Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Rwy'n gweld hynna'n rhyfeddol, yr ymyriad gan yr Aelod dros Ynys Môn. Rwy'n cydnabod y gwaith y mae wedi ei wneud fel unigolyn, ond mae'n dangos yn glir ei fod wedi colli'r ddadl yn ei grŵp gwleidyddol, ac felly ni allaf weld sut, pan fo'r cyfeiriad yn y gwelliant yn eithaf clir at Wylfa Newydd yn benodol ac nid yn ehangach na hynny, na all ef fel unigolyn, ei gefnogi yn bendant, heb sôn am weddill grŵp Plaid Cymru. Roeddwn wedi tybio bod grŵp Plaid Cymru yn gefnogol i Wylfa Newydd, er iddyn nhw drafod a dadlau ynghylch materion ehangach yn ymwneud â chynhyrchu niwclear ac ynni niwclear. Yn amlwg, bydd pobl yn gweld sut bydd y grŵp yn pleidleisio heddiw a gwybod beth sy'n talu orau iddyn nhw.
O ran gwelliant 3, rwy'n credu bod hwn yn fater pwysig iawn a gafodd ei gadarnhau yn fy ngolwg i gan y trigolion o amgylch datblygiad fferm wynt Hendy, y dewisodd y Gweinidog ymyrryd ynddo ac mewn gwirionedd fe roddodd hi ganiatâd i'r datblygiad penodol hwn. Fe wnaeth y Gweinidog grybwyll cymunedau yn cael dweud eu dweud a chael rhan mewn prosiectau ynni adnewyddadwy ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, ond pan fo trigolion cymdogaeth yn canfod eu bod wedi cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, hynny yw, y system gynllunio a'u bod wedi mynd drwy'r awdurdod lleol a chael arolygydd i edrych ar y cynigion hefyd, ac ar bob achlysur yr arolygydd a'r awdurdod cynllunio yn dweud nad oedd y cais hwn yn addas i gael ei ddatblygu yn y lleoliad penodol hwn, yna bydd ymddiriedaeth trigolion yn y broses yn cael ei thanseilio. A chyflwynir y gwelliant hwn heno yn y gobaith y bydd Aelodau yn y Siambr hon yn cael eu symbylu i annog y Gweinidog i ystyried y penderfyniadau a wnaed ganddi.
Dim ond bore heddiw daeth rhai lluniau o'r lleoliad, yn dangos bod peiriannau trymion yn symud i'r safle, yn herio, byddwn i'n awgrymu, caniatâd yr awdurdod cynllunio hyd yn hyn ynghylch tir cyffredin. Fe fyddwn i'n annog yr Ysgrifennydd Cabinet, pe byddai ein gwelliant ni yn cael ei wrthod heno, i wneud ymholiadau i fodloni ei hun nad oes unrhyw waith yn digwydd ar y safle ar hyn o bryd, oherwydd mae hyn yn peri pryder aruthrol. Ond yn amlwg, rwy'n mawr obeithio y bydd ein gwelliant yn cael ei basio heno, oherwydd mewn gwirionedd mae'n cyfiawnhau'r angen i'r Gweinidog ailystyried.
Ceir agenda gyffrous a deinamig ynghylch ynni adnewyddadwy, ond nid oedd sathru dan draed ffydd trigolion lleol yn yr egwyddor o gael gwrandawiad teg, a hwythau wedi cyflwyno eu hachos a chael gwrandawiad a chefnogaeth i'r achos hwnnw, ac yna tanseilio'r achosion hynny, yn gwneud dim lles o gwbl i'r sector ynni adnewyddadwy. Rwyf yn credu'n bendant fod angen i'r Gweinidog ateb hynny wrth grynhoi prynhawn heddiw, a gobeithiaf y gwnaiff hi hynny.
Os caf i symbylu gweddill y ddadl yr ydym ni eisiau ei chyflwyno o'r ochr hon: Rydym ni'n credu'n angerddol bod Cymru mewn sefyllfa dda i chwarae ei rhan i ostwng allyriadau carbon ledled y Deyrnas Unedig. Mae gennym ni doreth naturiol o gyfleoedd i ddatblygu ynni adnewyddadwy yma. Y ddau faes sydd angen ystyriaeth sylweddol, fodd bynnag, byddwn i'n awgrymu, a dylanwad y Llywodraeth hefyd, yw cysylltiadau grid yn arbennig, oherwydd ceir llawer o brosiectau adnewyddadwy bach a allai gael eu lansio pe bydden nhw ond yn gallu cael cysylltiad grid a gallen nhw eu hunain, chwarae rhan enfawr drwy ddod at ei gilydd i godi ein niferoedd yn y maes arbennig hwn. Rwy'n credu er nad yw'n gyfrifoldeb a ddatganolwyd, petai'r Ysgrifennydd Cabinet yn ymgysylltu ag Ofgem i'w hannog i fod yn fwy rhagweithiol yma yng Nghymru, oherwydd nhw sy'n rheoleiddio, ac o ran sefydlu unedau gwres a pheiriannau, y mae'r adroddiad yn eu crybwyll, fe geir problem fawr o ran yr ôl-groniad o geisiadau cymhelliant gwres adnewyddadwy sy'n atal pobl rhag buddsoddi yn y sector penodol hwnnw. Unwaith eto, rwy'n credu bod hwn yn faes y mae angen ymdrin ag ef, gyda, gobeithio, ymyrraeth gan y Llywodraeth, i gefnogi'r sector i sicrhau bod gan bobl yr hyder i wneud y buddsoddiadau sylweddol hynny.
Ond rwyf yn gobeithio y bydd ein dau welliant yn cael eu derbyn heno. Yn enwedig yr un ynghylch Wylfa Newydd, sy'n bwriadu buddsoddi mewn cymuned sydd bron â marw o eisiau'r buddsoddiad hwnnw i greu swyddi o safon gyda chyflogau da, a'r ail welliant yr ydym wedi ei gyflwyno ynghylch fferm wynt Hendy: Mae angen ail edrych arno, Gweinidog. Rwy'n gobeithio y byddwch yn rhoi'r hyder inni—. Rwy'n gweld eich bod yn ysgwyd eich pen gan ddweud na fyddwch yn gwneud hynny. Mae hynny'n anffodus iawn, a bydd pobl yn colli ffydd ac yn amau nad yw Gweinidogion yn glynu wrth y rheolau.