9. Dadl: Sut rydym yn cyflawni system ynni carbon isel i Gymru?

– Senedd Cymru ar 20 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Neil McEvoy, gwelliannau 2 a 3 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 4 a 5 yn enw Rhun ap Iorwerth. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:13, 20 Tachwedd 2018

Yr eitem nesaf yw eitem 9, y ddadl ar sut rydym yn cyflawni system ynni carbon isel i Gymru. Rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths. 

Cynnig NDM6866 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Adroddiad 2017 Cynhyrchu Ynni yng Nghymru, a gyhoeddwyd ar 13 Tachwedd 2018.

2. Yn nodi bod angen mynd ati ar frys i ddatgarboneiddio’r system ynni yng Nghymru er mwyn cyflawni’r targed a nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 o leihau allyriadau carbon 80 y cant, gan wneud y canlynol:

a) cyflwyno gwaith cynllunio systemau ynni cyflawn a rhanbarthol er mwyn cefnogi economi carbon isel;

b) cydnabod y posibiliadau sydd ynghlwm wrth wahanol dechnolegau cynhyrchu ynni, a hefyd yr angen am atebion clyfar i gydbwyso’r gwaith o gynhyrchu ynni â’r galw amdano;

c) cyflymu’r broses o ddatblygu ynni carbon isel, lle y mae’n fanteisiol i Gymru, gan gydnabod yr hinsawdd heriol presennol o ran buddsoddiad; a

d) datblygu ymhellach y grid yng Nghymru fel rhan o gynlluniau ar gyfer lleoliadau penodol.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 6:13, 20 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwyf yn falch o gyflwyno'r ddadl hon i'r cyfarfod llawn i ystyried y rhan y dylai Cymru ei chwarae yn y dyfodol yn system ynni'r DU a byd-eang, gan ysgogi trafodaeth ynglŷn â dyfodol ynni yng Nghymru. Mae hwn yn gyfnod heriol o ystyried yr ansicrwydd ynghylch ynni mewn byd ôl-Brexit. Yr hyn sy'n sicr yw'r angen i ddatgarboneiddio. Yng Nghymru, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yw ein cyfrwng deddfwriaethol sy'n gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Fis nesaf, byddaf yn gofyn i'r Cynulliad gymeradwyo ein targedau allyriadau dros dro hyd 2050 a'n dwy gyllideb garbon gyntaf. Ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf, fe fyddwn ni'n cyhoeddi ein cynllun cyflenwi carbon isel cyntaf ar gyfer Cymru.

Rwyf yn gweithio ar draws y Llywodraeth gyda'm cyd-Aelodau yn y Cabinet drwy'r grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol a gorffen ar ddatgarboneiddio i ddarparu datgarboneiddio ar draws ein holl bortffolios. Yn amlwg mae'n rhaid i bob un ohonom ni weithredu ar y newid yn yr hinsawdd yn awr, ac rwy'n galw ar y Cynulliad i gefnogi ein hymdrechion i leihau allyriadau carbon. Mae hyn hefyd yn cyflawni'r blaenoriaethau a nodais yn fy natganiad ar ynni ym mis Medi 2016.

Fy mlaenoriaeth gyntaf yw defnyddio ynni'n fwy effeithlon yng Nghymru. Gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi teuluoedd incwm isel yw'r ffordd fwyaf effeithiol i ni drechu tlodi tanwydd, gan leihau allyriadau niweidiol i'r amgylchedd ar yr un pryd. Rydym ni'n buddsoddi £104 miliwn yn ymgyrch Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod 2017 i 2021. Bydd hyn yn ein galluogi ni i wella 25,000 o gartrefi ychwanegol. Mae ein gwasanaeth ynni yn Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £55 miliwn o fenthyciadau di-log ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru dros y tair blynedd diwethaf, gan gefnogi uchelgais ar gyfer sector cyhoeddus carbon niwtral. Mae angen inni hefyd sicrhau nad yw adeiladau newydd yn ychwanegu at yr her ôl-osod. Rydym ni ar hyn o bryd yn cwmpasu'r testunau a fydd yn yr adolygiad o reoliadau adeiladu ac rydym ni'n disgwyl cael ymgynghoriad cyhoeddus yn y gwanwyn.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 6:15, 20 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Fy ail flaenoriaeth yw lleihau ein dibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwyddau ffosil. Fis diwethaf, cyhoeddodd y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd adroddiad deifiol ar effeithiau cynhesu byd-eang. I gyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5 gradd, mae'r IPCC yn argymell uwchraddio cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn gyflym i ddarparu oddeutu 85 y cant o drydan y byd erbyn 2050. Mae'r adroddiad yn awgrymu system a arweinir gan ynni adnewyddadwy, wedi ei chefnogi gan danwyddau ffosil a niwclear gyda phroses dal a storio carbon. Byddai dal a storio carbon yn caniatáu i nwy gynhyrchu oddeutu 8 y cant o drydan yn fyd-eang i ddarparu sylfaen llwyth hyblyg a sicrhau bod cyflenwadau yn ddiogel.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid inni newid ein system ynni. Nid ydym ni'n mynd i greu newid ar y raddfa sydd ei hangen heb benderfyniadau anodd a fyddai'n effeithio ar gymunedau yng Nghymru. Y llynedd, gosodais dargedau adnewyddadwy heriol ond realistig. Bydd y rhain yn ein helpu ni i ddatgarboneiddio ein system ynni, lleihau costau tymor hir a darparu mwy o fanteision i Gymru. Rydym ni eisoes yn camu ymlaen yn dda tuag at y targedau hyn. Rwyf newydd gyhoeddi adroddiad 'Cynhyrchu ynni yng Nghymru' wedi'i ddiweddaru gyda ffigurau i ddiwedd 2017. Mae'r adroddiad yn dangos y cynhyrchwyd trydan sy'n cyfateb i 48 y cant o ddefnydd Cymru o ynni adnewyddadwy; roedd 529 MW o'n capasiti trydan adnewyddadwy ym meddiant cyflenwyr lleol, sy'n golygu bod elw'r cynhyrchu hwn wedi aros yng Nghymru. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd da tuag at ein targedau o 70 y cant o'r defnydd o drydan o ynni adnewyddadwy ac 1 GW o gynhyrchu gan gyflenwyr lleol erbyn 2030.

Mae'n rhaid i gynhyrchu newydd ddarparu manteision digonol i gyfiawnhau sefyllfa lle bydd Cymru yn ei gynnal, ac mae hyn yn ymwneud â'm trydedd blaenoriaeth; hybu newid ynni i sicrhau'r manteision gorau posibl i Gymru. Rwy'n disgwyl i bob prosiect ynni adnewyddadwy newydd yng Nghymru gynnwys o leiaf un elfen o berchnogaeth leol, i gadw cyfoeth a darparu manteision gwirioneddol i gymunedau. Cyhoeddir ein hymateb i'r alwad am dystiolaeth ar berchnogaeth leol yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. Fe fyddwn ni'n cymryd camau i gynyddu'r enghreifftiau o gadw buddiant yng Nghymru. Gobeithiaf pan fydd gan bobl fwy o berchenogaeth o gynhyrchu, y bydd y ddeialog ynghylch ynni adnewyddadwy yn newid o, 'A ydym ni eisiau hyn?' i 'Beth sydd ei angen arnom ni a ble byddwn ni'n ei roi?'

Mae gennym ni hefyd gyfle nawr i ddatblygu a thyfu ein diwydiant ynni morol arloesol ein hunain, a allai helpu eraill ledled y byd i leihau tanwyddau ffosil. Mae ynni morol yn gyfle mawr i allforio. Rydym ni wedi buddsoddi mewn technolegau morol, ac mae'n rhaid i Lywodraeth y DU ddarparu cyfundrefnau ariannol cefnogol ar gyfer y technolegau sy'n dod i'r amlwg ond na allant gystadlu ar bris yn unig gyda'r technolegau sefydledig. Mae'r sector gwynt ar y môr yn enghraifft o gyllido cyfnod cynnar gan y DU yn ystod datblygu, yn arwain at gynhyrchu ynni cost-effeithiol a chynaliadwy. Gobeithiaf y gallwn ganfod safleoedd newydd oddi ar arfordir Cymru ar gyfer ynni o wynt ar y môr i gyfrannu at ein targedau.

