– Senedd Cymru am 3:49 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar symudedd myfyrwyr rhyngwladol. Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei datganiad. Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ar hyn o bryd, dim ond 2 y cant o fyfyrwyr mewn prifysgolion sy'n treulio amser yn astudio, yn gwirfoddoli neu ar brofiad gwaith dramor fel rhan o'u hastudiaethau. Ar adeg pan na fu erioed cyn bwysiced i'n myfyrwyr a'n graddedigion fod yn ddinasyddion byd-eang, a chael cysylltiadau diwylliannol ac economaidd cryfach rhwng Cymru a'r byd, a chael canlyniadau academaidd a chyflogadwyedd gwell eto hyd yn oed i'n myfyrwyr, mae angen inni sicrhau bod cyfleoedd rhyngwladol yn uchelgais i lawer mwy o fyfyrwyr.
Rwy'n dymuno gweld nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n treulio amser dramor fel rhan o'u hastudiaethau yn dyblu erbyn y bydd y Llywodraeth hon yn dod i'w therfyn. Fel myfyrwraig a wnaeth elwa'n fawr ar gyfnod o astudio dramor cyn graddio, gwn sut mae profiad o'r fath yn ehangu gorwelion, yn ehangu sgiliau allweddol ac yn sicrhau cysylltiadau sy'n para am oes. Mae ymchwil gan Universities UK yn nodi bod y buddion hyn yn arbennig o arwyddocaol i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig. Er hynny, y myfyrwyr hyn yn amlach na dim sy'n colli allan, neu hyd yn oed ddim yn ymgeisio am y cyfleoedd trawsffurfiol hyn.
Rydym wedi dechrau arni wrth fynd i'r afael â hyn drwy anelu cyllid symudedd myfyrwyr Generation UK—China tuag at ehangu cyfranogiad. Heddiw, rwy'n cyhoeddi cynllun peilot symudedd myfyrwyr rhyngwladol newydd, a fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol at ein huchelgais i gynyddu cyfleoedd a chodi dyheadau. Rydym wedi datblygu'r cynllun peilot gan drafod â British Council Cymru fel rhan o'n hymateb i argymhelliad adolygiad Diamond ar gymorth i fyfyrwyr sy'n dewis astudio dramor. Bydd yn canolbwyntio ar fyfyrwyr sy'n byw yng Nghymru yn sefydliadau addysg uwch Cymru a bydd yn rhedeg am dair blynedd o 2018-19. Bydd y cynllun peilot yn cynnig cymysgedd o gyfleoedd i fyfyrwyr o Gymru mewn sefydliadau AU yng Nghymru, gan gynnwys astudiaeth, gwirfoddoli ac interniaeth, yn amrywio o ddwy wythnos i dair hyd wyth wythnos. Dangosodd ein hastudiaeth gwmpasu mai cyfleoedd fel hyn fyddai'n denu'r mwyafrif o fyfyrwyr.
Bydd hyn yn helpu i annog cyfranogiad gan grŵp ehangach o fyfyrwyr, gan gynnwys y rheini sydd â chyfrifoldebau gofalu neu mewn gwaith, er enghraifft, a bydd yn osgoi dyblygu unrhyw gynlluniau sydd ar gael eisoes. Rwy'n credu'n gryf y dylai'r Llywodraeth fuddsoddi yn y cyfleoedd hyn, ond mae gan y prifysgolion gyfrifoldeb i ddod i'r adwy hefyd. Ar y nodyn hwnnw, rwy'n falch bod llawer o brifysgolion Cymru wedi ymaelodi ag ymgyrch Go International Universities UK i ddyblu'r ganran o israddedigion sy'n mynd ar leoliad rhyngwladol fel rhan o'u rhaglen prifysgol.
Rydym yn buddsoddi £1.3 miliwn yn y cynllun peilot hwn dros y tair blynedd nesaf, a bydd manylion pellach am y cyfleoedd symudedd hynny'n cael eu cyhoeddi cyn bo hir. Wrth gwrs, ceir enghreifftiau da eisoes o waith yn digwydd o fewn y sector gyda chefnogaeth y Llywodraeth, a hoffwn achub ar y cyfle i sôn am hyn hefyd heddiw. Yn ddiweddar, roeddem ni'n gallu cefnogi prosiect Cymru Fyd-eang gyda buddsoddiad o gronfa bontio Ewropeaidd gwerth £3.5 miliwn. Bydd yr arian hwn nid yn unig yn cefnogi hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i astudio, ond bydd hefyd yn cefnogi cyfleoedd symudedd allanol myfyrwyr o Gymru ym marchnadoedd blaenoriaeth Cymru Fyd-eang, megis Fietnam a'r Unol Daleithiau. Bydd y cyfleoedd hyn, fel rhan o'n rhaglen addysg ryngwladol ehangach, yn bwysig ar gyfer symudedd cymdeithasol, sgiliau cyflogadwyedd a chysylltiadau cymell tawel er mwyn Cymru.
