Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 20 Tachwedd 2018.
O ran her barhaus recriwtio myfyrwyr rhyngwladol, wrth gwrs, ni chaiff hynny ei hwyluso gan fod Llywodraeth y DU yn benderfynol o gynnwys myfyrwyr yn y ffigurau mewnfudo. Nid oes neb yn ystyried mai mewnfudwyr yw myfyrwyr rhyngwladol, neb ond Theresa May a'r Swyddfa Gartref. Mae arolwg ar ôl arolwg ar ôl arolwg yn dangos nad yw'r cyhoedd yn ystyried myfyrwyr rhyngwladol yn y ffordd hon, ac mae myfyrwyr rhyngwladol yn dod yma, maen nhw'n astudio yma, maen nhw'n dysgu eu sgiliau yma ac mae'r mwyafrif llethol ohonyn nhw wedyn yn mynd â'r sgiliau hynny'n ôl i'w mamwlad. Felly mae'r syniad hwn y dylid, rywsut, eu cynnwys nhw yn y ffigurau hyn yn niweidiol iawn—niweidiol iawn—i'r sector addysg uwch, nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y Deyrnas Unedig.
Rwyf wedi cael cyfarfodydd gyda Sam Gyimah a'm cymheiriaid yn yr Alban yn hyn o beth i siarad am recriwtio myfyrwyr rhyngwladol yn ogystal â chyfleoedd parhaus ar gyfer myfyrwyr Prydain i astudio dramor, yn arbennig fel rhan o raglen Erasmus+. Byddaf yn cyfarfod â nhw eto cyn bo hir. Rwyf wedi eu gwahodd nhw yma i Gaerdydd, ac rwy'n falch iawn eu bod nhw wedi penderfynu derbyn y gwahoddiad hwnnw, pan fyddwn, unwaith eto, yn eistedd yn grŵp o Weinidogion addysg i geisio llunio dealltwriaeth gyffredin o'r heriau sy'n wynebu pob un ohonom ni a cheisio darbwyllo Llywodraeth y DU o'r negeseuon hynny.
O ran recriwtio myfyrwyr Ewropeaidd i Gymru, ni ddylai fod yn annisgwyl ein bod wedi gweld gostyngiad yn nifer y myfyrwyr hynny gan fod ein pecyn cymorth i fyfyrwyr wedi newid. Roedd hynny'n ganlyniad anochel o gynnig hael iawn yr oedd myfyrwyr yr UE yn gallu manteisio arno dan y drefn flaenorol; mae'r cymhelliant ariannol hwnnw wedi ei ddileu, wrth inni symud tuag at y pecynnau Diamond sydd gennym. Mewn gwirionedd, y flwyddyn gynt, roeddem ni'n perfformio'n well na gwledydd eraill y DU o ran recriwtio myfyrwyr rhyngwladol ac o'r UE, felly ni ddylai hyn fod yn annisgwyl. Ond mae hynny'n golygu bod yn rhaid inni ddyblu ein hymdrechion, ochr yn ochr â'n partneriaid mewn sefydliadau addysg uwch a cholegau addysg bellach, i fynd â'r genadwri ar led am y cynnig cryf sydd gennym ni yma yng Nghymru.
Dyna pam yr oeddwn gyda Chymru Fyd-eang yn Efrog Newydd yn ddiweddar, ochr yn ochr ag is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yn llywyddu digwyddiad gan Study in Wales, ac yn fwyaf diweddar, yn Fietnam, lle' r oeddem yn gallu negodi cyfran sylweddol o ysgoloriaethau Chevening newydd gyda'r British Council—gyda phrifysgolion Cymru yn cael y rhan fwyaf ohonyn nhw— i ddenu myfyrwyr o Fietnam i'n gwlad ni. A byddwn yn parhau i gefnogi ein cymheiriaid mewn prifysgolion yn eu gweithgareddau recriwtio, lle gallwn ychwanegu gwerth atyn nhw.
Cynllun peilot ar gyfer cyfnodau byr o astudiaeth dramor yw hwn i ddechrau. Fel y dywedais, canlyniad ymchwil sydd wedi cael ei gyflawni gan WISERD ar ran Llywodraeth Cymru, yw hwn oherwydd ein bod yn teimlo mai yn y fan hon y ceir y galw mwyaf. Mae'r galw am leoliadau rhyngwladol wedi tyfu'n raddol yng Nghymru, ond ar gyfradd o 2 y cant, rydym ymhell y tu ôl i Loegr a'r Alban yn niferoedd yr israddedigion o Gymru sy'n manteisio ar y cyfleoedd hyn. Mae hon yn ymgais i ategu'r hyn yr ydym yn ei wneud eisoes i gynyddu'r cyfleoedd hynny, yn enwedig ar gyfer y myfyrwyr hynny, fel y dywedais i, sydd o gefndiroedd arbennig o ddifreintiedig a fu'n lleiaf tebygol o wneud cais am gyfleoedd o'r blaen neu am astudiaeth dramor yn ei holl agweddau.
Byddwn yn parhau i adolygu, o ystyried y cyfyngiadau ariannol yr ydym yn gweithio oddi mewn iddyn nhw yn y sector addysg uwch, a fyddem yn symud i sefyllfa lle y byddem yn ariannu graddau cyfan mewn prifysgolion rhyngwladol. Nid ydym mewn sefyllfa i ymgymryd â hynny ar hyn o bryd, gan ein bod yn credu bod anghenion enbyd eraill am y gyllideb sydd gan addysg uwch yng Nghymru, a'n blaenoriaeth ni ar gyfer buddion Diamond yw ailfuddsoddi mewn pynciau drud a chynyddu'r adnoddau a gaiff y sector yma gartref.