Dylid dilyn yr enghraifft hon nawr ar gyfer y sector morol. Collodd y DU y cyfle i fod yn arweinydd byd-eang ym maes ynni o wynt ar y môr. Ni allwn fforddio i'r un peth ddigwydd i'n diwydiant ynni tonnau ac ynni llanw. Pa faint bynnag o ynni adnewyddadwy y byddwn yn ei gynhyrchu, mae'n rhaid inni hefyd gael gwared ar gynhyrchu tanwydd ffosil o'r system ynni i leihau allyriadau. Mae'r adroddiad ar gynhyrchu ynni newydd hefyd yn dangos bod Cymru wedi cynhyrchu mwy na dwywaith y trydan a ddefnyddiwyd y llynedd. Rhwng 1990 a 2016, cynyddodd ein hallyriadau o'r sector pŵer gan 44 y cant, wrth i allyriadau cyffredinol y DU o'r sector leihau gan 60 y cant. Rydym ni'n cynnal 19 y cant o gynhyrchu trydan drwy nwy yn y DU, ffactor allweddol yn y cynnydd hwn. Mae angen inni ystyried pa un a ydym yn fodlon cynnal mwy o gynhyrchu trydan drwy nwy yng Nghymru ac, os felly, sut gallwn ni sicrhau ei fod yn gydnaws â dal a storio carbon. Rwy'n awyddus i glywed barn yr Aelodau ynghylch pa un a ddylai Cymru gynhyrchu trydan ar gyfer ein hanghenion ni yn unig, neu a ddylem ni barhau i fod yn allforiwr net.

Yn rhan o'n gwaith i leihau allyriadau, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn glir ein gwrthwynebiad i ffracio. Rwyf i'n benderfynol o ddefnyddio pob dull posibl i sicrhau na cheir ffracio yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gwrthwynebiad cryf i gyflwyno trwyddedau petrolewm newydd neu roi caniatâd ar gyfer ffracio ac mae'n cynnwys hefyd cyflwyno polisi cynllunio llawer mwy cadarn. Gosododd yr ymgynghoriad diweddar ar echdynnu petrolewm ein safbwynt a ffefrir. Byddaf yn cadarnhau ein safbwynt polisi ac yn ymateb i'r ymgynghoriad cyn diwedd y flwyddyn.

Mae angen inni hefyd ystyried swyddogaeth ynni niwclear. Os bydd Llywodraeth y DU yn cydsynio i safle niwclear newydd yng Nghymru, hwn fydd y buddsoddiad unigol mwyaf yng Nghymru mewn cenhedlaeth, a'n blaenoriaeth ni yw sicrhau etifeddiaeth gadarnhaol a pharhaol ar gyfer y gogledd. Mae'n rhaid inni hefyd sicrhau ein bod ni'n diogelu cymunedau lleol a'r amgylchedd.

Yn ogystal â'r defnydd presennol o drydan, mae angen inni ystyried effaith datgarboneiddio trafnidiaeth a gwres. Ar hyn o bryd, prynir tua 2.5 miliwn o gerbydau isel iawn eu hallyriadau bob blwyddyn yn y DU. Gallai fod cynifer â 11 miliwn o gerbydau trydan erbyn 2030. Byddai gwefru cerbydau trydan yn y cartref yn dyblu'r defnydd o drydan yn y cartref hwnnw. Bydd angen buddsoddiad sylweddol mewn ynni adnewyddadwy a seilwaith i ddiwallu'r galw cynyddol hwn, ac mae arnom ni angen eglurder ynghylch pa seilwaith sydd ei angen a ble y dylai fod.

Fel y cytunwyd gyda Phlaid Cymru, rwyf wedi ymrwymo i gyllido atlas ynni, ac yn ddiweddar fe wnaethom gytuno ar ein dull o weithredu, i gynnig cymorth ar gyfer cynllunio ynni lleol a rhanbarthol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd o ran ynni o fewn bargeinion dinesig a thwf ledled Cymru. Mae hyn yn cyflawni fy nhrydedd flaenoriaeth o hybu newid ynni i sicrhau'r manteision gorau posibl i Gymru. Bydd cynllunio system ynni yn gyfan gwbl ranbarthol yn ein helpu ni i ddeall lle mae angen mwy o gynhyrchu carbon isel a pha ran o'n seilwaith ynni sydd angen buddsoddiad. Rydym ni'n gweithio gyda darparwyr rhwydwaith ar hyn, oherwydd pan fyddan nhw'n sicr o ble mae angen grid newydd, fe allan nhw gynnwys hyn yn eu cynlluniau buddsoddi. Drwy roi Cymru ar flaen y gad o ran ynni sy'n esblygu, rydym ni'n creu arddangoswyr i annog academyddion a busnesau i ddatblygu prosesau a systemau technolegol newydd. Rydym ni'n denu cyllid gan yr UE a ffynonellau eraill i helpu i gyflawni ein gweledigaeth o system ynni carbon isel, effeithlon.

Mae'r Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol yn newid y ffordd yr ydym ni'n darparu adeiladau. Maen nhw wedi datblygu nifer o adeiladau cadarnhaol o ran ynni, gan gynnwys y dosbarth ysgol actif ar gampws Bae Abertawe a thŷ SOLCER yn Stormy Down. Rydym hefyd yn cefnogi cynnig dan arweiniad Prifysgol Abertawe i sefydlu canolfan adeiladau ynni gweithredol yng Nghymru. Bydd hon yn ganolfan dan arweiniad y diwydiant i gyflymu cyflwyno adeiladau ynni gweithredol. Mae rhaglen dai arloesol Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfle arall i ddatblygu adeiladau prawf o gysyniad. Drwy wneud hyn ar raddfa eang, byddwn ni'n mynd i'r afael â'r ansicrwydd ynghylch pa un a fydd hi'n ddrytach adeiladu cartrefi effeithlon. Mae technolegau arloesol angen modelau busnes newydd a newidiadau i reoleiddio. Maen nhw hefyd yn newid y ffordd yr ydym ni'n byw ac yn gweithio mewn adeiladau. Mae modelau newydd yn dod i'r amlwg, gan ymchwilio i ddulliau newydd o effeithlonrwydd, cynhyrchu, defnyddio a storio ynni. Mae'r holl fentrau hyn yn ein helpu ni i sicrhau y daw gwerth i Gymru wrth newid i system ynni carbon isel.

Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth ynghylch maint yr her y mae datgarboneiddio yn ei gynnig, na'r ansicrwydd ynghylch sut y byddwn ni'n llwyddo. Nid oes un ateb penodol nac un dechnoleg a fydd yn sicrhau cyflawni ein targedau allyriadau carbon. O ystyried maint yr her, bydd angen inni archwilio pob llwybr. Mae gan Gymru gyfres uchel ei pharch yn rhyngwladol o ymchwil arloesol a rhaglenni datblygu i'n helpu ni i wneud hynny. Felly, rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at glywed barn yr holl Aelodau ynghylch y cyfeiriad ar gyfer Cymru carbon isel a ffyniannus.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:24, 20 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwyf wedi dethol y pum gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Neil McEvoy i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ei enw ef — Neil McEvoy.