Mae Rhwydwaith Seren yn mynd o nerth i nerth, ac roeddwn yn falch iawn yn gynharach eleni o sicrhau partneriaeth newydd rhwng Prifysgol Yale a Seren. Arweiniodd y bartneriaeth newydd hon at 16 o fyfyrwyr Seren yn cael y cyfle i gymryd rhan yn rhaglen haf ysgolheigion ifanc byd-eang Yale. Gallaf ddweud wrthych chi, Aelodau, fod hwn yn brofiad i newid bywydau pawb a gymerodd ran ynddo. Bydd y bartneriaeth gyffrous hon yn parhau ac ehangu yn 2019. Mae'r cysylltiadau hyn â phrifysgolion blaenllaw byd-eang yn gyfle inni hefyd ysgogi'r ymgysylltu â'n diwygiadau addysg ehangach, ac rwy'n gobeithio gwneud cyhoeddiadau pellach am hyn yn fuan iawn.
Fel y soniais yn gynharach, mae ein buddsoddiad newydd yn cynnig cyfleoedd ychwanegol a newydd. Ni fydd yn dyblygu cynlluniau presennol. Rydym o'r farn gadarn y dylai'r Deyrnas Unedig barhau i gymryd rhan yn Erasmus ar ôl Brexit. Mae Cymru yn elwa'n fawr iawn ar gymryd rhan yn Erasmus+, gan ganiatáu i bobl astudio ac ymgymryd â phrofiad gwaith a gwirfoddoli mewn gwlad arall yn yr UE. Yn wir, mae cyfanswm y cyllid a ddyfarnwyd i brosiectau Cymru oddeutu 6 y cant o gyfanswm y cyllid a ddyfarnwyd gan Erasmus+ ers 2014, ac mae hynny'n uwch na'n cyfran o'r boblogaeth. Mae'r alwad am brosiectau 2019 newydd gael ei chyhoeddi gan y British Council a byddwn yn annog sefydliadau i gyflwyno ceisiadau.
I gloi, Dirprwy Lywydd, rwy'n benderfynol y bydd llawer mwy o'n myfyrwyr, o bob cefndir, yn elwa ar y profiad trawsnewidiol o dreulio amser yn astudio, yn gwirfoddoli neu'n ymgymryd â phrofiad gwaith dramor. Mae profiadau rhyngwladol o fudd i fyfyrwyr unigol, yn cryfhau cysylltiadau ein prifysgolion dramor, ac yn hyrwyddo cyfnewid dwyochrog i Gymru gyda chymunedau a gwledydd ledled y byd. Diolch.
Rwy'n croesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet. Fel rhywun sy'n gymharol newydd i'r portffolio hwn, cefais innau fy synnu mewn gwirionedd o ddysgu mai ar hyn o bryd dim ond 2 y cant o fyfyrwyr sy'n treulio amser dramor, yn astudio a gwirfoddoli neu'n gwneud profiad gwaith. Mae'n galonogol i glywed yn eich datganiad eich bod yn bwriadu dyblu'r ffigur hwnnw cyn y daw'r Llywodraeth hon i'w therfyn. Ond pryder arbennig yn fy ngolwg i yw sut y daw'r cyfleoedd i ran y rhai o gefndiroedd difreintiedig—ein pobl ifanc sy'n gadael gofal, myfyrwyr anabl. Ac rwy'n gofyn sut fydd y cynllun peilot symudedd myfyrwyr rhyngwladol newydd yn canolbwyntio ar addysg uwch yng Nghymru—sut fyddech chi'n gobeithio y bydd hyn yn ymestyn, os o gwbl, i'r sector addysg bellach? Oherwydd, yn fy marn i, mae'n bwysig bod plant o'r ddau sector yn gallu cael profiad o'r cyfleoedd a ddaw. Felly, os na, pam nad yw hynny'n digwydd? Mae'n hanfodol bod gan ein grwpiau a dangynrychiolir yr un cyfleoedd i fynd ar gyrsiau rhyngwladol—wyddoch chi. Ac ni allaf yn fy myw weld pam lai. Felly, a oes modd i Ysgrifennydd y Cabinet roi mwy o oleuni inni ar hynny.
A gaf i ddiolch i Janet am y cwestiwn hwnnw? A gaf i egluro mai'r rheswm pam yr ydym yn dewis cyfnodau cymharol fyr ar gyfer y cynllun peilot yw eu bod nhw'n caniatáu i fyfyrwyr sydd efallai â chyfrifoldebau eraill, na allen nhw fforddio'r amser i dreulio blwyddyn dramor, sef y cyfnod traddodiadol efallai y byddai llawer o fyfyrwyr yn ei ystyried yn gyfnod o astudiaeth ryngwladol?
