mwyn sicrhau ein bod yn wirioneddol yn ymgorffori'r hawliau plant hynny nid yn ein meddyliau neu yn ein geiriau yn unig, ond yn wirioneddol yn ein gweithredoedd.
Diolch, Janet Finch-Saunders, am y sylwadau hynny ac am y geiriau caredig, rwy'n eu gwerthfawrogi'n fawr. Roedd nifer o'r materion y gwnaethoch chi eu crybwyll yn ymwneud ag adroddiad y comisiynydd plant. Fel y gwyddoch chi, bydd y comisiynydd plant ger ein bron ddydd Iau, a bydd gennym ni gyfle i'w holi'n uniongyrchol ac i gymryd camau dilynol ar y materion hynny bryd hynny, ac mae pob mater y mae hi wedi'i godi yn bwysig iawn.
Rwy'n cytuno â chi ynghylch yr asesiadau effaith ar hawliau plant. Mae hyn wedi bod yn bryder parhaus i'r pwyllgor, a byddwch yn ymwybodol ein bod, yr wythnos diwethaf, wedi cynnal cyfarfod cydamserol â'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Cyllid, ac rwy'n gobeithio, fel grŵp o bwyllgorau, y gallwn ni weithredu ar yr argymhellion hynny i wneud yr asesiadau effaith hynny yn fwy ystyrlon. Ond yr hyn y byddaf i'n ei ddweud yw bod rheswm dros neilltuo plant ar gyfer asesiad effaith penodol, a hynny yw oherwydd nad oes ganddyn nhw bleidlais, nad oes ganddyn nhw'r math hwnnw o lais democrataidd, felly mae'n arbennig o bwysig, yn fy marn i, inni sicrhau bod eu hawliau wrth wraidd yr hyn a wnawn. Diolch ichi am y sylwadau, ac rwy'n cytuno â chi ynghylch y Senedd Ieuenctid.
Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni yn dathlu'r diwrnod hwn, Diwrnod Byd-eang y Plant, ac mae'n rhoi'r cyfle i ni asesu'r sefyllfa o ran hawliau plant. Rwyf i'n aelod o'r pwyllgor, ac fe hoffwn i ddiolch i'r Cadeirydd am ei datganiad. Mae'n rhoi blas ar waith y pwyllgor, ac rwy'n credu ei bod hi wedi cynnwys y meysydd mewn ffordd gynhwysfawr iawn. Rwy'n credu ei bod hi'n cyfeirio wrth fynd trwy'r gwahanol feysydd at y dylanwad penodol y mae'r pwyllgor wedi'i gael ar y Llywodraeth, yn ei thyb hi. Felly, nid wyf i'n gwybod a wnaiff hi ddweud rhagor am hynny. Rwy'n credu bod meysydd penodol lle cafwyd dylanwad sylweddol, ac rwy'n credu ei bod hi'n dda iawn ein bod ni wedi gallu llunio'r adroddiad 'Cadernid Meddwl' yn benodol, ac fe hoffwn i longyfarch y Cadeirydd am fod fel ffured wrth weithredu ar hynny—[chwerthin.] Daeargi, nid ffured. [Chwerthin.] Mae 'daeargi' yn air gwell. Ond, a bod o ddifrif, rwy'n credu eich bod wedi dangos arweinyddiaeth wych yn yr adroddiad hwnnw, a tybed a wnewch chi roi sylw ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i hynny.
Fel y mae eraill wedi'i ddweud, mae'n destun cyffro mawr ein bod yn dathlu'r Senedd Ieuenctid. Mae'r pleidleisio ar fin dod i ben, ac mae'n gam mawr ymlaen yn fy marn i. Nid wyf i'n gwybod a all hi ddweud sut y gallai'r pwyllgor weithio gyda'r Comisiwn a'r Senedd Ieuenctid efallai i weld hynny'n symud ymlaen. Ac eto, fe hoffwn i ddweud—nid wyf i'n gwybod a all Cadeirydd y pwyllgor wneud unrhyw sylwadau am y ffaith—ein bod ni, mewn gwirionedd, mewn sefyllfa anodd iawn o ran hawliau plant, gan nad ydym ni'n gwybod pa effaith y bydd Brexit yn ei chael ar hawliau plant, ac rydym ni hefyd wedi cael adroddiad tlodi y Cenhedloedd Unedig gan Philip Alston, y cyfeiriwyd ato yma yn y Siambr heddiw eisoes. Mae'n feirniadol iawn o effaith y credyd cynhwysol, a dywedodd Alston fod lefelau tlodi plant yn ogystal â bod yn warthus, yn drychineb cymdeithasol ac yn drychineb economaidd.
