– Senedd Cymru am 5:26 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Eitem 8 ar yr ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar y gyfraith sy'n deillio o Reoliadau 2018 Deddf Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid i gynnig y cynnig. Mark Drakeford.
Cynnig NDM6867 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mehefin 2018.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Wrth agor y ddadl hon, hoffwn ddechrau drwy ein hatgoffa pam y datblygwyd y darn hwn o ddeddfwriaeth, Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru), fel yr oedd ar y pryd, yn y lle cyntaf, yn gynharach eleni.
Datblygwyd y Bil gennym, fel y dywedodd y Prif Weinidog droeon ar lawr y Cynulliad, fel mesur wrth gefn; mesur a gynlluniwyd i amddiffyn y setliad datganoli ar gyfer achos pan na fyddai Llywodraeth y DU yn diwygio ei Bil Undeb Ewropeaidd (Ymadael) mewn modd a fyddai'n dileu'r bygythiadau gwirioneddol yr oedd yn eu cynnwys ar gyfer ein datganoli ni yma yng Nghymru a rhyddid y Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu mewn meysydd cymhwysedd sydd wedi'u datganoli. Nid wyf yn credu bod unrhyw amheuaeth, pe byddai Bil Ymadael yr UE wedi'i ddeddfu fel y'i drafftiwyd yn wreiddiol, y byddai wedi achosi adfachu gwirioneddol a chanoli pwerau i San Steffan. Dyna pam y gwnaethom ni ddechrau ar broses hir a manwl o drafod rhwng Llywodraethau Cymru, yr Alban a'r DU, pryd y gwnaethom ni sicrhau cytundeb newydd sy'n darparu dulliau amddiffyn cryf ar gyfer buddiannau hollbwysig Cymru.
Mae'r cytundeb y daethom iddo wedi sicrhau nad oes yr un cyfrifoldeb datganoledig wedi gadael y Cynulliad hwn. Mae meysydd sydd eisoes wedi'u datganoli yn parhau i fod wedi'u datganoli, ac mae'r mesurau diogelwch angenrheidiol ar waith i sicrhau bod hyn yn parhau i fod yn wir. Mae datganoli wedi'i ymwreiddio yn y cytundeb rhynglywodraethol, nid ei wanhau ganddo, a'i danseilio ganddo fel y byddai Bil Ymadael yr UE, fel y'i deddfwyd yn wreiddiol, yn sicr wedi ei wneud.
Dangoswyd hyn i gyd yr wythnos diwethaf, pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU ei hadroddiad chwarterol cyntaf ar weithrediad Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, fel y mae hi'n awr, a fframweithiau cyffredin. Nododd yr adroddiad hwnnw, sydd wedi'i roi ar gael i'r Cynulliad, gynnydd sylweddol ar y cyd ar fframweithiau cyffredin a chydweithio parhaus i sicrhau bod y llyfr statud yn barod ar gyfer y diwrnod ymadael. O ganlyniad i'r cynnydd sylweddol hwnnw ar y cyd, nid oes unrhyw gynigion i rewi llyfr rheolau presennol yr UE y tu hwnt i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd.
Rydym yn cyflawni popeth yr aethom ati i'w gyflawni drwy gytundeb, fel y gwnaethom ddadlau y gallem ei wneud ar hyd yr amser. Mae'r cynnydd hwn wedi'i groesawu, nid yn unig gennym ni ein hunain, ond gan Lywodraeth yr Alban hefyd. Ac fel y mae fy nghyd-Aelod Alun Davies wedi ei ddweud, sefydlodd y cytundeb gydraddoldeb rhwng gweinyddiaethau sydd er lles gorau Cymru a Chymru yn y Deyrnas Unedig.
Mae'r agwedd honno yn cael ei hadlewyrchu hefyd yn natblygiad offerynnau statudol o dan Ddeddf Ymadael yr UE sy'n addasu cyfreithiau sy'n deillio o'r UE, fel bod hynny yn weithredol ar adeg ein hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd, ac mae hynny'n weithred sydd â mwy o frys yn perthyn iddi gan fod y posibilrwydd o Brexit 'dim cytundeb' wedi cryfhau yn y cyfnod ers y lluniwyd y cytundeb rhynglywodraethol. Pan fo'r offerynnau statudol yn cynnwys darpariaethau ynghylch materion datganoledig, mae Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Gweinidogion Cymru, yn unol â'i hymrwymiadau o dan y cytundeb rhynglywodraethol hwnnw, cyn eu gosod gerbron y Senedd, a byddwn yn hysbysu'r Aelodau Cynulliad pan gânt eu gosod.
Y gwir amdani yw ein bod wedi cael yr holl drosoledd sydd ar gael o'r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd a nawr yw'r amser i ofyn i'r Cynulliad hwn wneud yr hyn yr ydym ni fel Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i'w wneud yn y cytundeb rhynglywodraethol—diddymu'r Ddeddf. Mae hyn yn fater o frys erbyn hyn. Fel y nododd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, mae rhaglen o offerynnau statudol unioni eisoes o dan bwysau sylweddol o ran amser. Bydd diddymu'r Ddeddf yn dileu un rhwystr sy'n amharu ar gynnydd is-ddeddfwriaeth y DU, sydd, yn ei dro, yn effeithio ar ein rhaglen ni ein hunain. Os na wnawn ni hynny, bydd y perygl o fod ag ôl-groniad deddfwriaethol na ellir ei reoli yn y fan yma yn y flwyddyn newydd yn cynyddu, ac nid yw hynny er budd busnesau Cymru na dinasyddion Cymru. Beth bynnag, nid yw'r her a wynebwn nawr—sut i ddarbwyllo Llywodraeth y DU i fabwysiadu ymagwedd at y cytundeb ymadael sy'n gallu ennyn consensws gwleidyddol eang, yn hytrach nag un sy'n bygwth dod â ni at ymyl y clogwyn mwyaf peryglus—yn un y gall y Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE ein helpu i fynd i'r afael ag ef. Mae'r Ddeddf hon wedi gwneud ei gwaith. Mae'n amser symud ymlaen. Dyna pam, yn unol â'r gweithdrefnau uwch a nodir yn y Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE, roedd y rheoliadau drafft i ddiddymu'r Ddeddf wedi'u gosod am 60 diwrnod, gan roi cyfle i sylwadau gael eu gwneud. Mae'r cyfnod o 60 diwrnod wedi dod i ben, a bydd yr Aelodau wedi gweld o'm datganiad ysgrifenedig mai dim ond un sylw a gafwyd yn ystod y cyfnod hwnnw. Diolch i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ei ymgysylltiad parhaus â'r ddeddfwriaeth a'i ystyriaeth o'r rheoliadau drafft. Nid oedd dim yn yr hyn a ddywedodd y pwyllgor sy'n sefyll yn ffordd diddymu. Mae er budd Cymru ein bod yn gwneud hynny nawr a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig i gymeradwyo'r rheoliadau a fydd yn galluogi'r Ddeddf i gael ei diddymu heddiw.