Bydd y lleoliadau byr hyn, am ddwy wythnos i dair hyd at wyth wythnos, yn caniatáu, yn ein barn ni, yn dilyn ymchwil a gyflawnwyd ar ran Llywodraeth Cymru gan OB3 Research a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru—. Bydd hyn yn rhoi'r cyfle gorau posibl inni fanteisio i'r eithaf ar hyn. Bydd y grantiau penodol hyn ar gael ar gyfer y rhai sy'n astudio yn sefydliadau addysg uwch Cymru, fel yr argymhellwyd gan adolygiad Diamond. Ond nid yw hynny'n golygu nad oes cyfleoedd sylweddol i astudiaeth ryngwladol yn y sector addysg bellach. Wrth gwrs, mewn llawer o ardaloedd, mae colegau addysg bellach yn darparu rhaglenni Lefel-A i'n myfyrwyr Seren ac yn cymryd rhan yn Rhaglen Seren. Rydych chi newydd fy nghlywed i'n sôn am ein cysylltiadau newydd â Phrifysgol Yale, ac rydym yn gobeithio adeiladu ar y rheini. Ac mae colegau addysg bellach wedi bod yn arbennig o lwyddiannus wrth ennill cyllid Erasmus +. Mae ein sector ysgolion a'n colegau addysg bellach wedi rhagori yn hyn o beth. Fel y dywedais, rydym wedi cael mwy na chyfran ein poblogaeth o'r adnoddau yn sgil Erasmus+ ac mae hyn wedi golygu ariannu amrywiaeth o brosiectau cyffrous iawn mewn addysg bellach sydd wedi galluogi myfyrwyr addysg bellach sy'n astudio mewn colegau academaidd a galwedigaethol i gael cyfnodau o astudio dramor.
Yr her i ni ar hyn o bryd, Janet—ac efallai y gallwch chi ein helpu yn hyn o beth—yw argyhoeddi eich cyd-Aelodau yn Llywodraeth San Steffan i ganiatáu inni barhau i gymryd rhan lawn yn rhaglen Erasmus+. Ac, ar hyn o bryd, mae'n bell o fod yn glir, ar ôl 2020, a fyddwn ni'n gallu gwneud hynny. Mae Llywodraeth San Steffan ar hyn o bryd yn cynnal astudiaeth gwerth am arian. Rydym wedi bod yn fwy na pharod i gefnogi'r adolygiad hwnnw gyda'r holl ddata o Gymru, yr wyf yn credu eu bod yn pledio'r achos yn gryf iawn dros barhau i gymryd rhan yn y cynllun. Mae prifysgolion Cymru a cholegau Cymru yn glir iawn o ran eu dymuniad i barhau i gymryd rhan lawn yn Erasmus+, fel y mae Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru. Serch hynny, mae'n ymddangos, ar hyn o bryd, nad yw'r lleisiau hynny yn cael eu clywed.
A byddwn, unwaith eto, yn ailadrodd y profiad o'r Swistir, a adawodd y rhaglen Erasmus+—gan benderfynu y gallen nhw wneud rhywbeth gwell ar eu liwt eu hunain. Yn y diwedd roedd wedi costio mwy o arian iddyn nhw am lai o gyfleoedd. Dylem ddysgu o hynny a pheidio â chredu y byddai rhyw gynllun unigol gan y DU yn disodli'n foddhaol estyniad a chyfranogiad yn Erasmus+, sef, fel y dywedais i, yr hyn y mae'r Llywodraeth hon yn ei ddymuno, yr hyn y mae myfyrwyr Cymru'n ei ddymuno, a'r hyn y mae prifysgolion a cholegau Cymru yn ei ddymuno.
Rwy'n ymddiheuro am gyrraedd yn hwyr. Diolch am hysbysiad ymlaen llaw am y datganiad hwn. Yn dilyn Brexit, bydd angen sicrhau bod myfyrwyr rhyngwladol yn parhau i gael eu croesawu yng Nghymru a'u bod nhw'n ymwybodol eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Bydd angen hefyd sicrhau bod myfyrwyr o Gymru yn cael eu hannog i fod yn eangfrydig a cheisio cyfleoedd i astudio dramor. Mae Plaid Cymru o'r farn y dylai myfyrwyr o Gymru allu astudio ym mhrifysgolion gorau'r byd a chael cyfle i fyw a gweithio dramor. Roedd ein maniffesto yn 2016 yn addo rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr tro cyntaf sy'n hanu o Gymru ac yn cofrestru fel israddedigion mewn prifysgolion y tu allan i'r DU yn ogystal ag ehangu ein cefnogaeth i Erasmus+, fel y soniwyd eisoes heddiw, er mwyn i fwy o bobl ifanc gael gweld y byd a'u cyfoethogi yn sgil y profiadau hynny. Felly, mae'n dda gennyf glywed bod Ysgrifennydd y Cabinet yn lansio cynllun peilot symudedd myfyrwyr rhyngwladol fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion adolygiad Diamond o ran cymorth i fyfyrwyr i astudio dramor.
