– Senedd Cymru am 2:26 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ, Julie James.
Diolch, Llywydd. Mae yna ddau newid i agenda heddiw. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad cyn bo hir ar y cytundeb drafft ar gyfer ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd, ac o ganlyniad mae'r datganiad llafar ar ddiwygio gwasanaethau deintyddol wedi ei ohirio tan 11 Rhagfyr. Nodir busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, y gellir eu gweld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Arweinydd y tŷ, dim ond ychydig wythnosau yn ôl, cyfarfûm ag Adrian Farey, un o'm hetholwyr sy'n rhedeg prosiect coetir cynaliadwy tymor hir yn rhanbarth Dyffryn Elwy o'm hetholaeth. Ymwelodd y Gweinidog Amgylchedd â mi yr wythnos diwethaf, ac roeddwn yn falch iawn ei bod hi wedi mwynhau ei hymweliad i ddysgu mwy am y sefydliad y mae'n ei redeg. Ond dyma'r union fath o fodel, yn fy marn i, a fydd yn helpu i wneud ein cymunedau gwledig yn gynaliadwy, a helpu i annog a hyrwyddo defnyddio cynhyrchion coed lleol a chynaliadwy yn y dyfodol. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai Gweinidog yr Amgylchedd gyflwyno datganiad ynglŷn â'r cymorth y byddai'n gallu ei gynnig i brosiectau fel prosiect Adrian Farey a rhai eraill ledled Cymru o ran hyrwyddo defnyddio coed lleol ar gyfer prosiectau adeiladu lleol.
A gaf i hefyd alw, arweinydd y tŷ, am ddatganiad ar ddyfodol ardrethi busnes ar gyfer ysgolion annibynnol yng Nghymru? Bu cryn dipyn o bryder ymhlith ysgolion annibynnol ledled y wlad. Ceir 20 yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda miloedd o fyfyrwyr ynddynt. Maen nhw'n ychwanegu tua £87 miliwn i economi Cymru ac yn cynhyrchu gwerth £22 miliwn o drethi yma yng Nghymru. Byddwch yn ymwybodol y bu rhai pryderon ynghylch y rhagolygon o godi trethi busnes ar ysgolion annibynnol. Nawr, yn amlwg, rwyf yn deall y byddwn yn dymuno cael trafodaeth, ar y pethau hyn, efallai, ond rwyf yn credu ei bod hi'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i roi rhywfaint o eglurder i'r sector, o ystyried y nifer sylweddol o bobl sy'n cael eu cyflogi ynddo a nifer sylweddol y disgyblion sy'n dibynnu ar yr addysg ardderchog y mae ysgolion annibynnol yn ei ddarparu ledled y wlad.
Ynglŷn â'r prosiect coetir, crybwyllodd y Gweinidog ei bod hi wedi mwynhau ei hymweliad yno yn fawr iawn, a chredaf ei bod hi'n hapus iawn i gyflwyno datganiad cyffredinol ar reoli coetiroedd yng Nghymru a chyfraniad arbennig ein coetiroedd i'r hinsawdd ac addasiadau oherwydd hynny.
O ran ardrethi busnes, rydym wedi cael llawer o newidiadau ar y testun o ardrethi busnes ar gyfer ysgolion annibynnol ac rwyf yn credu bod hynny'n llawer mwy tebygol o gael ei godi mewn dadl gan y gwrthbleidiau nag sy'n debygol o fod yn destun datganiad busnes gan y Llywodraeth.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn i'r Llywodraeth am ddatganiad ar wasanaethau sgrinio, yn enwedig gan fy mod i wedi cael sylwadau ynghylch Sgrinio Coluddion Cymru yn ddiweddar? Mae'n gweithredu fel gwasanaeth sgrinio pwrpasol, fel y gwyddoch, ond eto mae'n rhan o'r GIG mewn rhyw ffordd, ond yn y bôn mae'n annibynnol hefyd. Mae Sgrinio Coluddion Cymru yn gwneud gwaith rhagorol, fodd bynnag, os oes rhywun sydd wedi cael problem goluddyn yn flaenorol, ac wedi cael sgriniad coluddyn negyddol yn rhan o'r rhaglen, ac yna'n datblygu symptom coluddyn newydd, nid yw Sgrinio Coluddion Cymru yn gallu ymdrin â hyn gan mai sgrinio annibynnol ar adegau penodol y maen nhw'n ei wneud, er gwaethaf y ffaith mai gwasanaeth gwyliadwriaeth ydyw. Felly, y sefyllfa ar hyn o bryd yw, fod pobl sy'n datblygu symptom coluddyn newydd, er eu bod o dan wyliadwriaeth Sgrinio Coluddion Cymru, yn cael eu cyfeirio yn eu holau at eu meddyg teulu, sydd â'r dewis deuaidd wedyn o atgyfeiriad brys neu atgyfeiriad arferol a all gymryd misoedd. Does bosib nad oes trydedd ffordd yn y fath sefyllfa o atgyfeirio'n gyflym be byddai problem newydd yn codi pan fo claf eisoes o dan wyliadwriaeth Sgrinio Coluddion Cymru? Diolch.
Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, a, Llywydd, rwyf yn falch iawn o ddweud, ar fy mhen-blwydd yn drigain oed, fy mod wedi cael pecyn sgrinio coluddyn oddi wrth GIG Cymru. Roedd ymhlith fy anrhegion lleiaf disgwyliedig ar fy mhen-blwydd yn drigain, ond mae'n bosibl mai dyna'r pwysicaf. Rwyf yn meddwl ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn cymryd rhan yn y sgrinio hwnnw; mae'n beth bwysig iawn y dylem i gyd ei wneud.