Nid oedd yn galonogol iawn, yn fy marn i, mai ymateb Amber Rudd oedd sôn am natur hynod wleidyddol ei iaith. Tybed a wnaiff y Cadeirydd roi sylw am y ffaith ein bod ni'n edrych ar yr holl feysydd hyn yng Nghymru lle yr ydym ni'n gwneud cynnydd yn ein barn ni, ond mae'n anodd yn yr hinsawdd hon lle mae gweithredoedd Llywodraeth y DU yn cael effaith niweidiol ofnadwy ar blant yng Nghymru.
Diolch i chi, Julie, am y sylwadau hynny, a diolch ichi am y cyfraniadau cadarnhaol iawn yr ydych chi'n eu gwneud i'r pwyllgor yn gyson. Fe wnes i roi rhai enghreifftiau yn y datganiad o sut rwy'n credu ein bod wedi gallu sicrhau rhywfaint o newid. Fe wnaethoch chi gyfeirio at 'Cadernid Meddwl', ac, fel y gwyddoch chi, roedd y pwyllgor yn siomedig iawn ag ymateb Llywodraeth Cymru i 'Cadernid Meddwl'. Ond erbyn hyn, mae'r grŵp gorchwyl a gorffen wedi'i sefydlu. Rwyf i'n aelod ohono, fel aelod sy'n cyfrannu'n llawn ond yn cadw statws arsylwi, felly'n cadw fy ngallu i feirniadu a nodi pethau nad wyf i'n fodlon arnyn nhw, a byddaf i'n sicr yn parhau i wneud hynny. Rwy'n credu bod y ddau Ysgrifennydd Cabinet, ac rwy'n gobeithio yn y Llywodraeth yn ei chyfanrwydd—bod pawb yn sylweddoli bod y pwyllgor yn gwbl benderfynol o gyflawni'r hyn sydd, yn fy marn i, yn fap cynhwysfawr o'r daith ar gyfer newid yn 'Cadernid Meddwl'. Nid ydym am laesu dwylo; byddwn yn parhau i weithredu'n ddibaid, oherwydd nid ydym yn dymuno trosglwyddo hyn i bwyllgor arall mewn Cynulliad arall. Nawr yw'r amser i ymdrin â hyn.
Diolch am eich sylwadau ynghylch y Senedd Ieuenctid. Rwy'n awyddus iawn, pan fyddan nhw yn y swydd, ein bod yn sefydlu perthynas waith gref â nhw. Rwy'n credu y bydd yn bwysig i wrando arnyn nhw ynghylch sut y maen nhw'n dymuno ymgysylltu â ni, yn hytrach nag ein bod ni'n dweud, 'Wel, ni yw'r pwyllgor plant; hoffem ni wneud hyn a hyn.' Ond rwy'n gobeithio, cyn gynted â'u bod yn eu swydd, y gallwn ni ddechrau cynnal y trafodaethau hynny a'u bod yn gwybod ein bod ni'n awyddus i weithio gyda nhw gymaint ag y bo modd.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at adroddiad cennad y Cenhedloedd Unedig, a oedd yn sicr yn adroddiad difrifol iawn yr wythnos diwethaf, drwy sôn am amddifadedd a phobl mewn tlodi eithafol, sydd wrth gwrs yn cael effaith enfawr ar blant. Rwy'n gobeithio, wrth i ni wneud y gwaith ar y Mesur hawliau'r plentyn, y bydd hwnnw'n cynnwys rhywfaint o graffu ar y meysydd sy'n ymwneud â thlodi plant, sydd wrth gwrs wedi'u cynnwys gan y Cenhedloedd Unedig. Ond rwy'n credu ei bod hefyd yn cyflwyno heriau i ni fel Cynulliad, oherwydd, er bod pethau fel credyd cynhwysol wedi'i wthio arnom ni gan San Steffan, rydym yn mynd i orfod ceisio gwella pethau gorau y gallwn, a thema gyffredin i'r pwyllgor fu pryder ynghylch pwy sy'n gyfrifol am dlodi a thlodi plant yn y Cynulliad erbyn hyn, gan nad oes Gweinidog penodol yn gyfrifol amdano, ac mae hyn yn cyflwyno heriau wrth graffu arno. Rwy'n gobeithio, yn y dyfodol, y gallwn ni fynd i'r afael â hynny, a gyda phwyllgor John Griffiths hefyd, oherwydd mae'n rhaid inni—. Mae cymaint o'r problemau hyn yr ydym ni'n eu gweld, fel problemau iechyd meddwl, yn dechrau gyda phobl sy'n byw mewn tlodi, ac mae'n rhaid inni fynd i'r afael â nhw.