Roeddech yn sôn bod yna £1.3 miliwn yn y cynllun peilot a bydd rhagor o fanylion i ddilyn. A gaf i ofyn pa bryd y daw'r manylion hynny, o ystyried y bydd angen inni graffu ar sut y caiff y buddsoddiad hwnnw ei roi ar waith gan Lywodraeth Cymru ac a fydd yr arian hwnnw'n ddigon neu a ellid ei ddefnyddio mewn gwahanol ffyrdd neu a oes gan bartïon eraill syniadau ynghylch sut i ddefnyddio'r arian hwnnw.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi nid yn unig i'r Siambr hon ond i gymuned y myfyrwyr rhyngwladol sicrwydd y bydden nhw nid yn unig yn cael eu croesawu yng Nghymru ond yn cael eu gwerthfawrogi hefyd? Rwy'n deall mai ar gyfer galluogi myfyrwyr Cymru i fynd i wledydd eraill y bwriadwyd y cynllun hwn. Ond mae'n gweithio o'r tu arall hefyd. Os ydym yn awyddus i ddenu myfyrwyr rhyngwladol i Gymru, bydd yn ehangu profiadau'r myfyrwyr yn ein cenedl ni yma a bydd yn caniatáu i ni gwrdd â phobl na fyddem o bosib byth yn eu cyfarfod fel arall—yn fy achos i, fy ngŵr, felly, rwy'n ddiolchgar iawn ein bod wedi cael y cyfle hwnnw yma yng Nghymru.
Pa gyflwyniadau a wnaeth Llywodraeth Cymru gerbron Llywodraeth y DU i sicrhau cyfranogiad parhaus Cymru yn y rhaglenni cyfnewid myfyrwyr rhyngwladol ar ôl Brexit? A ydych chi'n gweld swyddogaeth i ryw fath o Bwyllgor y Rhanbarthau wrth helpu i hwyluso cydweithrediad parhaus yn y maes hwn, rhywbeth yr wyf i a'm cyd-Aelod, Mick Antoniw, sy'n eistedd ar Bwyllgor y Rhanbarthau ar hyn o bryd, yn rhoi ystyriaeth iddo?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio ar gyfer lliniaru'r gost o golli myfyrwyr o'r UE ar ôl Brexit? Rydym yn gweld gostyngiad yn nifer y ceisiadau, ac fel y dywedais yn y Siambr hon yn ddiweddar, mae Cymru eisoes ymhell i lawr yn nhabl y gynghrair o ran niferoedd y myfyrwyr a cheisiadau o'r UE. Felly, bydd gostyngiad pellach yn anodd iawn i'r sector AU i'w amsugno, pan fyddwn, bron yn sicr, yn gweld dirywiad pellach hyd yn oed yn niferoedd myfyrwyr o'r UE o ganlyniad i Brexit.
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith os na chawn ni aros yn rhan o gynllun Erasmus? Ac a ydych yn rhannu fy mhryder bod yr ieithwedd gynyddol wrthwynebus o ran dinasyddion yr UE a ddefnyddir gan y Prif Weinidog fel rhan o'i gwrthwynebiad caled i ryddid symudiad yr UE a'i hymgyrch i hybu ei chytundeb arfaethedig â'r UE yn peryglu cydweithrediad yn hyn o beth?
Yn olaf, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ystyried cynllun peilot i roi cymorth i fyfyrwyr i astudio ymhell i ffwrdd drwy gydol rhaglen eu gradd, fel y mae adolygiad Diamond yn ei argymell? Rwyf i o'r farn y byddai hynny'n rhywbeth i'w ystyried yn ei gyfanrwydd er mwyn annog pobl ifanc nid yn unig i gwblhau rhan o'u gradd dramor ond i gwblhau eu gradd i gyd dramor a dwyn y cyfoeth hwnnw a'r dalent honno i Gymru'n ôl.
Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau, Bethan. Gadewch imi fod yn gwbl glir, mae prifysgolion a cholegau Cymru yn agored i fusnes, ac nid ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol yn unig, sydd, fel y dywedwch chi, yn dod â dyfnder i drefi ein prifysgolion yn yr hyn y maen nhw'n ei ddwyn gyda nhw, ond yn ogystal â hynny, wrth gwrs, y darlithwyr hefyd. Mae darlithwyr rhyngwladol yn gryfder allweddol yn ein sector, ac mae nifer sylweddol o'n staff darlithio mewn sefydliadau addysg uwch yn benodol yn ddarlithwyr rhyngwladol. Maen nhw i'w croesawu yn fawr yn ein prifysgolion ac yn helpu i wneud ein prifysgolion cyn gryfed ag y maen nhw.