A gaf i ddiolch i'r Llywodraeth am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw i ddiddymu Deddf Cyfraith sy'n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru)? Fel y bydd y Llywodraeth a phob Aelod o'r Siambr hon yn ymwybodol, fe wnaethom ni wrthwynebu'r Ddeddf hon pan gafodd ei chyflwyno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol fel Bil brys, gan ddefnyddio gweithdrefnau argyfwng—darn sylweddol o ddeddfwriaeth na chawsom ond 14 diwrnod i graffu arno. Fe wnaethom ddweud ar y pryd ei fod yn Fil diangen oherwydd ein bod yn ffyddiog y gellid dod i gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a oedd yn parchu'r setliad datganoli ac a oedd yn darparu ar gyfer y pryderon, pryderon cwbl briodol, a oedd gan rai pobl yn y Siambr hon, ac a oedd gan Lywodraeth Cymru yn gwbl briodol ynghylch y Bil Ymadael â'r UE a ddrafftiwyd yn wreiddiol, fel yr oedd ar y pryd. Ac, wrth gwrs, cafwyd y cytundeb rhynglywodraethol hwnnw o fewn wythnosau i basio'r ddeddfwriaeth frys drwy'r Cynulliad Cenedlaethol hwn. Fe wnaethom ni groesawu, wrth gwrs, yr ymgysylltu parhaus a gafwyd o ganlyniad i'r cytundeb rhynglywodraethol hwnnw ynghylch proses Brexit a sicrhau y bydd y ddeddfwriaeth, sydd wedi'i mabwysiadu gan y DU yn ystod ei haelodaeth o'r UE, yn parhau i fod ar waith yn y dyfodol.
Nawr, mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn credu ei bod yn siomedig y bu oedi tra sylweddol, mewn gwirionedd, wrth gyflawni'r ymrwymiad y gwnaeth Llywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU yn rhan o'r cytundeb rhynglywodraethol hwnnw. Fe wnaethoch chi ddweud y byddech chi'n diddymu'r Bil hwn ac rwy'n credu bod pawb yn disgwyl y byddai hynny'n digwydd yn llawer cyflymach na'r misoedd lawer y mae hi wedi'i gymryd cyn i chi gyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Ond rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle, Ysgrifennydd y Cabinet, i ddweud nad yw'r Bil hwn yn cynnig unrhyw drosoledd i Lywodraeth Cymru na Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn y dyfodol, o ran gwasgu unrhyw beth arall allan o Lywodraeth y DU o ran parch tuag at y setliad cyfansoddiadol. Rydym ni wedi gweld llawer o gynigion cydsyniad deddfwriaethol, rhai ohonyn nhw sy'n mynd drwy'r camau pwyllgor, a drafodwyd yn y Pwyllgor Busnes y bore yma—y Bil Pysgodfeydd, y Bil Gofal Iechyd (trefniadau rhyngwladol), ac rwy'n siŵr y bydd llawer o rai eraill. Pan fo mater y mae angen ei ystyried gan y Cynulliad hwn, yn gwbl briodol bydd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn cael ei gyflwyno. Roeddem ni bob amser o'r farn mai'r broses Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol oedd yr 'ôl-stop', os mynnwch chi, ar gyfer sicrhau pwerau i'r Cynulliad hwn a gwneud yn siŵr bod yna barch priodol ar gyfer datganoli. Rwy'n credu bod y cytundeb rhynglywodraethol wedi gwneud yn siŵr bod hynny'n digwydd, ond, hefyd, wrth gwrs, mae arfer Gweinidogion Llywodraeth y DU ers i'r cytundeb hwnnw ddod i rym wedi dangos yn sicr bod llawer o barch gan Lywodraeth y DU o ran y setliad.
Felly, rwyf yn gobeithio y bydd pleidiau eraill mor gyfrifol ag y bu Llywodraeth Cymru o ran parchu'r penderfyniad a wnaethpwyd i gytuno gyda Llywodraeth y DU ar brotocol clir ar gyfer sicrhau bod ateb ymarferol priodol i amddiffyn yr hawliau hynny a bwrw ymlaen â'r cyfreithiau hynny, a oedd eisoes wedi eu mabwysiadu o ran deddfwriaeth y DU, a gwneud yn siŵr bod llais Cymru yn cael ei glywed yn rhan o'r broses honno. Roeddwn i'n falch iawn o'ch clywed chi'n cyfeirio at y cynnydd sydd wedi'i wneud o ran fframweithiau ledled y DU, ac efallai wrth ymateb i'r ddadl heddiw y gallech chi ymhelaethu ychydig mwy ar y rheini. Rwy'n gwybod, cyn belled ag y mae cydweithwyr yn Llywodraeth y DU yn y cwestiwn, eu bod nhw'n falch iawn â'r ymgysylltu sydd wedi bod gan Lywodraeth Cymru, ac yn wir Llywodraeth yr Alban, wrth ddatblygu'r fframweithiau hynny, a thîm Gogledd Iwerddon—os y gallaf ei alw'n hynny, oherwydd yn amlwg, nid oes Gweithrediaeth ar hyn o bryd—a chredaf ei bod hi'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni i weithio gyda'i gilydd i wneud yn siŵr bod y fframweithiau hynny er budd gorau'r Deyrnas Unedig gyfan, yn ogystal â gwneud yn siŵr bod Cymru yn cael llais sylweddol wrth y Bwrdd pan fydd y fframweithiau hynny yn cael eu datblygu. Felly, byddwn ni'n cefnogi'r cynnig hwn heddiw.
Mae'n rhyfedd, Llywydd, wrth edrych yn ôl dros y 12 mis diwethaf, fwy neu lai, ar y daith y mae'r Ddeddf parhad wedi ei dilyn ers iddi gael ei chrybwyll am y tro cyntaf, ac, yn wir, yn groes i lên gwerin y Cynulliad hwn, nid fi oedd yr Aelod cyntaf o'r lle hwn i godi'r posibilrwydd o lunio Deddf parhad ar lawr y Siambr hon. Y person sydd bellach yn swyddogaeth Cwnsler Cyffredinol Cymru oedd yr Aelod cyntaf—roedd ef o fy mlaen i, sydd fwy na thebyg yn esbonio pam mae ef wedi mynd ymlaen i bethau gwell yn y cyfamser.
Mae wedi bod yn glir o'r cychwyn cyntaf, er hyn, bod Aelodau o bron bob ochr yn gallu cytuno bod deddfu, er mwyn cynnal datganoli yng nghyd-destun ymadael â'r UE, yn briodol ac yn angenrheidiol. Rwy'n digwydd credu ei fod ymhlith gweithredoedd gorau y Senedd hon ein bod wedi gweithredu ar draws y pleidiau er budd rhywbeth sy'n llawer mwy na ni ein hunain fel gwleidyddion unigol neu fel pleidiau gwleidyddol unigol: ein cenedligrwydd gwleidyddol mewn gwirionedd. Ac ni ddylem anghofio bod hynny yn y fantol pan ddrafftiwyd y Bil ymadael i ddechrau. Credaf hefyd y dylid talu teyrnged arbennig i'r rhai a luniodd y Bil parhad yn y lle cyntaf. Nid oedd hwn yn ddarn hawdd o ddeddfwriaeth i'w ddrafftio. Mae'n hynod dechnegol a dyrys, ac mae'n glod i'w awduron.