Diolch yn fawr iawn i Lynne am ei datganiad ac am greu'r cyfle i ni roi ffocws clir ar hawliau plant yng Nghymru heno. Rydw i'n falch iawn, fel rydym ni i gyd, rydw i'n siŵr, fod Cymru wedi mabwysiadu confensiwn hawliau'r plentyn y Cenhedloedd Unedig yn 2011—gwlad gyntaf y Deyrnas Unedig i wneud hynny. Mae'n gwbl briodol fod Llywodraeth Cymru yn mynd i gyhoeddi arolwg o'i hymrwymiadau i'r confensiwn y flwyddyn nesaf, a bydd hyn yn rhoi cyfle uniongyrchol i'r Cynulliad graffu ar weithrediad y Mesur. Fel rydym ni wedi clywed, mae'r comisiynydd plant yn hynod feirniadol na wnaed unrhyw asesiadau effaith hawliau plant ar y cynigion cyllideb presennol. Mae erthygl 4 confensiwn hawliau'r plentyn yn ei gwneud hi'n ofynnol i bob lefel o lywodraeth weithredu mewn ffordd sy'n gyson â'r confensiwn. Mae'n dweud bod angen asesu'n gyson sut bydd cyllidebau yn effeithio ar grwpiau gwahanol o blant, gan sicrhau bod y penderfyniadau cyllideb yn arwain at y deilliannau gorau posib i'r nifer mwyaf o blant, ond gan gymryd i ystyriaeth, yn ganolog i'r broses, plant mewn sefyllfaoedd bregus. Ond mi ddywedodd y comisiynydd yr wythnos diwethaf:
mae'n ymddangos bod hawliau plant yn 'ychwanegiad' o fewn y gyllideb hon,
yn hytrach na bod hawliau'n rhan o'r dadansoddiad o'r cychwyn cyntaf, a hynny yn arwain at y penderfyniadau cyllidebol.
Felly, ydy, mae'r comisiynydd plant yn bod yn hynod feirniadol, ac efo pob lle i fod yn feirniadol, ond, a bod yn deg, mi wnaeth hi hefyd ddweud mai prin iawn ydy'r enghreifftiau o arfer dda. Hynny yw, prin iawn ydy'r enghreifftiau o lywodraethau yn gweithio'n systematig i sicrhau bod blaenoriaeth yn cael ei rhoi i blant a hawliau plant yn ystod eu prosesau creu cyllidebau. Felly, nid yw Cymru ar ei phen ei hun yn hynny o beth. Ychydig iawn o esiamplau sydd yna o wladwriaethau sydd yn wirioneddol lwyddiannus wrth osod cyllidebau yn unol â'u hymrwymiadau i hawliau plant. Felly, beth am i ni yma yn Senedd Cymru ddangos y ffordd? Ni ydy'r cyntaf yn y DU i fabwysiadu'r confensiwn. Beth am i ni fod y Senedd gyntaf—y gyntaf yn y byd—i wreiddio ystyriaethau hawliau plant yn ddwfn i'n prosesau cyllidebu? Buaswn i'n hoffi cael eich barn chi ac, yn bwysicach, efallai, barn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar hynny. Mi fyddai'n wych o beth pe baem ni'n gallu cefnogi hynny heddiw ar ddiwrnod plant y Cenhedloedd Unedig.