Dyna'r neges yr wyf i fy hun, Universities Wales a Chymru Fyd-eang yn ei rhoi i'r byd—y cynnig cryf iawn sydd gan Gymru o ran addysg uwch ac addysg bellach. Nid oes raid ond edrych ar arolygon boddhad myfyrwyr sy'n dangos bod gan brifysgolion Cymru sgôr uwch ymhlith myfyrwyr am eu bodlonrwydd o ran eu profiad na thros y ffin yn Lloegr nac yn yr Alban. Mae gennym ragoriaeth gydag ymchwil a rhagoriaeth gydag addysgu, ac mae gennym amrywiaeth eang o sefydliadau, naill ai mewn dinas, fel yma yng Nghaerdydd, neu ar yr arfordir, boed hynny ym Mangor neu yn Aberystwyth—mae gennym gymysgedd wirioneddol, felly rhywbeth ar gyfer pob un. Ac rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi mai'r hyn y gall myfyrwyr a darlithwyr rhyngwladol fod yn sicr ohono pe bydden nhw'n dod i astudio neu i weithio yng Nghymru yw croeso cynnes iawn, iawn gan ein cymunedau, sy'n gwerthfawrogi eu cyfraniad nhw'n fawr iawn.
O ran her barhaus recriwtio myfyrwyr rhyngwladol, wrth gwrs, ni chaiff hynny ei hwyluso gan fod Llywodraeth y DU yn benderfynol o gynnwys myfyrwyr yn y ffigurau mewnfudo. Nid oes neb yn ystyried mai mewnfudwyr yw myfyrwyr rhyngwladol, neb ond Theresa May a'r Swyddfa Gartref. Mae arolwg ar ôl arolwg ar ôl arolwg yn dangos nad yw'r cyhoedd yn ystyried myfyrwyr rhyngwladol yn y ffordd hon, ac mae myfyrwyr rhyngwladol yn dod yma, maen nhw'n astudio yma, maen nhw'n dysgu eu sgiliau yma ac mae'r mwyafrif llethol ohonyn nhw wedyn yn mynd â'r sgiliau hynny'n ôl i'w mamwlad. Felly mae'r syniad hwn y dylid, rywsut, eu cynnwys nhw yn y ffigurau hyn yn niweidiol iawn—niweidiol iawn—i'r sector addysg uwch, nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y Deyrnas Unedig.
Rwyf wedi cael cyfarfodydd gyda Sam Gyimah a'm cymheiriaid yn yr Alban yn hyn o beth i siarad am recriwtio myfyrwyr rhyngwladol yn ogystal â chyfleoedd parhaus ar gyfer myfyrwyr Prydain i astudio dramor, yn arbennig fel rhan o raglen Erasmus+. Byddaf yn cyfarfod â nhw eto cyn bo hir. Rwyf wedi eu gwahodd nhw yma i Gaerdydd, ac rwy'n falch iawn eu bod nhw wedi penderfynu derbyn y gwahoddiad hwnnw, pan fyddwn, unwaith eto, yn eistedd yn grŵp o Weinidogion addysg i geisio llunio dealltwriaeth gyffredin o'r heriau sy'n wynebu pob un ohonom ni a cheisio darbwyllo Llywodraeth y DU o'r negeseuon hynny.
O ran recriwtio myfyrwyr Ewropeaidd i Gymru, ni ddylai fod yn annisgwyl ein bod wedi gweld gostyngiad yn nifer y myfyrwyr hynny gan fod ein pecyn cymorth i fyfyrwyr wedi newid. Roedd hynny'n ganlyniad anochel o gynnig hael iawn yr oedd myfyrwyr yr UE yn gallu manteisio arno dan y drefn flaenorol; mae'r cymhelliant ariannol hwnnw wedi ei ddileu, wrth inni symud tuag at y pecynnau Diamond sydd gennym. Mewn gwirionedd, y flwyddyn gynt, roeddem ni'n perfformio'n well na gwledydd eraill y DU o ran recriwtio myfyrwyr rhyngwladol ac o'r UE, felly ni ddylai hyn fod yn annisgwyl. Ond mae hynny'n golygu bod yn rhaid inni ddyblu ein hymdrechion, ochr yn ochr â'n partneriaid mewn sefydliadau addysg uwch a cholegau addysg bellach, i fynd â'r genadwri ar led am y cynnig cryf sydd gennym ni yma yng Nghymru.