Fel Llywodraeth Cymru, byddai'n llawer gwell gennyf pe na byddai angen o gwbl, nac yn y lle cyntaf, ar gyfer deddfwriaeth parhad Cymru. Fy marn i, erioed, oedd y gallai Llywodraeth y DU, pe bydden nhw mewn gwirionedd yn gwerthfawrogi yr undeb hwn, pe bydden nhw wir yn parchu cenhedloedd y DU, yna gallai a dylai'r dull o ymadael â'r UE, o'r cychwyn, fod wedi cael ei drafod rhwng cenhedloedd y DU cyn y sbardunwyd Erthygl 50 hyd yn oed. Credaf y gallai model ymadael 'ymuniad wedi'i wrthdroi' fod wedi cyflawni hyn yn gyfforddus. Dewisodd Llywodraeth y DU beidio ag ymgysylltu a'r Llywodraethau datganoledig ar sail partneriaeth a pharch, ac yn fwriadol penderfynodd i beidio â gwneud hynny ar bob cam o'r broses hon ers y refferendwm. Daeth deddfwriaeth parhad, felly, yn hanfodol, oherwydd nid oedd unrhyw ffordd arall o sicrhau'r dymuniadau a fynegwyd gan bobl Cymru mewn dau refferendwm datganoli.
Llywydd, mae'n drist iawn bod y consensws a luniodd y Ddeddf parhad bellach wedi diflannu yng ngoleuni'r cytundeb rhynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan. Rwy'n anghytuno yn ddiffuant ac yn ddidwyll ag Ysgrifennydd y Cabinet o ran yr angen parhaus am ddeddfwriaeth parhad. Credaf fod angen y Ddeddf parhad o hyd ac y dylai aros ar y llyfr statud, a chredaf hynny am bedwar rheswm sylfaenol.
Yn gyntaf, rwy'n credu bod y cytundeb rhynglywodraethol yn methu â chyflawni'r camau diogelu angenrheidiol i sicrhau bod deddfau Cymru yn rhydd o ymyrraeth unochrog gan Weinidogion yn Llundain. Yn wir, Llywydd, mae adran 6 y cytundeb yn ei gwneud yn glir y gall Gweinidogion y DU wneud newidiadau mewn meysydd datganoledig heb gydsyniad Cymru hyd yn oed. Yn ail, gwyddom bellach fwriad Llywodraeth y DU drwy'r cytundeb ymadael drafft, o gofio ein bod yn gwybod ei fod yn methu â diwallu'r dyheadau o sicrhau dyfodol Cymru, nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i hwyluso cytundeb ymadael Llywodraeth y DU drwy diddymu ein hamddiffyniad ddeddfwriaethol. Mae hynny'n ymddangos yn wrthddywediad amlwg yn wleidyddol i mi.
Yn drydydd, nid wyf yn credu bod Llywodraeth y DU mewn unrhyw sefyllfa i ni ymddiried ynddi i hyd yn oed ofyn i Weinidogion Cymru a ydyn nhw'n cytuno â gweithrediad y Ddeddf ymadael yn y dyfodol. Mae ganddyn nhw hanes o dorri Confensiwn Sewel, gadewch inni beidio ag anghofio, ac yn eu hanobaith newydd nid oes gen i unrhyw amheuaeth y byddan nhw'n gwneud hynny eto heb feddwl ddwywaith.
Yn bedwerydd, mae amseru'r diddymu arfaethedig hwn yn annealladwy. Rydym ni'n aros am ddyfarniad y Goruchaf Lys ar Ddeddf parhad yr Alban. Oni fyddai'n well i Aelodau yn y fan yma wneud penderfyniad priodol ynghylch diddymu ein deddfwriaeth ai peidio ar sail yr wybodaeth lawn am y goblygiadau cyfreithiol a chyfansoddiadol y bydd y dyfarniad hwnnw yn ei roi inni.
Mae'r mater hwn, Llywydd, i mi, erioed wedi bod yn fwy na phersonoliaethau, pleidiau a hyd yn oed gwleidyddiaeth ei hun. Rwy'n ofni'n fawr iawn y gallai cynseiliau a osodir yn awr yn ystod y cyfnod eithriadol hwn fod gyda ni ymhell i'r dyfodol a bwrw amheuaeth parhaol ar allu'r lle hwn i ddeddfu mewn meysydd allweddol, a gallai yn sicr normaleiddio arfer newydd San Steffan o ddeddfu mewn materion datganoledig yn y dyfodol. Rwy'n credu yn syml nad oes gan neb yr hawl i ddefnyddio Brexit nac unrhyw argyfwng arall fel esgus i newid cyfreithiau datganoledig Cymru heb gytundeb Aelodau'r Senedd hon a etholwyd yn ddemocrataidd. Mae'r hyn sydd yn y fantol yn y fan yma yn mynd y tu hwnt i ddarn o ddeddfwriaeth. Mae hyn yn ymwneud â diogelu mewn cyfraith Cymru yr holl hawliau a'r safonau hynny sydd mor bwysig inni fel na all unrhyw un eu cymryd oddi arnom. Rydym yn sôn yn aml am genedlaethau'r dyfodol yn y lle hwn. Mae'r cenedlaethau y bydd penderfyniadau fel hwn heddiw yn effeithio arnyn nhw'n ddirifedi, ac anogaf yr Aelodau i wrthod diddymiad y Ddeddf parhad hon y mae dirfawr angen amdani.
Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon a hoffwn fynegi fy niolch i Steffan Lewis am uniondeb y diben a'r egwyddor y mae wedi ei gyfrannu i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn ei swyddogaeth, yn enwedig wrth ddatblygu, wrth gwrs, yn y dyddiau cynnar hynny ar ôl y refferendwm Brexit, y papur 'Sicrhau Dyfodol Cymru', sydd wedi sefyll prawf amser ers ei sefydlu. Ond rwy'n cefnogi cynnig y Llywodraeth heddiw, ac nid yw hynny'n syndod, oherwydd roeddwn yn croesawu canlyniad negodiadau Ysgrifennydd y Cabinet, a arweiniodd at y cytundeb rhynglywodraethol yn gynharach eleni, a oedd yn adlewyrchu ein gwelliannau arfaethedig i Fil Ymadael Llywodraeth y DU. Roeddwn yn croesawu ei ddatganiad yr wythnos diwethaf, a oedd yn rhoi sicrwydd a thystiolaeth bod y llwybr yr oedd yn ei gymryd yr un cywir, ac yn darparu'r canlyniadau yr oeddem yn galw amdanynt i ddiogelu ein pwerau.
Nawr, os cofiwch chi, o ganlyniad i Ddeddf Ymadael y DU, ar ôl yr hyn a gyflawnwyd gan y cytundeb rhynglywodraethol, cefnogodd y pwyllgor materion allanol a deddfwriaeth ychwanegol yr angen i Lywodraeth y DU adrodd i'r Senedd ar faterion sy'n ymwneud â fframweithiau ac unrhyw ddefnydd o'r hyn a elwir yn bwerau rhewi adran 12 i gynnal dros dro terfynau presennol cyfraith yr UE ar gymhwysedd datganoledig. Fe wnaethom alw ar ein Rheolau Sefydlog i'w gwneud yn ofynnol i adroddiad o'r fath gael ei osod gerbron y Cynulliad, o fewn diwrnod iddo gael ei osod yn Senedd y DU, ac yn wir cafodd ei osod, ac rwy'n croesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet ar 13 Tachwedd.
