– Senedd Cymru am 4:19 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar yr adolygiad o gyllid addysg bellach. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.
Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio creu economi sy'n gweithio i bawb. Nawr, yn fwy nag erioed o'r blaen, mae angen inni sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i godi safonau byw a hyrwyddo twf a chynhyrchiant, a hefyd i fynd i'r afael â gwahaniaethau rhanbarthol economaidd a chymdeithasol sydd wedi bod yn bodoli ers gymaint o amser.
Mae'r sector addysg bellach yn hanfodol i'r agenda hon, ac eto dros y pum neu chwe blynedd diwethaf, hwn yw un o'r sectorau a gafodd ei daro galetaf gan y mesurau cyni a osodwyd arnom ni gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Gyda hyn mewn golwg, fe es i ati i gomisiynu adolygiad o fethodoleg cyllido addysg bellach er mwyn gwneud yn siŵr ei bod yn cyflawni ein dibenion ac yn sicrhau yr hyn sydd ei angen ar ddysgwyr a'r hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano, a hefyd yn sicrhau tegwch ar draws Cymru gyfan, nid yn unig ar gyfer dysgwyr llawn amser ond hefyd ar gyfer dysgwyr rhan amser hefyd.
Mae'r newidiadau a gyflwynwyd yn 2014 wedi cyflawni eu hamcanion. Nid sicrhau cymwysterau yn unig ydym ni'n ei wneud erbyn hyn, ond mae gyda ni raglen ddysgu gynhwysfawr sy'n seiliedig ar sgiliau, cyrsiau sydd â phwrpas a nod clir, a chynllun ar gyfer y cwricwlwm sydd wedi'i ailwampio. Yn gyffredinol, mae ein sefydliadau yn sefydlog yn ariannol, ond yn 2017 fe argymhellodd adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru y dylem ni adolygu'r fethodoleg gyllido i adlewyrchu'r newidiadau o ran demograffeg ac anghenion lleol.
Er mwyn gweithredu'r argymhelliad hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r sector addysg bellach i sicrhau bod y cyllid ar gyfer dysgwyr llawn amser yn fwy tebyg i'r dull o gyllido'r chweched dosbarth, gan adlewyrchu'r newidiadau perthnasol o ran demograffeg. Er bod y dull cyllido sy'n bodoli ar hyn o bryd yn golygu bod y prif gymhwyster a'r sgiliau hanfodol y mae cyflogwyr ym mhob sector yn chwilio amdanyn nhw yn cael eu sicrhau, y brif ffactor wrth ddarparu rhaglenni ymhob coleg yw'r galw gan ddysgwyr. Nid yw dewisiadau'r dysgwyr ar hyn o bryd o reidrwydd yn cyd-fynd ag anghenion cyflogwyr na'r economi leol, ac felly mae'n bosibl bod rhai yn dewis cyrsiau lle nad oes llwybr gyrfa clir ac mae hyn yn gallu arwain at bobl yn mynd yn sownd mewn swyddi gyda chyflogau isel.
Er mwyn newid y sefyllfa hon ac i symud tuag at sefyllfa lle y mae anghenion ein heconomi a'r hyfforddiant a ddarperir yn cyd-fynd, mae swyddogion wedi bod yn gweithio i sicrhau bod y cyrsiau mae'r colegau yn eu cynnig yn cyd-fynd ag argymhellion partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Nod y partneriaethau hyn yw sicrhau bod anghenion cyflogwyr yn cael eu hystyried yn eu hargymhellion. Caiff y rhain eu defnyddio wedyn i ddylanwadu ar brosesau cynllunio a ddarperir gan bob coleg. Os bydd colegau'n cyflwyno cynlluniau sydd ddim yn adlewyrchu argymhellion y partneriaethau, ni fyddant yn cael eu cymeradwyo. Ar ben hyn, bydd fy swyddogion i yn sicrhau bod pob darpariaeth yn cyd-fynd â'r cynlluniau hynny, ac yn gwneud addasiad i'r cyllid lle bo hynny’n briodol.
Rwy'n bwriadu penodi cynghorydd annibynnol i adolygu sut y gallwn ni adeiladu ar y trefniant presennol ynghylch y partneriaethau a'u gallu nhw i gael effaith ar ddarpariaeth sgiliau yn eu rhanbarthau nhw sy'n cyfateb ag anghenion cyflogwyr.
Mae'r sector addysg bellach yn sector ymatebol ac rwy'n disgwyl yn llwyr iddo gofleidio'r fethodoleg well hon, i weithio ar y cyd ac yn rhanbarthol, a sicrhau y bydd pob un o'n dysgwyr addysg bellach yn cael y dechrau gorau posibl ym myd addysg uwch neu gyflogaeth.