Nid wyf yn gyfarwydd â'r mater y mae'n ei godi. Rwyf yn awgrymu ei fod yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet, ac, os bydd hynny'n codi mater sy'n fwy sylweddol na hynny, byddaf yn gwneud trefniadau ar gyfer datganiad. Fel arall, byddaf yn gwneud yn siŵr bod yr ateb ar gael i holl Aelodau'r Cynulliad.
Roeddwn yn dymuno codi dau fater gydag arweinydd y tŷ. Y cyntaf yw'r adroddiad Which, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, sy'n datgelu'r ffaith fod dwy ran o dair o'r banciau bellach wedi cau erbyn hyn—yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, mae dwy ran o dair o'r banciau wedi cau—ac mae hyn wedi gadael cymunedau heb fanc lleol, sydd hefyd yn gadael y Stryd Fawr yn wag. Yng Ngogledd Caerdydd, rydym wedi colli banciau o Riwbeina, yr Eglwys Newydd, Llwynfedw—pob cymuned bron. Ac, yn wir, mae un banc yn dal yn wag—yng nghanol canolfan siopa—a oedd wedi cau flynyddoedd yn ôl. Gwn ein bod wedi trafod y mater o fanciau a chau banciau yn y Siambr hon yn y gorffennol, ond efallai—. A fyddai'n bosibl i'r Llywodraeth gael golwg arall ar y mater hwn a gweld a oes unrhyw beth arall y gellir ei wneud i helpu rhai o'r cymunedau hyn?
Ac, yn ail, tybed a fyddai modd cael dadl ar glefyd Lyme. Mae un o'm hetholwyr yng Ngogledd Caerdydd yn ymgyrchu ar y mater hwn, ac, yn wir, fe wnaethom ni gynnal cyfarfod am glefyd Lyme yn y Pierhead heddiw gyda'r bwriad o godi proffil y clefyd; y ffaith yw mai ychydig sy'n hysbys a bod llawer o gymhlethdodau gwahanol sy'n deillio ohono. Ac mae llawer o ddadleuon wedi eu cynnal yn Senedd yr Alban, yn Nhŷ'r Cyffredin ac yn Nhŷ'r Arglwyddi, a byddant hefyd yn Senedd Ewrop, ond mae'n ymddangos bod hwn yn glefyd nad oes llawer o wybodaeth amdano sy'n achosi llawer iawn o drallod i'r bobl hynny sydd yn dioddef oddi wrtho.
Dau bwynt pwysig iawn yn wir. O ran y banciau, fel y mae hi eisoes wedi ei gydnabod, mae'n rhywbeth yr ydym wedi ei drafod yn aml yn y Cynulliad, ac mae'n siomedig iawn, er gwaethaf y cymunedau yr effeithir arnynt a chynrychiolwyr gwleidyddol sy'n herio'r penderfyniadau—ar draws y Siambr, mewn gwirionedd; credaf ei fod yn rhywbeth yr ydym ni i gyd wedi mynegi pryder amdano—mae'r banciau'n parhau i fwrw ymlaen â rhaglen i gau. Ac nid oes unrhyw amheuaeth bod llawer o ddinasyddion, dinasyddion hŷn yn enwedig, nad ydyn nhw'n gyfforddus â bancio ar-lein, a hefyd mae angen arian parod ar fusnesau bach mewn ardaloedd gwledig a cheir problem fawr o ran pa mor bell maen nhw'n teithio ac o ble maen nhw'n cael yr arian, a cheir problem gyda'r peiriannau ATM yn cau hefyd, wrth i bobl symud i systemau di-arian.
Yn ddelfrydol, byddem ni'n hoffi gweld busnesau ac unigolion ledled Cymru yn gallu cael gafael ar y cyfleusterau bancio y maen nhw'n eu dymuno, gan liniaru'r golled o unrhyw gyfleuster peiriant ATM neu gangen yng Nghymru rhag pan fo hynny'n bosibl. Ond, yn anffodus, pwerau cyfyngedig sydd gennym ni yn hyn o beth. Er hynny, rydym wedi bod yn trafod rhan swyddfa'r post mewn mynd i'r afael ag anghenion bancio. Rydym ni'n cydnabod bod problemau ynghylch hynny, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda nhw i'w trafod, o ran gallu, preifatrwydd, mynediad i bobl anabl ac ati yn swyddfa'r post, ond i raddau helaeth mae hynny'n rhan barhaus o'r drafodaeth ynghylch pa un a allan nhw gymryd lle rhai o wasanaethau'r gangen banc. A'r peth arall yw ein bod ni'n ymchwilio i'r posibilrwydd o sefydlu model bancio cymunedol ar gyfer Cymru. Rydym yn cynnal deialog cynnar gydag amrywiaeth o randdeiliaid, gan hyrwyddo'r syniad o fanc cydfuddiannol cymunedol i Gymru, a fyddai'n gallu cynnig cymorth priodol i lefel y datblygiad o amgylch Cymru. Byddaf yn hysbysu'r Aelod wrth i'r cynigion ddatblygu ar gyfer hynny.