Dyna pam yr oeddwn gyda Chymru Fyd-eang yn Efrog Newydd yn ddiweddar, ochr yn ochr ag is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yn llywyddu digwyddiad gan Study in Wales, ac yn fwyaf diweddar, yn Fietnam, lle' r oeddem yn gallu negodi cyfran sylweddol o ysgoloriaethau Chevening newydd gyda'r British Council—gyda phrifysgolion Cymru yn cael y rhan fwyaf ohonyn nhw— i ddenu myfyrwyr o Fietnam i'n gwlad ni. A byddwn yn parhau i gefnogi ein cymheiriaid mewn prifysgolion yn eu gweithgareddau recriwtio, lle gallwn ychwanegu gwerth atyn nhw.
Cynllun peilot ar gyfer cyfnodau byr o astudiaeth dramor yw hwn i ddechrau. Fel y dywedais, canlyniad ymchwil sydd wedi cael ei gyflawni gan WISERD ar ran Llywodraeth Cymru, yw hwn oherwydd ein bod yn teimlo mai yn y fan hon y ceir y galw mwyaf. Mae'r galw am leoliadau rhyngwladol wedi tyfu'n raddol yng Nghymru, ond ar gyfradd o 2 y cant, rydym ymhell y tu ôl i Loegr a'r Alban yn niferoedd yr israddedigion o Gymru sy'n manteisio ar y cyfleoedd hyn. Mae hon yn ymgais i ategu'r hyn yr ydym yn ei wneud eisoes i gynyddu'r cyfleoedd hynny, yn enwedig ar gyfer y myfyrwyr hynny, fel y dywedais i, sydd o gefndiroedd arbennig o ddifreintiedig a fu'n lleiaf tebygol o wneud cais am gyfleoedd o'r blaen neu am astudiaeth dramor yn ei holl agweddau.
Byddwn yn parhau i adolygu, o ystyried y cyfyngiadau ariannol yr ydym yn gweithio oddi mewn iddyn nhw yn y sector addysg uwch, a fyddem yn symud i sefyllfa lle y byddem yn ariannu graddau cyfan mewn prifysgolion rhyngwladol. Nid ydym mewn sefyllfa i ymgymryd â hynny ar hyn o bryd, gan ein bod yn credu bod anghenion enbyd eraill am y gyllideb sydd gan addysg uwch yng Nghymru, a'n blaenoriaeth ni ar gyfer buddion Diamond yw ailfuddsoddi mewn pynciau drud a chynyddu'r adnoddau a gaiff y sector yma gartref.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud pwynt da ynghylch myfyrwyr rhyngwladol, a'r camau y mae hi wedi eu cymryd yn y Siambr hon sy'n cyferbynnu mor eithafol â pholisi sinigaidd Llywodraeth Geidwadol y DU o annog myfyrwyr rhyngwladol i beidio â dod i'r wlad hon am eu bod yn effeithio ar ffigurau mewnfudo. Dylai meinciau'r Ceidwadwyr yn y Siambr hon fod â chywilydd o'r Llywodraeth Geidwadol a'r polisi hwnnw.
Felly, mae hyn yn canolbwyntio'n dda iawn ar ymagor Cymru ac agor y byd i fyfyrwyr Cymru. Un peth sydd o ddiddordeb arbennig i mi, ac y byddwn yn ei groesawu, yw'r canolbwyntio ar fyfyrwyr, yr ydych chi newydd ei grybwyll, o gefndiroedd difreintiedig. Yr hyn yr wyf yn ei ofyn hefyd yw: nid myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig yn unig, ond myfyrwyr—myfyrwyr y dyfodol—sy'n byw mewn cymunedau o amddifadedd lluosog nad ydynt eu hunain efallai o gefndiroedd difreintiedig. Felly, sôn yr wyf am gymunedau'r Cymoedd, yn benodol mannau fel Senghennydd a Bargoed yn fy etholaeth i. I'r ysgol ym Margoed yr oeddwn i'n mynd. Pan oeddwn i yn yr ysgol, 'fyddwn i ddim wedi ystyried astudiaeth ryngwladol—ni fyddai wedi croesi fy meddwl. Nid oeddwn i o gefndir difreintiedig, ond nid oedd rhywbeth o'r fath yn rhan o ddiwylliant yr ysgol.
Felly, os ydym eisiau annog myfyrwyr i deithio dramor, rwy'n credu bod angen inni edrych ar sut mae disgyblion ysgol gynradd ac ysgol uwchradd yn cael eu haddysgu yng ngwerth astudiaeth ryngwladol. Gall pobl ddweud wrthyn nhw, 'Wel, gallwch chi fynd dramor—gallwch chi deithio dramor—a bydd hyn yn beth ardderchog i chi'. Roeddwn i'n 25 oed ac yn teithio dramor i Tsieina i fod yn athro cyn imi sylweddoli beth oedd gwerth astudiaeth ryngwladol. Gadewch i mi ddweud rhywbeth wrthych chi: 'fyddwn i ddim wedi bod â digon o hyder i wneud hynny pan oeddwn i'n 18 oed.
