Mercher, 21 Tachwedd 2018
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cod derbyn i ysgolion o ran disgyblion a gaiff eu geni yn yr haf? OAQ52970
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am addysg feddygol ym Mhrifysgol Bangor? OAQ52969
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mohammad Asghar.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid yr UE ar gyfer hyfforddiant sgiliau yng Nghymru? OAQ52961
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau costau staff asiantaeth yn y proffesiwn addysgu? OAQ52959
5. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Chyngor Caerdydd mewn perthynas â chynyddu nifer y lleoedd ysgol cyfrwng Cymraeg? OAQ52971
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu addysg i blant a phobl ifanc yng Ngwent sydd â nam ar y synhwyrau? OAQ52950
7. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o bwysigrwydd ysgolion gwledig? OAQ52941
8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am addysgu ieithoedd tramor modern yng Nghymru? OAQ52956
Yr eitem nesaf, felly, yw cwestiynau i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynyddu cyfleoedd i bobl gael eu profi ar gyfer HIV, gan gynnwys o fewn lleoliadau cymunedol, drwy hunan-brofi a samplo yn y cartref? OAQ52963
2. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am gyfraddau imiwneiddio yng ngogledd Cymru? OAQ52943
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ganlyniadau canser yng Ngogledd Cymru? OAQ52938
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am argaeledd y brechlyn ffliw y gaeaf hwn? OAQ52954
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau wrth gefn ar gyfer cyflenwad parhaus o gyffuriau fferyllol i GIG Cymru os bydd Brexit yn digwydd heb fargen? OAQ52945
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bwysau cynyddol ar feddygon teulu yng Ngogledd Cymru? OAQ52965
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ52968
8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am feddyginiaeth newydd sy'n cael ei dosbarthu drwy'r gronfa triniaethau newydd? OAQ52942
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol, ac mae'r cwestiwn cyntaf i'w ofyn gan Mick Antoniw.
1. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Maes Awyr Caerdydd yn sgil adroddiadau bod cwmni awyrennau Flybe yn mynd i gael ei werthu? 234
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau trên yn dilyn ymddiheuriad cyhoeddus Trafnidiaeth Cymru am ddiffygion yn y gwasanaethau? 236
Eitem 4 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r datganiadau 90 eiliad a Siân Gwenllian sydd gyntaf yr wythnos hon.
Cynnig i ethol Aelod i Gomisiwn y Cynulliad yw'r eitem nesaf ar yr agenda. A gaf fi alw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol? Rhun.
Symudwn ymlaen at gynnig i ethol Aelod i bwyllgor. Unwaith eto, a gaf fi ofyn i aelod o'r Pwyllgor Busnes wneud y cynnig yn ffurfiol? Rhun.
Symudwn at eitem 5 ar ein hagenda, sef dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), ar gyllido addysg bellach. Galwaf ar Bethan Sayed i wneud y cynnig. Bethan.
Eitem 6 ar ein hagenda yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Creu'r Diwylliant Cywir'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Jayne Bryant.
Daw hynny â ni at yr eitem nesaf, sef y ddadl ar y ddeiseb 'Rhagdybiaeth o Blaid Ysgolion Gwledig'. Rydw i'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. David Rowlands.
Mae hynny'n dod â ni at y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, rydw i'n symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio, a'r bleidlais ar ddadl Aelodau ar gyllid...
Mae hynny'n dod â ni at y ddadl fer. Rydw i'n galw ar Rhianon Passmore i gyflwyno y cynnig yn ei henw hi ar Drafnidiaeth Cymru. Rhianon Passmore.
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan ystafelloedd dosbarth yr hyn sydd ei angen i sicrhau bod disgyblion ag anghenion ychwanegol yn gallu cyrraedd eu potensial llawn?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddeunydd pacio cyffuriau presgripsiwn yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau safonau mewn cartrefi gofal a reolir yn breifat?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia