5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Symudedd Myfyrwyr Rhyngwladol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 20 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 3:50, 20 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n dymuno gweld nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n treulio amser dramor fel rhan o'u hastudiaethau yn dyblu erbyn y bydd y Llywodraeth hon yn dod i'w therfyn. Fel myfyrwraig a wnaeth elwa'n fawr ar gyfnod o astudio dramor cyn graddio, gwn sut mae profiad o'r fath yn ehangu gorwelion, yn ehangu sgiliau allweddol ac yn sicrhau cysylltiadau sy'n para am oes. Mae ymchwil gan Universities UK yn nodi bod y buddion hyn yn arbennig o arwyddocaol i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig. Er hynny, y myfyrwyr hyn yn amlach na dim sy'n colli allan, neu hyd yn oed ddim yn ymgeisio am y cyfleoedd trawsffurfiol hyn.

Rydym wedi dechrau arni wrth fynd i'r afael â hyn drwy anelu cyllid symudedd myfyrwyr Generation UK—China tuag at ehangu cyfranogiad. Heddiw, rwy'n cyhoeddi cynllun peilot symudedd myfyrwyr rhyngwladol newydd, a fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol at ein huchelgais i gynyddu cyfleoedd a chodi dyheadau. Rydym wedi datblygu'r cynllun peilot gan drafod â British Council Cymru fel rhan o'n hymateb i argymhelliad adolygiad Diamond ar gymorth i fyfyrwyr sy'n dewis astudio dramor. Bydd yn canolbwyntio ar fyfyrwyr sy'n byw yng Nghymru yn sefydliadau addysg uwch Cymru a bydd yn rhedeg am dair blynedd o 2018-19. Bydd y cynllun peilot yn cynnig cymysgedd o gyfleoedd i fyfyrwyr o Gymru mewn sefydliadau AU yng Nghymru, gan gynnwys astudiaeth, gwirfoddoli ac interniaeth, yn amrywio o ddwy wythnos i dair hyd wyth wythnos. Dangosodd ein hastudiaeth gwmpasu mai cyfleoedd fel hyn fyddai'n denu'r mwyafrif o fyfyrwyr.

Bydd hyn yn helpu i annog cyfranogiad gan grŵp ehangach o fyfyrwyr, gan gynnwys y rheini sydd â chyfrifoldebau gofalu neu mewn gwaith, er enghraifft, a bydd yn osgoi dyblygu unrhyw gynlluniau sydd ar gael eisoes. Rwy'n credu'n gryf y dylai'r Llywodraeth fuddsoddi yn y cyfleoedd hyn, ond mae gan y prifysgolion gyfrifoldeb i ddod i'r adwy hefyd. Ar y nodyn hwnnw, rwy'n falch bod llawer o brifysgolion Cymru wedi ymaelodi ag ymgyrch Go International Universities UK i ddyblu'r ganran o israddedigion sy'n mynd ar leoliad rhyngwladol fel rhan o'u rhaglen prifysgol.

Rydym yn buddsoddi £1.3 miliwn yn y cynllun peilot hwn dros y tair blynedd nesaf, a bydd manylion pellach am y cyfleoedd symudedd hynny'n cael eu cyhoeddi cyn bo hir. Wrth gwrs, ceir enghreifftiau da eisoes o waith yn digwydd o fewn y sector gyda chefnogaeth y Llywodraeth, a hoffwn achub ar y cyfle i sôn am hyn hefyd heddiw. Yn ddiweddar, roeddem ni'n gallu cefnogi prosiect Cymru Fyd-eang gyda buddsoddiad o gronfa bontio Ewropeaidd gwerth £3.5 miliwn. Bydd yr arian hwn nid yn unig yn cefnogi hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i astudio, ond bydd hefyd yn cefnogi cyfleoedd symudedd allanol myfyrwyr o Gymru ym marchnadoedd blaenoriaeth Cymru Fyd-eang, megis Fietnam a'r Unol Daleithiau. Bydd y cyfleoedd hyn, fel rhan o'n rhaglen addysg ryngwladol ehangach, yn bwysig ar gyfer symudedd cymdeithasol, sgiliau cyflogadwyedd a chysylltiadau cymell tawel er mwyn Cymru.

Mae Rhwydwaith Seren yn mynd o nerth i nerth, ac roeddwn yn falch iawn yn gynharach eleni o sicrhau partneriaeth newydd rhwng Prifysgol Yale a Seren. Arweiniodd y bartneriaeth newydd hon at 16 o fyfyrwyr Seren yn cael y cyfle i gymryd rhan yn rhaglen haf ysgolheigion ifanc byd-eang Yale. Gallaf ddweud wrthych chi, Aelodau, fod hwn yn brofiad i newid bywydau pawb a gymerodd ran ynddo. Bydd y bartneriaeth gyffrous hon yn parhau ac ehangu yn 2019. Mae'r cysylltiadau hyn â phrifysgolion blaenllaw byd-eang yn gyfle inni hefyd ysgogi'r ymgysylltu â'n diwygiadau addysg ehangach, ac rwy'n gobeithio gwneud cyhoeddiadau pellach am hyn yn fuan iawn.

Fel y soniais yn gynharach, mae ein buddsoddiad newydd yn cynnig cyfleoedd ychwanegol a newydd. Ni fydd yn dyblygu cynlluniau presennol. Rydym o'r farn gadarn y dylai'r Deyrnas Unedig barhau i gymryd rhan yn Erasmus ar ôl Brexit. Mae Cymru yn elwa'n fawr iawn ar gymryd rhan yn Erasmus+, gan ganiatáu i bobl astudio ac ymgymryd â phrofiad gwaith a gwirfoddoli mewn gwlad arall yn yr UE. Yn wir, mae cyfanswm y cyllid a ddyfarnwyd i brosiectau Cymru oddeutu 6 y cant o gyfanswm y cyllid a ddyfarnwyd gan Erasmus+ ers 2014, ac mae hynny'n uwch na'n cyfran o'r boblogaeth. Mae'r alwad am brosiectau 2019 newydd gael ei chyhoeddi gan y British Council a byddwn yn annog sefydliadau i gyflwyno ceisiadau.

I gloi, Dirprwy Lywydd, rwy'n benderfynol y bydd llawer mwy o'n myfyrwyr, o bob cefndir, yn elwa ar y profiad trawsnewidiol o dreulio amser yn astudio, yn gwirfoddoli neu'n ymgymryd â phrofiad gwaith dramor. Mae profiadau rhyngwladol o fudd i fyfyrwyr unigol, yn cryfhau cysylltiadau ein prifysgolion dramor, ac yn hyrwyddo cyfnewid dwyochrog i Gymru gyda chymunedau a gwledydd ledled y byd. Diolch.