Rydych chi'n gwneud pwynt da iawn, oherwydd yn aml iawn materion yw'r rhain sy'n ymwneud ag uchelgais a thanio unigolion i chwilio am y cyfleoedd hyn. Mae'r ymchwil yn dangos mai pobl o gefndir difreintiedig sy'n lleiaf tebygol o chwilio am y cyfleoedd hyn, felly mae hyn yn ymwneud ag ennyn uchelgais.
Fel y dywedais yn gynharach mewn ateb i Janet Finch-Saunders, mewn gwirionedd, prosiectau mewn ysgolion yw rhai o'r prosiectau cryfaf y mae Cymru wedi eu gweld yn rhaglen Erasmus+, mae hynny'n bwysig ofnadwy—nad yw Erasmus yn cael ei hystyried yn rhaglen i brifysgolion yn unig. Yn wir, mae ar gael i ysgolion a cholegau addysg bellach, ac mae ysgolion yn ymgysylltu â hynny'n dda iawn ar hyn o bryd.
Ond, fel y gwyddoch, un o bedwar diben ein cwricwlwm newydd yw meithrin dinasyddion y byd sy'n barod i wneud eu rhan, yma yn eu cymunedau eu hunain, ond hefyd yn fyd-eang. Felly, gobeithio, bydd ein cwricwlwm newydd, o oedran cynnar iawn—o dair blwydd oed—yn dechrau dysgu plant am eu safle yn eu cymuned, ond hefyd am y ffaith eu bod yn ddinasyddion y byd a cheir cyfleoedd ar eu cyfer nhw allan yno.
Un o'r rhesymau pam mae'r cyfleoedd yn gyfyngedig i ddwy wythnos i dair hyd wyth wythnos yw bod y rhain yn cael eu hystyried yn fwy deniadol. Cam mawr, onid e, yw treulio blwyddyn yn byw oddi cartref a symud i wlad arall am flwyddyn, ond mae'r cyfle i fynd am ddwy wythnos i dair neu hyd at wyth wythnos yn gynnig, efallai, sy'n llawer haws ymdopi ag ef, ac achub arno, ac yn un apelgar. Rydym ni'n credu, yn dilyn y gwaith ymchwil a gynhaliwyd i lywio'r fenter bolisi hon, mai yn y fan honno y bydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf.
Rydym yn rhagweld y bydd rhwng 400 a 500 o fyfyrwyr yn cael eu cynorthwyo gan y cynllun peilot hwn. Bydd yn cael ei weithredu gan British Council Cymru, sydd eisoes â systemau ar waith ar gyfer cyfleoedd eraill. Hefin, pe byddech chi wedi cwrdd â'r bobl ifanc 16 ac 17 oed bywiog iawn o ysgolion ledled Cymru a aeth i raglen ysgolheigion byd-eang Yale, byddech wedi rhyfeddu at eu hyder, eu huchelgais a'u gallu i gystadlu ar y llwyfan byd-eang â phobl ifanc eraill a dal eu tir. Mae'r hyder y mae hynny wedi ei roi iddyn nhw i ddychwelyd i Gymru a chodi eu gobeithion yn uwch hyd yn oed o ran yr hyn y gallan nhw ei gyflawni wedi bod yn neilltuol iawn. Pe byddem ni'n gallu cynnig rhagor o'r cyfleoedd hynny ar gyfer rhagor o'n myfyrwyr ni, teimlaf y byddai o leiaf ran o f'amser i yn y swydd hon wedi cael ei dreulio mewn ffordd fuddiol iawn.
Diolch i chi am eich datganiad. Rwyf i'n credu bod hwn yn fater pwysig iawn, oherwydd mae perygl gwirioneddol, gan fod gennym y bygythiad hwn o fod yn gadael yr UE, y byddwn yn mynd yn wlad fewnblyg er ein bod yn rhan o'r economi fyd-eang. Ni fyddwn yn gallu osgoi hynny. Mae'r syniad hwn y gallwn ni ddod i ben â hi rywsut neu'i gilydd ar ein pennau ein hunain yn ddigon i godi ofn ar rywun.
Beth bynnag, hoffwn roi teyrnged i Brifysgol Caerdydd yn arbennig, sydd wedi bod yn canolbwyntio llawer o'u hymdrechion ar sicrhau eu bod, cyn belled ag y gallen nhw, yn annog yr holl bobl ifanc sy'n astudio yno fel israddedigion i gynnwys rhyw fath o brofiad rhyngwladol. Mae hynny'n hollol fel y dylai fod, oherwydd mae'r ymchwil wedi cael ei wneud eisoes sy'n dangos bod astudio dramor yn gwella eu cyflogadwyedd, eu hyder a'u haddysg yn fwy eang. Felly, da iawn, Brifysgol Caerdydd, ac rwy'n gresynu'n fawr at y ffaith mai dim ond 2 y cant o holl fyfyrwyr Cymru sy'n mynd dramor.