A gaf i eto gydnabod pwysigrwydd y cytundeb rhynglywodraethol? Ysgrifennydd y Cabinet a lwyddodd i gael Llywodraeth y DU i newid ei safbwynt fel y dylai'r holl bwerau datganoledig a meysydd polisi fod yng Nghaerdydd a Chaeredin, oni bai bod meysydd lle gellir cytuno ar fframweithiau cyffredin. O ganlyniad i negodiadau dwys dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae gennym y canlyniad cadarnhaol hwn o ran meysydd cyffredin hyn y DU, ac rwy'n credu ei bod werth cofnodi eto heddiw yr hyn yr oedd rhagair gweinidogol Llywodraeth y DU yn ei ddweud yr wythnos diwethaf:
Ar sail y cynnydd sylweddol a wnaed ar y cyd ar fframweithiau’r dyfodol, a’r cydweithio parhaus i sicrhau bod y llyfr statud yn barod ar gyfer y diwrnod ymadael, mae Llywodraeth y DU wedi dod i’r casgliad nad oes angen iddi gyflwyno unrhyw reoliadau o dan adran 12 ar hyn o bryd.
Unwaith eto, mae effaith gadarnhaol y canlyniad hwn yn glir oherwydd mae'n mynd ymlaen i ddweud:
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn parhau i ymrwymo i beidio â chreu gwahaniaeth lle y byddai hynny’n torri ar draws fframweithiau yn y dyfodol, lle y cytunwyd eu bod yn angenrheidiol neu lle mae trafodaethau’n parhau.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi ymateb cadarnhaol heddiw gan Lywodraeth yr Alban i'r canlyniad hwn hefyd. Felly roedd datblygu'r Bil parhad yn bwysig, ond roedd bob amser yn fesur wrth gefn, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, a'r Prif Weinidog—a dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet hynny ar nifer o achlysuron yn ystod y ddadl ynghylch y Bil parhad—ac mai'r canlyniad a ffefrir fyddai gweld newidiadau yn y Bil ymadael i adlewyrchu ein swyddogaethau, ein pwerau a'n cyfrifoldebau. Trosoledd oedd ei angen, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet. Ac mae'n rhaid cydnabod bod hynny o ganlyniad i gamau gweithredu trawsbleidiol, ac mae effaith y trosoledd hwn mor bwysig, ac mae'n rhaid inni ei gofnodi'n glir heddiw; mae'n amlwg.
Ac rwy'n cofio erthygl gan Ian Price o Gydffederasiwn Diwydiant Prydain yn y Western Mail ar adeg y cytundeb rhynglywodraethol. Roedd yn cymryd golwg hirdymor pan ddywedodd bod y cytundeb yn dda iawn i economi Cymru a'i phobl:
Mae'r hyn a gytunwyd....yn gydweithrediad doeth rhwng Llywodraeth Cymru, San Steffan a Whitehall i gytuno ar ffordd gyffredin ymlaen o ran meysydd sy'n effeithio ar y DU gyfan.
Felly, rwy'n siŵr y bydd busnesau yng Nghymru yn croesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet yr wythnos diwethaf a bydd busnesau yng Nghymru yn cael tawelu eu meddwl yng nghyd-destun cymaint o ansicrwydd ynghylch y wladwriaeth a chylch gorchwyl Brexit ar gyfer Cymru, ac yn cytuno bod yn rhaid diogelu uniondeb a diben y cytundeb rhynglywodraethol.
Felly, am y rheswm hwnnw rwy'n cefnogi diddymu'r Ddeddf parhad. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet mae datganoli wedi'i ymwreiddio yn y cytundeb rhynglywodraethol, a dyma'r canlyniad cadarnhaol, sydd wedi ennyn parch yn Senedd y DU ac yn y Siambr hon a Llywodraeth y DU.
A gaf i ddweud cymaint o anrhydedd yw hi i siarad am yr hyn yr wyf i'n dal i'w alw yn Ddeddf parhad, cyfraith a basiwyd gan y Cynulliad hwn gan ddefnyddio ei bwerau deddfwriaethol? Nid ydym ni wedi pasio cymaint â hynny o gyfreithiau gan ddefnyddio ein pwerau deddfwriaethol, ac i grefft a chelfyddyd fy nghyd-Aelod yn y fan yma, Steffan Lewis, y mae llawer o'r diolch am hynny, ond roedd ef yn amlwg yn rhoi'r sylw i bobl eraill yn ei araith.
Nawr, bu llawer o sôn am barchu canlyniad refferendwm. Wel, beth am barchu hefyd ganlyniad refferendwm 2011 yng Nghymru, pan bleidleisiodd 64 y cant o etholwyr Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael mwy o bwerau—mwy o bwerau deddfwriaethol? Nid yw Cymru wedi pleidleisio i golli pwerau, ac eto mae Deddf Cymru 2017 wedi ein gweld ni yn colli pwerau—193 o feysydd a gedwir. A, gyda Bil ymadael yr UE, rhoddwyd cydsyniad deddfwriaethol gan y Cynulliad hwn ar 15 Mai eleni fel bod pwerau mewn 26 o feysydd datganoledig—pwerau yr oedd gennym bob amser ers 1999; pwerau datganoledig—wedi cael eu rhewi am hyd at saith mlynedd. Ein pwerau datganoledig yn cael eu rhoi i ffwrdd yn llipa; unrhyw drosoledd a fu gennym wedi mynd—mewn amaethyddiaeth, yr amgylchedd, pysgodfeydd, caffael cyhoeddus ac yn y blaen. ...cyhoeddus, ... cyhoeddus—[torri ar draws.] Pleidleisiodd Plaid Cymru yn erbyn hynny. Gwrthododd yr Alban gydsyniad deddfwriaethol o'r fath hefyd. Roedd Mark Drakeford, wrth grynhoi ar 15 Mai, yn falch o alw ei hun yn unoliaethwr ac i glodfori'r agwedd fframweithiau cyffredin ar ymadael â'r UE. Cyd-lywodraethu oedd pwnc llosg y dydd. Byddai ysbryd newydd o barch ac ymddiriedaeth yn ymddangos rhwng Llywodraethau yr ynysoedd hyn. Byddai San Steffan a Llywodraeth Cymru yn bartneriaid cyfartal yn yr ucheldiroedd Brexit goleuedig newydd hyn. Byddai Cymru yn cymryd rhan ac yn cael ei pharchu yn yr holl benderfyniadau ar faterion datganoledig wedi'u rhewi.
A'r realiti? Wel, yn Sioe Frenhinol Cymru yr haf hwn—cawsom ddarlun o'r drefn newydd. Roedd y brif neuadd fwyd yn llawn cynnyrch Cymreig â brand baneri Jac yr Undeb coch, gwyn a glas—dim Cymraeg—'Food is Great—Britain & Northern Ireland.' Bachog iawn, iawn. Roedd Bil Amaethyddiaeth y DU ac ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddyfodol amaethyddiaeth yn dilyn y polisi yn Lloegr yn ddifeddwl wrth waredu taliadau fferm sengl er gwaethaf y ffaith bod ffermio yng Nghymru yn gwbl wahanol ac yn fwy tebyg i ffermio yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, sy'n cadw taliadau sengl.
