Canlyniadau Canser yng Ngogledd Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 21 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 2:48, 21 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw canser yn gwahaniaethu. Nid yw canser yn gwahaniaethu ar sail rhyw, hil neu rywioldeb. Rydym yn gweld, yn gynyddol, nad yw canser yn gwahaniaethu ar sail oedran ychwaith, ac eto mae profion canser ceg y groth yn dechrau pan fydd menywod yn 25 oed. Drwy ostwng yr oedran ar gyfer gwneud profion ceg y groth a sgrinio serfigol, gallwn achub bywydau. Gallwn fynd i'r afael â newidiadau yn y celloedd yn gynharach ac atal canser ceg y groth. Mae nifer o fy etholwyr wedi llofnodi deiseb ar-lein yn galw am ostwng yr oedran. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ystyried gostwng yr oedran sgrinio, os gwelwch yn dda?