Gwelliant 1—Neil McEvoy

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu defnyddio ynni niwclear fel ffordd o gyflawni system ynni carbon isel.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Independent 6:24, 20 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ar 24 Hydref, fi oedd yr unig Aelod Cynulliad a bleidleisiodd i wrthwynebu ynni niwclear yng Nghymru. Yr oedd hynny'n hollol anhygoel o ystyried faint o wrthwynebiad sydd i ynni niwclear ymhlith y cyhoedd ac ymhlith gwleidyddion eraill yn ôl y sôn. Pe byddai ef yma, fe fyddwn i'n dweud wrth yr ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yr honnir iddo fod yn wrth-niwclear, yr AC dros Orllewin Caerdydd, a bleidleisiodd i waredu llaid niwclear yng Nghymru, ac na wrthwynebodd ynni niwclear y tro diwethaf, 'Dyma gyfle i wrthod ynni niwclear a'i gofnodi.' Mae'r un peth yn wir am yr AC Llafur dros Ganol Caerdydd, nad yw hi yma ychwaith. Mae hi'n honni ei bod yn amgylcheddwr gwrth-niwclear, ond dywedodd mai'r dyfroedd y tu allan i Gaerdydd oedd y lleoliadau i fynd iddyn nhw i waredu llaid a gloddiwyd o du allan i orsaf ynni niwclear Hinkley Point. Rwy'n gweld hyn yn syfrdanol. Fe wrthododd yr AC dros Ganol Caerdydd wrthwynebu ynni niwclear y tro diwethaf hefyd. Wel, nid yw'r AC wedi'i chyfyngu gan y chwip y tro hwn, felly efallai—efallai—y bydd hi'n pleidleisio yn erbyn ynni niwclear.

Mae'r rhai nad ydyn nhw'n gwrthwynebu ynni niwclear yn cyfiawnhau hynny drwy'r ffaith nad yw ynni wedi'i ddatganoli yma—nid yw wedi'i ddatganoli i'r Cynulliad hwn. Wel, nid yw'r ffaith bod mater heb ei ddatganoli yn golygu na ddylem ni gael safbwynt ar y mater. I'r gwrthwyneb yn wir, i'r gwrthwyneb. Rydym ni'n dadlau ynghylch Brexit, ond eto nid oes gennym ni'r pŵer yn y fan yma i ymdrin â'r cawlach y mae'r Ceidwadwyr wedi ei wneud ohono. Nid ydym ni yma i eistedd yn ôl a gadael i'r Llywodraeth Geidwadol yn Lloegr waredu beth bynnag y maen nhw'n ei ddymuno arnom ni. Os ydym ni am ennill rhywfaint o barch, yna mae'n rhaid inni godi helynt a dweud 'na', er lles cenedlaethol Cymru. Felly, dyna pam, heddiw, y mae gennym ni welliant newydd yr wyf i wedi ei gyflwyno, y tro hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu'r defnydd o ynni niwclear fel modd o gyflawni system ynni carbon isel. Nid yw ynni niwclear yn garbon isel. Nid yw'n gynaliadwy. Mae'r gost garbon yn llawer uwch nag ar gyfer ynni adnewyddadwy. Bydd gorsafoedd ynni niwclear yn cynhyrchu cymaint o garbon â gorsafoedd nwy yn y dyfodol. Rwy'n credu ei bod yn werth dweud hynny oherwydd nid wyf i'n credu bod llawer o bobl yn sylweddoli y bydd gorsafoedd ynni niwclear yn cynhyrchu cymaint o garbon â gorsafoedd nwy yn y dyfodol. Y rheswm dros hynny yw bod gradd wraniwm yn gostwng.

Rydym ni'n wlad sydd wedi ei bendithio ag adnoddau naturiol: dŵr, gwynt, llanw a hyd yn oed ychydig o haul, weithiau. Pam na ddefnyddiwn ni'r adnoddau naturiol hynny a pheidio â mewnforio wraniwm, cynhyrchu gwastraff niwclear a pheryglu dyfodol Cymru ac iechyd ein pobl? Mae ymchwil gan Lywodraeth Ffederal yr Almaen yn dangos bod cyfraddau canser yn cynyddu o amgylch gorsafoedd ynni niwclear, a dyna un o'r rhesymau pam maen nhw'n cael eu diddymu'n raddol yn yr Almaen.

Nawr, os yw'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru o ddifrif ynghylch cyflawni system ynni carbon isel, yna mae'n rhaid inni wrthwynebu ynni niwclear ac anfon neges glir at y Ceidwadwyr yn Lloegr i gadw eu hadweithyddion allan o'n gwlad. Cefnogwch y gwelliant a gwrthwynebwch ynni niwclear yng Nghymru. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:28, 20 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf i alw ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar?

Gwelliant 2—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod pwysigrwydd Wylfa Newydd i ddarparu cymysgedd ynni cynaliadwy tymor hir yng Nghymru ac yn cymeradwyo sylwadau'r Prif Weinidog ynghylch potensial trawsnewidiol y datblygiad seilwaith ynni mawr hwn i economi Gogledd Cymru.

Gwelliant 3—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau cymorth cymunedol pan yn cynllunio prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr ac yn gresynu at ymyrraeth Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â datblygu Fferm Wynt Hendy nad yw'n parchu'r egwyddor bwysig hon ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y penderfyniad hwn.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 6:28, 20 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf gynnig y ddau welliant yn enw Darren Millar y prynhawn yma. O ran sylwadau cyffredinol y ddadl, mae'n dda o beth ein bod ni'n trafod y materion hyn. Un peth sydd gan Gymru ddigonedd ohono yw adnoddau naturiol a phe byddem ni'n eu defnyddio nhw'n gywir, gallen nhw helpu ôl troed ynni, nid yn unig yng Nghymru, ond yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Fe wnes i nodi bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud bod hwnnw yn gwestiwn y dylem ni ei ofyn i ni'n hunain: a ddylem ni allforio ein hynni neu a ddylem ni fod yn cynhyrchu digon ar gyfer Cymru fel gwlad? Fe fyddwn i'n dadlau ein bod ni mewn sefyllfa dda i helpu gweddill y Deyrnas Unedig fodloni ei gofynion ynni. Yn wir, fe fyddai'n ddymunol iawn inni wneud hynny, gyda'r amrywiaeth o ddulliau cynhyrchu ynni y gallem eu defnyddio'n well.

Gan gyfeirio at y ddau welliant, os caf i, mae'n amlwg bod y cynnig Wylfa Newydd ar Ynys Môn yn gynnig cyffrous a deinamig sydd wedi bod ar y gweill ers blynyddoedd lawer bellach, ac sydd, diolch byth yn ymddangos fel petai'n dechrau dwyn ffrwyth ac yn dod i gyfnod olaf y daith. Rwy'n gobeithio'n fawr iawn y bydd y grwpiau gwleidyddol yma heddiw yn cefnogi'r gwelliant sydd gerbron y Cynulliad, oherwydd ei fod yn cynnig cyfle cyffrous: cyfle y dywedodd y Prif Weinidog ei hun sy'n drawsnewidiol, nid yn unig i economi'r gogledd, ond i economi Cymru gyfan, wrth inni sôn am rhwng 8,000 a 10,000 o swyddi yn ystod y prif gyfnod adeiladu, gyda 850 o swyddi parhaol—swyddi a fydd yn talu'n dda, hoffwn ychwanegu—ac wedi eu lleoli mewn lleoliad sydd â phersbectif hanesyddol o gynnal gorsaf niwclear, cyn i'r un newydd gael ei sefydlu. Fe dderbyniaf ymyriad yr Aelod.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 6:30, 20 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am dderbyn ymyriad. Ni fyddwn ni'n cefnogi'r gwelliant, fel y mae'n digwydd, er ei bod yn hysbys iawn fy mod i'n gweithio yn gadarnhaol iawn gyda'r datblygwyr yn Wylfa. Mae ychydig o bethau ynglŷn â'r gwelliant hwn, fe ddywedwn i, nad ydyn nhw'n gyson â'r hyn yr wyf i'n ei deimlo yn sicr. Yn y tymor hir, nid wyf yn credu mai niwclear yw'r ateb; mae'n rhaid inni fod yn glir ynghylch hynny. Mae'n rhaid inni fod yn glir ynghylch pa mor drawsnewidiol y bydd yn y tymor hir ar gyfer economi Cymru, er mor bwysig ydyw i fy etholaeth i. A hefyd, pan siaredir am gymysgedd o ynni ar gyfer Cymru, mae Wylfa yn rhan o gymysgedd ynni ar gyfer y DU, nid ar gyfer Cymru, mewn gwirionedd.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Rwy'n gweld hynna'n rhyfeddol, yr ymyriad gan yr Aelod dros Ynys Môn. Rwy'n cydnabod y gwaith y mae wedi ei wneud fel unigolyn, ond mae'n dangos yn glir ei fod wedi colli'r ddadl yn ei grŵp gwleidyddol, ac felly ni allaf weld sut, pan fo'r cyfeiriad yn y gwelliant yn eithaf clir at Wylfa Newydd yn benodol ac nid yn ehangach na hynny, na all ef fel unigolyn, ei gefnogi yn bendant, heb sôn am weddill grŵp Plaid Cymru. Roeddwn wedi tybio bod grŵp Plaid Cymru yn gefnogol i Wylfa Newydd, er iddyn nhw drafod a dadlau ynghylch materion ehangach yn ymwneud â chynhyrchu niwclear ac ynni niwclear. Yn amlwg, bydd pobl yn gweld sut bydd y grŵp yn pleidleisio heddiw a gwybod beth sy'n talu orau iddyn nhw.