Y negodiadau Brexit arteithiol—a yw Cymru yn rhan ohonyn nhw o gwbl? Mae Llywodraeth Cymru yn cwyno nad oes neb yn gwrando arnyn nhw. A oes llywodraethu gyffredin? Y gronfa ffyniant a rennir—nid yw Cymru yn gwybod beth sy'n mynd ymlaen o ran yr hyn fydd yn cymryd lle arian Ewropeaidd. Llawer o huodledd gan Aelodau Llafur yr wythnos diwethaf, a gan rai Aelodau Llafur yn sesiwn craffu y Prif Weinidog ddydd Gwener, am San Steffan yn anwybyddu Cymru. Pum cant ac wyth deg pump o dudalennau o gytundeb Brexit gwael heb unrhyw sôn am Gymru; cytundeb Brexit gwael y mae Llafur yn y fan yma yn ei wrthwynebu. Cant o dudalennau am Ogledd Iwerddon; dim un am Gymru.
Nawr, mae gennym ni gytundeb rhynglywodraethol, meddai Llafur—y cytundeb rhynglywodraethol anstatudol, nad yw'n orfodadwy. Does bosib nad yw mewn perygl, wedi'i glymu i gytundeb Brexit y mae Llafur yn y fan yma yn ei wrthwynebu. Ychydig iawn o sylw y mae Llywodraeth San Steffan yn ei roi iddo. Mae'r Llywodraeth wedi dod yn ôl i'r fan yma yn dweud nad ydyn nhw'n gwrando. Pa obaith sydd gan ein cytundeb rhynglywodraethol anstatudol gyda Phrif Weinidog gwahanol yn y DU neu gyda Phrif Weinidog Llywodraeth Lafur y DU? Pa obaith? Cytundeb rhynglywodraethol, anstatudol—nid wyf yn dal fy anadl.
Gydag ansicrwydd rhemp o bob tu, mae angen inni gadw'r pwerau datganoledig a fu gennym erioed. Am lanastr. Mae Deddf parhad Cymru ar y llyfr statud. Gadewch iddi aros yno.
Hoffwn ddiolch, efallai, i Plaid am hyrwyddo fy nghwestiwn yn y sesiwn craffu ar waith y Prif Weinidog mor eang ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae bob amser yn gwneud byd o les i fy ngyrfa. [Chwerthin.] A gaf i ddweud hefyd, fodd bynnag, ar y sawl achlysur yr wyf wedi codi'r cwestiynau hynny, fe'u codwyd yn ddiffuant iawn, ac mae'r pwyntiau y mae Steffan yn eu gwneud a'r heriau yr ydych chi'n eu cyflwyno yn rhai dilys iawn ac yn rhai sy'n haeddu, rwy'n credu, atebion ystyriol. Credaf ei fod yn gwestiwn o farn a strategaeth ystyriol ynghylch ble yr ydym ni'n mynd ar hyn.
Mae'n rhaid imi ddweud, rwyf wedi bod rhwng dau feddwl am fater y Ddeddf parhad, fel y byddaf yn ei galw, gan fod llawer yn meddwl y byd ohoni, o ran yr hyn y mae'n ei gynrychioli, a beth y bydd yn ei gyflawni. Yn sicr, pan gafodd ei chyflwyno, roedd yn gwbl hanfodol. Roedd gennym ni gymal 11 yn y Bil, a oedd yn amlwg yn agenda a fyddai'n cymryd pwerau oddi arnom. Roedd yn sicr yn rhoi trosoledd inni. Yn sicr roedd yn ddarn o ddeddfwriaeth a oedd wedi'i drafftio'n effeithiol ac roedd, rwy'n credu, yn cyflwyno dadleuon cryno iawn, iawn a oedd yn gosod y paramedrau o ran sut yr ydym ni'n gweld pwerau Cymru yn dychwelyd o Frwsel. Ac rwy'n credu iddo nodi'r safbwynt cyfansoddiadol cwbl gywir.
Y pwynt ynglŷn â hyn, fodd bynnag, yw o ganlyniad i hynny ein bod wedyn wedi dod at y cytundeb rhynglywodraethol, a, y cytundeb rhynglywodraethol hwnnw, y cwestiwn yn awr yw: a yw'r Ddeddf parhad yn well na, a yw'n ein rhoi ni mewn sefyllfa gryfach na'r materion sy'n codi o'r cytundeb rhynglywodraethol? Ac mae hwnnw'n gwestiwn difrifol iawn i'w ofyn, y mae Steffan wedi ei ofyn, ac rwyf i wedi gofyn hynny hefyd. Rwyf wedi meddwl am hyn yn ofalus iawn, iawn ac rwyf eisiau dweud hyn: y peth cyntaf am y cytundeb rhynglywodraethol—sydd, rwy'n credu, yn ddarn rhyfeddol o negodi gan Mark Drakeford, gan Ysgrifennydd y Cabinet, am nifer o resymau penodol—. Yn gyntaf, mae'n seiliedig ar gydnabyddiaeth o'r union bwerau datganoledig hynny y buom yn eu dadlau—mewn gwirionedd mae'n ymgorffori fel mater o egwyddor y pwerau datganoledig hynny yr ydym ni'n dweud eu bod yn perthyn i ni, sy'n rhan o'r setliad datganoli. Yn ail, nid yw'n cynnwys trosglwyddo unrhyw bwerau i fannau eraill. Yn drydydd, mae mewn gwirionedd yn ymgorffori proses Sewel well. Mae'n gwbl rhyfeddol. Pan oeddem ni yn y fforwm rhyng-seneddol, pan oeddem ni i lawr yn San Steffan ac yn Nhŷ'r Arglwyddi, yn dweud wrth aelodau Tŷ'r Arglwyddi bod, mewn gwirionedd, ganddyn nhw bellach feto ar gamau y gellid eu cymryd gan Lywodraeth y DU i ddiystyru gwrthod caniatâd oddi wrth y lle hwn—credaf ei fod mewn gwirionedd yn gam ymlaen eithaf rhyfeddol.
Nid wyf yn siŵr, mewn gwirionedd, eu bod yn gwybod, mewn gwirionedd, beth oedden nhw'n ei wneud pan wnaeth Llywodraeth y DU negodi hyn. Mae'n eithaf rhyfeddol. Nid wyf erioed wedi bod o blaid Tŷ'r Arglwyddi nac yn wir rhoi mwy o bwerau iddo, ond ar yr achlysur arbennig hwn efallai fy mod yn barod i wneud ychydig o eithriad. Yn bwysig, beth mae'n ei wneud hefyd yw rhywbeth sy'n bwysig iawn i ni ar hyn o bryd, sef datblygu fframweithiau. Beth bynnag fydd yn digwydd, mae angen mecanwaith arnom ni i'r fframweithiau hynny fynd yn eu blaenau. Nawr, os na fyddwn yn diddymu'r Ddeddf, ac os bydd y cytundeb rhynglywodraethol yn chwalu, a yw felly yn cynnig unrhyw fwled arian o amddiffyniad inni? Dyna'r cwestiwn yr wyf i wedi'i ofyn i mi fy hun, ac ni allaf ddweud ble y mae'n gwneud hynny. Nid ydym ar unrhyw gam yn herio neu a fyddwn ni'n gallu herio hynny, yn y pen draw, mae sofraniaeth Senedd y DU yn ei galluogi i ddiystyru mewn pob math o ffyrdd.