Diolch i Siân Gwenllian am ei sylwadau. Rwy'n falch iawn o'i chael hi'n aelod o'r pwyllgor hefyd. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynghylch y mater hawliau plant. Mae wedi bod yn thema gyson yn y Cynulliad—ein bod ni'n pryderu, er gwaethaf y cychwyn gwych hwn yn ôl yn 2011, bod yr ymrwymiad hwnnw wedi gwanhau yn ystod y blynyddoedd diwethaf am resymau teilwng iawn eu golwg, yn sgil pethau fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ond, fel y dywedais i'n gynharach, mae yna reswm pam yr ydym ni wedi neilltuo plant, ac mae'n rhaid inni lynu at hynny mewn gwirionedd. Rwy'n gobeithio y gallwn ni fwrw ymlaen â hyn, trwy weithio gyda phwyllgorau eraill.
Awgrym cadarnhaol iawn arall a ddaeth i'r amlwg yr wythnos diwethaf oedd edrych yn ôl ar y gwaith rhagorol a gafodd ei wneud, pan oedd Jane Hutt yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, o ran cyllidebu ar gyfer plant, oherwydd nid yw'n ddigon i wneud dim mwy na siarad am y pethau hyn; mae'n rhaid inni wneud yn siŵr eu bod yn digwydd. Rwy'n credu y byddai'n wych pe gallem ni fel Cynulliad wneud yn siŵr ein bod yn parhau i arwain y ffordd yn y maes hwn. Rwy'n frwdfrydig iawn, iawn ynghylch hynny.
Rwyf i hefyd yn falch o allu siarad ar Ddiwrnod Byd-eang y Plant yn y sefydliad hwn, sydd wedi gwneud cymaint dros hawliau plant yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Fe allwn ni fod yn falch bod hawliau plant yn gonglfaen i bopeth yr ydym ni'n ei wneud. Fe wnaeth y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 sicrhau mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i integreiddio hawliau plant mewn cyfraith ddomestig. Dywedodd John F Kennedy un tro mai plant yw adnodd mwyaf gwerthfawr y byd a'i obaith gorau ar gyfer y dyfodol.
Er fy mod i'n siŵr bod pawb yn y Siambr yn cydweld yn llwyr â hynny, rwyf i'n credu y gall pob un ohonom ni fod yn falch nad yw cymorth y Cynulliad hwn ar gyfer ein hadnodd mwyaf gwerthfawr wedi'i gyfyngu i ddatganiadau â bwriad da, yn hytrach y mae wedi'i ymgorffori mewn deddfwriaeth, ac, ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, mae gan y ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â thrais domestig, a arweiniwyd gan Carl Sargeant, le gwerthfawr i sicrhau hawliau'r plentyn.
Fe allwn ni hefyd fod yn falch o arwain y ffordd trwy greu Comisiynydd Plant Cymru yn 2001—rhywbeth sydd wedi ei efelychu yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'n bwysig ein bod ni fel gwleidyddion, yn gwrando ar leisiau pobl ifanc, a dyna pam rwy'n falch o weld cynifer o bobl ifanc ledled Cymru yn ymgysylltu â'r etholiad cyntaf i Senedd Ieuenctid Cymru. Felly, da iawn, i bob un o'n hymgeiswyr ac, yn amlwg, pob lwc i Islwyn.