Ond gan ganolbwyntio unwaith eto ar y pwynt pwysig a wnewch chi am bwysigrwydd myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig yn cael mynd dramor, clywais yr hyn a ddywedoch wrth Hefin David a phwysigrwydd cael y profiadau rhyngwladol tymor byr hyn. Ond rwy'n amau y bydd y rheini yn Fietnam neu'r Unol Daleithiau, o ystyried y pellter dan sylw—fydden nhw? Rwyf i o'r farn, yn sicr, bod angen inni ganolbwyntio ar ein marchnadoedd mwyaf, sydd yn Ewrop. Ni fyddwn yn gallu symud ein gwlad i ryw gwr arall o'r byd. Hoffwn i ofyn beth yr ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod myfyrwyr dan anfantais yn elwa ar gyfleoedd y £1.3 miliwn newydd hwn oherwydd, fel arall, rydym yn gwybod y byddan nhw'n cael eu cymryd gan fyfyrwyr llai difreintiedig sydd â theuluoedd a fyddai fwy na thebyg yn gallu gwneud trefniadau ar eu cyfer ar eu liwt eu hunain.
A wnewch chi esbonio pam nad ydych chi wedi ystyried ymestyn y cyfle hwn i fyfyrwyr addysg bellach sy'n astudio, lawn cyn bwysiced, y sgiliau technegol a fydd hefyd yn eu gwneud yn gyflogadwy ac yn gwneud cyfraniad pwysig i'n heconomi? Dyna fy nau gwestiwn i.
Diolch yn fawr iawn i chi, Jenny. Rwy'n falch iawn o ymuno â chi i longyfarch Prifysgol Caerdydd am y gwaith arwyddocaol y maen nhw wedi ei wneud yn y maes hwn. Rydym wedi bod yn ofalus iawn wrth geisio llunio'r cynllun hwn i ategu'r hyn y mae ein prifysgolion yn ei wneud eisoes, ac yn sicr nid ei ddiben yw eu rhyddhau o unrhyw gyfrifoldeb sydd ei angen ac y maent yn ei gymryd i'r perwyl hwn.
Fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, efallai fod y gwaith hwn yn bwysicach nag erioed wrth inni nesáu at Brexit. Ni fu Cymru erioed yn wlad ynysig. Mae ein rhagolygon wedi bod rhyngwladol a byd-eang bob amser. Yr wythnos diwethaf, yn yr asesiad o'i Chymraeg llafar, roedd fy merch yn siarad am bobl o Gymru a oedd yn bresennol pan gafodd datganiad annibyniaeth Unol Daleithiau America ei lofnodi. Rydym wedi anfon ein pobl allan i'r byd, sydd wedi creu a gwneud pethau anhygoel. Nawr yn fwy nag erioed, mae angen inni gynyddu cymell tawel Cymru. Efallai nad oes gennym gyfrifoldeb am faterion tramor yn y Siambr hon, ond nid yw hynny'n ein rhyddhau ni o'n cyfrifoldeb i gyflwyno Cymru i'r byd, a pha well ffordd, pa well asedau sydd gennym ni i hybu ein cenedl na'n pobl ifanc ni? Y nhw yw ein hased gorau, a dyna pam yr wyf yn benderfynol y dylai mwy ohonyn nhw gael y cyfle.
Wrth gwrs, rydym yn awyddus i fyfyrwyr barhau i gael cyfleoedd yn Ewrop; dyna pam ein bod ni'n ymladd mor galed am brosiect Erasmus +. Ond gallaf eich sicrhau chi, Jenny, y gallwch fod yn Boston mewn chwe awr, a chyda'r awyren newydd o Gaerdydd i Doha, gallwch fod yn Fietnam mewn llai na 12 awr. Felly mae'r syniad hwn nad yw rhaglen wyth wythnos yn ddigon hir i chi fynd i rai o'r lleoedd hyn, yn fy marn i, yn anghywir. Byddwn yn edrych tua'r British Council, a fydd yn gweinyddu'r cynllun hwn, i'n helpu ni i gasglu data i wneud yn siŵr bod amrywiaeth eang o fyfyrwyr yn achub ar y cyfleoedd hyn. Fel y dywedais yn ystod hyn i gyd, un o'r egwyddorion sydd yn fy nhywys yn y swydd hon yw rhoi cyfle cyfartal a chau'r bwlch cyrhaeddiad. Nid ymwneud â chymwysterau yn unig y mae'r bwlch cyrhaeddiad hwnnw; mae'n ymwneud â bwlch cyrhaeddiad o ran cyfle hefyd, ac rwy'n gobeithio y bydd y rhaglen hon yn ein helpu i gyflawni hynny.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.