Gofynnodd Steffan gwestiwn pwysig iawn arall hefyd: a ddylem ni aros am y dyfarniad yn yr Alban? Wyddoch chi, fe wir hoffwn i aros am y dyfarniad yn yr Alban. Gwn fod pwysau ynghylch pam mae'n rhaid inni wneud hyn yn awr, oherwydd y posibilrwydd y bydd y cytundeb rhynglywodraethol yn chwalu ar yr adeg hon, ond yr ochr anffafriol o'r dyfarniad yn yr Alban yw hyn: yn gyntaf, os yw'n llwyddiannus, nid yw, mewn gwirionedd, yn ein rhoi ni mewn sefyllfa gryfach; os yw'n anffafriol i ni, mae hynny mewn gwirionedd yn ein rhoi ni mewn sefyllfa waeth o lawer. Nid yn unig nad oes gennym ni'r cytundeb rhynglywodraethol a'r amddiffyniadau ynddo, mae gennych chi wedyn ddyfarniad y Goruchaf Lys sy'n cadarnhau pŵer San Steffan i ddiystyru ar faterion cyfansoddiadol. Felly, nid wyf i'n credu ei fod yn rhoi'r ateb syml hwnnw inni yr ydym ni mewn gwirionedd ei eisiau.
Nid wyf yn credu ei fod ychwaith—. Nid yw'r ffaith ein bod ni yn arddel y safbwynt yr ydym ni'n ei arddel nawr a diddymu hon, nid yw'n dileu'r heriau cyfansoddiadol, sy'n heriau sylfaenol iawn sy'n bodoli o hyd, o ran diwygio'r Cydbwyllgor Gweinidogion, y ffaith bod angen trefniant Sewel sydd wedi'i amlinellu'n glir, un sy'n draddodadwy. Mae angen, yn amlwg, strwythur cyfansoddiadol mwy ffederal. Ac, yn ddiddorol, mae'r fforwm rhyng-seneddol yr ydym ni wedi bod yn cymryd rhan ynddo—Dai Rees a minnau fel Cadeiryddion ein pwyllgorau perthnasol—mewn gwirionedd, bron yn dweud yr union beth hwnnw ei hun. Felly, ar hyn o bryd, credaf fod yn rhaid inni wahanu hyn yn ofalus iawn oddi wrth rai o'r materion gwleidyddol eraill sy'n mynd rhagddynt—y materion difrifol iawn ar hyn o bryd ynghylch pa un a yw'r Llywodraeth yn mynd i chwalu, a fydd yna etholiad cyffredinol, beth fyddai canlyniad hwnnw, neu, os na fydd etholiad cyffredinol, camau cyfansoddiadol amgen yn cael eu cymryd.
Ond, ar hyn o bryd, o ran yr holl bethau yr ydym yn gyfrifol amdanyn nhw ac yr ydym yn eu gwneud, rydym mewn sefyllfa well o ganlyniad i'r cytundeb rhynglywodraethol sydd gennym, sy'n ein gwneud yn glir yn y sefyllfa yr ydym ynddi a'r pwerau sydd gennym ac sy'n gosod strwythur clir ar gyfer hynny, neu a ydym ni mewn sefyllfa well drwy gael gwared arno a dibynnu ar ddarn o ddeddfwriaeth y gellid ei gwyrdroi mor hawdd? Yr ateb yr wyf i wedi dod iddo yw: mae'n iawn i'w diddymu. Yn strategol, dyma'r penderfyniad mwyaf darbodus a'r penderfyniad gorau er budd Cymru—nid yw'n un yr wyf i eisiau ei wneud, yn arbennig, ond rwy'n credu, ar hyn o bryd, mai dyma'r penderfyniad iawn i'w wneud ac rwy'n credu mai argymhelliad Ysgrifennydd y Cabinet, ein Gweinidog Brexit, Mark Drakeford, yw'r un iawn ac mae ef wedi cyflwyno'r cynnig iawn, ac rwy'n credu ei bod yn iawn inni gymryd y cam sy'n cael ei grybwyll heddiw.
Llywydd, rwy'n falch fy mod wedi dal eich llygad. Rwy'n ddiolchgar iawn. Nid oeddwn wedi bwriadu siarad, i ddechrau, yn y ddadl hon, ond rwy'n credu bod Steffan Lewis wedi codi pwyntiau sy'n bwysig ac sy'n haeddu ymateb, yn yr hyn a oedd yn gyfraniad meddylgar, yn fy marn i. Mwynheais gyfraniad Dai Lloyd, ond nid wyf mor siŵr ei fod mor ystyriol, ond roedd yn sicr yn ddolefus ac yn llawn o'r ysbryd hwnnw yr ydym ni wedi arfer ei weld o feinciau Plaid.
Siaradais ar ran Grŵp Ceidwadol Cymru pan oedd y Bil yn mynd ar ei hynt gyflym iawn drwy'r lle hwn. Fel darn brys o ddeddfwriaeth, rwy'n credu fy mod yn iawn i ddweud ei fod wedi cael llai o sylw nag unrhyw ddarn arall o ddeddfwriaeth a basiwyd erioed gennym, ac rydym wedi pasio un neu ddau o Filiau brys. Ac roedd hyn, yn fy marn i, yn peri gofid gwirionedd. Ond y rheswm yr oeddwn yn gwrthwynebu'r Bil yn arbennig oedd fy mod i o'r farn bob amser ei fod yn tynnu ein sylw. Y cytundeb rhynglywodraethol oedd bob amser yn ganolog. A bûm yn dadlau dros hyn yn gryf iawn ar y pryd. Rwy'n falch, mewn gwirionedd, bod y ddwy Lywodraeth—Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU—wedi gallu, er gwaethaf pasio'r Bil ac iddo ddod yn Ddeddf, gweithio ar y cytundeb hwnnw a'i sicrhau.
Mae'r angen am fframweithiau ledled y DU bob amser wedi'i gydnabod mewn meysydd fel agweddau ar yr amgylchedd ac amaethyddiaeth a meysydd allweddol eraill—a gydnabyddir gan Lywodraeth yr Alban; ac, a bod yn deg, a gydnabyddir gan Plaid rwy'n meddwl. Ac, yn wir, mae'r fframweithiau hyn yn gofyn am bwerau a freiniwyd yn flaenorol yn yr UE i eistedd yn rhywle fel y gallen nhw gael eu llunio, ac mae angen iddyn nhw gael eu llunio rhwng y Llywodraethau, gyda, dadleuais ar y pryd, Llywodraeth y DU, gyda'i gallu, yn arwain, ond fel partner ac nid yn gorfodi. Rwy'n credu mai dyna sydd wedi digwydd. Fel y cyfeiriwyd ato eisoes yn y ddadl hon, nid yw Llywodraeth y DU wedi ein diystyru ni—ni ddefnyddiwyd y pwerau o dan adran 12.
