Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 20 Tachwedd 2018.
A gaf i ddiolch i arweinydd yr wrthblaid am ei sylwadau? Mae'n gofyn beth yw'r broblem o ran y cytundeb ymadael. Ei hirhoedledd, mewn gwirionedd. Mae'n ymddangos i mi nad yw'r cytundeb yn mynd at wraidd y mater. Ble fyddwn ni ym mis Rhagfyr 2020? A fyddwn ni yn yr union un sefyllfa eto? Rydym ni eisoes wedi cael dwy flynedd, a dyma ni'n canfod ein hunain mewn sefyllfa lle nad yw'r cytundeb yn barhaol. Mae ein safbwynt yn eithaf syml, a hynny yw: rydym ni eisiau gweld mynediad llawn a dilyffethair i farchnad sengl ac i aros yn yr undeb tollau, ac mae unrhyw beth sy'n llai na hynny yn amlwg yn rhywbeth na allem ni gytuno iddo.
Mae'n iawn iddo ddweud bod busnesau ac eraill wedi rhoi croeso gochelgar i'r cytundeb, ond mae hynny, rwy'n credu, oherwydd eu bod yn credu mai'r dewis arall yw dim cytundeb o gwbl, nad oes neb eisiau ei weld. Felly, gallaf ddychmygu pam y byddai pobl eisiau cefnogi'r cytundeb hwn oherwydd yr ofn nad oes unrhyw beth arall ar gael. Rwy'n credu ei bod hi'n bosibl edrych eto ar, yn sicr, y datganiad gwleidyddol, ac i fod yn fwy penodol ynghylch y ffordd ymlaen. Mae hynny'n golygu gwneud ymrwymiad i'r undeb tollau a'r farchnad sengl.
Mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n credu bod Prif Weinidog y DU wedi rhoi ei hun mewn cornel ynghylch hyn. Doedd dim rhaid iddi gynnal etholiad cyffredinol y llynedd ar sail rhoi gweledigaeth o Brexit caled gerbron pobl Prydain, na wnaethon nhw mo'i derbyn, ac mae hi wedi ei chael hi'n anodd cael ei hun allan o'r gornel y canfu ei hun ynddi. Ond mae'n rhaid imi ddweud, mae'n cyfeirio at dinc fy llais. Nid yw tinc fy llais yn ddim o'i gymharu â hwnnw o eiddo ei gyd-Aelodau yn Llundain. Mae ei gyd-Aelodau ei hun yn Llundain wedi galw'n agored am ymddiswyddiad y Prif Weinidog. Maen nhw wedi bod yn agored ymosodol, mewn gwirionedd, o ran y ffordd y maen nhw wedi ei disgrifio hi. Y gwir amdani yw y bûm i, rwy'n credu, yn dyner o'i gymharu â'r naws a fabwysiadwyd gan wleidyddion Ceidwadol, a dyma'r broblem, ynte?
Oes, mae rhai yn fy mhlaid i â safbwynt gwahanol. Ceir rhai yn fy mhlaid yn San Steffan sydd yn Frecsitwyr. Nid oes llawer ohonyn nhw, ond maen nhw'n bodoli. Y broblem yw bod y rhaniadau yn y Blaid Geidwadol mor helaeth fel ei bod hi'n anodd iawn gweld sut y gellir cael unrhyw undod yn y blaid honno o ran gweledigaeth ar gyfer Brexit. Mae'n dweud 'chwarae gwleidyddiaeth'. Y pryder sydd gennyf i yw; ble daw hyn i ben? Nid oes unrhyw arweinyddiaeth oherwydd ni ellir cael hynny. Mae gennym ni Brif Weinidog sydd wedi colli llawer o Weinidogion—Gweinidogion Cabinet sydd wedi ymddiswyddo. Mae nifer yn ei phlaid nad ydyn nhw'n cefnogi ei pholisi ei hun. Yn yr amgylchiadau hynny, mae'n dweud bod arweinyddiaeth yn Llywodraeth Cymru yn wan. Wel, ni allwn ni ond cyfeirio at Lundain a dweud, 'Ble mae'r arweinyddiaeth yn Llundain, o ystyried yr amgylchiadau sy'n bodoli yn y fan honno?'
Rydym ni wastad wedi bod yn gyson yn yr hyn y bûm yn galw amdano. Fe wnaethom ni lunio ein gweledigaeth ddwy flynedd yn ôl ynghylch beth yr oeddem ni ei eisiau. Rydym ni yn gweithio gyda Llywodraeth y DU; fe wnaf i enwi David Lidington fel rhywun y mae'n bosibl gweithio ag ef ac i drafod materion gydag ef. Mae yna berthynas yno. Nid yw'n gyson, oherwydd bod adrannau eraill yn Llywodraeth y DU yn gweld pethau mewn goleuni fymryn yn wahanol.