O ran gwelliant 3, rwy'n credu bod hwn yn fater pwysig iawn a gafodd ei gadarnhau yn fy ngolwg i gan y trigolion o amgylch datblygiad fferm wynt Hendy, y dewisodd y Gweinidog ymyrryd ynddo ac mewn gwirionedd fe roddodd hi ganiatâd i'r datblygiad penodol hwn. Fe wnaeth y Gweinidog grybwyll cymunedau yn cael dweud eu dweud a chael rhan mewn prosiectau ynni adnewyddadwy ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, ond pan fo trigolion cymdogaeth yn canfod eu bod wedi cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, hynny yw, y system gynllunio a'u bod wedi mynd drwy'r awdurdod lleol a chael arolygydd i edrych ar y cynigion hefyd, ac ar bob achlysur yr arolygydd a'r awdurdod cynllunio yn dweud nad oedd y cais hwn yn addas i gael ei ddatblygu yn y lleoliad penodol hwn, yna bydd ymddiriedaeth trigolion yn y broses yn cael ei thanseilio. A chyflwynir y gwelliant hwn heno yn y gobaith y bydd Aelodau yn y Siambr hon yn cael eu symbylu i annog y Gweinidog i ystyried y penderfyniadau a wnaed ganddi.

Dim ond bore heddiw daeth rhai lluniau o'r lleoliad, yn dangos bod peiriannau trymion yn symud i'r safle, yn herio, byddwn i'n awgrymu, caniatâd yr awdurdod cynllunio hyd yn hyn ynghylch tir cyffredin. Fe fyddwn i'n annog yr Ysgrifennydd Cabinet, pe byddai ein gwelliant ni yn cael ei wrthod heno, i wneud ymholiadau i fodloni ei hun nad oes unrhyw waith yn digwydd ar y safle ar hyn o bryd, oherwydd mae hyn yn peri pryder aruthrol. Ond yn amlwg, rwy'n mawr obeithio y bydd ein gwelliant yn cael ei basio heno, oherwydd mewn gwirionedd mae'n cyfiawnhau'r angen i'r Gweinidog ailystyried.

Ceir agenda gyffrous a deinamig ynghylch ynni adnewyddadwy, ond nid oedd sathru dan draed ffydd trigolion lleol yn yr egwyddor o gael gwrandawiad teg, a hwythau wedi cyflwyno eu hachos a chael gwrandawiad a chefnogaeth i'r achos hwnnw, ac yna tanseilio'r achosion hynny, yn gwneud dim lles o gwbl i'r sector ynni adnewyddadwy. Rwyf yn credu'n bendant fod angen i'r Gweinidog ateb hynny wrth grynhoi prynhawn heddiw, a gobeithiaf y gwnaiff hi hynny.

Os caf i symbylu gweddill y ddadl yr ydym ni eisiau ei chyflwyno o'r ochr hon: Rydym ni'n credu'n angerddol bod Cymru mewn sefyllfa dda i chwarae ei rhan i ostwng allyriadau carbon ledled y Deyrnas Unedig. Mae gennym ni doreth naturiol o gyfleoedd i ddatblygu ynni adnewyddadwy yma. Y ddau faes sydd angen ystyriaeth sylweddol, fodd bynnag, byddwn i'n awgrymu, a dylanwad y Llywodraeth hefyd, yw cysylltiadau grid yn arbennig, oherwydd ceir llawer o brosiectau adnewyddadwy bach a allai gael eu lansio pe bydden nhw ond yn gallu cael cysylltiad grid a gallen nhw eu hunain, chwarae rhan enfawr drwy ddod at ei gilydd i godi ein niferoedd yn y maes arbennig hwn. Rwy'n credu er nad yw'n gyfrifoldeb a ddatganolwyd, petai'r Ysgrifennydd Cabinet yn ymgysylltu ag Ofgem i'w hannog i fod yn fwy rhagweithiol yma yng Nghymru, oherwydd nhw sy'n rheoleiddio, ac o ran sefydlu unedau gwres a pheiriannau, y mae'r adroddiad yn eu crybwyll, fe geir problem fawr o ran yr ôl-groniad o geisiadau cymhelliant gwres adnewyddadwy sy'n atal pobl rhag buddsoddi yn y sector penodol hwnnw. Unwaith eto, rwy'n credu bod hwn yn faes y mae angen ymdrin ag ef, gyda, gobeithio, ymyrraeth gan y Llywodraeth, i gefnogi'r sector i sicrhau bod gan bobl yr hyder i wneud y buddsoddiadau sylweddol hynny.

Ond rwyf yn gobeithio y bydd ein dau welliant yn cael eu derbyn heno. Yn enwedig yr un ynghylch Wylfa Newydd, sy'n bwriadu buddsoddi mewn cymuned sydd bron â marw o eisiau'r buddsoddiad hwnnw i greu swyddi o safon gyda chyflogau da, a'r ail welliant yr ydym wedi ei gyflwyno ynghylch fferm wynt Hendy: Mae angen ail edrych arno, Gweinidog. Rwy'n gobeithio y byddwch yn rhoi'r hyder inni—. Rwy'n gweld eich bod yn ysgwyd eich pen gan ddweud na fyddwch yn gwneud hynny. Mae hynny'n anffodus iawn, a bydd pobl yn colli ffydd ac yn amau nad yw Gweinidogion yn glynu wrth y rheolau.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:35, 20 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliannau 4 a 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am ddatganoli yr holl bwerau dros ynni i Gymru yn llawn.

Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am sefydlu Ynni Cymru i gyflymu'r gwaith o ddatblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru gyda ffocws cryf ar ynni cymunedol a pherchnogaeth y cyhoedd.

Cynigiwyd gwelliannau 4 a 5.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 6:35, 20 Tachwedd 2018

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydw i'n falch bod y cynnig ac anerchiad yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cyfeirio at adroddiad 'Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2017', oherwydd mae hynny yn dweud llawer o'r stori wrthym ni: yn amlwg, bod 48 y cant o'r trydan yr ydym ni'n ei ddefnyddio yng Nghymru yn dod o ynni adnewyddadwy, a bod hynny wedi cynyddu 5 y cant. Mae hynny'n ddigon positif, wrth gwrs. Beth sy'n llai positif yw mai dim ond 751 MW o gapasiti ynni adnewyddadwy sy'n installed sydd wedi'i berchnogi yn lleol, gan y gymuned, sydd yn amlwg yn faes lle mae angen cryn waith arno fe, oherwydd nid yn unig yn awyddus i weld datblygiad ynni adnewyddadwy yr ŷm ni, ond rŷm ni eisiau gwneud yn siŵr bod perchnogaeth yr ynni yna yn y dwylo iawn. Mae 63,000 o brosiectau ynni adnewyddadwy o dan berchnogaeth leol ar un wedd, oes, ond wrth gwrs mae 94 y cant o'r rheini yn brosiectau solar PV ar doeon domestig. Nawr, mae hynny'n bositif, ond mae'n dangos cymaint o waith sydd ar ôl i'w wneud.

