7. Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Buddsoddi mewn Ymyrraeth Gynnar a Dulliau Traws-Lywodraeth i fynd i'r afael â Digartrefedd ymysg Pobl Ifanc

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 20 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:13, 20 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn ichi am y cwestiynau hynny. Mae'n drueni eu bod yn methu â chydnabod y gwaith mawr sydd eisoes wedi'i wneud ar hynny gyda chefnogaeth y Llywodraeth dros gyfnod hir, nid yn lleiaf drwy'r grant Cefnogi Pobl, y gwn fod gan ein dwy blaid ddiddordeb penodol ynddo. Felly, un enghraifft fyddai Prosiect Pobl Ifanc Sengl Ddigartref Abertawe. Dyna sefydliad lle mae pobl ifanc yn cael eu gwerthfawrogi am y cyfraniadau a wnânt, ac mae ganddynt wasanaethau safle sefydlog o'r enw Drws Agored, sy'n darparu gwasanaeth brys ar gyfer naw o bobl ifanc ddigartref. Felly, mae hynny'n wirioneddol yn y rheng flaen o atal pobl ifanc rhag troi i gysgu ar y stryd. Ac maent hefyd yn cynnig gwasanaethau cymorth fel y bo'r angen i bobl ifanc sy'n agored i niwed hyd at 25 oed sydd angen rhywfaint o gymorth i gynnal eu tenantiaeth. Dyna un enghraifft yn unig. Rwyf wedi bod i weld Llamau hefyd i weld y gwaith gwych y maent yn ei wneud, a ariennir hefyd gan Lywodraeth Cymru.

Felly, credaf ei bod yn annheg awgrymu, yn sydyn iawn, ein bod wedi deffro i'r her o ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Mewn gwirionedd, mae gwaith wedi digwydd ym maes digartrefedd ieuenctid ers blynyddoedd lawer, ac rydym wedi gweld fframwaith ymgysylltu a dilyniant ieuenctid bob blwyddyn, gan leihau nifer y plant a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Felly, credaf ei fod yn gwneud tro gwael â phobl sy'n gweithio ddydd ar ôl dydd yn y sector hwn i geisio sicrhau nad yw pobl ifanc yn cael eu hun yn ddigartref, a'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud yn yr agenda hon dros gyfnod hir.

Felly, o ran sut y byddem eisiau mesur y targedau hynny, mewn gwirionedd credaf fod angen inni fod yn realistig a disgwyl, o bosib, gynnydd yn nifer y bobl yr ydym yn nodi eu  bod yn ddigartref yn y tymor byr. Byddai hynny o ganlyniad i'r gweithgaredd cyfathrebu hwnnw y byddem yn ei wneud a'r codi ymwybyddiaeth y byddem yn ei wneud o ran helpu'r bobl hynny sy'n gweithio yn y gwasanaethau ieuenctid, mewn ysgolion ac ati, i nodi'r arwyddion risg y gallai person ifanc fod yn cysgu ar y stryd. Gwn fod llawer ohonom yn lansiad ymgyrch Dileu Digartrefedd Ieuenctid Cymru a chlywsom lawer iawn yno ac yn uniongyrchol iawn gan bobl ifanc sydd â phrofiad personol o gysgu ar y stryd sut yr oeddent yn teimlo nad oedd y bobl hynny a oedd gweithio'n fwyaf agos gyda nhw wedi sylwi hyd yn oed ar yr arwyddion y gallent fod yn cysgu ar y stryd.

Ar y mater o angen blaenoriaethol, rwyf eisoes wedi ymrwymo i gomisiynu adolygiad o angen blaenoriaethol—rwy'n deall yn iawn fod materion yno sy'n ymwneud ag angen blaenoriaethol. Fodd bynnag, byddwn yn dweud yr ystyrir bod pobl ifanc eisoes mewn angen blaenoriaethol. Felly, caiff pobl ifanc 16 neu 17 oed, drwy ddiffiniad, eu hystyried yn angen blaenoriaethol, ac ystyrir y rhai rhwng 18 a 20 oed sydd mewn perygl arbennig o gael eu hecsbloetio'n rhywiol neu'n ariannol hefyd yn angen blaenoriaethol, fel y bobl hynny hyd at 20 oed sydd wedi treulio amser mewn gofal. Mae gennyf ddiddordeb mawr yn yr hyn y bydd ein hadolygiad o angen blaenoriaethol yn ei ddangos inni, ond ar hyn o bryd ystyrir y bobl ifanc hynny yn angen blaenoriaethol. A bydd y mater o gysylltiad lleol hefyd yn cael ei ystyried fel rhan o'r adolygiad ehangach hwnnw o angen blaenoriaethol, fel y dywedais eisoes wrth y Siambr o'r blaen.

O ran mewnbwn gan y sector ehangach, mae gan y grŵp cynghori gweinidogol—neu'r grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol, dylwn ddweud—gynrychiolaeth eang iawn, iawn ar draws y sector gan yr holl sefydliadau, o'r sector cyfiawnder ieuenctid i awdurdodau lleol i'r ymgyrch Dileu Digartrefedd Ieuenctid Cymru, a'r heddlu ac ati. Felly, caiff ei gynrychioli'n eang yn y sector ac mae'n ymateb yn fawr iawn i'r pwynt hwnnw bod mynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn gorfod bod yn gyfrifoldeb traws-sector.

O ran tai yn gyntaf, mae'r cynlluniau peilot yn mynd rhagddynt. Rydym bellach wedi nodi arian ychwanegol, a gyhoeddais yn ddiweddar, ar gyfer rhai prosiectau blaengar sy'n mynd â'r model tai yn gyntaf hwnnw i'r lefel nesaf, gan sicrhau eu bod yn gweithio'n agos iawn â gwasanaethau iechyd meddwl, â gwasanaethau trais yn y cartref ac â gwasanaethau camddefnyddio sylweddau hefyd, i geisio cael dull mwy integredig o ddiwallu'r anghenion hynny sydd gan bobl.

I orffen ar y pwynt penodol hwn, mae'r rhwydwaith tai yn gyntaf wedi cynhyrchu dogfen safonau tai yn gyntaf, yr ydym wedi cytuno arni bellach yn Llywodraeth Cymru. Felly, er mwyn i wasanaeth allu ystyried ei hun yn wasanaeth tai yn gyntaf, rhaid iddo fodloni’r holl safonau hynny. Oherwydd un o'm pryderon oedd bod rhai prosiectau rhagorol yn galw eu hunain yn brosiectau tai yn gyntaf nad oeddent yn glynu at egwyddorion tai yn gyntaf Llywodraeth Cymru, ac roedd hynny'n destun pryder. Felly, er bod angen mawr am fodelau ailgartrefu cyflym iawn, nid yw tai yn gyntaf i bawb. Ond mae angen inni aros yn driw i'r egwyddorion hynny o dai yn gyntaf os ydym yn bwriadu galw'r prosiectau hynny yn brosiectau tai yn gyntaf.