Mae'n crybwyll bod angen pont. Efallai fod hynny'n wir, ond pont at beth? Ar hyn o bryd, nid ydym ni'n gwybod i ble mae'r bont honno yn arwain, a dyna'r broblem. Ddwy flynedd yn ôl, bu sôn am adeiladu pont, a nawr mae sôn am adeiladu pont o hyd. Nid ydym ni'n gwybod beth yw'r cyrchfan terfynol mewn gwirionedd. O wrando ar farn byd busnes, eu barn nhw yn syml yw hyn; maen nhw eisiau sicrwydd. Ac er y gallai hyn roi elfen o sicrwydd dros dro, nid yw'n rhoi'r sicrwydd sydd ei angen, yn arbennig o ran eu gallu i gael gweithwyr medrus.
O ran y diwydiant amaethyddiaeth, wel, ceir nifer o broblemau y mae angen eu datrys. Mae mynediad i'r farchnad yn allweddol; heb fynediad i'r farchnad, ni all ffermio defaid, yn enwedig, oroesi yng Nghymru. Nid yw marchnad y DU yn ddigon mawr i gefnogi diwydiant cig defaid y DU, felly nid yw'n fater syml o gefnogi ffermwyr; mae ynglŷn â sicrhau bod ganddyn nhw fynediad i'w marchnad hefyd.
Mae'r un peth yn wir am bysgota. Un peth yw cael mynediad digonol, fel yr ydych chi'n ei gweld hi, i'ch dyfroedd arfordirol eich hun, ond pan yr ydych chi'n gwbl ddibynnol ar allforio'r pysgod, mae'n rhaid ichi sicrhau bod gennych chi farchnad ar gyfer y pysgod hynny hefyd. Byddai'n dda i ddim i'r DU allu dal mwy o bysgod, hyd yn oed pe bai hynny'n bosibl, ac nid wyf yn credu ei fod yn bosibl oherwydd y lefel isel o stociau pysgod. Y gwir amdani yw na fyddai marchnad i'r rhan fwyaf o'r pysgod hynny, felly mae angen ystyried hynny hefyd.
Soniodd am fater y ffin galed. Mae gwaith yn cael ei wneud drwy gyfrwng grŵp porthladdoedd ynghylch sut y byddai hynny'n datblygu. Mae'n rhaid imi ddweud wrtho, y byddai'r pwyslais ar Ddoc Penfro yn hytrach nag Abergwaun o ran cludo nwyddau. Mae Abergwaun yn tueddu i gludo pobl, ac mae Doc Penfro yn tueddu i gludo nwyddau ac mae Caergybi'n cludo'r ddau.
Dywed nad oes dim wedi'i wneud i wella'r ffordd. Wel, mae ffordd osgoi Robeston Wathen yn bodoli a ffordd osgoi Llanddowror, wrth gwrs, sy'n mynd tuag at Ddoc Penfro i'r cyfeiriad arall. Felly, bu gwelliannau ffyrdd hefyd, ond nid dyna'r broblem. Y broblem yw, nid beth sy'n digwydd ar y ffyrdd hynny, ond beth fydd yn digwydd yn y porthladdoedd.
Os oes gennym ni sefyllfa lle mae Llywodraeth y DU yn penderfynu bod yn llawdrwm o ran tollau, bydd hynny'n arwain at oedi a bydd hynny'n golygu y bydd angen llety yn y porthladdoedd hynny yn hytrach nag ymhellach ar hyd y ffyrdd. Nid ydym ni'n gwybod beth fydd y sefyllfa yn hynny o beth. Nid ydym ni'n gwybod pa fath o wiriadau gaiff eu gweithredu. Rydym ni'n tybio na fyddai unrhyw reolaeth basbort oherwydd bod yr ardal deithio gyffredin wedi ei chadw, ond a fydd elfen o wiriadau tollau, sut cânt eu cynnal, a fyddan nhw ar hap, a fyddan nhw'n llym? Nid oes unrhyw un o'r cwestiynau hyn wedi eu hateb, felly mae'n anodd iawn paratoi ein porthladdoedd ar gyfer sefyllfa nad yw eto yn glir. Ond, fel y dywedais, mae gweithgor porthladdoedd wedi'i sefydlu gyda Llywodraeth y DU i edrych ar hyn.
O ran paratoi ar gyfer ymadael, rydym ni eisoes ar y trywydd iawn i wneud hynny. Rwyf wedi dweud o'r blaen bod Brexit 'digytundeb' yn rhywbeth nad oes modd paratoi ar ei gyfer. Ni ellir paratoi trefniadau lliniaru ar ei gyfer. Ni ellir ei weld fel un dewis ymhlith llawer. Mae'n ganlyniad trychinebus a, drwy gronfa bontio'r UE a thrwy weithio gyda busnesau a gyda'n ffermwyr, rydym ni wedi gwneud yr hyn sy'n angenrheidiol er mwyn hyrwyddo Cymru yn y dyfodol, i roi mwy o farchnadoedd yn y dyfodol i Gymru drwy ehangu ein swyddfeydd tramor. Ond wrth gwrs, yn y pen draw, os na allwn ni gael y berthynas fasnachu yn iawn gyda'n marchnad agosaf, fwyaf—a fydd ein marchnad agosaf, fwyaf bob amser—yna ni chawn ni hynny'n iawn gydag unrhyw farchnad arall.