Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Ynglŷn â'r ail bwynt, byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ysgrifennu ati'n uniongyrchol ac egluro iddi lle'r ydym ni ar yr amserlen. Mae arnaf ofn nad yw'r wybodaeth honno gennyf, ond byddaf yn gofyn iddo egluro.
Ynglŷn â'r pwynt cyntaf, unwaith eto, wnes i ddim sylweddoli bod yr amserlen wedi llithro cymaint â hynny, ac rwyf yn fwy na pharod i drafod lle'r ydym ni ar yr amserlen gydag Ysgrifennydd y Cabinet ac i adael i'r Aelod wybod.