Mae gennym ni, fel rŷm ni wedi clywed, yr adnoddau naturiol, mae gennym ni'r cyfalaf naturiol yng Nghymru i fod yn un o'r gwledydd sy'n arwain y byd ar ynni adnewyddadwy. Y cwestiwn felly yw: pam nad ŷm ni'n arwain y byd? Beth sy'n ein dal ni nôl? Byddwn i'n dadlau bod y ddau welliant rŷm ni wedi rhoi gerbron y prynhawn yma yn trio tynnu sylw at hynny. Yn y lle cyntaf mae angen pwerau, wrth gwrs, i weithredu'r potensial hwnnw. Yn ail, mae angen yr ewyllys gwleidyddol, ond hefyd y modd a'r cyfrwng i wireddu'r potensial hwnnw. Rŷm ni'n galw am ddatganoli pwerau llawn dros ynni. Ni fyddai neb yn synnu ynglŷn â hynny, rydw i'n siŵr, ond mae e'n drawiadol bod agenda San Steffan yn y maes ynni yn symud i un cyfeiriad, ac ewyllys gwleidyddol y fan hyn yng Nghymru yn mynd i gyfeiriad gwahanol iawn. Rŷm ni wedi clywed cyfeiriad at ffracio, er enghraifft, sydd yn un enghraifft glir o hynny.

Mae'r diffyg pwerau yna yn ein dal ni nôl. Edrychwch chi ar forlyn llanw bae Abertawe: petai'r cyfrifoldebau dros ynni wedi'u datganoli, nid oes gen i ddim amheuaeth y byddai fe'n digwydd. Mae'n debyg y byddai naill ai wedi digwydd neu y byddai wrthi'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd. Felly, os ydym ni o ddifri ynglŷn â gwireddu llawer o'n potensial, yna mae'n rhaid inni feddiannu'r pwerau i weithredu hynny ein hunain.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 6:37, 20 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Dangosodd y Sefydliad Materion Cymreig yn ei brosiect Ail-egnïo Cymru bod angen mwy o uchelgais a gweithredu ymarferol ar unwaith er mwyn gwireddu'r weledigaeth ar gyfer 100 y cant o ynni adnewyddadwy, ac mae'r camau hyn yn cynnwys uwchraddio effeithlonrwydd ynni. Wrth gwrs, fe gofiwch chi ein haddewid maniffesto ar gyfer cynllun ôl-ffitio gwerth biliynau o bunnau yma yng Nghymru. Mae hefyd yn sôn am sut y gallai rheoliadau adeiladu gynyddu effeithlonrwydd ynni. Rydych chi wedi cyfeirio at hynny, ond wrth gwrs Plaid Cymru oedd yr unig blaid yn y Cynulliad hwn oedd yn anfodlon ar y gwelliant bach iawn yn y Rheoliadau Rhan L a gyflwynwyd rai blynyddoedd yn ôl gan y Llywodraeth hon, a bellach wrth gwrs rydym ni ar ei hôl hi. Ffermydd gwynt ar y tir, ffermydd gwynt ar y môr a diogelu dyfodol gridiau trydan—mae'r cyfan yn y gwaith Ail-egnïo Cymru. Ac wrth gwrs nid yw ynghylch y pwyslais amgylcheddol yn unig, mae'r pwyslais economaidd yn glir hefyd, oherwydd gallai'r mathau hynny o fuddsoddiadau, yn ôl y Sefydliad Materion Cymreig, gefnogi 20,000 o swyddi bob blwyddyn ledled Cymru yn ystod cyfnod buddsoddi 15 mlynedd, gyda chyfanswm gwerth ychwanegol gros ar gyfer Cymru o bron i £7.5 biliwn yn cael ei greu o ganlyniad.

Fe wnaethoch chi sôn—wel, fe soniais i am Ynni Cymru. Fe wnaethoch chi sôn am atlas ynni, a dof at hynny mewn munud. Mae Ynni Cymru, wrth gwrs, yn fy marn i, yn un ffordd o hybu mwy o bwyslais ar ddatblygiad ynni sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Rwyf wedi ei ddweud o'r blaen ac fe'i dywedaf eto, oherwydd bob tro y byddaf yn codi yn y mathau hyn o ddadleuon fe fyddaf i'n dweud hyn: Mae angen inni symud oddi wrth y model prif ganolfan a lloerennau o gynhyrchu ynni a symud tuag at we pryf copyn fwy gwasgaredig, lle defnyddir ynni'n lleol yn ogystal â'i gynhyrchu'n lleol. Bydd hynny'n rhoi'r cydnerthedd inni, ac mae'n digwydd yn yr Almaen, yr Iseldiroedd, Denmarc a gwledydd eraill ac mae angen i ninnau symud i'r cyfeiriad hwnnw hefyd. Rwy'n croesawu'r atlas ynni. Rwy'n credu y bydd yn ein helpu ni i fapio a modelu potensial adnoddau ynni adnewyddadwy ledled Cymru. Bydd y buddsoddiad hwnnw yn galluogi cynllunio ynni strategol a fydd hefyd yn hwyluso ymagwedd o'r gwaelod i fyny tuag at ynni yn y tymor hwy.

Mae fy amser yn dod i ben felly fe soniaf am y gwelliannau yn gyflym iawn.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 6:39, 20 Tachwedd 2018

Jest i ymateb—wel, mi wnes i ymateb i'r gwelliant cyntaf rhyw bythefnos yn ôl. Nid ydw i'n gweld bod dim byd wedi newid ers hynny, felly gwnaf adael hynny.

O ran yr ail welliant, ar Wylfa, wel y peth olaf rydym ni eisiau yw bod niwclear yn rhan o'r mix ynni hirdymor. Yr holl bwrpas yw ein bod ni'n symud oddi wrth y model hub and spoke, fel roeddwn i'n ei ddweud gynnau, ac nid llyffetheirio cenhedlaeth arall i'r model yna. Felly, yn amlwg, rydym ni'n mynd i wrthwynebu'r gwelliant yna. 

Ac ar y trydydd gwelliant, wel mae dim ond yn iawn, wrth gwrs, fod lleisiau lleol yn cael eu clywed mewn unrhyw drafodaethau o gwmpas penderfyniadau cynllunio, boed yn ynni neu'n unrhyw beth arall. Ac mae e hefyd yn iawn, wrth gwrs, ar ôl cydbwyso ffactorau gwahanol a'r ystyriaethau gwahanol, fod yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwneud penderfyniad terfynol ar faterion sydd o arwyddocâd mwy na dim ond lleol—hynny yw, arwyddocâd cenedlaethol. Felly, mi fyddwn ni'n gwrthwynebu'r gwelliant yna hefyd. 

Mae gennym ni'r adnoddau naturiol yma yng Nghymru, mae gennym ni gyfalaf naturiol, gadewch inni ei ddefnyddio fe mewn ffordd fydd yn dod â budd i'n pobl ni ac, wrth gwrs, yn bwysicach na dim byd arall, budd i genedlaethau'r dyfodol. 

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 6:41, 20 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn i siarad yn fyr ynghylch y gwelliant a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig ynglŷn â fferm wynt Hendy. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol ei bod hi wedi gwneud penderfyniad tebyg i hwn yn gynharach eleni ynglŷn â chais fferm wynt yn fy etholaeth i, yn ardal Mynydd Hiraethog, fferm wynt Pant y Maen, a oedd yn destun cais cynllunio a gafodd ei gyflwyno i Gyngor Sir Ddinbych. Gwrthodwyd y cais hwnnw, gwnaed apêl i Lywodraeth Cymru, ac yna lluniwyd adroddiad gan yr arolygiaeth a oedd yn argymell gwrthod y cais—argymhelliad cryf iawn i wrthod. Roedd cyrff eraill a noddir gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys Cadw, hefyd yn gwrthwynebu'r datblygiad ar y sail y byddai'n effeithio ar yr olygfa o feddrod o'r Oes Efydd a thomenni claddu gerllaw, ac y byddai'n cael effaith ddinistriol ar dirwedd bryniau Clwyd gerllaw, ardal o harddwch naturiol eithriadol hefyd. Ac eto, am ryw reswm, penderfynodd Llywodraeth Cymru—neu Weinidog Cymru—fod ei barn yn wahanol i un yr arolygydd, yn wahanol i un yr awdurdod lleol ac, yn anffodus, mae'r fferm wynt hon bellach yn mynd i gael ei datblygu.

