Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Llywydd, roedd ysbryd datganiad heddiw, a sylwadau'r Prif Weinidog ynglŷn â pherthnasoedd mewnol Plaid Geidwadol y DU yn eironig pan edrychwch chi ar ddisgyblaeth rhai o Weinidogion Llywodraeth Cymru, ac nid yw'n gwneud unrhyw beth adeiladol o bell ffordd i gefnogi diwydiant Cymru. Yn wir, mae'n gwneud i Gymru edrych yn wan o ran arweinyddiaeth ar adeg pan ddylai'r wlad fod yn canolbwyntio ar gael y fargen orau bosibl ar gyfer ei phobl.
Cadarnhaodd y cytundeb ymadael drafft y bydd cyfnod gweithredu gyda therfyn amser iddo yn darparu pont i'r berthynas yn y dyfodol, gan alluogi busnesau i barhau i fasnachu fel hyn tan ddiwedd 2020—rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth y byddai'r Prif Weinidog yn ei groesawu, ac fe fyddwn i'n ddiolchgar am ei sylwadau ynglŷn â'r cyfnod gweithredu hwnnw.
Mae Prif Weinidog Cymru yn ei gwneud hi'n glir yn y datganiad heddiw bod angen i Brif Weinidog y DU wrando ar farn byd busnes, ond gadewch imi ei atgoffa bod Cydffederasiwn Diwydiant Prydain wedi ei gwneud hi'n glir bod y fargen hon yn gyfaddawd, gan gynnwys ar gyfer busnes, ond mae'n cynnig y cyfnod pontio hanfodol hwnnw fel cam yn ôl o ymyl y dibyn.
Yn wir, bydd hefyd yn ymwybodol o farn prif weithredwr Aston Martin, Andy Palmer, sydd wedi dweud bod cytundeb drafft Brexit yn 'ddigon da'. Felly, efallai mai Prif Weinidog Cymru ddylai wrando ar farn byd busnes, sydd wedi ei gwneud hi'n glir y dylai'r Blaid Lafur weithio gyda'r byd busnes, nid ceisio ei reoli. Felly, a wnaiff ef gadarnhau pa drafodaethau cychwynnol y mae wedi'u cael gydag arweinwyr busnes yng Nghymru, fel y gallwn ni fod yn sicr y caiff eu barn ei hadlewyrchu'n gywir pan fydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn parhau i drafod effaith y cytundeb ymadael drafft gyda'u cymheiriaid yn San Steffan yn ystod yr wythnosau nesaf?
Fel y mae Prif Weinidog Cymru'n ymwybodol, ceir perthynas agos rhwng diwydiant amaethyddol Cymru a'r farchnad Ewropeaidd, ac rwy'n siŵr y bydd wedi gweld sylwadau Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, sydd unwaith eto yn rhoi croeso gochelgar i'r cytundeb drafft fel cam yn agosach at gyflawni'r masnachu rhwydd a didramgwydd y mae ffermwyr Cymru eisiau ei weld gyda'r UE.
Wrth gwrs, mae NFU Cymru hefyd wedi ei gwneud hi'n gwbl glir, yn ogystal ag Undeb Amaethwyr Cymru, ei bod hi'n amheus a fydd y cytundeb drafft yn cael cymeradwyaeth Seneddol, a bod ffermwyr Cymru yn edrych yn awr at eu gwleidyddion i wneud yr hyn sydd orau i'r wlad. Felly, yn yr amgylchiadau hynny, efallai y gwnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthym ni beth y mae'n ei wneud i sicrhau bod Aelodau Seneddol Cymru yn cefnogi barn y diwydiant ffermio yng Nghymru yn llawn fel y bydd holl wleidyddion Cymru yn rhoi anghenion a chynaliadwyedd y diwydiant ar frig eu hagenda.
Wrth gwrs, mae digon o fanylion o hyd sydd eto i'w cynnwys yn gadarn yng nghytundeb ymadael drafft Llywodraeth y DU. Er enghraifft, mae un mater ynghylch y diffyg manylion pendant ar effaith y cytundeb hwn ar ddiwydiant pysgota Prydain, y mae Cymru yn chwarae rhan sylweddol ynddo. Fel rwyf i'n deall pethau, mae diwydiant pysgota Prydain yn parhau i alw ar y DU i roi'r gorau i'r polisi pysgodfeydd cyffredin a datblygu fel gwladwriaeth arfordirol annibynnol erbyn diwedd 2020, ond mae rhywfaint o amwysedd ynghylch llongau o'r UE yn dod i ddyfroedd Prydain. Felly, efallai y gwnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthym ni beth yw barn Llywodraeth Cymru ar y mater penodol hwn, a pha sylwadau y mae ef a'i gydweithwyr wedi eu gwneud i ganfod beth fydd y cytundeb ymadael drafft yn ei olygu i bysgodfeydd Cymru.
Yn yr ychydig wythnosau diwethaf, mae'r Prif Weinidog wedi ei gwneud hi'n glir mai'r peth olaf y mae Llywodraeth Cymru eisiau ei weld yw ffin galed rhwng Iwerddon a Chymru, ac rwy'n cytuno ag ef i raddau helaeth iawn. Dywedodd y gallai fod goblygiadau enfawr, yn enwedig o ran y ffyrdd sy'n arwain i'n porthladdoedd. Prif Weinidog, bu dadlau dros ddeuoli'r A40 yn fy etholaeth i ers y 1950au, ac rwyf i wedi holi Gweinidogion y Llywodraeth yn y Siambr hon yn barhaus am ymrwymiadau i ddeuoli'r ffordd hon. Nid ydym ni wedi gweld unrhyw beth ers creu'r Cynulliad i sicrhau gwelliannau gwirioneddol i'r rhwydweithiau ffyrdd presennol.
Cadarnhaodd adroddiad Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad ynglŷn â goblygiadau Brexit ar borthladdoedd Cymru y llynedd nad oedd Cymru wedi manteisio'n llawn ar y cyllid sy'n gysylltiedig â'r rhwydwaith traws-Ewropeaidd. Felly, yng ngoleuni pryderon newydd Llywodraeth Cymru am y strwythurau ffyrdd o amgylch porthladdoedd Cymru, a wnewch chi ddweud wrthym ni nawr pa gynlluniau sydd gennych chi i ddechrau mynd i'r afael o ddifrif â'r materion hirsefydlog hyn?
Daw hyn â mi at y pwynt ehangach ynghylch paratoi ar gyfer ymadawiad Prydain o'r Undeb Ewropeaidd, pryd mae'n ymddangos fel petai digon o faterion y gallai Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â nhw o fewn ei chymwyseddau ei hun, ac eto mae'n ymddangos nad oes fawr ddim tystiolaeth o unrhyw gamau pendant.
Er ei bod hi'n hawdd beirniadu Llywodraeth y DU, gallai a dylai Gweinidogion y Llywodraeth yng Nghymru wneud mwy i ddechrau mynd i'r afael â rhai o'r materion a grybwyllwyd yn adroddiadau'r Pwyllgor Cynulliad ynghylch goblygiadau Brexit ar Gymru, yn hytrach na dim ond sylwebu ar bolisïau a chyhoeddiadau Llywodraeth y DU.
Felly, Llywydd, i gloi, a gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad? Rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn edrych ymlaen at graffu ar fanylion y cytundeb drafft hwn a'i effaith ar Gymru yn yr wythnosau nesaf, ac rydym ni'n edrych ymlaen at weithio, lle gallwn ni, gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru hefyd i baratoi'r fargen orau bosibl i bobl Cymru.