Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Fy ail flaenoriaeth yw lleihau ein dibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwyddau ffosil. Fis diwethaf, cyhoeddodd y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd adroddiad deifiol ar effeithiau cynhesu byd-eang. I gyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5 gradd, mae'r IPCC yn argymell uwchraddio cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn gyflym i ddarparu oddeutu 85 y cant o drydan y byd erbyn 2050. Mae'r adroddiad yn awgrymu system a arweinir gan ynni adnewyddadwy, wedi ei chefnogi gan danwyddau ffosil a niwclear gyda phroses dal a storio carbon. Byddai dal a storio carbon yn caniatáu i nwy gynhyrchu oddeutu 8 y cant o drydan yn fyd-eang i ddarparu sylfaen llwyth hyblyg a sicrhau bod cyflenwadau yn ddiogel.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid inni newid ein system ynni. Nid ydym ni'n mynd i greu newid ar y raddfa sydd ei hangen heb benderfyniadau anodd a fyddai'n effeithio ar gymunedau yng Nghymru. Y llynedd, gosodais dargedau adnewyddadwy heriol ond realistig. Bydd y rhain yn ein helpu ni i ddatgarboneiddio ein system ynni, lleihau costau tymor hir a darparu mwy o fanteision i Gymru. Rydym ni eisoes yn camu ymlaen yn dda tuag at y targedau hyn. Rwyf newydd gyhoeddi adroddiad 'Cynhyrchu ynni yng Nghymru' wedi'i ddiweddaru gyda ffigurau i ddiwedd 2017. Mae'r adroddiad yn dangos y cynhyrchwyd trydan sy'n cyfateb i 48 y cant o ddefnydd Cymru o ynni adnewyddadwy; roedd 529 MW o'n capasiti trydan adnewyddadwy ym meddiant cyflenwyr lleol, sy'n golygu bod elw'r cynhyrchu hwn wedi aros yng Nghymru. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd da tuag at ein targedau o 70 y cant o'r defnydd o drydan o ynni adnewyddadwy ac 1 GW o gynhyrchu gan gyflenwyr lleol erbyn 2030.
Mae'n rhaid i gynhyrchu newydd ddarparu manteision digonol i gyfiawnhau sefyllfa lle bydd Cymru yn ei gynnal, ac mae hyn yn ymwneud â'm trydedd blaenoriaeth; hybu newid ynni i sicrhau'r manteision gorau posibl i Gymru. Rwy'n disgwyl i bob prosiect ynni adnewyddadwy newydd yng Nghymru gynnwys o leiaf un elfen o berchnogaeth leol, i gadw cyfoeth a darparu manteision gwirioneddol i gymunedau. Cyhoeddir ein hymateb i'r alwad am dystiolaeth ar berchnogaeth leol yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. Fe fyddwn ni'n cymryd camau i gynyddu'r enghreifftiau o gadw buddiant yng Nghymru. Gobeithiaf pan fydd gan bobl fwy o berchenogaeth o gynhyrchu, y bydd y ddeialog ynghylch ynni adnewyddadwy yn newid o, 'A ydym ni eisiau hyn?' i 'Beth sydd ei angen arnom ni a ble byddwn ni'n ei roi?'
Mae gennym ni hefyd gyfle nawr i ddatblygu a thyfu ein diwydiant ynni morol arloesol ein hunain, a allai helpu eraill ledled y byd i leihau tanwyddau ffosil. Mae ynni morol yn gyfle mawr i allforio. Rydym ni wedi buddsoddi mewn technolegau morol, ac mae'n rhaid i Lywodraeth y DU ddarparu cyfundrefnau ariannol cefnogol ar gyfer y technolegau sy'n dod i'r amlwg ond na allant gystadlu ar bris yn unig gyda'r technolegau sefydledig. Mae'r sector gwynt ar y môr yn enghraifft o gyllido cyfnod cynnar gan y DU yn ystod datblygu, yn arwain at gynhyrchu ynni cost-effeithiol a chynaliadwy. Gobeithiaf y gallwn ganfod safleoedd newydd oddi ar arfordir Cymru ar gyfer ynni o wynt ar y môr i gyfrannu at ein targedau.
Dylid dilyn yr enghraifft hon nawr ar gyfer y sector morol. Collodd y DU y cyfle i fod yn arweinydd byd-eang ym maes ynni o wynt ar y môr. Ni allwn fforddio i'r un peth ddigwydd i'n diwydiant ynni tonnau ac ynni llanw. Pa faint bynnag o ynni adnewyddadwy y byddwn yn ei gynhyrchu, mae'n rhaid inni hefyd gael gwared ar gynhyrchu tanwydd ffosil o'r system ynni i leihau allyriadau. Mae'r adroddiad ar gynhyrchu ynni newydd hefyd yn dangos bod Cymru wedi cynhyrchu mwy na dwywaith y trydan a ddefnyddiwyd y llynedd. Rhwng 1990 a 2016, cynyddodd ein hallyriadau o'r sector pŵer gan 44 y cant, wrth i allyriadau cyffredinol y DU o'r sector leihau gan 60 y cant. Rydym ni'n cynnal 19 y cant o gynhyrchu trydan drwy nwy yn y DU, ffactor allweddol yn y cynnydd hwn. Mae angen inni ystyried pa un a ydym yn fodlon cynnal mwy o gynhyrchu trydan drwy nwy yng Nghymru ac, os felly, sut gallwn ni sicrhau ei fod yn gydnaws â dal a storio carbon. Rwy'n awyddus i glywed barn yr Aelodau ynghylch pa un a ddylai Cymru gynhyrchu trydan ar gyfer ein hanghenion ni yn unig, neu a ddylem ni barhau i fod yn allforiwr net.
