Part of the debate – Senedd Cymru am 6:24 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ar 24 Hydref, fi oedd yr unig Aelod Cynulliad a bleidleisiodd i wrthwynebu ynni niwclear yng Nghymru. Yr oedd hynny'n hollol anhygoel o ystyried faint o wrthwynebiad sydd i ynni niwclear ymhlith y cyhoedd ac ymhlith gwleidyddion eraill yn ôl y sôn. Pe byddai ef yma, fe fyddwn i'n dweud wrth yr ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yr honnir iddo fod yn wrth-niwclear, yr AC dros Orllewin Caerdydd, a bleidleisiodd i waredu llaid niwclear yng Nghymru, ac na wrthwynebodd ynni niwclear y tro diwethaf, 'Dyma gyfle i wrthod ynni niwclear a'i gofnodi.' Mae'r un peth yn wir am yr AC Llafur dros Ganol Caerdydd, nad yw hi yma ychwaith. Mae hi'n honni ei bod yn amgylcheddwr gwrth-niwclear, ond dywedodd mai'r dyfroedd y tu allan i Gaerdydd oedd y lleoliadau i fynd iddyn nhw i waredu llaid a gloddiwyd o du allan i orsaf ynni niwclear Hinkley Point. Rwy'n gweld hyn yn syfrdanol. Fe wrthododd yr AC dros Ganol Caerdydd wrthwynebu ynni niwclear y tro diwethaf hefyd. Wel, nid yw'r AC wedi'i chyfyngu gan y chwip y tro hwn, felly efallai—efallai—y bydd hi'n pleidleisio yn erbyn ynni niwclear.
Mae'r rhai nad ydyn nhw'n gwrthwynebu ynni niwclear yn cyfiawnhau hynny drwy'r ffaith nad yw ynni wedi'i ddatganoli yma—nid yw wedi'i ddatganoli i'r Cynulliad hwn. Wel, nid yw'r ffaith bod mater heb ei ddatganoli yn golygu na ddylem ni gael safbwynt ar y mater. I'r gwrthwyneb yn wir, i'r gwrthwyneb. Rydym ni'n dadlau ynghylch Brexit, ond eto nid oes gennym ni'r pŵer yn y fan yma i ymdrin â'r cawlach y mae'r Ceidwadwyr wedi ei wneud ohono. Nid ydym ni yma i eistedd yn ôl a gadael i'r Llywodraeth Geidwadol yn Lloegr waredu beth bynnag y maen nhw'n ei ddymuno arnom ni. Os ydym ni am ennill rhywfaint o barch, yna mae'n rhaid inni godi helynt a dweud 'na', er lles cenedlaethol Cymru. Felly, dyna pam, heddiw, y mae gennym ni welliant newydd yr wyf i wedi ei gyflwyno, y tro hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu'r defnydd o ynni niwclear fel modd o gyflawni system ynni carbon isel. Nid yw ynni niwclear yn garbon isel. Nid yw'n gynaliadwy. Mae'r gost garbon yn llawer uwch nag ar gyfer ynni adnewyddadwy. Bydd gorsafoedd ynni niwclear yn cynhyrchu cymaint o garbon â gorsafoedd nwy yn y dyfodol. Rwy'n credu ei bod yn werth dweud hynny oherwydd nid wyf i'n credu bod llawer o bobl yn sylweddoli y bydd gorsafoedd ynni niwclear yn cynhyrchu cymaint o garbon â gorsafoedd nwy yn y dyfodol. Y rheswm dros hynny yw bod gradd wraniwm yn gostwng.
Rydym ni'n wlad sydd wedi ei bendithio ag adnoddau naturiol: dŵr, gwynt, llanw a hyd yn oed ychydig o haul, weithiau. Pam na ddefnyddiwn ni'r adnoddau naturiol hynny a pheidio â mewnforio wraniwm, cynhyrchu gwastraff niwclear a pheryglu dyfodol Cymru ac iechyd ein pobl? Mae ymchwil gan Lywodraeth Ffederal yr Almaen yn dangos bod cyfraddau canser yn cynyddu o amgylch gorsafoedd ynni niwclear, a dyna un o'r rhesymau pam maen nhw'n cael eu diddymu'n raddol yn yr Almaen.
Nawr, os yw'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru o ddifrif ynghylch cyflawni system ynni carbon isel, yna mae'n rhaid inni wrthwynebu ynni niwclear ac anfon neges glir at y Ceidwadwyr yn Lloegr i gadw eu hadweithyddion allan o'n gwlad. Cefnogwch y gwelliant a gwrthwynebwch ynni niwclear yng Nghymru. Diolch.