Fodd bynnag, byddaf yn gorffen gyda hyn, a dyma'r pwynt lle rwy'n cydnabod rhai o'r amheuon a'r pryderon sydd gan grŵp Plaid Cymru: rydym ni nawr yn dechrau gyda model o gyd-lywodraethu. Mae'n dal i fod ychydig yn lletchwith—mae'n cael ei lunio—ond, yn ein bodolaeth ar ôl Brexit, a fydd yn dod i rym rywbryd yn ystod y flwyddyn nesaf yn ôl pob tebyg, bydd y ffordd y mae'r DU yn ymdrin â'i threfniadau rhynglywodraethol a'r angen am gyd-lywodraethu meysydd allweddol, sy'n cynnwys pob Senedd yn y DU—bydd hynny yn profi nerth yr undeb. Rwy'n credu bod Steffan yn awgrymu yn ei gyfraniad, 'lle mae'r unoliaethwyr'? Mae angen iddyn nhw fod yn mynd i'r afael â'r angen hwn am ddimensiwn newydd, mwy ffederal, efallai. Rwy'n credu i Mick awgrymu hyn hefyd. Rwy'n cytuno â hynny a chredaf mai dyna fydd y gwir brawf—sut y bydd yn gweithio ar ôl y broses hon, sy'n amlwg yn anodd, o adael yr UE.
Ond, fel darn o ddeddfwriaeth, nid oeddwn i erioed yn credu ei fod yn arbennig o angenrheidiol. Roedd yn rhan o'r ddadl ehangach yn y pen draw, ac mae'n rhaid gollwng gafael ar y gorffennol, ond rwyf yn credu bod ei amser wedi mynd heibio bellach, ac mae'n iawn, rwy'n credu, i anrhydeddu'n llawn—i Lywodraeth Cymru anrhydeddu'n llawn—y cytundeb rhynglywodraethol, a bydd hynny'n cryfhau ei sefyllfa yn y dyfodol.
Mae gennyf ffydd mawr y bydd dull cyffredinol Llywodraeth Cymru—. Mae'n feirniadol o lawer o'r blaenoriaethau sydd gan Llywodraeth y DU dros ei meysydd domestig ei hun, ond mae hi wedi bod yn barod i weithio'n adeiladol ac rwyf yn croesawu'r ffaith honno. Mae'n rhoi llawer o obaith i mi y bydd ein modelau cyd-lywodraethu yn dod yn fwy a mwy cadarn gydag amser. Diolch, Llywydd.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl bwysig a meddylgar hon. Gadewch imi ddechrau drwy adlewyrchu ar yr hyn y mae Darren Millar a David Melding newydd ei ddweud. Y pwynt lle nad wyf yn cytuno â nhw yw pan eu bod nhw wedi dadlau bod y Bil parhad yn tynnu ein sylw o'r broses o sicrhau'r cytundeb rhynglywodraethol. Yn fy mhrofiad i o fod yn yr ystafell ac yn y trafodaethau hynny, roedd yn rhan annatod o gyflawni cytundeb rhynglywodraethol. Rwy'n falch iawn o'r Ddeddf a'r hyn a gyflawnwyd yn y fan yma, oherwydd roedd, mewn gwirionedd, yn rhoi trosoledd inni ar bwynt pwysig iawn yn y broses. Roedd y ffaith ei bod gennym yn ddi-os wedi gwneud cyflawni'r math o gytundeb rhynglywodraethol y llwyddasom i'w negodi yn fwy tebygol, nid yn llai tebygol.
Ein cred ni yw bod y cytundeb rhynglywodraethol yn well na'r Ddeddf—dyna pam yr ydym ni o'r farn ei bod yn iawn heddiw i gynnig diddymu'r Ddeddf. Ond nid wyf yn cytuno o gwbl na wnaeth y Bil a'r ddadl yn y fan yma, a'r ffaith ein bod wedi ei rhoi ar y llyfr statud—na wnaeth hynny chwarae rhan annatod ac allweddol wrth ganiatáu inni lunio'r cytundeb rhynglywodraethol hwnnw. Gofynnodd Darren pam yr oeddem ni wedi oedi wrth gyflwyno'r diddymu. Y rheswm am hynny yw bod angen inni ganiatáu i'r broses yr oeddem wedi ei nodi yn y cytundeb rhynglywodraethol i gael ei dangos—roedd angen inni weld ei bod yn cael ei hanrhydeddu ar y ddwy ochr. Mae'r adroddiad a gyflwynwyd gerbron y Senedd yr wythnos diwethaf, rwy'n credu, yn rhoi'r dystiolaeth honno inni ac yn caniatáu inni gynnig diddymu y prynhawn yma.
Gofynnodd Darren Millar am fframweithiau. Oherwydd ein bod yn gwneud cymaint o gynnydd â fframweithiau nid oes unrhyw bosibilrwydd o ddefnyddio rhannau rhewi y Ddeddf ymadael bellach. Felly, mae llawer iawn o waith wedi ei wneud. Rydym ni bellach ar gam y cytunwyd arno yn y Cydbwyllgor Gweinidogion yn gynharach y mis hwn, a byddwn, ym mis Rhagfyr, yn gweld y rhai cyntaf o'r fframweithiau yn dod gerbron y Cydbwyllgor Gweinidogion i'w hadolygu. Maen nhw ar reoli a chynorthwyo pysgodfeydd, iechyd a lles anifeiliaid, cynllunio sylweddau peryglus, a maethiad. Mae Llywodraeth yr Alban, fel y dywedodd Darren Millar, wedi chwarae rhan lawn yn y trafodaethau hynny, a bydd yn rhan o ystyriaeth y Cydbwyllgor Gweinidogion ohonynt ym mis Rhagfyr, ac yna byddwn yn mynd allan i ymgynghori â rhanddeiliaid sydd â buddiant yn y pedwar maes, cyn iddyn nhw ddod yn ôl i'r Cydbwyllgor Gweinidogion ar gyfer y rhan olaf o'r cyd-lywodraethu y mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn ei sefydlu ac sy'n cael ei gyflawni yn y modd hwnnw.
Gadewch imi droi at ddau gyfraniad Plaid Cymru y prynhawn yma. Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl am uniondeb a didwylledd Steffan Lewis yn holl hanes y Bil parhad ac yn y sylwadau a wnaeth y prynhawn yma. Ac rwy'n rhannu ei farn ar rai o'r pethau y dywedodd, yn sicr y deyrnged a wnaeth i'r rhai a luniodd y Bil parhad; roedd yn ddarn medrus a llwyddiannus iawn o ddeddfwriaeth. Ac rwy'n cytuno ag ef, hefyd, bod Llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig, yn rhy aml, yn ddiofal ynghylch dyfodol y Deyrnas Unedig, a bu hynny'n rhan gyson o'r hyn y mae Cymru wedi'i gyfrannu at y Cydbwyllgor Gweinidogion a thrafodaethau eraill—ein bod yn barhaus yn nodi'r angen i ddod o hyd i amser, cyn inni adael yr Undeb Ewropeaidd, i ystyried y ffordd y bydd y Deyrnas Unedig yn gweithredu pan na fydd y llyfr rheolau, yr ydym yn ei rannu, trwy ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, yno mwyach. Un o'r rhesymau pam mae hi'n iawn i bwysleisio'r cytundeb rhynglywodraethol, fodd bynnag, yw oherwydd ei fod yn torri tir newydd yn y modd hwnnw. Mae'n ein symud ni i sefyllfa lle y mae mwy o gyd-lywodraethu yn y dyfodol, y tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd, yn fwy tebygol, nid yn llai tebygol.