Yn rhan o'n gwaith i leihau allyriadau, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn glir ein gwrthwynebiad i ffracio. Rwyf i'n benderfynol o ddefnyddio pob dull posibl i sicrhau na cheir ffracio yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gwrthwynebiad cryf i gyflwyno trwyddedau petrolewm newydd neu roi caniatâd ar gyfer ffracio ac mae'n cynnwys hefyd cyflwyno polisi cynllunio llawer mwy cadarn. Gosododd yr ymgynghoriad diweddar ar echdynnu petrolewm ein safbwynt a ffefrir. Byddaf yn cadarnhau ein safbwynt polisi ac yn ymateb i'r ymgynghoriad cyn diwedd y flwyddyn.
Mae angen inni hefyd ystyried swyddogaeth ynni niwclear. Os bydd Llywodraeth y DU yn cydsynio i safle niwclear newydd yng Nghymru, hwn fydd y buddsoddiad unigol mwyaf yng Nghymru mewn cenhedlaeth, a'n blaenoriaeth ni yw sicrhau etifeddiaeth gadarnhaol a pharhaol ar gyfer y gogledd. Mae'n rhaid inni hefyd sicrhau ein bod ni'n diogelu cymunedau lleol a'r amgylchedd.
Yn ogystal â'r defnydd presennol o drydan, mae angen inni ystyried effaith datgarboneiddio trafnidiaeth a gwres. Ar hyn o bryd, prynir tua 2.5 miliwn o gerbydau isel iawn eu hallyriadau bob blwyddyn yn y DU. Gallai fod cynifer â 11 miliwn o gerbydau trydan erbyn 2030. Byddai gwefru cerbydau trydan yn y cartref yn dyblu'r defnydd o drydan yn y cartref hwnnw. Bydd angen buddsoddiad sylweddol mewn ynni adnewyddadwy a seilwaith i ddiwallu'r galw cynyddol hwn, ac mae arnom ni angen eglurder ynghylch pa seilwaith sydd ei angen a ble y dylai fod.
Fel y cytunwyd gyda Phlaid Cymru, rwyf wedi ymrwymo i gyllido atlas ynni, ac yn ddiweddar fe wnaethom gytuno ar ein dull o weithredu, i gynnig cymorth ar gyfer cynllunio ynni lleol a rhanbarthol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd o ran ynni o fewn bargeinion dinesig a thwf ledled Cymru. Mae hyn yn cyflawni fy nhrydedd flaenoriaeth o hybu newid ynni i sicrhau'r manteision gorau posibl i Gymru. Bydd cynllunio system ynni yn gyfan gwbl ranbarthol yn ein helpu ni i ddeall lle mae angen mwy o gynhyrchu carbon isel a pha ran o'n seilwaith ynni sydd angen buddsoddiad. Rydym ni'n gweithio gyda darparwyr rhwydwaith ar hyn, oherwydd pan fyddan nhw'n sicr o ble mae angen grid newydd, fe allan nhw gynnwys hyn yn eu cynlluniau buddsoddi. Drwy roi Cymru ar flaen y gad o ran ynni sy'n esblygu, rydym ni'n creu arddangoswyr i annog academyddion a busnesau i ddatblygu prosesau a systemau technolegol newydd. Rydym ni'n denu cyllid gan yr UE a ffynonellau eraill i helpu i gyflawni ein gweledigaeth o system ynni carbon isel, effeithlon.
Mae'r Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol yn newid y ffordd yr ydym ni'n darparu adeiladau. Maen nhw wedi datblygu nifer o adeiladau cadarnhaol o ran ynni, gan gynnwys y dosbarth ysgol actif ar gampws Bae Abertawe a thŷ SOLCER yn Stormy Down. Rydym hefyd yn cefnogi cynnig dan arweiniad Prifysgol Abertawe i sefydlu canolfan adeiladau ynni gweithredol yng Nghymru. Bydd hon yn ganolfan dan arweiniad y diwydiant i gyflymu cyflwyno adeiladau ynni gweithredol. Mae rhaglen dai arloesol Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfle arall i ddatblygu adeiladau prawf o gysyniad. Drwy wneud hyn ar raddfa eang, byddwn ni'n mynd i'r afael â'r ansicrwydd ynghylch pa un a fydd hi'n ddrytach adeiladu cartrefi effeithlon. Mae technolegau arloesol angen modelau busnes newydd a newidiadau i reoleiddio. Maen nhw hefyd yn newid y ffordd yr ydym ni'n byw ac yn gweithio mewn adeiladau. Mae modelau newydd yn dod i'r amlwg, gan ymchwilio i ddulliau newydd o effeithlonrwydd, cynhyrchu, defnyddio a storio ynni. Mae'r holl fentrau hyn yn ein helpu ni i sicrhau y daw gwerth i Gymru wrth newid i system ynni carbon isel.
Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth ynghylch maint yr her y mae datgarboneiddio yn ei gynnig, na'r ansicrwydd ynghylch sut y byddwn ni'n llwyddo. Nid oes un ateb penodol nac un dechnoleg a fydd yn sicrhau cyflawni ein targedau allyriadau carbon. O ystyried maint yr her, bydd angen inni archwilio pob llwybr. Mae gan Gymru gyfres uchel ei pharch yn rhyngwladol o ymchwil arloesol a rhaglenni datblygu i'n helpu ni i wneud hynny. Felly, rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at glywed barn yr holl Aelodau ynghylch y cyfeiriad ar gyfer Cymru carbon isel a ffyniannus.