Er bod llawer inni ymfalchïo ynddo, mae'n rhaid inni hefyd gydnabod yr heriau sy'n wynebu gormod o blant yng Nghymru. Mae'n briodol ein bod ni yn y lle hwn yn cydnabod y pwysau sydd ar y gwasanaethau ieuenctid ar hyn o bryd, nid lleiaf gan agenda gyni niweidiol a chreulon y Llywodraeth Dorïaidd sydd wedi'i drosglwyddo i lywodraeth leol, sy'n ymdrin â'r aelodau mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae'n ddifrifol clywed adroddwr y Cenhedloedd Unedig yn trafod tlodi a hawliau dynol yn ei adroddiad damniol sydd newydd ei gyhoeddi ar dlodi a'r effaith ar blant ledled y DU. Dyma ail adroddiad hynod ddamniol y Cenhedloedd Unedig ar bolisi cymdeithasol Llywodraeth y DU, sydd, yn ei eiriau ei hun, yn creu tlodi a digartrefedd drwy system les greulon ac atgas, ac yng ngeiriau'r adroddiad, yn methu â sicrhau hawliau'r plentyn. Rwy'n pryderu'n fawr ynghylch y cynnydd posibl mewn digartrefedd ymhlith pobl ifanc, sy'n cael ei wneud yn waeth gan drefniadau diwygio lles y DU a pholisïau anflaengar Llywodraeth y DU.
Er gwaethaf y sefyllfa ddigalon hon, mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau blaengar. Ddoe ddiwethaf, roeddwn i'n falch o groesawu'r Prif Weinidog i fy etholaeth i yn Aberbargoed i weld y gwaith cydweithredol rhagorol sy'n digwydd rhwng gwasanaethau ieuenctid Caerffili, Llywodraeth Cymru a grwpiau trydydd sector fel Llamau—gweithio ar y cyd ar gyfer y plentyn unigol—ac i gyhoeddi £10 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer prosiectau i atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Gweithredu gwirioneddol yw hynny a menter wirioneddol. Rwy'n croesawu'r cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru o £15 miliwn, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, i fynd i'r afael â'r cynnydd yn nifer y plant sy'n derbyn gofal. A gofynnaf i bawb yn y Siambr hon gydweithio a galw ar Lywodraeth y DU i amddiffyn hawliau'r plentyn a dileu'r angen am adroddiad arall gan y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol a thlodi yn y DU trwy roi terfyn ar gyni a pheidio â pharhau â'r llanast yn sgil cyflwyno'r credyd cynhwysol trwy ei ddirwyn i ben. Rwy'n galw ar bawb yn y Siambr hon i alw ar Lywodraeth y DU i roi terfyn ar hynny. Diolch.
Lynne Neagle, yn fyr, i ymateb.
A gaf i ddiolch i Rhianon Passmore am ei sylwadau? Rwy'n cytuno bod gennym ni hanes da iawn yng Nghymru, un y gallwn ni fod yn falch ohono, ond ni allwn ni fod yn hunanfodlon, yn enwedig ar adeg o gyni pan fo'r fath flaenoriaethau yn gwrthdaro. Mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni i wneud ein gorau i sicrhau bod hawliau plant yn ganolog i'r hyn yr ydym yn ei wneud.
Diolch i chi am grybwyll y gwasanaethau ieuenctid. Maen nhw'n hanfodol bwysig. Dyna oedd ein hymchwiliad cyntaf. Maen nhw'n bwysig i'r plant mwyaf agored i niwed, ond mae hefyd yn bwysig ein bod yn cofio eu bod nhw yno ar gyfer pob plentyn, ac roedd honno'n neges glir iawn yn ein hymchwiliad, y dylai hyn fod yn ddarpariaeth gyffredinol sy'n agored i'r holl blant a phobl ifanc er mwyn darparu ar gyfer pawb.
Eto rwy'n cytuno â'ch sylwadau ynghylch adroddiad y Cenhedloedd Unedig. Rwy'n credu ei bod hi'n rhywbeth y bydd yn rhaid inni ymdrin ag ef. Rwy'n gobeithio ei bod yn rhywbeth y gall y pwyllgorau weithio gyda'i gilydd i ymdrin ag ef, ac rwy'n gobeithio y bydd pawb yn cyfleu'r negeseuon sydd ynddo, oherwydd dim ond hyn a hyn y gallwn ni ei wneud ar rai pethau, ac mae diwygiadau lles anffafriol iawn yn parhau i gael eu gwthio arnom ni. Yn y pen draw, mae tlodi yn effeithio cymaint ar yr holl faterion eraill fel problemau iechyd meddwl, perthynas teuluol yn chwalu, ac yn y blaen. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd arno. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Diolch.