O ran clefyd Lyme, yng Nghymru, yn ogystal â phob man arall yn y DU, mae achosion o glefyd Lyme sy'n cael eu cadarnhau gan labordy wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn rhannol o ganlyniad i well cofnodi, mwy o brofion a mwy o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Bydd yr Aelod yn falch o wybod ein bod ni wedi cyflwyno canllawiau cynhwysfawr ar glefyd Lyme i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru yn ddiweddar, ac mae'r GIG wedi datblygu deunyddiau ymwybyddiaeth priodol i'r cyhoedd. Ac rwyf yn falch iawn o ddweud bod honno'n rhaglen barhaus o ymwybyddiaeth y cyhoedd ac ymwybyddiaeth feddygol yn gyffredinol.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar honiad WWF Cymru bod un o bob 15 rhywogaeth o fywyd gwyllt yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu yn gyfan gwbl? Maen nhw'n dweud bod bygythiadau byd-eang i fywyd gwyllt a chynefinoedd a nodwyd yn 'Living Planet Report 2018' yn cael eu hadleisio yng Nghymru. Mae bodaod tinwyn a llygod pengrwn y dŵr ymhlith y rhywogaethau sydd o dan fygythiad. Rydym wedi gweld niferoedd y barcut coch yn codi yng Nghymru, diolch i amddiffyn gwell a rhaglenni cadwraeth penodol. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y camau y bydd hi'n eu cymryd i atal dirywiad bywyd gwyllt a diogelu cynefinoedd rhywogaethau sydd o dan fygythiad yn ein gwlad fendigedig?
Mae hon yn elfen ganolog o'r rhan fwyaf o'n systemau rheoli tir ac yn wir y rhan fwyaf o'r cymorth yn y gronfa ddatblygu wledig, ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud i gynyddu bioamrywiaeth a chynefinoedd bywyd gwyllt. Mae'n swyddogaeth bwysig iawn deall sut y gellir pennu gwerth biowasanaethau, biosystemau, yn y ffordd honno mewn termau ariannol fel y gellir annog pobl i wneud hynny. Rydym wedi syrthio y tu ôl i'r DU o ran, er enghraifft, plannu coed, a nifer fach iawn o goed sy'n cael eu plannu yng Nghymru. Rydym yn edrych i weld a oes systemau ar waith a all gynyddu'r ystod o gynefinoedd a bioamrywiaeth sydd ar gael ledled Cymru. Mae'n rhywbeth yr ydym yn bryderus iawn yn ei gylch. Cyn bo hir, bydd Gweinidog yr Amgylchedd yn ymgynghori ar gynllun addasu newid yn yr hinsawdd, a fydd yn cynnwys edrych ar golli bioamrywiaeth a newid cynefinoedd, ac rwyf yn annog yr holl Aelodau i ymateb i'r ymgynghoriad ar y cynllun hwnnw cyn gynted ag y bo modd, gan wneud y pwyntiau y mae Mohammad Asghar wedi tynnu ein sylw atynt.
Arweinydd y tŷ, mae gen i dri mater yr hoffwn eu codi gyda chi y prynhawn yma. Byddwch yn ymwybodol o adroddiad dros dro adroddwr arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol. Roedd yn adroddiad deifiol iawn a oedd yn nodi bod toriadau a chyni yn ddewis gwleidyddol, bod Cymru'n wynebu'r tlodi cymharol uchaf yn y DU, a bod 25 y cant o swyddi'n talu llai na'r isafswm cyflog. Dywed yr adroddiad, a dyfynnaf:
Yn absenoldeb pŵer datganoledig dros fudd-daliadau cymdeithasol, mae gallu Llywodraeth Cymru i liniaru'r gostyngiad mewn budd-daliadau yn uniongyrchol yn gyfyngedig... newidiadau mewn budd-dal yw un o'r achosion strwythurol y tu ôl i'r cynnydd mewn tlodi, cysgu ar y stryd, a digartrefedd yng Nghymru...efallai y bydd Credyd Cynhwysol yn gwaethygu'r broblem, yn enwedig yn sgil anallu Llywodraeth Cymru i gyflwyno hyblygrwydd i'w gweinyddiaeth, yn wahanol i'w chyfatebydd yn yr Alban.'
Dywed hyn yn gryf y gallech chi helpu'r bobl pe byddech yn barod i gymryd rheolaeth a chyfrifoldeb dros weinyddu budd-daliadau. Hyd yma, mae'r Llywodraeth wedi gwrthod hynny, er gwaethaf yr anawsterau yr ydym wedi clywed amdanynt y prynhawn yma yn y Siambr hon. Felly, a gawn ni drafodaeth yn amser y Llywodraeth ar yr adroddiad Cenhedloedd Unedig hwn, gyda phwyslais penodol ar ddatganoli gweinyddu lles?
Roeddwn hefyd eisiau tynnu sylw at yr ymosodiad homoffobig ar Gareth Thomas. Nawr, rwyf i'n siŵr fy mod yn siarad dros y rhan fwyaf ohonom, os nad pob un ohonom yn y Siambr hon wrth ddweud, 'Diolch yn fawr iawn, Alfie' am wneud safiad ac am geisio ymateb adferol addysgiadol gan y sawl sy'n gyfrifol. Gall cyfiawnder adferol fod yn effeithiol iawn, yn enwedig pan ein bod ni'n sôn am bobl ifanc. Felly, hoffwn weld datganiad gan y Llywodraeth sy'n amlinellu ei dull gweithredu ar gyfer troseddau casineb yn gyffredinol, megis yr ymosodiad homoffobig ar Gareth Thomas, gan ddweud wrthym hefyd beth y mae'n ei wneud i ariannu a chefnogi cyfleoedd am gyfiawnder adferol.
