Y Cod Derbyn i Ysgolion

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 21 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 1:30, 21 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb, ac rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol fod y diwrnod cyntaf yn yr ysgol yn amser pryderus i rieni a'u plant, ac yn aml byddant yn edrych arnynt ac yn meddwl nad ydynt yn barod; maent yn rhy fach. Ond mae’n bosibl y bydd pryder rhieni plant a gaiff eu geni yn yr haf yn ddilys mewn rhai achosion, ac maent bellach yn galw am fwy o hyblygrwydd o ran y dyddiadau cychwyn. Ysgrifennydd y Cabinet, mewn ymateb i adroddiad newyddion diweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddai adolygiad o'r cod derbyn i ysgolion yn cychwyn y mis hwn. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad ar hynny? A yw ar y gweill a phwy sy'n ei arwain, a beth fyddai cwmpas yr adolygiad hwnnw?