Nododd Steffan bedwar rheswm pam y mae'n gwrthwynebu diddymu'r Bil parhad. Dywedodd fod y cytundeb rhynglywodraethol yn methu â diogelu pwerau Cymru yn erbyn gweithredu unochrog gan Lywodraeth y DU. Ond mae yn amddiffyn Cymru rhag hynny. Nid oes unrhyw bwerau unochrog y gellir eu defnyddio heb ein cytundeb ni, ac nid gyda chytundeb y Llywodraeth, ond gyda chytundeb y ddeddfwrfa hon, oherwydd byddai'n rhaid i unrhyw gynnig i rewi pwerau gael ei gytuno gennym ni a'i gyflwyno ar lawr y Cynulliad yn y fan yma. Dywedodd nad oedd yn ein helpu ni i wrthsefyll y cytundeb ymadael, ond nid yw'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r UE yn unrhyw amddiffyniad yn erbyn y cytundeb ymadael. Nid yw'n gweithredu yn y maes hwnnw.
Cyfeiriodd at Sewel, a bûm yn gweithio'n agos gyda Gweinidog yr Alban ar y Cydbwyllgor Gweinidogion i geisio cael Llywodraeth y DU i ailystyried Sewel a dod o hyd i ffordd fwy boddhaol o ymwreiddio'r camau amddiffyn y mae'n eu darparu. Ond, fel y dywedodd Mick Antoniw, cyn belled ag y mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn y cwestiwn, mae'n ymestyn Sewel. Mae'n gwneud pleidlais ar wahân yn Nhŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi yn ofynnol, ac nid dim ond pleidlais ar wahân yn y ddau Dŷ, ond bydd y deddfwrfeydd hynny sy'n gwneud y penderfyniad hwnnw, am y tro cyntaf, yn cael ystyriaeth annibynnol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru o'n safbwynt ni ar y mater y maen nhw'n ei ddatrys.
Ac o ran y Goruchaf Lys, rwy'n cytuno â'r hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei ddweud yn y fan yma ar y mater hwn—sef mai'r risg o ran y Goruchaf Lys yn yr Alban yw ei bod yn cael ei gadael heb Ddeddf ac heb gytundeb rhynglywodraethol, ond rydym ni wedi llwyddo i lunio cytundeb rhynglywodraethol nad yw'n dibynnu ar achos y Goruchaf Lys o gwbl. Dyna pam yr ydym ni'n dod yn ôl gerbron y Cynulliad y prynhawn yma.
Rwyf am ei ddweud unwaith eto—rwy'n ei ddweud bob tro—. Dechreuodd Dai Lloyd drwy ddweud bod y cytundeb rhynglywodraethol yn caniatáu i bwerau mewn 26 o feysydd gael eu rhewi, a'u bod eisoes wedi mynd. Nawr, nid oes unrhyw ran o hynny'n gywir. Nid yw'r un pŵer wedi gadael y Cynulliad hwn. Mae pob un o'r pwerau ar y rhestr honno o 26 yma o hyd. Nid oes yr un o'r meysydd hynny wedi'u rhewi, nid oes yr un o'r meysydd hynny wedi gadael awdurdodaeth y Cynulliad Cenedlaethol hwn, ac mae'r risg y bydd hynny'n digwydd—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Ar y pwynt hwnnw, petawn i'n dewis ar hap un o'r 26—labelu bwyd dyweder neu gynllunio ar gyfer sylweddau peryglus sydd wedi dod yma o Frwsel bob amser—felly, yfory, gallech chi benderfynu deddfu ar hynny, allech chi, neu a yw wedi ei rewi ac ni allech chi wneud dim yn ei gylch?
Na, gadewch imi egluro oherwydd rwyf wir yn credu bod yn rhaid imi fod yn glir ynglŷn â beth yw'r sefyllfa. Heddiw rydym ni'n parhau i fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd, felly ni allem ni ddeddfu yfory oherwydd ein bod yn rhan o lyfr rheolau Ewropeaidd cyffredin. Mae eich plaid chi, fel y byddwn i fy hun eisiau ei ddweud, yn credu y byddwn ni'n well ein byd pe byddem ni'n aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Pe byddai'r pwerau hynny yn cael eu rhewi, ac nid ydyn nhw wedi eu rhewi yn y maes hwnnw nac unrhyw un o'r 26, y cwbl y byddai'r holl rewi hwnnw yn ei wneud fyddai gwarantu y byddai'r llyfr rheolau presennol yn parhau. Dyna mae rhewi yn ei olygu. Mae'n golygu y bydd y trefniadau presennol—y trefniadau yr ydym ni i gyd yn eu cefnogi yn rhan o'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd—yn parhau ar waith hyd nes y cytunir ar rywbeth arall i gymryd eu lle. Ac ni allai unrhyw beth arall gymryd eu lle oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn cytuno ar hynny. Dyna pam nad yw'r pryderon yr oedd Dai yn eu hailadrodd y prynhawn yma ynghylch pwerau yn mynd o'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyd-fynd â'r ffeithiau. Nid oes unrhyw beth wedi mynd. Maen nhw'n aros yma fel y maen nhw wedi ei wneud erioed, yn cael eu harfer fel y maen nhw'n awr, ac wedi eu harfer ers dechrau'r Cynulliad drwy'r llyfr rheolau Ewropeaidd cyffredin. [Torri ar draws.]
Rwy'n sylweddoli bod y cloc yn ein herbyn ni, ond diolch ichi am dderbyn ymyriad. Onid y realiti yw, fodd bynnag, ein bod ni ar ddechrau cyfnod hirfaith o saith, wyth mlynedd, pryd y bydd newid Llywodraeth ar lefel y DU, newid Llywodraeth yma, a gallai cytundebau rhynglywodraethol anstatudol fod yn y pen draw yn ddiwerth yng nghyd-destun y gwahanol safbwyntiau a'r gwahanol berthnasoedd? Rydych yn amlwg yn credu bod gennych chi berthynas dda â'r bobl yr ydych chi wedi bod yn negodi gyda nhw. Efallai nad yw hynny bob amser yn wir.
Llywydd, ni all llywodraethau weithredu ar y sail honno. Mae'n rhaid i lywodraethau weithredu ar y sail bod cytundeb a gytunwyd gyda Llywodraeth yn gytundeb sy'n parhau i gael ei hanrhydeddu. Dyna pam y cafodd y fframwaith cyllidol ei negodi'n llwyddiannus gyda gwahanol Lywodraethau'r DU—Llywodraethau Llafur, Llywodraethau Ceidwadol—dros 20 mlynedd. Mae'r pethau hynny yn cael eu hanrhydeddu wrth i lywodraethau newid o un i'r llall, nes ichi gyrraedd pwynt pan gaiff ei ail-negodi gan y ddwy ochr. Ni allwch, fel llywodraethau, weithredu ar y sail na allwch chi ymddiried yn y person yr ydych chi newydd ddod i gytundeb ag ef.
Gadewch imi ddiweddu, felly, Llywydd, os caf i, drwy ddiolch i Jane Hutt a Mick Antoniw am yr hyn y maen nhw wedi ei ddweud, gan bwysleisio pwysigrwydd y cytundeb rhynglywodraethol, egluro'r hyn y mae gwrthdroi'r cymal 11 gwreiddiol 1 yn ei ddangos a dweud ein bod ni wedi cyrraedd pwynt lle nad yw'r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd, er mor hanfodol bwysig oedd hi pan y'i cytunwyd hi, o fudd bellach. Nawr yw'r amser i'w diddymu oherwydd dyna fyddai orau i les Cymru.
Y cwestiwn yw y dylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem felly tan y cyfnod pleidleisio.