Y mater olaf yr hoffwn ei weld yn amser y Llywodraeth yw ymddiheuriad. Rydym eisoes wedi clywed y prynhawn yma fod gwasanaethau rheilffyrdd wedi gwaethygu ers y fasnachfraint newydd hon, a chyhoeddodd y cwmni ymddiheuriad llawn i'w gwsmeriaid heddiw. Er bod gan eich Llywodraeth gyfrifoldeb am hyn, ni chawson unrhyw ymddiheuriad o'r fath gan y Prif Weinidog heddiw. Ymddengys ei fod yn dal i wadu. Roedd y llinell a oedd yn peri'r pryder mwyaf yn ymddiheuriad y cwmni yn ymwneud â'r bysiau ychwanegol y maen nhw'n eu trefnu gan ddweud, 'Bydd hyn yn parhau cyn hired â bod ei angen.' Ceir materion iechyd a diogelwch gwirioneddol nawr, ac yn syml, ni all hyn barhau. Felly, mae angen datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet arnom fel mater o frys i ddweud pa gamau ychwanegol y gall ef eu cymryd i leihau'r problemau hyn. Nid yw cwsmeriaid yn barod i ddioddef ddim mwy.
Diolch ichi am godi'r tri mater yna. O ran y troseddau casineb homoffobig, rwyf i hefyd yn dymuno ychwanegu fy llais i gydnabod y dewrder a'r urddas a ddangoswyd gan Gareth Thomas wrth ymdrin â'r sefyllfa y canfu ei hun ynddi, a'r dewrder wrth ddod ymlaen i amlygu a mynd i'r afael â'r broblem homoffobia a'i brofiad ef. Roeddwn i'n meddwl bod ei ddarn a glywais ar y radio am y broses gyfiawnder adferol yn cyffwrdd rhywun i'r byw ac yn ddiddorol iawn, yn wir. Fel mae'n digwydd, newydd sôn yn ddiweddar yr ydym ni yn y Siambr hon am yr ymwybyddiaeth o droseddau casineb a wnawn. Rydym yn parhau i annog dioddefwyr troseddau casineb i adrodd am eu profiadau ac adeiladu ar y partneriaethau cryf yr ydym ni wedi eu datblygu yn gyffredinol gyda'r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Cymorth i Ddioddefwyr Cymru ac asiantaethau eraill i leihau'r math hwnnw o drosedd casineb, a dwyn troseddwyr i gyfrif, a galluogi dioddefwyr i gael cymorth a chamau unioni.
Dyma sgwrs allweddol ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, y digwyddiad yr oedd fy nghyd-Aelod, Joyce Watson yn ei noddi yn gynharach, ac mae'r materion a gododd Jane Hutt yn ei chwestiwn i'r Prif Weinidog yn dal i fod yn berthnasol yn y darn hwn. Mae troseddau casineb yn droseddau casineb ni waeth sut maen nhw'n codi na pha adran o'r boblogaeth sy'n eu profi nhw, ac rydym yn ceisio gweithio gyda'n partneriaid a Chymorth i Ddioddefwyr ac ymwybyddiaeth o droseddau casineb i weld beth y gallwn ei wneud gyda chyfiawnder adferol, ac mae fy nghyd-Aelod yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Wasanaethau Cyhoeddus wedi bod yn edrych i mewn i hyn hefyd gyda'r bwriad o edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud yn hyn o beth. Felly, byddwn yn hapus iawn i weld a allaf gyflwyno datganiad i'r perwyl hwnnw. Mewn gwirionedd, credaf, o ystyried ein bod yng nghylchdro'r Llywodraeth, y bydd datganiad, rwyf yn gobeithio, ar hawliau dynol tuag at ddiwedd tymor hwn y Llywodraeth, a byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod yn cynnwys y mater hwnnw yn y datganiad, neu fel arall, byddwn y tu allan i amser y Llywodraeth. Felly, byddaf yn gwneud yn siŵr bod hynny'n cael ei gynnwys yn rhan o hynny, gan fy mod i'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt hynod o ddiddorol.
Ar y ddau bwynt arall, mae adroddiad adroddwr y Cenhedloedd Unedig yn waith darllen hynod anodd, yn fy marn i, ac mae'n dweud llawer o bethau y mae llawer ohonom yn cytuno arnynt ynglŷn â'r system fudd-daliadau ac anawsterau byw mewn tlodi. Rwyf yn credu bod y Llywodraeth hon wedi gwneud llawer iawn yn ei rhaglen ar gyfer llywodraethu a'i rhaglenni polisi 'Ffyniant i Bawb' er mwyn gwneud yr hyn y gallwn ei wneud, ond bydd yr Aelod yn gwybod fy mod i a'r Llywodraeth yn anghytuno'n llwyr ar ei fersiwn hi o'r drefn budd-daliadau lles, ac fy marn benodol i yw ei bod hi'n well i'r DU ailddosbarthu, ac nid yw'r syniad y gall Cymru sefyll ar ei phen ei hun o ran budd-daliadau lles yn un y byddwn i'n ei goleddu nac yn ymhyfrydu ynddo mewn unrhyw ffordd.
O ran gwasanaethau rheilffyrdd, rhoddodd y Prif Weinidog, mewn ateb i Darren Millar, grynhoad eithaf da o ble yr ydym ni ar wasanaethau rheilffyrdd, Llywydd, ac nid wyf yn credu bod angen unrhyw ychwanegiad arall oddi wrthyf i.
