Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Diolch yn fawr, Neil, ac rydw i'n falch iawn eich bod chi wedi gofyn y cwestiwn yn Gymraeg. Diolch yn fawr am eich ymdrech chi fanna.
Rydw i'n meddwl bod yna gysylltiad sydd yn digwydd yn aml iawn rhwng Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, ac mae yna fonitro cyson rhwng yr hyn roedd y cyngor wedi'i addo yn eu WESP nhw a'r hyn rŷm ni'n gobeithio y byddan nhw'n sicrhau eu bod nhw yn delifro. Felly, yn fewnol, tu mewn i'r Llywodraeth, mae gennym ni bobl sy'n monitro hynny'n gyson.