Mae angen inni ymdrechu'n barhaus i wella canlyniadau i ddysgwyr. Rwy'n awyddus i weld cynnydd yn y duedd o gwblhad llwyddiannus a byddwn yn ystyried opsiynau, mewn ymgynghoriad â'r sector addysg bellach, i ysgogi colegau i sicrhau eu bod yn bodloni'r nodau blynyddol ar gyfer canlyniadau dysgu, gan sicrhau gwell safonau flwyddyn ar ôl blwyddyn. A phan nad yw coleg yn bodloni'r nod hwnnw, byddaf yn atal cyllid yn y flwyddyn ganlynol. Rwy'n falch o ddweud, yn y degawd diwethaf, fod y canlyniadau a gyflawnwyd gan golegau wedi gwella hyd at 20 pwynt canran. Ond mae'n rhaid inni wneud ymdrech barhaus i wella safonau.
Ochr yn ochr â'r newidiadau i'r ddarpariaeth lawn amser, rwyf hefyd yn cynnig newid y ffordd y caiff y ddarpariaeth ran-amser ei hariannu, ei chynllunio a'i chyflwyno. Roedd cyflwyniad fframweithiau cyllido yn 2014-15, rwy'n ofni, yn cyd-daro â gostyngiad o 37 y cant yn y cyllid a oedd ar gael ar gyfer addysg ran amser, gyda 50 y cant eto'r flwyddyn ganlynol. Felly, ers 2015-16, mae maint y ddarpariaeth ran-amser wedi amrywio yn dibynnu ar nifer y dysgwyr llawn amser, a'r cynnig yn anghyson ledled Cymru.
Rhoddir blaenoriaeth i ariannu rhan-amser ar gyfer sgiliau sylfaenol, gan gynnwys technoleg ddigidol a darpariaeth Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill, yn ogystal â chyfle i bob dysgwr ennill TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a mathemateg. Mae darparu ar gyfer y rheini sydd â'r lefel isaf o sgiliau wedi bod yn rhan graidd o genhadaeth pob coleg ers cryn amser. Yn y dyfodol, caiff y ddarpariaeth ran-amser ei blaenoriaethu i'r gyfran o'r boblogaeth sy'n meddu ar gymhwyster lefel 2 yn unig. Bydd hynny'n sicrhau y bydd pob dysgwr gyda lefel cymhwyster sy'n is na lefel 3 â hawl cyfartal i swm y cyllid rhan-amser sydd ar gael ble bynnag y maent yn byw yn y wlad.
Fel yn achos darpariaeth lawn amser, rwy'n disgwyl i ddarpariaeth ran-amser colegau gael ei dylanwadu gan argymhellion y bartneriaeth sgiliau ranbarthol. Mae'r adolygiad hwn hefyd wedi mireinio'r ymgodiad oherwydd teneurwydd poblogaeth i adlewyrchu costau uwch y ddarpariaeth mewn ardaloedd gwledig, er y caiff gwaith ychwanegol ei gynnal yn 2019 i fireinio'r ymgodiad oherwydd teneurwydd poblogaeth i sicrhau ein bod yn nodi ac yn ariannu'r hawl gorau posib i'r cwricwlwm mewn ardaloedd gwledig.
Rwyf hefyd am newid y ffordd yr ydym yn ariannu Bagloriaeth Cymru ôl-16. Ar hyn o bryd, caiff rhaglenni lefel A a chyfatebol eu hariannu yn ôl yr un gwerth os yw Bagloriaeth Cymru yn cael ei darparu neu beidio. Mae hyn oherwydd, lle na chaiff Bagloriaeth Cymru ei darparu, disgwylir i ddarparwyr sicrhau o leiaf tri chymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru. Eto i gyd, mae data wedi dangos nad yw hyn o reidrwydd yn digwydd yn ôl y disgwyl, gyda dysgwyr yn colli allan ar ddatblygu sgiliau pwysig. Felly, o 2019, caiff Bagloriaeth Cymru ei hariannu fel cymhwyster ar wahân a'i hariannu'n gyfartal â lefel A. Byddaf yn edrych hefyd ar sut y gallwn ni weithredu'r newid hwn o fewn rhaglenni galwedigaethol o 2020.
Bydd elfennau eraill o'r fethodoleg ariannu addysg bellach yn parhau i gael eu hystyried yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ar gyfer eu gweithredu yn 2020-21. Er enghraifft, roedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gyfrifol am ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg mewn addysg bellach mewn partneriaeth â swyddogion yn Llywodraeth Cymru. Rwyf wedi cael y cynllun gweithredu terfynol yr wythnos hon ac rwy'n ystyried y cyngor, a fydd yn sail i gymorth yn y dyfodol ar gyfer y sector. Felly, i alinio hyn â'r datblygiadau newydd hyn, cynhelir adolygiad o ymgodiad addysg cyfrwng Cymraeg y flwyddyn nesaf, gan dynnu addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i gyfeiriad mwy cydlynus. Cynhelir ymchwil hefyd ar yr ymgodiad oherwydd amddifadedd, a byddwn yn adolygu'r cyllid ychwanegol i gymorth dysgu ar gyfer rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, gyda chyhoeddiad dyraniad diwygiedig i'r gyllideb hon.