Ar y pwynt olaf un yna, roeddwn i'n mynd i ofyn am ddatganiad; rwyf yn synnu braidd pa mor ddiystyriol y mae arweinydd y tŷ wedi bod ar hynny. Mae llawer o etholwyr, yn ystod yr wythnos diwethaf, yn sicr, wedi cysylltu â mi, ac mae hynny wedi ei weld yma heddiw gyda sylwadau arweinydd yr wrthblaid a sylwadau'r Aelod Plaid Cymru a thystiolaeth gadarn o drenau nad ydynt yn cyrraedd. Mewn 16 o achosion, rwyf yn credu, nid oedd trenau ar un rheilffordd benodol—y gogledd, y de, y canolbarth neu'r gorllewin, gallwch ddod o hyd i enghreifftiau o hynny. Pan lansiwyd y fasnachfraint, roedd Gweinidogion ym mhob man yn y wasg, ac yn briodol felly, gan fod hyn yn addo llawer, ac, os caiff ei weithredu'n gywir, bydd yn golygu gwelliant. Ond mae Aelodau yn y tŷ hwn yn cael eu beio, dro ar ôl tro, gan eu hetholwyr ynghylch lefel y gwasanaeth a gafwyd yn ystod y mis diwethaf. Yn sicr, mae'n ddyletswydd ar Ysgrifennydd y Cabinet i ddod i'r tŷ hwn cyn toriad y Nadolig ac amlygu pa gamau a gymerir i fynd i'r afael â diffygion sydd, gobeithio, yn y tymor byr, yn hytrach na'r tymor canolig neu hir. A byddwn yn gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn croesawu'r cyfle hwnnw i gofnodi pa bwysau y mae'n ei roi ar Drafnidiaeth Cymru a'u contractwyr i berfformio'n well. Fel arall, bydd yn golygu bod y Llywodraeth yn esgeuluso ei dyletswydd. Rwyf yn gobeithio'n wir y bydd arweinydd y tŷ yn adlewyrchu ar yr ateb y mae hi newydd ei roi gan wneud amser ar gyfer datganiad fel y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddod yma cyn toriad y Nadolig i fynd i'r afael â'r methiannau hyn o fewn y system drafnidiaeth yma yng Nghymru.
Nid oeddwn yn bod yn ddiystyriol. Dywedais nad oedd gennyf unrhyw beth i'w ychwanegu at yr ateb cynhwysfawr a roddodd y Prif Weinidog; nid wyf yn gweld sut mae hynny'n ddiystyriol. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ateb cwestiynau llafar y Cynulliad yn rhan o'r cylchdro yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, a bydd digon o gyfle i Aelodau ei holi ynghylch y manylion, ond mae arnaf ofn nad wyf yn credu bod y syniad y dylem fod wedi datrys yr holl broblemau a phopeth arall ar ôl rhedeg masnachfraint am fis yn gredadwy. Wrth gyhoeddi hynny, gosododd Ysgrifennydd y Cabinet raglen weithredu a oedd yn ymwneud â masnachfraint y rheilffyrdd, a ailadroddwyd gan y Prif Weinidog yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog. Yr unig beth yr wyf yn ei ddweud yw nad oes gennyf unrhyw beth i'w ychwanegu at hynny ar hyn o bryd, ac, os ydych chi eisiau gofyn cwestiynau penodol i Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs mae croeso i chi wneud hynny.
Hoffwn i ofyn am ddiweddariad ynglŷn â phroblemau parcio parhaus ar hyd yr A5 yn ardal Llyn Ogwen yn fy etholaeth i. Mae yna dros flwyddyn wedi pasio ers i gynrychiolwyr lleol holi am weithredu a chynllun pendant i chwilio am ddatrysiad buan i'r broblem yn yr ardal. Mae yna chwe mis wedi pasio ers i'r Gweinidog dderbyn astudiaeth dichonoldeb o'r problemau, ond, eto i gyd, nid oes yna symud ymlaen. Mewn cwestiwn ysgrifenedig gennyf yn gofyn pryd byddai astudiaeth dichonoldeb ar y broblem parcio yn cael ei chyhoeddi, yr ateb a ddaeth i law oedd bod yr adroddiad yn cael ei gyfieithu. Wedyn, mae yna ddau fater yn codi yr hoffwn ichi ymchwilio iddyn nhw. A ydy hi'n arferol i gymryd chwe mis i gyfieithu adroddiadau? Ac, yn ail, beth sy'n digwydd er mwyn datrys y problemau parcio ger llyn Ogwen?
Ac yn ail, mae arnaf ofn, unwaith eto, fy mod i'n gorfod holi am amserlen adeiladu ffordd osgoi Bontnewydd. Fe ganslwyd sesiwn i ddarpar brentisiaid yn ddiweddar, ac nid oes yna ddim sôn am unrhyw waith ar y safle. Yn naturiol, felly, mae pobl yn fy ardal i yn dechrau pryderu ynglŷn â beth sydd yn digwydd ac yn gofyn a oes yna oedi unwaith yn rhagor efo ffordd osgoi Bontnewydd.
Ynglŷn â'r ail bwynt, byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ysgrifennu ati'n uniongyrchol ac egluro iddi lle'r ydym ni ar yr amserlen. Mae arnaf ofn nad yw'r wybodaeth honno gennyf, ond byddaf yn gofyn iddo egluro.