Rwy'n gwerthfawrogi'r pwynt hwnnw a wnaeth Llyr Gruffydd am yr angen am bersbectif strategaeth genedlaethol gan Lywodraeth Cymru o bryd i'w gilydd ar faterion arwyddocaol, ond fferm wynt fach iawn yw hon sy'n cael ei datblygu, dim ond saith tyrbin—dim ond saith tyrbin unigol. Nid yw'n enfawr o gwbl. Go brin y gallech chi ddweud bod saith tyrbin unigol o bwysigrwydd strategol cenedlaethol yn yr un modd ag y byddai Wylfa Newydd neu fferm wynt sylweddol, megis fferm wynt Gwynt y Môr. Felly yr wyf yn bryderus mai sathru democratiaeth leol dan draed yw hyn a dweud y gwir.

Rwy'n credu bod y bobl yn ardal fferm wynt Hendy yn wynebu'r un math o sefyllfa yn union. Nid wyf i'n credu bod hyn yn briodol ac rwy'n credu bod arnom ni angen system gynllunio sy'n llawer mwy cytbwys ac sy'n adlewyrchu safbwyntiau pobl leol yn well o lawer. Felly fe fyddwn i'n annog Llywodraeth Cymru i edrych eto ar y penderfyniad ynghylch fferm wynt Hendy. Rydym ni eisoes wedi cael un yn anghywir, yr hyn nad ydym ni eisiau ei weld yw dau, tri, pedwar, pump neu lawer mwy yn y dyfodol. Gadewch i ni gael hyn yn iawn, gadewch inni ddatrys y cydbwysedd yn y system, fel y gallwn gael rhywfaint o ffydd wrth inni symud ymlaen. [Torri ar draws.] Derbyniaf yr ymyriad.

Photo of Russell George Russell George Conservative 6:44, 20 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i gytuno â'r sylwadau —

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Fi sy'n penderfynu pa un a fyddwch chi'n derbyn ymyriad. Russell George.

Photo of Russell George Russell George Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd.

A gaf i gytuno â'r farn mai sathru'r gymuned leol dan draed yw hyn? Nid yw hyn yn gwneud unrhyw les i ddemocratiaeth leol, pan fo'r Gweinidog yn sathru barn yr awdurdod lleol a'r arolygydd dan draed hefyd. Ond a gaf i ofyn yn benodol, pan fydd y Gweinidog yn ymateb i'r gwelliant arbennig hwn, ei bod hi hefyd yn ymdrin â'r pryderon ynghylch gwaith sy'n cael ei wneud heddiw nad yw hyd yn hyn wedi cael yr hawliau priodol? Ac efallai fod angen i hynny gael ei adlewyrchu yn sylwadau'r Gweinidog ar y mater hwn hefyd.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar y Gweinidog i geisio ystyried pa un a yw'r  gwaith hwn sydd yn mynd rhagddo wedi cael y caniatâd perthnasol. Yn amlwg, os nad oes caniatâd wedi ei roi, yna fe ddylen nhw roi'r gorau iddi ar unwaith. Ac rwy'n credu bod gennym ni Ysgrifennydd y Cabinet sydd wedi gwrando ar lawer achlysur ar ddadleuon y Ceidwadwyr Cymreig ac wedi gwneud penderfyniadau ar sail y trafodaethau a gafodd hi gyda ni, ac rwy'n gobeithio ein bod ni'n curo ar ddrws agored o ran y penderfyniad hwn heddiw hefyd.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 6:45, 20 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod yn iawn fy mod i'n gwrthwynebu holl fyrdwn polisi ynni'r Llywodraeth gan ei fod yn ymdrech ofer, oherwydd hyd yn oed petai hi'n llwyddo yn ei holl amcanion, mae'r hyn yr ydym ni yng Nghymru yn ei ennill yn cael ei lethu gan yr hyn sy'n digwydd yng ngweddill y byd. Yn y cyfamser, mae pris y polisi hwn yn cael ei dalu gan ddefnyddwyr trydan a threthdalwyr yng Nghymru, ac rydym ni newydd glywed am yr effeithiau y bydd y ffermydd gwynt hyn yn eu cael yng nghefn gwlad—gordyfiannau sy'n cael eu gwasgaru dros fryniau Cymru. Gyrrais i lawr o Aberdyfi drwy'r canolbarth dros y Sul, a bron ym mhob man ar y gorwel mae'r pethau hyll hyn i'w gweld.

Yn ychwanegol at y pwyntiau, yr wyf yn cytuno'n llwyr â nhw, a godwyd eisoes gan Darren Millar ac Andrew R.T. Davies, fe hoffwn i ofyn pam y cafodd fferm wynt Hendy ei thrin yn wahanol i'r un yn Rhoscrowdder yn sir Benfro, lle cododd yr un ystyriaethau cynllunio. Dim ond pum tyrbin oedd yn hon; saith yn Hendy. Cafodd Rhoscrowdder ei gwrthod ar sail ei heffaith weledol a'r effaith ar y dirwedd. Yng Nghreigiau Llandeglau ger fferm wynt Hendy, mae gennych chi dirwedd heb ei difetha, henebion rhestredig, paleontoleg ryngwladol bwysig Creigiau Llandeglau a tharddle afon Edw. Mae clwyd enfawr yno—2,000 i 3,000 o ddrudwyod, sef rhywogaeth gadwraeth—y mae'r datblygwyr yn cynllunio i'w thynnu i lawr, a cheir adeiladau rhestredig yn agos iawn at y safle.

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt a wnaeth Darren Millar sef bod yr effaith ar y dirwedd—a gadewch inni beidio ag anghofio mai un o brif asedau'r canolbarth yw ei photensial o ran twristiaeth—yn gwbl anghymesur i'r hyn gaiff ei ennill o ran polisi ynni'r Llywodraeth. Mae'n brosiect cymharol fach, ac wrth edrych ar hwn mewn cyd-destun byd-eang, mae'n gwbl ddibwys. Ac nid wyf yn deall, felly, pam mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi penderfynu gadael i hwn fynd rhagddo, pan nad all fod o unrhyw fantais ymarferol i neb heblaw'r datblygwyr eu hunain, ac nid wyf yn credu bod hynny'n sail synhwyrol ar gyfer penderfyniadau llywodraethau.

Ond rwyf i eisiau ymdrin yn awr â'r ystyriaethau ehangach y mae polisi ynni'r Llywodraeth yn eu codi. Fe fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cael ei siomi pe na fyddwn yn sôn am Tsieina yn yr araith hon. Mae hi'n fy atgoffa'n gyson fod hyn yn rhywbeth yr wyf yn ei godi o hyd ac mae hi'n hollol iawn, oherwydd rwyf am wneud y pwynt hwn eto: Mae gan Tsieina gapasiti o 993 GW i gynhyrchu trydan, ac mae ganddyn nhw ar hyn o bryd 259 GW o orsafoedd pŵer glo yn bennaf yn cael eu hadeiladu. Mae hynny'n gynnydd o 25 y cant ar y capasiti presennol; mae hynny chwe gwaith capasiti cynhyrchu cyfan y Deyrnas Unedig. Pe byddem ni'n cau economi'r Deyrnas Unedig gyfan i lawr, wrth gwrs fe fyddem ni'n torri ein hallyriadau carbon lawr i ganran fechan iawn, ond byddai Tsieina, yn ystod cyfnod adeiladu'r gorsafoedd pŵer newydd hyn, sef—pump i 10 mlynedd—wedi gwneud yn iawn am y gostyngiad hwnnw chwe gwaith drosodd. Felly, mae unrhyw beth a wnawn ni yng Nghymru sy'n gyfrifol am ddim ond rhan fach iawn o 1 y cant o'r allyriadau byd-eang, yn gwbl amherthnasol yn y ddadl ar gynhesu byd-eang.

