Part of the debate – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Y ddarpariaeth ran-amser. Ie, darpariaeth ran-amser—yn sicr, rydym yn pryderu ynglŷn â hyn, a dyna pam y bu'n rhaid inni flaenoriaethu. Rydym wedi gwneud dadansoddiad i edrych ar sut effaith fyddai hyn yn ei chael. Wrth gwrs rydym wedi bod yn siarad â'r colegau am hyn. Bu'n rhaid n ni flaenoriaethu. Rydym yn wir yn gwneud yn siŵr fod yna gysondeb. Pan fyddwn wedi penderfynu ymhle i flaenoriaethu, er hynny, rydym wedi penderfynu ein bod yn awyddus i uwchsgilio a chanolbwyntio ar y rheini sydd â'r lefelau isaf o gymhwyster o ran darpariaeth ran-amser.