Yn unol â chyhoeddi'r newidiadau hyn i fethodoleg addysg bellach, rwy'n bwriadu ysgrifennu at bob un o'r sefydliadau addysg bellach i nodi fy nisgwyliadau ar gyfer ymgysylltu â'r fethodoleg newydd hon ac ehangu ei chynwysoldeb, yn benodol o ran pobl anabl a sut maent yn cael mynediad i'r ddarpariaeth o addysg bellach a phrentisiaethau. Hoffwn gydnabod yr ymrwymiad a roddwyd gan y sector addysg bellach i'r adolygiad hwn, a chredaf y bydd y trefniadau newydd yn fwy addas ar gyfer dysgwyr a chyflogwyr.
Yn olaf, hoffwn achub ar y cyfle hwn i gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i alluogi darlithwyr addysg bellach i ennill cytundeb cyflog yn 2018-19 a 2019-20 a hwnnw'n gymesur â'r un a gafodd athrawon ysgol. Rwy'n falch o ddweud y bydd arian hefyd yn cael ei ddarparu i ymestyn y cytundeb cyflog i aelodau eraill o staff addysg bellach, sy'n tynnu sylw at y gydnabyddiaeth o'r cyfraniad pwysig y mae addysg bellach yn ei wneud i economi Cymru.
Mae'n ddrwg iawn gennyf gymryd cymaint o'ch amser chi, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi'n union pa newidiadau a ddaw yn y dyfodol. Diolch.
Rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Mae addysg bellach yn hanfodol ar gyfer datblygu sylfaen sgiliau gweithlu Cymru i'r dyfodol ac ar gyfer datblygu economi Cymru yn ei chyfanrwydd i'r dyfodol. Yn ôl ColegauCymru, effaith economaidd y colegau addysg bellach yng Nghymru ar y gymuned busnes leol yw £4 biliwn y flwyddyn. Er hynny, mae'r sector addysg bellach wedi cael ei danariannu'n ofnadwy ers blynyddoedd lawer gan Lywodraeth Cymru. Coeliwch chi fi, penderfyniad polisi bwriadol yw hwn wedi bod ac mae'r cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru hefyd. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog, o ystyried pwysigrwydd y sector addysg bellach, a yw'n ddrwg ganddi hi am y diffyg cymorth a gafodd gan Lywodraeth Cymru?
Rwy'n croesawu'r cynlluniau i wella'r fethodoleg, yr hyn a ddywedodd hi sawl gwaith yn ei datganiad—yr hyn y cyfeiriodd y Gweinidog ato. A yw hi'n cytuno na ddylai unrhyw newidiadau gael eu cyflwyno yn y fath fodd fel eu bod yn dadsefydlogi'r sector neu'n cael effaith negyddol fel arall ar ganlyniadau i ddysgwyr ac ar ddiwallu anghenion busnes? Mae colegau wedi bod yn llwyddiannus o ran denu incwm o'r tu allan i gyllideb graidd gan Lywodraeth Cymru, ond nid yw hynny'n disodli cyllid craidd gan Lywodraeth Cymru. A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i longyfarch colegau am ariannu ffyrdd arloesol o ddenu incwm masnachol, a beth mae hi'n ei wneud i gefnogi eu hymdrechion nhw?
Yn ganolog i'r cwestiwn ariannu y mae'r budd a gyflawnir hyfforddiant a sgiliau. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddweud sut mae'r adolygiad yn cyd-fynd â'r strategaeth cyflogadwyedd a'i ffocws ar helpu pobl i ddychwelyd i waith? Cyfeiriodd y Gweinidog at addysg ran- amser—mae gostyngiad o chwarter wedi bod yn nifer y dysgwyr rhan-amser mewn sefydliadau addysg bellach. A wnaiff y Gweinidog ymhelaethu ar ei chynlluniau i wrthdroi'r dirywiad difrifol yn nifer y dysgwyr rhan-amser mewn sefydliadau addysg bellach?
Yn olaf, bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r bygythiad o weithredu diwydiannol sy'n wynebu'r sector addysg bellach ar hyn o bryd. Pa mor hyderus yw'r Gweinidog y bydd ei bargen cyflogau arfaethedig yn ymdrin â phroblem morâl isel sydd wedi gweld darlithwyr yn gadael y sector oherwydd y toriadau yn y gyllideb yn ystod y flwyddyn y mae'r sector wedi gorfod eu hwynebu ers 2015? Edrychaf ymlaen at ei hymateb. Diolch.
