Part of the debate – Senedd Cymru am 6:41 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Hoffwn i siarad yn fyr ynghylch y gwelliant a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig ynglŷn â fferm wynt Hendy. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol ei bod hi wedi gwneud penderfyniad tebyg i hwn yn gynharach eleni ynglŷn â chais fferm wynt yn fy etholaeth i, yn ardal Mynydd Hiraethog, fferm wynt Pant y Maen, a oedd yn destun cais cynllunio a gafodd ei gyflwyno i Gyngor Sir Ddinbych. Gwrthodwyd y cais hwnnw, gwnaed apêl i Lywodraeth Cymru, ac yna lluniwyd adroddiad gan yr arolygiaeth a oedd yn argymell gwrthod y cais—argymhelliad cryf iawn i wrthod. Roedd cyrff eraill a noddir gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys Cadw, hefyd yn gwrthwynebu'r datblygiad ar y sail y byddai'n effeithio ar yr olygfa o feddrod o'r Oes Efydd a thomenni claddu gerllaw, ac y byddai'n cael effaith ddinistriol ar dirwedd bryniau Clwyd gerllaw, ardal o harddwch naturiol eithriadol hefyd. Ac eto, am ryw reswm, penderfynodd Llywodraeth Cymru—neu Weinidog Cymru—fod ei barn yn wahanol i un yr arolygydd, yn wahanol i un yr awdurdod lleol ac, yn anffodus, mae'r fferm wynt hon bellach yn mynd i gael ei datblygu.
Rwy'n gwerthfawrogi'r pwynt hwnnw a wnaeth Llyr Gruffydd am yr angen am bersbectif strategaeth genedlaethol gan Lywodraeth Cymru o bryd i'w gilydd ar faterion arwyddocaol, ond fferm wynt fach iawn yw hon sy'n cael ei datblygu, dim ond saith tyrbin—dim ond saith tyrbin unigol. Nid yw'n enfawr o gwbl. Go brin y gallech chi ddweud bod saith tyrbin unigol o bwysigrwydd strategol cenedlaethol yn yr un modd ag y byddai Wylfa Newydd neu fferm wynt sylweddol, megis fferm wynt Gwynt y Môr. Felly yr wyf yn bryderus mai sathru democratiaeth leol dan draed yw hyn a dweud y gwir.
Rwy'n credu bod y bobl yn ardal fferm wynt Hendy yn wynebu'r un math o sefyllfa yn union. Nid wyf i'n credu bod hyn yn briodol ac rwy'n credu bod arnom ni angen system gynllunio sy'n llawer mwy cytbwys ac sy'n adlewyrchu safbwyntiau pobl leol yn well o lawer. Felly fe fyddwn i'n annog Llywodraeth Cymru i edrych eto ar y penderfyniad ynghylch fferm wynt Hendy. Rydym ni eisoes wedi cael un yn anghywir, yr hyn nad ydym ni eisiau ei weld yw dau, tri, pedwar, pump neu lawer mwy yn y dyfodol. Gadewch i ni gael hyn yn iawn, gadewch inni ddatrys y cydbwysedd yn y system, fel y gallwn gael rhywfaint o ffydd wrth inni symud ymlaen. [Torri ar draws.] Derbyniaf yr ymyriad.