Ynglŷn â'r pwynt cyntaf, unwaith eto, wnes i ddim sylweddoli bod yr amserlen wedi llithro cymaint â hynny, ac rwyf yn fwy na pharod i drafod lle'r ydym ni ar yr amserlen gydag Ysgrifennydd y Cabinet ac i adael i'r Aelod wybod.
A gawn ni ddatganiad ar ffordd liniaru'r M4? Pan oeddech chi'n cymryd lle'r Prif Weinidog ar 23 Hydref, arweinydd y tŷ, fe wnaethoch addo pleidlais rwymol yn amser y Llywodraeth a dywedasoch wedyn fod hyn wedi ei drefnu ar gyfer yr wythnos yn dechrau ar 4 Rhagfyr. Mae'r amserlen gennym hyd at y Nadolig bellach ac nid oes golwg o unrhyw gynnig ar yr M4. A wnaethoch chi gamsiarad?
A wnewch chi hefyd, efallai, roi safbwynt y Llywodraeth inni ynghylch cyfweliad y Prif Weinidog ar 15 Tachwedd? Pan ofynnodd BBC Wales iddo a oedd yn dal yn bwriadu penderfynu pa un a fyddai'r ffordd yn cael ei hadeiladu, dywedodd y Prif Weinidog:
Ydw, y cynllun yw y byddaf i'n gwneud y penderfyniad.
A yw hynny'n wir, ac, os felly, onid y caniatâd cynllunio yn unig y byddai'r Prif Weinidog yn penderfynu arno, yn hytrach na phenderfynu ar ba un a fyddai'r ffordd yn cael ei chyllido a'i hadeiladu? Yna aeth ymlaen i ddweud:
Mae adroddiad yr arolygydd wedi ei dderbyn. Mae'n fwy na 500 o dudalennau o hyd, felly mae'n cymryd peth amser i'w ddarllen a'i ddadansoddi, fel y mae rhai ohonom yn gwybod gyda'r cytundeb ymadael. Ond dywedodd wedyn:
Nid wyf wedi gweld yr adroddiad eto, ond rwyf yn disgwyl y bydd yr adroddiad yn barod i mi wneud penderfyniad erbyn diwedd y mis.
Yn sicr, os yw'r adroddiad mor hir a chymhleth, oni ddylid ei roi i'r Prif Weinidog cyn gynted â phosibl os yw ef am wneud y penderfyniad ei hun mewn gwirionedd yn hytrach na chymeradwyo penderfyniad rhywun arall yn unig, a thra ei fod wrthi, a yw'n bosibl cyhoeddi'r adroddiad fel y gall pob un ohonom ni ei ddarllen hefyd?
Ie, mewn ateb i'r cwestiwn hwn, pan oeddwn i'n cymryd lle'r Prif Weinidog yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, darllenais amserlen gyfreithiol a phroses hir iawn a chymhleth a oedd yn gysylltiedig â'r amser y gall pobl wneud penderfyniadau gwahanol, ac ati. Rwyf yn fwy na pharod i'w dosbarthu yn ôl i'r Aelod. Gwneuthum yn glir iawn ein bod mewn proses gyfreithiol, a'n bod ni'n disgwyl am grynodebau o'r dystiolaeth a'r cynghorion cyfreithiol amrywiol ac ati, a bod y Prif Weinidog yn dal yn gobeithio gwneud y penderfyniad hwnnw, ac y bydd y ddadl yn dilyn wedyn. Rwyf hefyd wedi ei gwneud hi'n glir iawn wrth ateb Rhun ap Iorwerth, wrth ateb i ddatganiad busnes yn ddiweddar iawn, fod gennym le i hynny ddigwydd ar yr amserlen os yw hynny'n bosibl, ond na allwn warantu y byddai. Byddwn yn gwneud hyn os gallwn. Os nad yw'n bosibl o fewn yr amserlen, yna, Llywydd, byddaf yn bendant iawn yn sicrhau bod y Pwyllgor Busnes a'r Siambr hon yn ymwybodol o ble'r ydym ni arni ynglŷn â hyn.
Roedd digwyddiad yn Senedd y DU ddoe gan yr Ymddiriedolaeth Ffeibrosis Systig i nodi tair blynedd ers iddyn nhw ymgyrchu i sicrhau bod y cyffur Orkambi ar gael drwy'r GIG. Cawsom gyfarfod trawsbleidiol yma yr wythnos diwethaf ynglŷn â'r mater pwysig hwn hefyd. Nawr, mae 'Cymru Iachach', eich strategaeth chi, yn dweud bod angen inni gael gofal mwy personol, mwy o feddyginiaethau manwl drwy'r GIG, ond mae Orkambi, a allai effeithio ar 200 o bobl yng Nghymru, yn dal heb fod ar gael drwy'r GIG. Nawr, rwyf yn deall bod Vertex, y cwmni sydd â'r cyffur, mewn trafodaethau â'r GIG bellach ynglŷn â chyflwyno'r cais newydd i NICE, ond nid yw hynny gennyf ar unrhyw gofnod gan Lywodraeth Cymru. Felly, tybed a allem ni gael datganiad wedi'i ddiweddaru gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynglŷn â'i drafodaethau gyda'r cwmni a chyda'r Ymddiriedolaeth Ffeibrosis Systig i geisio sicrhau bod y cyffur hwn ar gael drwy'r GIG yng Nghymru? Pe byddem yn gwneud hynny, gallem arwain ar lefel y DU, gan nad yw'r cyffur hwn yn bodoli yn unman arall yn y DU, ond, wrth gwrs, mae'r cyffur eisoes gan Weriniaeth Iwerddon, Denmarc, Norwy—a llawer o wledydd eraill—sy'n gallu edrych ar achos sylfaenol ffeibrosis systig yn hytrach na rheoli'r symptomau yn unig. Felly, byddwn yn eich annog i roi datganiad ar hynny.