Wel, doedd neb yn dymuno gweld y math o doriadau a gafodd eu gorfodi ar y sector addysg bellach, ond penderfyniad bwriadol gan Lywodraeth Dorïaidd y DU oedd hwnnw yn unol â chyni. Dyna yw canlyniad y toriadau. Mae'n rhaid inni wneud penderfyniadau, mae'n rhaid inni flaenoriaethu, a hwn oedd y penderfyniad a orfodwyd arnom ni. Nid oeddem yn dymuno ei gymryd, ond roedd yn rhaid inni ei gymryd, oherwydd y penderfyniad hwnnw o ran cyni, sydd yn benderfyniad gwleidyddol. Roedd hwnnw'n benderfyniad gwleidyddol nad oedd raid ichi ei wneud. Ond gadewch imi ddweud wrthych chi am y sector ei hunan. O'i gymharu â Lloegr, mae ein sector addysg bellach yn batrwm o sefydlogrwydd, a chredaf fod cydlyniad a sefydlogrwydd ariannol y colegau addysg bellach hynny yn bethau y mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n ddiwyd iawn arnyn nhw dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Felly, rwy'n hyderus y bydd y colegau hynny mewn gwell sefyllfa o lawer iawn nag unrhyw un o'r colegau addysg bellach yn Lloegr.
O ran gallu colegau i gael gafael ar incwm ychwanegol, rwy'n agored iawn i hynny. Yn wir, byddwn yn eu hannog i wneud llawer mwy o hynny. Ond er mwyn gwneud hynny, credaf fod angen iddyn nhw fod ychydig yn fwy hyblyg ar gyfer ymateb i anghenion dysgwyr, nad ydyn nhw efallai'n gallu ffitio i mewn i'r oriau y mae colegau'n eu cynnig ar hyn o bryd. Felly, rwy'n gobeithio y byddan nhw'n fwy parod i ymateb. Un o'r pethau a wnaed i geisio annog hynny oedd gosod £10 miliwn ar y bwrdd er mwyn dweud, 'Fe gewch chi fynd i'r pot hwn os gwnewch chi ddarparu addysg i bobl sy'n cyd-fynd â'r math o flaenoriaethau a'r sgiliau lleol yr ydym ni wedi nodi sydd eu hangen.' Ac rydym wedi gofyn iddyn nhw ddarparu hynny ac maen nhw wedi bod yn ymatebol iawn, a da o beth yw hynny. Ond rwyf i o'r farn mai dyma'r cam cyntaf. Yn sicr, hoffwn pe baent ychydig yn fwy hyblyg, ac yn fwy na dim, hoffwn weld y sector cyhoeddus yn gweithio'n llawer gwell o ran ymgysylltu â'r sector preifat fel y gallan nhw ddarparu'r cyrsiau hyn, yn hytrach na'r sector preifat.
Rydych yn sôn am addysg ran-amser eto. Mae'r toriadau wedi bod yn sylweddol a dyna pam y bu'n rhaid inni ganolbwyntio ar feysydd penodol. Felly, rydym wedi bod yn canolbwyntio ar sgiliau sylfaenol, ar dechnoleg ddigidol ac ar addysg Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill gan fod yn rhaid inni, gan mai dyna beth a orfodwyd arnom gan Lywodraeth y DU.
Ac yn olaf, ar y gweithredu diwydiannol, rwy'n wirioneddol falch ein bod wedi gallu dod i gytundeb ar y gweithredu diwydiannol. Bydd cydraddoldeb cyflog nawr ar gyfer darlithwyr coleg addysg bellach a darlithwyr chweched dosbarth. Ond rydym wedi mynd ymhellach na hynny—rydym hefyd wedi helpu i wneud yn siŵr nad darlithwyr y colegau yn unig, ond pobl eraill sydd yn y gwasanaethau cymorth, rai ohonyn nhw ar incwm isel iawn, fydd yn elwa hefyd ar y cymorth ychwanegol hwn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei osod ar y bwrdd.
Diolch am y rhybudd ymlaen llaw—mae'n amserol, o gofio bod gennym ddadl ar addysg bellach yr un amser yfory hefyd. Rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi cydnabod bob amser, er mwyn cael economi lwyddiannus sy'n fedrus a chynhyrchiol, mae angen inni gael y cyfleusterau a'r sefydliadau o'r radd flaenaf, sy'n gystadleuol, gyda neges glir a chynllun i'w gyflawni. Ac mae addysg bellach yn rhywbeth a ddylai fod ar gael i bawb drwy gydol eu gyrfa ac nid yn yr ysgol yn unig. Felly, dyma un o'r rhesymau, fel rhan o gytundeb y gyllideb ddiweddaraf y gwthiodd Plaid Cymru amdano, sef sicrhau arian ychwanegol i addysg bellach, er ein bod yn cydnabod nad yw'n ddigonol ac rydym yn deall yr heriau sy'n parhau.
Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad o arian i ganiatáu cytundeb cyflog ar gyfer darlithwyr coleg, sy'n gymesur â'r rhai a gafwyd gan athrawon, ac rydym wedi bod yn galw am hynny ers peth amser. Mae'n dda cael clywed hefyd y bydd arian ar gael i ymestyn hynny i staff addysg bellach hefyd, gan y gwyddom fod yn rhaid inni sicrhau parch cyfartal rhwng cymwysterau galwedigaethol ac academaidd a strwythur tâl tecach. Ond hoffwn holi'r Gweinidog ymhellach. Gwyddom y gallai streicio fod yn bosibl ym mis Rhagfyr o hyd. A ydych chi'n credu y bydd y cytundeb cyflog hwn yn mynd yn ddigon pell o ran y materion llwyth gwaith ehangach sy'n wynebu'r sector?
A chyn belled ag y mae'r elfennau eraill yn y datganiad yn mynd, rwyf mewn penbleth ynghylch rhai o'r cyhoeddiadau eraill. Cafodd y fframwaith cyllido a dyraniad presennol ei osod ar waith yn 2013. Heddiw, rydym yn clywed y cyhoeddiad hwn sy'n cynnwys yr ychydig flynyddoedd nesaf, ond nid oes unrhyw wybodaeth ynghylch pa mor bell ymlaen y gall colegau gynllunio yn seiliedig ar y cyhoeddiad hwn. Am ba hyd yr ydych chi'n rhagweld y bydd y cyhoeddiad heddiw'n para mewn gwirionedd?
Diben y comisiwn ymchwil ac addysg drydyddol arfaethedig ar gyfer Cymru yw bwrw trosolwg a rhoi cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth i'r sector addysg ôl-orfodol a hyfforddiant. Felly pam rydych chi'n cyflwyno'r diwygio cyllid damaid wrth damaid i'r sector nawr, yn hytrach nag aros i'r comisiwn gael ei sefydlu i adolygu anghenion y sector yn strategol? Gwyddom, ar sail adolygiad Hazelkorn a datganiadau eraill a wnaeth yr Ysgrifennydd addysg, mai'r bwriad yw cael diwygiad deddfwriaethol mawr i'r holl dirwedd ôl-16. A fydd hyn yn golygu, mewn gwirionedd, y bydd y cyhoeddiadau hyn heddiw yn amhendant cyn gynted ag y bydd, neu os bydd, y broses honno'n dechrau? A wnewch chi roi ychydig mwy o fanylion inni am yr amserlen o ran cynllunio'r agenda ddeddfwriaethol ehangach?
Yn ôl y datganiad, ac rwy'n dyfynnu:
Ni chymeradwyir cynlluniau coleg nad ydynt yn adlewyrchu argymhellion y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol.
Rydych chi'n dweud hefyd eich bod yn bwriadu penodi ymgynghorydd annibynnol ac adolygu sut yr ydym yn gwella'r trefniadau cyfredol gyda'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol a'u gallu i gael effaith ar ddarpariaeth sgiliau. A yw'r Gweinidog yn hyderus bod y partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn gallu gwneud yr argymhellion cywir i golegau ar gyfer sicrhau y bodlonir anghenion cyflogwyr yn y cynlluniau hynny? Mae rhai yn y sector wedi dweud wrthyf i nad oes ganddyn nhw unrhyw bŵer gwirioneddol, nac atebolrwydd gwirioneddol nac unrhyw gyfarwyddyd gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru. Fy nealltwriaeth i, ar hyn o bryd, yw mai dim ond un o'r tair partneriaeth sgiliau rhanbarthol sydd â staff. Mae angen i bartneriaethau sgiliau rhanbarthol fod yn rhan gynhenid o'r dirwedd ôl-16 ehangach mewn modd nad ydyn nhw ar hyn o bryd. A fydd ymgynghorydd annibynnol yn gallu rhoi cyfarwyddyd o ran ffordd well ymlaen? Er enghraifft, unwaith eto, rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y gellid ac y dylid ei wneud fel rhan o newid strategol ehangach yn y sector. Sut, er enghraifft, y caiff adolygiad John Graystone ei gynnwys yn sylwedd y cyhoeddiad hwn? Maen nhw wedi adolygu'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol—sut wnewch chi roi ystyriaeth i hyn? Mae'n ymddangos y bydd adolygiadau pellach o agweddau ar y codiad i'r fformiwla, ond rwy'n awyddus i ddeall pam y teimlwch fod hynny'n angenrheidiol. A ydym wedi cael digon o adolygiadau yn y maes hwn, neu a ydyn nhw wedi cael digon o amser hyd yma i ymsefydlu? Hoffwn ddeall pam yr ydych chi wedi gwneud y penderfyniad hwnnw.