Fe hoffwn i ddarllen rhan o erthygl ar wefan y BBC ym mis Medi:

Mae gwaith adeiladu wedi ailgychwyn ar gannoedd o orsafoedd pŵer glo yn Tsieina, yn ôl dadansoddiad o ddelweddau lloeren... 259 gigawat o gapasiti newydd yn cael eu datblygu.

Felly, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi ennyn llawer o gyhoeddusrwydd, ac rwy'n credu ei fod yn tanseilio'n gyfan gwbl yr holl ddadl dros ynni adnewyddadwy drwy gymorthdaliadau helaeth y telir amdanyn nhw gan bobl gyffredin, a Chymru yw rhan dlotaf y Deyrnas Unedig. Ceir 291,000 o aelwydydd yn dioddef tlodi tanwydd—ffigurau'r Llywodraeth ei hun—dyna 23 y cant o aelwydydd Cymru. Ni all pobl fforddio talu'r codiadau hyn. Datgelodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y gwanwyn diwethaf, yn ei rhagolygon economaidd a chyllidol, y bydd ardollau amgylcheddol eleni yn costio, ledled y Deyrnas Unedig, £11.3 biliwn. Mae hynny'n gynnydd o £2 biliwn dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Aiff ymlaen i ddweud bod y cynnydd o £2 biliwn yn cynrychioli cynnydd mewn biliau trydan o tua 5 y cant ar gyfartaledd, felly mae hynny ddwywaith cyfradd chwyddiant. Bwriedir i hyn fynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen bob blwyddyn hyd y gellir rhagweld tan y flwyddyn 2030 pryd yr amcangyfrifir y bydd o leiaf traean o holl filiau trydan yn cael eu talu drwy ardollau amgylcheddol. Felly, gwaith ofer yw polisi'r Llywodraeth, a'r bobl sydd mewn gwirionedd yn talu'r pris yw'r rhai ar waelod y raddfa incwm, y rhai a dybiwn i y byddai'r Blaid Lafur eisiau eu helpu yn hytrach na gwneud eu bywydau yn fwy anodd.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 6:50, 20 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu adroddiad 'Cynhyrchu ynni yng Nghymru 2017' Llywodraeth Cymru. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y mynydd y mae'n rhaid inni ei ddringo os ydym ni i leihau allyriadau Cymru o leiaf 80 y cant dros y 30 mlynedd nesaf. Mae'n hanfodol ein bod ni'n cyrraedd y targedau hyn er mwyn goroesi yn y dyfodol. Fel y nodir yng nghytundeb Paris, mae lleihau allyriadau yn hanfodol os ydym ni i gadw cynhesu byd-eang o dan 1.5 gradd o'i gymharu â lefelau cyn-ddiwydiannol, gyda therfyn uchaf o 2 radd. Fodd bynnag, nododd y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd fis diwethaf y byddem ni'n cyrraedd y trothwy 1.5 gradd yn ystod y 10 mlynedd nesaf.

Os na fyddwn yn cymryd camau gweithredu llym ar unwaith, bydd y tymheredd byd-eang yn cynyddu 3 i 4 gradd. Nid oes un aelod o'r G20 yn cymryd digon o gamau i fynd i'r afael â chynhesu byd-eang. Ac nid yw'r bobl sy'n dal i gredu mai myth yw newid yn yr hinsawdd yn helpu o gwbl. Dros y penwythnos, roedd arweinydd economi fwyaf y byd, America, yn dal i gredu'n druenus o gyfeiliornus bod y cysyniad o gynhesu byd-eang wedi ei greu gan y Tsieineaid ac ar eu cyfer nhw i wneud gweithgynhyrchu'r Unol Daleithiau yn anghystadleuol. Mae hyn er gwaethaf y bywydau a gollwyd i ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd yn y 12 mis diwethaf. Oni bai ein bod ni'n cymryd camau llym, ar unwaith, tanau coedwig marwol, corwyntoedd trychinebus a llifogydd dinistriol fydd y lleiaf o'n problemau. Hyd yn oed â chynnydd o 2 radd mewn tymereddau byd-eang, byddwn yn gweld gwledydd cyfan yn diflannu o dan y cefnfor sy'n codi, cynnydd o 50 y cant mewn tanau gwyllt ar draws Ewrop a miliynau o bobl wedi'u dadleoli. Mae'n rhaid inni weithredu yn awr, ac mae'n rhaid inni weithredu'n gyflym.

Fel y mae'r adroddiad 'Cynhyrchu ynni yng Nghymru' yn amlygu, mae 78 y cant o gynhyrchu ynni yng Nghymru yn dod o danwydd ffosil. Os yw ein planed ni i oroesi heb lawer o niwed, yna mae angen inni leihau hynny i ddim dros y degawdau nesaf.

Mae angen cymysgedd gwirioneddol o ynni adnewyddadwy arnom—paneli solar ac ynni'r llanw, ond nid ffermydd gwynt na ffermydd solar ar raddfa fawr yw'r ateb. Mae angen inni symud i grid ynni datganoledig lle mae pob cartref, pob pentref, pob tref a dinas yn cynhyrchu eu hynni eu hunain.

Bydd technoleg yn allweddol i osgoi trychineb byd-eang. Rydym ni eisoes yn gweld ein cartrefi yn dod yn fwy effeithlon o ran ynni, mae goleuadau deuod allyrru golau yn defnyddio 100 gwaith yn llai o ynni. Mae ein cyfarpar bellach yn cyflawni cyfraddau effeithlonrwydd pŵer o 95 y cant. Mae cartrefi newydd wedi'u hinsiwleiddio mor dda, anaml y mae angen eu gwresogi.

Fodd bynnag, trafnidiaeth yw ein her fwyaf o hyd. Mae angen inni newid i gerbydau trydan a thanwydd hydrogen yn llawer cynt na tharged 2050 Llywodraeth y DU. Oherwydd daearyddiaeth Cymru, ni fydd trafnidiaeth gyhoeddus byth yn disodli'r holl alw am drafnidiaeth bersonol. Mae'n rhaid inni sicrhau felly ein bod yn disodli'r car, y lori a'r fan â dewisiadau amgen glân. Ond i gyflawni hynny bydd angen buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith, buddsoddiad y mae'n rhaid inni ei wneud ac y mae'n rhaid inni ei wneud yn awr os ydym ni i gael unrhyw obaith o oroesi'r newid yn yr hinsawdd. Diolch yn fawr.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:54, 20 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf i yn awr alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl? Lesley Griffiths.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau. Rwy'n credu ei bod yn glir iawn bod angen inni ailystyried rhan hanesyddol Cymru o ran cefnogi system ynni ehangach y DU. Soniais yn fy sylwadau agoriadol am yr ymgynghoriad diweddar ar y cynllun cyflawni carbon isel, a gwnaeth hwnnw hi'n glir iawn bod angen i ni newid yn sylfaenol ein hymagwedd at bŵer, gwres a chludiant er mwyn inni gyflawni ein hamcanion datgarboneiddio, mewn ffyrdd sy'n sicrhau manteision i bobl Cymru. Ac nid wyf i'n amau y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd iawn, a chredaf bod angen arweinyddiaeth genedlaethol ar hyn, yn ogystal ag arweinyddiaeth leol hefyd.

