Part of the debate – Senedd Cymru am 7:27 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Rwyf i hefyd yn falch o allu siarad ar Ddiwrnod Byd-eang y Plant yn y sefydliad hwn, sydd wedi gwneud cymaint dros hawliau plant yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Fe allwn ni fod yn falch bod hawliau plant yn gonglfaen i bopeth yr ydym ni'n ei wneud. Fe wnaeth y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 sicrhau mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i integreiddio hawliau plant mewn cyfraith ddomestig. Dywedodd John F Kennedy un tro mai plant yw adnodd mwyaf gwerthfawr y byd a'i obaith gorau ar gyfer y dyfodol.
Er fy mod i'n siŵr bod pawb yn y Siambr yn cydweld yn llwyr â hynny, rwyf i'n credu y gall pob un ohonom ni fod yn falch nad yw cymorth y Cynulliad hwn ar gyfer ein hadnodd mwyaf gwerthfawr wedi'i gyfyngu i ddatganiadau â bwriad da, yn hytrach y mae wedi'i ymgorffori mewn deddfwriaeth, ac, ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, mae gan y ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â thrais domestig, a arweiniwyd gan Carl Sargeant, le gwerthfawr i sicrhau hawliau'r plentyn.
Fe allwn ni hefyd fod yn falch o arwain y ffordd trwy greu Comisiynydd Plant Cymru yn 2001—rhywbeth sydd wedi ei efelychu yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'n bwysig ein bod ni fel gwleidyddion, yn gwrando ar leisiau pobl ifanc, a dyna pam rwy'n falch o weld cynifer o bobl ifanc ledled Cymru yn ymgysylltu â'r etholiad cyntaf i Senedd Ieuenctid Cymru. Felly, da iawn, i bob un o'n hymgeiswyr ac, yn amlwg, pob lwc i Islwyn.
Er bod llawer inni ymfalchïo ynddo, mae'n rhaid inni hefyd gydnabod yr heriau sy'n wynebu gormod o blant yng Nghymru. Mae'n briodol ein bod ni yn y lle hwn yn cydnabod y pwysau sydd ar y gwasanaethau ieuenctid ar hyn o bryd, nid lleiaf gan agenda gyni niweidiol a chreulon y Llywodraeth Dorïaidd sydd wedi'i drosglwyddo i lywodraeth leol, sy'n ymdrin â'r aelodau mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae'n ddifrifol clywed adroddwr y Cenhedloedd Unedig yn trafod tlodi a hawliau dynol yn ei adroddiad damniol sydd newydd ei gyhoeddi ar dlodi a'r effaith ar blant ledled y DU. Dyma ail adroddiad hynod ddamniol y Cenhedloedd Unedig ar bolisi cymdeithasol Llywodraeth y DU, sydd, yn ei eiriau ei hun, yn creu tlodi a digartrefedd drwy system les greulon ac atgas, ac yng ngeiriau'r adroddiad, yn methu â sicrhau hawliau'r plentyn. Rwy'n pryderu'n fawr ynghylch y cynnydd posibl mewn digartrefedd ymhlith pobl ifanc, sy'n cael ei wneud yn waeth gan drefniadau diwygio lles y DU a pholisïau anflaengar Llywodraeth y DU.
Er gwaethaf y sefyllfa ddigalon hon, mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau blaengar. Ddoe ddiwethaf, roeddwn i'n falch o groesawu'r Prif Weinidog i fy etholaeth i yn Aberbargoed i weld y gwaith cydweithredol rhagorol sy'n digwydd rhwng gwasanaethau ieuenctid Caerffili, Llywodraeth Cymru a grwpiau trydydd sector fel Llamau—gweithio ar y cyd ar gyfer y plentyn unigol—ac i gyhoeddi £10 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer prosiectau i atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Gweithredu gwirioneddol yw hynny a menter wirioneddol. Rwy'n croesawu'r cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru o £15 miliwn, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, i fynd i'r afael â'r cynnydd yn nifer y plant sy'n derbyn gofal. A gofynnaf i bawb yn y Siambr hon gydweithio a galw ar Lywodraeth y DU i amddiffyn hawliau'r plentyn a dileu'r angen am adroddiad arall gan y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol a thlodi yn y DU trwy roi terfyn ar gyni a pheidio â pharhau â'r llanast yn sgil cyflwyno'r credyd cynhwysol trwy ei ddirwyn i ben. Rwy'n galw ar bawb yn y Siambr hon i alw ar Lywodraeth y DU i roi terfyn ar hynny. Diolch.