Fy nghwestiwn olaf yw: rydych chi wedi egluro yn y datganiad bod darpariaeth ran-amser wedi gweld toriadau llym dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn amlwg byddem ninnau'n cytuno â hynny—nid yn cytuno â'r egwyddor ond yn cytuno â'r gosodiad. Rydych yn dweud y bydd darpariaeth ran-amser yn cael ei blaenoriaethu i'r gyfran o'r boblogaeth sydd â chymhwyster lefel 2 yn unig. A ydych chi wedi cynnal asesiad effaith ar sut y bydd hyn yn effeithio ar grwpiau amrywiol o ddysgwyr ar wahanol lefelau, ac a ydych chi wedi trafod hyn gyda'r sector?
Iawn, dysgu gydol oes yn gyntaf—credaf ei fod yn hanfodol. Rwy'n credu bod swyddogaeth addysg bellach ynghlwm â dysgu gydol oes yn bwysig tu hwnt. Un o'r materion allweddol ger ein bron yn ein cymdeithas heddiw o ran problemau yw tlodi mewn gwaith, felly'r cwestiwn yw: sut allwn ni dynnu pobl o'r sefyllfa honno? Yr ateb, yn fy marn i, yw eu huwchsgilio nhw tra eu bod yn y gwaith o hyd. Er mwyn gwneud hynny, mae angen inni ddarparu system sy'n fwy hyblyg. Felly, rwy'n ceisio annog y sector addysg bellach i gyrraedd y sefyllfa fel y gallan nhw fod yn ymatebol ac nid gadael hynny i'r sector preifat, fel y dywedais yn gynharach.
Rwy'n obeithiol iawn y bydd yr arian yr ydym wedi llwyddo i'w osod ar y bwrdd heddiw yn osgoi streicio, ond mae hwnnw'n fater—mae'r berthynas rhwng darlithwyr coleg yn fater rhwng yr undebau, y darlithwyr coleg a ColegauCymru. Felly, dyna'r berthynas. Yr hyn y gallwn ni ei wneud—. Rydym ni ychydig y tu allan i'r system i ryw raddau, ond rydym wedi bod yn falch iawn o allu eu cefnogi nhw yn yr achos hwn.
O ran cynllunio ymlaen llaw, rwy'n deall yr hyn yr ydych yn ei ddweud: mae adolygiad Hazelkorn ar y ffordd. Y broblem yw fod cryn dipyn o amser eto i aros amdano, a'r hyn nad wyf i'n ei ddymuno yw aros cyn i ni gymell, cyn i ni ddechrau symbylu'r colegau hyn. Pe byddem ni'n aros am adolygiad Hazelkorn, byddem yn aros am nifer sylweddol o flynyddoedd, ac nid wyf eisiau bod yn y sefyllfa honno. Felly, mae hyn yn ymwneud rhywfaint â'n harwain at sefyllfa debyg i'r dosbarthiadau chweched dosbarth. Rydym yn edrych ar y fethodoleg, er enghraifft, o ran sut yr ydym ni'n eu talu, yn gysylltiedig â newidiadau demograffig—mae hynny'n rhywbeth. Dyna'r hyn sy'n cael ei wneud yn y dosbarthiadau chweched dosbarth. Felly, rydym yn cyrraedd yr un fath o sefyllfa'n raddol. Ac, wrth gwrs, roedd angen inni ymateb, yn fy marn i, i adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Felly, roedd hwnnw'n gymhelliad arall i ni symud ar y mater penodol hwn.
Ar y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, rydym wrth gwrs wedi cael yr adolygiad gan Dr John Graystone. Cafodd hwnnw ei anelu at lywodraethu yn benodol. Roedd yn edrych yn benodol ar Lywodraethu. Mae'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol wedi ymateb, yn ymateb, i hwnnw. Mae'r cylch gorchwyl yn eglur nawr ar gyfer y cyhoedd. Cafwyd mater ynglŷn ag atebolrwydd cyhoeddus. Mae cofnodion y cyfarfodydd yn cael eu rhoi bellach ar wefannau a phethau cyffelyb. Felly, mae tryloywder y broses yn llawer gwell. Rwy'n gobeithio y gwelwn ni, o benodi rhywun i fwrw trosolwg ar y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, fwy o gysondeb rhwng y partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Rwyf i o'r farn eu bod yn gwneud gwaith da, a hoffwn eu hannog nhw i ddal ati, ond hoffwn gael rhywun sydd â dealltwriaeth o'r bartneriaeth sgiliau rhanbarthol, y sefyllfa o ran cyflogaeth, a'r sector addysg bellach, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod mewn gwirionedd yn y man priodol yn hyn o beth. Mae'n gwbl hanfodol, rwy'n credu, inni wneud hyn yn iawn.
Ac yna, ar eich pwynt olaf, ynglŷn â—nid wyf yn cofio beth ydoedd.
Y ddarpariaeth ran-amser—
Y ddarpariaeth ran-amser. Ie, darpariaeth ran-amser—yn sicr, rydym yn pryderu ynglŷn â hyn, a dyna pam y bu'n rhaid inni flaenoriaethu. Rydym wedi gwneud dadansoddiad i edrych ar sut effaith fyddai hyn yn ei chael. Wrth gwrs rydym wedi bod yn siarad â'r colegau am hyn. Bu'n rhaid n ni flaenoriaethu. Rydym yn wir yn gwneud yn siŵr fod yna gysondeb. Pan fyddwn wedi penderfynu ymhle i flaenoriaethu, er hynny, rydym wedi penderfynu ein bod yn awyddus i uwchsgilio a chanolbwyntio ar y rheini sydd â'r lefelau isaf o gymhwyster o ran darpariaeth ran-amser.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad, ac a gaf innau hefyd yn y bôn gymeradwyo penderfyniad Llywodraeth Cymru i ariannu'r dyfarniadau cyflog i ddarlithwyr a'r staff cymorth fel ei gilydd? Oherwydd yn aml iawn nid yw'r staff cymorth yn cael eu hystyried yn y trafodaethau hyn, Y nhw yw'r conglfaen sy'n caniatáu i'r broses gyfan weithio mewn gwirionedd. Felly, rwy'n falch iawn o hynny.
Mae gennyf un neu ddau o gwestiynau cyflym ichi, Gweinidog. Rwy'n cytuno â Bethan yn yr ystyr bod darpariaeth ran-amser yn hanfodol. Mae angen inni edrych ar sut yr ydym am fynd i'r afael â'r mater hwn. Nawr, mae eich datganiad yn dweud y byddwch yn rhoi blaenoriaeth i'r rhai nad oes ganddyn nhw ond lefel 2 neu'n is, ond 'allwn ni ddim anwybyddu'r rhai â lefel 3, oherwydd drwyddyn nhw y gallwn ni wella sgiliau ein gweithlu a rhoi cyfleoedd i bobl ddod yn eu blaenau a chodi eu hunain o sefyllfaoedd o dlodi mewn gwaith, fel y dywedwyd yn eich ateb. Felly, a wnewch chi roi sicrwydd inni y byddwch hefyd yn cefnogi rhaglenni uwchlaw lefel 2 pe bai tystiolaeth yn dangos bod yr angen yno gan y partneriaethau sgiliau rhanbarthol hefyd?
Yn y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, a wnewch chi gadarnhau hefyd y byddan nhw'n edrych nid yn unig ar anghenion rhanbarthol, ond ar anghenion cenedlaethol, oherwydd yn aml iawn ni fyddai'r hyn sy'n briodol mewn un rhan o Gymru yn briodol efallai mewn rhan arall o Gymru? Ond nid ydym yn dymuno atal symudedd cymdeithasol y myfyrwyr rhag mynd ar ei hynt. Er enghraifft, rhywbeth yn y de-ddwyrain—pe na chaiff hwnnw ei ddarparu ond yn y de-ddwyrain yn unig, ni ddylem rwystro pobl yn y de-orllewin neu'r gorllewin rhag cael cyfleoedd i ennill sgiliau a allai mewn gwirionedd eu galluogi nhw i symud i'r mathau hynny o broffesiynau.
Roeddech chi hefyd yn nodi y byddwch chi'n trin yr arian neu'n gwirio'r arian—ariannu, yn y bôn. Ni fyddwch yn talu os na chaiff y cynlluniau eu darparu. Pa mor aml y byddwch yn asesu'r cynlluniau hynny i sicrhau eu bod yn cael eu darparu? A ydych hefyd yn mynd i asesu rheoliad ariannol y colegau i sicrhau eu bod yn cyflawni ar y canlyniadau y dylid cyflawni arnynt? Rydym wedi gweld sut mae colegau addysg bellach yn tyfu, rai ohonyn nhw'n fawr iawn, ac mae gan rai ohonynt fusnesau sy'n deillio o ganlyniad i roi arian ychwanegol iddyn nhw. Felly, yr hyn yr wyf am wneud yn siŵr ohono yw eu bod yn cyflawni'r amcanion a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cyllid gan Lywodraeth Cymru.