Mae'n rhaid inni wneud rhai penderfyniadau beiddgar ynghylch datblygu effeithlonrwydd a sicrhau bod ein stoc adeiladau yn addas ar gyfer y dyfodol, ac mae angen inni helpu busnesau i ddefnyddio dull buddsoddi hirdymor o ymdrin â phrosiectau effeithlonrwydd ynni. A chredaf hefyd bod angen inni helpu i gydnabod bod datgarboneiddio hefyd yn cynnig cyfleoedd ac mae ein cynllun gweithredu economaidd yn rhoi blaenoriaeth i'r alwad i weithredu ar ddatgarboneiddio a'r dull rhanbarthol o'i ddarparu, a fydd mewn gwirionedd yn cyd-fynd yn dda â'n gwaith cynllunio rhanbarthol.

O ran cynhyrchu, mae'r ffaith ein bod ni ar hyn o bryd yn ddibynnol ar nwy, rwy'n credu, yn ein rhoi ni mewn perygl o fethu ein targed carbon. Soniais ein bod ni ar hyn o bryd yn cynnal 19 y cant o'r cynhyrchiant trydan gan ddefnyddio nwy yn y DU ond dim ond yn defnyddio 5 y cant. Felly, o gofio ein cyfrifoldeb carbon, rwy'n credu y dylai Cymru fod â rheolaeth lwyr dros gydsynio a defnyddio ynni yng Nghymru, ac fe wnaethom ni alw am hyn yn y negodiadau ar gyfer Deddf Cymru yn 2017.

Mae'r sector morol yn gweithio'n galed iawn i ddarbwyllo Llywodraeth y DU ei bod yn werth ei gefnogi ac mae'n cyd-fynd yn gryf â'i strategaeth ddiwydiannol. Rwy'n gwbl ymrwymedig i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu technolegau morlyn yng Nghymru a hefyd i ystyried yr achos dros gefnogi prosiect newydd a arweinir gan y sector preifat.

Yn gyffredinol, mae'n rhaid sicrhau dyfodol i'n diwydiant ynni adnewyddadwy ffyniannus os ydym ni i gyrraedd ein targed adnewyddadwy. Felly, rwy'n parhau i lobïo Llywodraeth y DU i gynyddu lefelau'r buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy. Rydym ni wedi codi pryderon ynghylch eithrio gwynt ar y tir, y bydd yr Aelodau'n ymwybodol ohono, sef y math cost isaf o gynhyrchu, a hefyd technolegau solar o gontractau ar gyfer gwahaniaeth, y bwriad i gau'r tariff cyflenwi trydan a'r diffyg arian i gefnogi technolegau tonnau a llanw. Rwy'n credu mewn gwirionedd bod yn rhaid i Lywodraeth y DU gymryd rhai penderfyniadau cyflym o ran cymorth yn y dyfodol ar gyfer ynni adnewyddadwy ar raddfa fach.

Rwy'n credu y byddai cyflawni 100 y cant o gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn heriol iawn. Rwy'n credu y byddai perygl, pe byddem yn dibynnu ar ein cymdogion, na fyddem yn gallu cadw'r goleuadau ynghyn yng Nghymru. Rwy'n siŵr y byddai'r Aelodau yn y fan yma yn rhannu fy mhryderon ynghylch rhoi Cymru yn y sefyllfa honno.

Bydd angen inni fuddsoddi'n sylweddol mewn dulliau cynhyrchu a rhwydweithiau ynni er mwyn cyflawni ein targedau allyriadau carbon yng Nghymru. Fodd bynnag, rwy'n credu wrth ei wneud yn fwy clyfar, y gallwn osgoi'r gost ddiangen. Gall cynlluniau datblygu cadarn ddarparu sail ar gyfer buddsoddiad gan weithredwyr grid i gefnogi'r angen clir yn y dyfodol. Rydym ni hefyd yn gweithio i gefnogi cynllunio ynni i sicrhau bod datblygiadau priodol yn cael eu cefnogi mewn cynlluniau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.

Os caf i gyfeirio at y gwelliannau. Byddwn ni'n gwrthwynebu gwelliant 1 a gyflwynwyd gan Neil McEvoy. Fel yr ydym ni wedi'i gwneud yn glir iawn, mae niwclear yn sicr yn rhan o'r gymysgedd ynni. Byddwn ni'n derbyn gwelliant 2 yn enw Ceidwadwyr Cymru. Rydym ni wedi buddsoddi cryn dipyn o amser ac adnoddau mewn rhaglen gynhwysfawr o gymorth i elwa i'r eithaf ar botensial gwaddol parhaol o Wylfa Newydd. Byddwn yn gwrthwynebu gwelliant 3. Dylai'r Aelodau fod yn ymwybodol na all Llywodraeth Cymru ailystyried y penderfyniadau. Ni allaf roi unrhyw sylw pellach. Rydym ni wedi darparu cefnogaeth gyson i gymunedau fel rhan hanfodol o ddatblygu ynni yng Nghymru a gall unrhyw un sy'n dymuno cwestiynu'r penderfyniad ar fferm wynt Hendy a'r rhesymau y tu ôl iddo, ac mae'r llythyr penderfyniad yno i bobl ei weld, wneud hynny drwy'r llys.

Y ddau welliant gan Blaid Cymru—byddwn ni'n gwrthwynebu'r ddau. Soniais ein bod yn gyson wedi ymladd am bwerau llawn dros ddatblygiadau ynni yng Nghymru. Fodd bynnag, rydym ni'n rhan o DU gydgysylltiedig a system ynni fyd-eang ac rwy'n credu bod yn rhaid inni gydnabod y ffordd y caiff y system ei hariannu a'i rheoleiddio.

O ran gwelliant 5, byddwch yn ymwybodol, mewn trafodaethau gyda Phlaid Cymru, i mi edrych ar sefydlu cwmni ynni i Gymru. Cawsom yr alwad am dystiolaeth honno yn ddiweddar, ac rwy'n siŵr bod yr Aelodau yn ymwybodol o hynny, ac nid oeddem o'r farn bod digon o eglurder o ran diben ar yr hyn y byddai'r cwmni ynni hwnnw yn ei wneud. Ond rwy'n barod iawn—rwy'n ymwybodol bod Llŷr yn awr yn bwrw ymlaen â hyn ynghyd â'r atlas ynni. Byddwn i'n barod iawn i gael trafodaethau yn y dyfodol am y peth, os allwch chi roi mwy o eglurder ar sut, mewn gwirionedd, y byddai o fudd i'r buddsoddiad y byddai ei angen i'w ddwyn ymlaen.

Hoffwn i ddiolch i bawb—

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 6:59, 20 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon ildio?

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 6:59, 20 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet o bosibl yn cael trafodaethau â chydweithwyr yn Llywodraeth yr Alban? Maen nhw, yn ddiweddar, wedi cynhyrchu adroddiad eithaf helaeth ar y syniad o gwmni ynni cenedlaethol ar gyfer yr Alban, a allai yn wir fod yn fodel i ni yng Nghymru.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Ie, rwyf wedi gweld yr adroddiad, mewn gwirionedd, Adam Price, ond byddwn, wrth gwrs, byddwn yn barod iawn i drafod hynny gyda chydweithwyr yn yr Alban. Ond fel y dywedais, pan yr edrychasom ni ar y mater i ddechrau—tua blwyddyn yn ôl, rwy'n credu, ond efallai ychydig yn fwy—nid oeddem ni o'r farn y gallem ni gyfiawnhau'r buddsoddiad sylweddol a fyddai ei angen. Ond rwy'n barod iawn i barhau i gael y trafodaethau hynny. Byddaf wrth gwrs yn gofyn i swyddogion ymchwilio i'r cyhuddiadau, gan, rwy'n credu, dau neu dri o Aelodau'r Ceidwadwyr Cymreig, bod y gwaith eisoes yn mynd rhagddo yn Hendy. Nid dyna fy nealltwriaeth i, ond wrth gwrs fe ofynnaf i swyddogion ymchwilio i hynny ar fy rhan, a diolch i'r Aelodau am eu diddordeb mewn ynni ac am eu cyfraniadau heddiw. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 7:00, 20 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cynnig yw cytuno ar welliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly rydym ni'n gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.