Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, cefais fy ngeni ar 28 Awst. Rwy'n credu fy mod wedi sôn am y mater hwn yn gyntaf dros 10 mlynedd yn ôl, a chredaf fod angen i ni fod hyd yn oed yn fwy radical, oherwydd roeddwn yn ifanc o ran fy oedran corfforol yn ogystal â chael fy ngeni ar 28 Awst. Rwy'n credu fy mod yn aml 18 mis y tu ôl i lawer o'r bobl a oedd yn yr un flwyddyn â fi. Achosodd anawsterau darllen ac ysgrifennu pan oeddwn yn yr ysgol gynradd, ac ni ddechreuais gyflawni yn agos at fy mhotensial deallusol hyd nes ddiwedd yr ysgol uwchradd. Mae hon yn broblem go iawn, ac mae angen inni gael plant yn y grŵp blwyddyn priodol, ac efallai na fydd modd pennu hynny’n union yn ôl meini prawf eu hoedran yn unig.