Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Diolch yn fawr iawn i David Melding am ei gyfraniad ac am ei groeso i'r cyhoeddiadau heddiw. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i David am y gwaith y mae'n ei wneud, ac y mae wedi'i wneud ers blynyddoedd lawer, fel eiriolwr gwirioneddol ar gyfer plant a phobl ifanc mewn gofal ac sy'n gadael gofal. Rwy'n ei gymeradwyo ac, unwaith eto, yn diolch iddo am y gwaith a wna ar y grŵp cynghori gweinidogol hefyd.
Hoffwn roi sylw ar unwaith i'r mater a godwyd ynghylch targedau. Pan gyhoeddodd y Prif Weinidog y £10 miliwn ychwanegol y flwyddyn ddiwethaf, dywedodd mai ei fwriad fyddai dileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru mewn 10 mlynedd, felly byddai hynny erbyn 2027. Nid wyf dan unrhyw gamargraff o ran pa mor anodd fydd y dasg.
Yn y lle cyntaf, mae'n anodd iawn deall faint yn union o bobl ifanc sy'n ddigartref, oherwydd nid yw llawer ohonynt o anghenraid yn disgrifio eu hunain yn ddigartref. Os ydynt yn teimlo na allant aros yng nghartref y teulu ac maent yn cysgu ar soffa ffrind, er enghraifft, nid ydynt yn disgrifio eu hunain fel pobl ddigartref, ond byddem ni yn sicr yn ystyried eu bod yn ddigartref. Yn yr un modd, gall pobl ifanc gael eu hunain yn ddigartref o ganlyniad i'r teulu'n colli eu cartref. Felly, rydym yn deall yr amcangyfrif bod tua 7,000 o bobl ifanc yn ddigartref, a'r ffigur hwnnw yw'r ffigur a roddwyd i ni gan yr ymgyrch Dileu Digartrefedd Ieuenctid Cymru. Credaf fod hynny mewn gwirionedd yn rhoi syniad inni o faint y dasg sy'n ein hwynebu.
Cyfeiriodd David Melding at y gronfa Dydd Gŵyl Dewi. Rwy'n falch iawn ein bod ni'n gallu cyfrannu arian ychwanegol at hon, oherwydd rydym wedi gweld yr effaith y mae wedi'i chael eisoes. Ers ei lansio y llynedd yn unig, mae wedi helpu dros 1,900 o blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal i gael arian i gefnogi eu cyfnod pontio i fod yn oedolion. Mae'r astudiaethau achos yn dangos bod y cyllid wedi cael ei ddefnyddio yn hyblyg ac yn greadigol iawn gan awdurdodau lleol i ddiwallu anghenion y bobl ifanc hynny yn yr un modd y gallai rhieni biolegol gefnogi eu plant.
Felly, er enghraifft, defnyddiwyd y gronfa i dalu am wersi gyrru i alluogi'r rhai sy'n gadael gofal i gael cyflogaeth ac addysg; taliadau pontio er mwyn galluogi parhad tenantiaeth a phreswylfa, neu oherwydd diffyg annisgwyl mewn budd-daliadau, er enghraifft; cofrestru ar gyrsiau; deunyddiau ar gyfer astudiaeth; gliniaduron ar gyfer astudiaethau addysg bellach ac uwch; a hefyd dillad a gwisgoedd ar gyfer gwaith—felly, pob math o gostau y gall pobl ifanc orfod eu hysgwyddo wrth iddynt symud ymlaen at fywyd fel oedolyn. Felly, mae'n gronfa gyffrous iawn, ac rwy'n falch o weld y gwahaniaeth y mae'n ei wneud eisoes.
Un o rannau cyffrous iawn y datganiad heddiw i mi, rwy'n credu, yw'r gronfa arloesi honno. Rwyf wirioneddol eisiau cael y gofod lle gallwn gyflwyno syniadau da. Oherwydd un peth a ddysgais yn ystod y flwyddyn y bûm yn cydweithio'n agos â'r sector hwn yw ei fod yn sector sy'n byrlymu â syniadau da ac awydd i symud ymlaen ac edrych ar atebion a chyfleoedd. Felly, rwy'n edrych ymlaen at y math o gynlluniau a fydd yn cael eu cynnig.
Er mwyn eglurder yn unig, bydd proses ymgeisio am y cyllid hwnnw, ac mae'r meini prawf yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd ar gyfer hynny. Mae'r cyllid yn eistedd o fewn y grantiau atal digartrefedd, a bydd panel o fewn Llywodraeth Cymru yn helpu i benderfynu pa rai fydd y rhaglenni llwyddiannus. Ond yn bendant, gallai tai yn gyntaf fod yn un o'r mathau hynny o raglenni.
Roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle i ymweld â'r Rock Trust yn yr Alban, sef y prosiect tai yn gyntaf cyntaf erioed yn y DU. Dechreuodd yn 2017, felly mae'n ddyddiau cynnar o hyd yno, ond maent yn frwdfrydig iawn ynghylch beth sy'n cael ei gyflawni yno. Roeddwn yn hoffi pan ddefnyddiodd David Melding yr ymadrodd 'beth bynnag y mae angen ei wneud', oherwydd, mewn gwirionedd, dyna ddull Rock Trust o weithredu tai yn gyntaf— mae'n fater o beth bynnag y mae angen ei wneud.
Hefyd, rwyf wedi bod yn glir iawn gydag awdurdodau lleol bod yn rhaid i'n deddfwriaeth tai gael ei hystyried o fewn ysbryd hynny hefyd, yn hytrach na dim ond cyflawni dyletswyddau i lythyren y gyfraith. Un enghraifft fyddai person ifanc mewn perygl o ddigartrefedd. Ceir ymyriad uniongyrchol gan yr awdurdod lleol i geisio atal y digartrefedd hwnnw, ond, am ryw reswm neu'i gilydd, nid yw'n gweithio. Wel, maent wedi cyflawni eu dyletswyddau, ond, mewn gwirionedd, byddai ysbryd y gyfraith yn golygu eu bod yn dal i fynd yn ôl i sicrhau na fydd y person ifanc hwnnw yn cael ei hun yn ddigartref. Felly, rydym wedi bod yn glir iawn gydag awdurdodau lleol ar hynny.
Unwaith eto, mae'r pwynt y mae David Melding yn ei godi ynglŷn â dealltwriaeth eang o beryglon digartrefedd ieuenctid a sut i'w nodi yn bwysig, ac y mae, unwaith eto, yn rhywbeth a nodwyd yn addas ar gyfer cyllid pellach yn fy natganiad i heddiw. Diolch i chi.