A wnewch chi ddweud wrthyf i hefyd—? Yn eich datganiad roeddech chi'n tynnu sylw at y ffaith eich bod wedi gwneud rhai o'r pethau hyn—rhoddwyd ystyriaeth i rannau o'r ymgodiad—ond wedyn rydych yn sôn y bydd elfennau eraill yn cael eu hystyried yn y flwyddyn academaidd nesaf. Wel, pa elfennau sydd i'w hystyried yn y flwyddyn academaidd nesaf? Ai'r holl elfennau sydd ar ôl fyddan nhw, neu gyfran o'r elfennau hynny, a rhai i'w hystyried eto yn y flwyddyn wedi honno? Mae'n debyg mai'r peth pwysicaf yw: sut fyddwch chi'n sicrhau nad yw'r ergyd a gafodd addysg bellach—ac rydym i gyd yn cydnabod yr ergyd a gafodd addysg bellach—yn un na ellir ei gwrthdroi, a'n bod ni'n mynd i gyflawni? Oherwydd mae 'na lawer o bobl allan yna sydd angen cael eu rhoi ar y cyrsiau mynediad hynny, ar gyrsiau dychwelyd i'r gwaith, a chael cyfleoedd am waith. Mae'n faes yr ydym ni weithiau'n anghofio amdano—yr agweddau ar addysg i oedolion, sy'n dod â'r unigolyn hwnnw yn ôl i fyd dysgu addysgol ac yn rhoi'r brwdfrydedd iddo ar gyfer dod yn ei flaen a chael gwaith.
Rwy'n falch hefyd ein bod wedi llwyddo i ddod o hyd i arian ar gyfer y staff cymorth. Mae rhai o'r bobl hyn ar gyflog isel iawn, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni wedi llwyddo i ddod o hyd i'r arian hwnnw ac yn eu cefnogi nhw. Fel yr ydych chi'n dweud, maen nhw'n staff hanfodol o ran gweithrediad y colegau, felly rwy'n falch bod hynny wedi digwydd.
O ran uwchsgilio, rwy'n credu bod pawb yn cydnabod mai hwn yw'r sector sydd wedi cael ergyd enfawr. Nid oedd neb yn dymuno i hynny ddigwydd, ac, os daw cyni byth i ben, rwy'n siŵr y bydd y sector hwn yn cael ei ystyried o ran ceisio'n galed i ailgychwyn y math o flaenoriaethau a oedd gennym ni ar gyfer y sector. Rwy'n credu, yn arbennig o ran ein hymrwymiad i addysg oedolion, fod hwn yn rhywbeth hanesyddol yr ydym ni wedi sefyll yn gadarn o'i blaid, rwy'n credu, yn enwedig yn ein plaid ni, ac rwyf i o'r farn mai'r hyn sydd angen ei wneud yw ceisio ailgychwyn y sefyllfa honno. Ond mae hynny'n anodd iawn oni bai fod y cyni ddod i ben, felly—.
Ond, o ran teneurwydd poblogaeth a'r sefyllfa mewn ardaloedd gwledig, un o'r pethau y byddwn yn rhoi ystyriaeth iddyn nhw yw gwneud yn siŵr pan fyddwn ni'n adolygu hyn eto—yw sicrhau bod pobl yn gallu cael eu haddysg ar sail cwricwlwm eang. Felly, pa mor bell ydych chi'n byw oddi wrth leoliad cwrs plymio? Mae'n costio llawer mwy i gynnal cwrs plymio mewn ardal wledig gan na fyddech o bosib yn cael y niferoedd a gewch chi mewn ardal drefol. Ac eto mae angen plymwyr ar bobl mewn ardaloedd gwledig. Felly, rydym yn ystyried sicrhau bod rhyw fath o linell sylfaen o gyrsiau sy'n angenrheidiol, ac mae'n bosib y byddwn ni'n dweud, 'Wel, byddwn yn rhoi cymhorthdal i'r rheini fel bod gennym gwricwlwm eang', a dyna un o'r pethau yr ydym yn awyddus i'w harchwilio ymhellach.
Ar y swyddogaethau cynllunio, ceir y fformiwla ariannu. Ond mae hynny'n mynd law yn llaw â'r fformiwla gynllunio ar gyfer y colegau hyn, y mae'n rhaid iddyn nhw gydgysylltu nawr â'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol. A'r hyn yr ydym ni'n ei ddweud yw, 'Rydych chi wedi gwneud cytundeb. Dyma'r pethau y cytunwyd yn eich cynllun y byddech chi'n eu darparu. Ac os nad ydych chi'n darparu, yna bydd adfachu'n digwydd.' Caiff hynny ei wneud yn flynyddol. Ac rydych chi'n hollol gywir: mae addysg bellach wedi cael ergyd yn y gorffennol a, phan fydd modd, rwy'n siŵr y byddwn yn dod o hyd i'r arian i'n galluogi ni i adfer yr arian yr oedd yn rhaid, yn anffodus, ei dorri.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.