Yr ail ddatganiad yr oeddwn yn bwriadu gofyn amdano oedd—. Ochr yn ochr ag Aelodau Cynulliad eraill yn yr ystafell hon, roeddem ni yn ysgol gyfun Joseff Sant ddoe yn rhan o'r ddadl Senedd Ieuenctid, a daeth un o'r myfyrwyr ifanc ataf wedyn a dywedodd ei bod hi wedi bod yn aros ar restr aros am gwnsela yn yr ysgol ers dros flwyddyn. Erbyn hynny, roedd hi eisoes wedi chwilio am driniaeth breifat gan nad oedd hi'n gallu aros ar y rhestr honno i gael unrhyw driniaeth. Nawr, gwn fod Lynne Neagle ac eraill wedi bod yn edrych yn fanwl ar iechyd meddwl pobl ifanc, ond roedd yn achos pryder mawr i mi glywed hynny gan berson ifanc pan fo gennym brosesau cwnsela ysgolion ar waith yng Nghymru. Felly, a gawn ni ddiweddariad ar y sefyllfa yma yng Nghymru? A oes rhestrau aros hir mewn ysgolion ledled Cymru? A oes rhywbeth y mae angen inni fynd i'r afael ag ef, gan y bydd pobl ifanc, wrth gwrs, yn disgyn drwy'r rhwyd os yw hynny'n wir?
Ynglŷn ag Orkambi, aeth Ysgrifennydd y Cabinet drwy'r sefyllfa mewn ymateb i'w gyfres ddiwethaf o gwestiynau pan amlinellodd y broses y mae'n rhaid i'r cwmni fynd drwyddo, sef y broses o gael achrediad drwy NICE. Nid wyf yn ymwybodol bod unrhyw beth wedi newid ers iddo egluro ble'r oeddem ni gyda hynny. Yr hyn a wnaf yw trafod gydag ef a oes rhywbeth wedi newid, ac os oes rhywbeth wedi newid, yna byddaf yn gwneud yn siŵr bod Aelodau Cynulliad yn cael gwybodaeth ynglŷn â hynny. Ond nid wyf yn ymwybodol o hynny. Os oes unrhyw beth sydd wedi newid, byddaf yn gwneud yn siŵr bod diweddariad yn cael ei wneud. Ond fe aeth ef yn eithaf trwyadl drwy'r broses sy'n angenrheidiol i hynny ddigwydd.
Ac, yn yr un modd, ynglŷn â materion iechyd meddwl, aeth drwy'r broses gyfan honno. Ond unwaith eto, byddaf yn trafod gydag ef a oes newid sylweddol neu rywfaint o dystiolaeth sydd wedi dod i'r amlwg. Efallai y byddai'r Aelod yn dymuno rhannu'r stori y mae hi newydd ei hamlinellu gyda mi, a byddaf yn ymrwymo i drafod gydag ef a oes unrhyw fater o bwysigrwydd cyffredinol y gallwn ddod yn ôl ynglŷn ag ef.
Arweinydd y tŷ, gofynnais ichi, yr wythnos diwethaf oedd hi rwy'n credu—roedd hi'n ddiweddar yn sicr—ynghylch y brechlyn ffliw sydd ar gael ledled Cymru a pha un a fyddem ni'n cael diweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i gadarnhau pa un a oedd y ddarpariaeth honno ar gael. Ers hynny, rwyf wedi cael llif o e-byst gan fwy o bobl nad ydyn nhw'n gallu cael gafael ar y brechlyn. Roedd un ddoe gan glaf o bractis Castle Gate yn Sir Fynwy, y dywedwyd wrth ei gŵr sy'n 75, gan eu bod nhw'n blaenoriaethu ar gyfer pobl dros 75 oed na fydd y brechlyn ar gael iddo ac y dylai ddod yn ei ôl yn ddiweddarach pan fydd y brechlyn wedi cyrraedd. Rwyf ar ddeall gan Age Cymru eu bod nhw wedi nodi problem, yn gynnar yn y broses hon, fod rhai practisiau a fferyllfeydd cymunedol wedi amcangyfrif yn rhy isel faint o'r brechlyn y byddai ei angen arnyn nhw ac o ganlyniad nid oedd digon yn y system i'w ddarparu, ac mae'n nhw'n gweithio ar hynny. Felly, a wnewch chi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i edrych ar yr holl fater hwn? Oherwydd, er fy mod i'n deall y bydd brechlynnau'n cyrraedd, cyn diwedd mis Tachwedd gobeithio, nid yw hynny wedi ei gyfleu yn y modd gorau i'r cleifion o reidrwydd, ac mae llawer ohonyn nhw wedi bod yn bryderus iawn. Felly, rwyf yn gobeithio y gallwn ymdrin â hyn yn well yn y dyfodol.
Yn ail, ac yn olaf, a gaf i gytuno â geiriau arweinydd yr wrthblaid yn gynharach a hefyd yr Aelod dros Ganol De Cymru, sy'n eistedd y tu ôl i mi fel arfer, o ran y mater gyda Thrafnidiaeth Cymru a rhai o'r—beth bynnag y gallech chi fod eisiau eu galw nhw—problemau cychwynnol, cael pethau yn ôl ar y trywydd iawn? Mae'n amlwg bod problem wedi bod ac mae'n bwysig, y tu hwnt i'r ymddiheuriad y maen nhw wedi ei roi—ac rwyf yn parchu'r ffaith eu bod nhw wedi ymddiheuro i deithwyr yn gyflym iawn—mae angen edrych ar rywbeth yn y fan yna.
