Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ar hyn o bryd, dim ond 2 y cant o fyfyrwyr mewn prifysgolion sy'n treulio amser yn astudio, yn gwirfoddoli neu ar brofiad gwaith dramor fel rhan o'u hastudiaethau. Ar adeg pan na fu erioed cyn bwysiced i'n myfyrwyr a'n graddedigion fod yn ddinasyddion byd-eang, a chael cysylltiadau diwylliannol ac economaidd cryfach rhwng Cymru a'r byd, a chael canlyniadau academaidd a chyflogadwyedd gwell eto hyd yn oed i'n myfyrwyr, mae angen inni sicrhau bod cyfleoedd rhyngwladol yn uchelgais i lawer mwy o fyfyrwyr.