Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.
Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio creu economi sy'n gweithio i bawb. Nawr, yn fwy nag erioed o'r blaen, mae angen inni sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i godi safonau byw a hyrwyddo twf a chynhyrchiant, a hefyd i fynd i'r afael â gwahaniaethau rhanbarthol economaidd a chymdeithasol sydd wedi bod yn bodoli ers gymaint o amser.
Mae'r sector addysg bellach yn hanfodol i'r agenda hon, ac eto dros y pum neu chwe blynedd diwethaf, hwn yw un o'r sectorau a gafodd ei daro galetaf gan y mesurau cyni a osodwyd arnom ni gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Gyda hyn mewn golwg, fe es i ati i gomisiynu adolygiad o fethodoleg cyllido addysg bellach er mwyn gwneud yn siŵr ei bod yn cyflawni ein dibenion ac yn sicrhau yr hyn sydd ei angen ar ddysgwyr a'r hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano, a hefyd yn sicrhau tegwch ar draws Cymru gyfan, nid yn unig ar gyfer dysgwyr llawn amser ond hefyd ar gyfer dysgwyr rhan amser hefyd.
Mae'r newidiadau a gyflwynwyd yn 2014 wedi cyflawni eu hamcanion. Nid sicrhau cymwysterau yn unig ydym ni'n ei wneud erbyn hyn, ond mae gyda ni raglen ddysgu gynhwysfawr sy'n seiliedig ar sgiliau, cyrsiau sydd â phwrpas a nod clir, a chynllun ar gyfer y cwricwlwm sydd wedi'i ailwampio. Yn gyffredinol, mae ein sefydliadau yn sefydlog yn ariannol, ond yn 2017 fe argymhellodd adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru y dylem ni adolygu'r fethodoleg gyllido i adlewyrchu'r newidiadau o ran demograffeg ac anghenion lleol.
Er mwyn gweithredu'r argymhelliad hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r sector addysg bellach i sicrhau bod y cyllid ar gyfer dysgwyr llawn amser yn fwy tebyg i'r dull o gyllido'r chweched dosbarth, gan adlewyrchu'r newidiadau perthnasol o ran demograffeg. Er bod y dull cyllido sy'n bodoli ar hyn o bryd yn golygu bod y prif gymhwyster a'r sgiliau hanfodol y mae cyflogwyr ym mhob sector yn chwilio amdanyn nhw yn cael eu sicrhau, y brif ffactor wrth ddarparu rhaglenni ymhob coleg yw'r galw gan ddysgwyr. Nid yw dewisiadau'r dysgwyr ar hyn o bryd o reidrwydd yn cyd-fynd ag anghenion cyflogwyr na'r economi leol, ac felly mae'n bosibl bod rhai yn dewis cyrsiau lle nad oes llwybr gyrfa clir ac mae hyn yn gallu arwain at bobl yn mynd yn sownd mewn swyddi gyda chyflogau isel.
Er mwyn newid y sefyllfa hon ac i symud tuag at sefyllfa lle y mae anghenion ein heconomi a'r hyfforddiant a ddarperir yn cyd-fynd, mae swyddogion wedi bod yn gweithio i sicrhau bod y cyrsiau mae'r colegau yn eu cynnig yn cyd-fynd ag argymhellion partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Nod y partneriaethau hyn yw sicrhau bod anghenion cyflogwyr yn cael eu hystyried yn eu hargymhellion. Caiff y rhain eu defnyddio wedyn i ddylanwadu ar brosesau cynllunio a ddarperir gan bob coleg. Os bydd colegau'n cyflwyno cynlluniau sydd ddim yn adlewyrchu argymhellion y partneriaethau, ni fyddant yn cael eu cymeradwyo. Ar ben hyn, bydd fy swyddogion i yn sicrhau bod pob darpariaeth yn cyd-fynd â'r cynlluniau hynny, ac yn gwneud addasiad i'r cyllid lle bo hynny’n briodol.
Rwy'n bwriadu penodi cynghorydd annibynnol i adolygu sut y gallwn ni adeiladu ar y trefniant presennol ynghylch y partneriaethau a'u gallu nhw i gael effaith ar ddarpariaeth sgiliau yn eu rhanbarthau nhw sy'n cyfateb ag anghenion cyflogwyr.