Effeithiwyd ar fy ngwraig fy hun sy'n feichiog gan y broblem yn ddiweddar a byddwch yn ymwybodol o hyn drwy Facebook—gwn y bydd llawer ohonoch yn ymwybodol o hynny—lle cafwyd, tri thrên yn olynol, rwy'n credu, heb ddigon o gerbydau, felly nid oedd hi'n gallu mynd ar y trên. Y fi oedd yr un a oedd o dan y lach am hynny, neu a gafodd lond pen yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, felly mae hi er budd i mi edrych i mewn i hyn. Felly, pe gallech chi gael trafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet am yr hyn y gellid ei wneud i geisio lliniaru rhai o broblemau cychwynnol y fasnachfraint, byddai hynny'n fuddiol iawn.
Rwyf yn cydymdeimlo â'ch gwraig. Rwyf innau'n ei dilyn hi ar Facebook hefyd, felly roeddwn i yn gwybod am hynny. Ac, fel y dywedais, nid oes gennyf lawer i'w ychwanegu at unrhyw beth arall yr wyf wedi ei ddweud ynghylch y rheilffyrdd.
O ran y brechlyn ffliw, mae'r Aelod yn codi pwynt perthnasol iawn. Credaf ei bod hi'n werth ailadrodd, Llywydd, yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei ddweud wrth bobl. Ar gyfer gaeaf 2018-19, mae brechlyn ffliw sydd wedi ei gynllunio'n benodol ar gyfer pobl hŷn wedi ei drwyddedu yn y DU. Y cyngor gan banel arbenigol y DU ar imiwneiddio—y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu—yw y disgwylir i'r brechlyn cynorthwyol hwn fod yn fwy effeithiol yn glinigol gyda phobl 65 mlwydd oed neu hŷn o'i gymharu â brechlynnau ffliw eraill sydd ar gael, ac mai dyma'r unig frechlyn ffliw sy'n debygol o fod yn effeithiol ar gyfer pobl 75 oed a hŷn. Nid oes prinder brechlynnau ffliw ar gyfer pobl dros 65 oed. Bydd yr holl archebion a gyflwynwyd gan feddygon teulu a fferyllwyr yng Nghymru yn cael eu bodloni. Mae'r cyflenwad yn cael ei dosbarthu yn unol â'r galw. Mae'r gwneuthurwr wedi cadarnhau y bydd yr holl archebion wedi eu danfon cyn diwedd mis Tachwedd.
Mae'n bwysig bod y brechlyn ffliw sy'n cael ei gynnig i unigolion mewn perygl yn darparu'r amddiffyniad gorau sydd ar gael. Gyda'r lefelau uchel o ffliw a gawsom y tymor diwethaf a arweiniodd at gynyddu cyfraddau ymgynghori â meddygon teulu ac achosion mewn cartrefi gofal ac mewn ysbytai, mae'n ddoeth gweithredu ar y cyngor arbenigol gan wneud popeth o fewn ein gallu. Felly, rydym yn gobeithio bydd pobl yn dewis y brechlyn ffliw sydd fwyaf effeithiol iddyn nhw o ran demograffeg. Rwyf yn gwerthfawrogi'r hyn y mae'r Aelod yn ei amlygu, sef y gall oedi cyn cael brechlyn ffliw fod yn destun pryder i bobl hŷn, ond nid yw'r ffliw yn tueddu i ddechrau mynd o gwmpas tan ganol fis Rhagfyr, felly mae digon o amser eto i'r brechlyn ffliw gyrraedd ac i bobl gael eu diogelu. Mae'r prif swyddog meddygol eisoes wedi ysgrifennu at y byrddau iechyd, meddygon teulu a fferyllfeydd gyda chyngor ynghylch trefniadau cynnig brechlynnau ffliw i bobl hŷn y tymor hwn, yng ngoleuni yr hyn sydd ar gael.
Rydym yn ymwybodol bod nifer fach iawn o feddygfeydd, fel y credaf fod Nick Ramsay yn ei amlygu, nad oedden nhw wedi archebu'r brechlyn cynorthwyol, fel yr argymhellodd y prif swyddog meddygol, neu nad oedden nhw wedi archebu digon ar gyfer eu cleifion cymwys. Yn yr achosion hynny, neu pan nad yw cyflenwadau brechlynnau wedi cyrraedd eto, rydym wedi gofyn i fyrddau iechyd, practisiau a fferyllfeydd cymunedol weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod unigolion yn gallu cael gafael ar y brechlyn cynorthwyol cyn gynted â phosibl, gan flaenoriaethu pobl dros 75 oed a'r rhai sydd dros 65 sy'n dioddef gan gyflyrau meddygol. Rydym yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r GIG i sicrhau nad yw sefyllfa cyflenwad y brechlyn yn effeithio ar unrhyw un rhag manteisio arno. Felly, credaf ein bod ni'n gweithio'n galed iawn i wneud hynny. Nid ydym wedi cyrraedd y pwynt eto pan fo'r holl frechlynnau wedi cyrraedd, a chredaf y dylai hynny fod yn galonogol iawn i etholwyr Nick Ramsay.
Diolch i arweinydd y tŷ.