Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Wrth agor y ddadl hon, hoffwn ddechrau drwy ein hatgoffa pam y datblygwyd y darn hwn o ddeddfwriaeth, Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru), fel yr oedd ar y pryd, yn y lle cyntaf, yn gynharach eleni.
Datblygwyd y Bil gennym, fel y dywedodd y Prif Weinidog droeon ar lawr y Cynulliad, fel mesur wrth gefn; mesur a gynlluniwyd i amddiffyn y setliad datganoli ar gyfer achos pan na fyddai Llywodraeth y DU yn diwygio ei Bil Undeb Ewropeaidd (Ymadael) mewn modd a fyddai'n dileu'r bygythiadau gwirioneddol yr oedd yn eu cynnwys ar gyfer ein datganoli ni yma yng Nghymru a rhyddid y Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu mewn meysydd cymhwysedd sydd wedi'u datganoli. Nid wyf yn credu bod unrhyw amheuaeth, pe byddai Bil Ymadael yr UE wedi'i ddeddfu fel y'i drafftiwyd yn wreiddiol, y byddai wedi achosi adfachu gwirioneddol a chanoli pwerau i San Steffan. Dyna pam y gwnaethom ni ddechrau ar broses hir a manwl o drafod rhwng Llywodraethau Cymru, yr Alban a'r DU, pryd y gwnaethom ni sicrhau cytundeb newydd sy'n darparu dulliau amddiffyn cryf ar gyfer buddiannau hollbwysig Cymru.
Mae'r cytundeb y daethom iddo wedi sicrhau nad oes yr un cyfrifoldeb datganoledig wedi gadael y Cynulliad hwn. Mae meysydd sydd eisoes wedi'u datganoli yn parhau i fod wedi'u datganoli, ac mae'r mesurau diogelwch angenrheidiol ar waith i sicrhau bod hyn yn parhau i fod yn wir. Mae datganoli wedi'i ymwreiddio yn y cytundeb rhynglywodraethol, nid ei wanhau ganddo, a'i danseilio ganddo fel y byddai Bil Ymadael yr UE, fel y'i deddfwyd yn wreiddiol, yn sicr wedi ei wneud.
Dangoswyd hyn i gyd yr wythnos diwethaf, pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU ei hadroddiad chwarterol cyntaf ar weithrediad Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, fel y mae hi'n awr, a fframweithiau cyffredin. Nododd yr adroddiad hwnnw, sydd wedi'i roi ar gael i'r Cynulliad, gynnydd sylweddol ar y cyd ar fframweithiau cyffredin a chydweithio parhaus i sicrhau bod y llyfr statud yn barod ar gyfer y diwrnod ymadael. O ganlyniad i'r cynnydd sylweddol hwnnw ar y cyd, nid oes unrhyw gynigion i rewi llyfr rheolau presennol yr UE y tu hwnt i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd.
Rydym yn cyflawni popeth yr aethom ati i'w gyflawni drwy gytundeb, fel y gwnaethom ddadlau y gallem ei wneud ar hyd yr amser. Mae'r cynnydd hwn wedi'i groesawu, nid yn unig gennym ni ein hunain, ond gan Lywodraeth yr Alban hefyd. Ac fel y mae fy nghyd-Aelod Alun Davies wedi ei ddweud, sefydlodd y cytundeb gydraddoldeb rhwng gweinyddiaethau sydd er lles gorau Cymru a Chymru yn y Deyrnas Unedig.
Mae'r agwedd honno yn cael ei hadlewyrchu hefyd yn natblygiad offerynnau statudol o dan Ddeddf Ymadael yr UE sy'n addasu cyfreithiau sy'n deillio o'r UE, fel bod hynny yn weithredol ar adeg ein hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd, ac mae hynny'n weithred sydd â mwy o frys yn perthyn iddi gan fod y posibilrwydd o Brexit 'dim cytundeb' wedi cryfhau yn y cyfnod ers y lluniwyd y cytundeb rhynglywodraethol. Pan fo'r offerynnau statudol yn cynnwys darpariaethau ynghylch materion datganoledig, mae Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Gweinidogion Cymru, yn unol â'i hymrwymiadau o dan y cytundeb rhynglywodraethol hwnnw, cyn eu gosod gerbron y Senedd, a byddwn yn hysbysu'r Aelodau Cynulliad pan gânt eu gosod.
Y gwir amdani yw ein bod wedi cael yr holl drosoledd sydd ar gael o'r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd a nawr yw'r amser i ofyn i'r Cynulliad hwn wneud yr hyn yr ydym ni fel Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i'w wneud yn y cytundeb rhynglywodraethol—diddymu'r Ddeddf. Mae hyn yn fater o frys erbyn hyn. Fel y nododd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, mae rhaglen o offerynnau statudol unioni eisoes o dan bwysau sylweddol o ran amser. Bydd diddymu'r Ddeddf yn dileu un rhwystr sy'n amharu ar gynnydd is-ddeddfwriaeth y DU, sydd, yn ei dro, yn effeithio ar ein rhaglen ni ein hunain. Os na wnawn ni hynny, bydd y perygl o fod ag ôl-groniad deddfwriaethol na ellir ei reoli yn y fan yma yn y flwyddyn newydd yn cynyddu, ac nid yw hynny er budd busnesau Cymru na dinasyddion Cymru. Beth bynnag, nid yw'r her a wynebwn nawr—sut i ddarbwyllo Llywodraeth y DU i fabwysiadu ymagwedd at y cytundeb ymadael sy'n gallu ennyn consensws gwleidyddol eang, yn hytrach nag un sy'n bygwth dod â ni at ymyl y clogwyn mwyaf peryglus—yn un y gall y Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE ein helpu i fynd i'r afael ag ef. Mae'r Ddeddf hon wedi gwneud ei gwaith. Mae'n amser symud ymlaen. Dyna pam, yn unol â'r gweithdrefnau uwch a nodir yn y Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE, roedd y rheoliadau drafft i ddiddymu'r Ddeddf wedi'u gosod am 60 diwrnod, gan roi cyfle i sylwadau gael eu gwneud. Mae'r cyfnod o 60 diwrnod wedi dod i ben, a bydd yr Aelodau wedi gweld o'm datganiad ysgrifenedig mai dim ond un sylw a gafwyd yn ystod y cyfnod hwnnw. Diolch i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ei ymgysylltiad parhaus â'r ddeddfwriaeth a'i ystyriaeth o'r rheoliadau drafft. Nid oedd dim yn yr hyn a ddywedodd y pwyllgor sy'n sefyll yn ffordd diddymu. Mae er budd Cymru ein bod yn gwneud hynny nawr a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig i gymeradwyo'r rheoliadau a fydd yn galluogi'r Ddeddf i gael ei diddymu heddiw.