Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Mae hynny i'w groesawu, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n siŵr eich bod yn gwybod bod Lloegr wedi cyflwyno'r driniaeth 5-ALA ar sail genedlaethol ym mis Mai. Techneg yw hon sy'n helpu meddygon i dynnu tiwmorau ar yr ymennydd. Mae'r dechneg hon wedi arwain at ganlyniadau sy'n amlwg yn well i gleifion. Mae canllawiau clinigol NICE 2018 yn argymell y dylai cleifion, mewn achosion priodol, gymryd asid lefwlinig 5-amino cyn y llawdriniaeth. Mae Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru yn argymell y driniaeth hon hefyd. Fel y gwyddoch, lleoliad daearyddol y claf sy'n penderfynu lle y caiff y tiwmor ar eu hymennydd ei drin. Yng ngogledd Cymru, y ganolfan ragoriaeth yw Canolfan Walton yn Lerpwl; mewn mannau eraill yng Nghymru rydym yn mynd i ysbyty prifysgol Caerdydd. Fy mhryder yw bod yr ysbyty yn Lerpwl yn gwneud defnydd o'r driniaeth hon, ond nad yw llawfeddygon yn ysbyty'r brifysgol yng Nghaerdydd yn ei defnyddio. A oes modd i chi ofyn am eglurder ar y sefyllfa anghyfartal hon, ac a fyddech yn gallu defnyddio'r gronfa triniaethau newydd i hwyluso defnydd o'r fethodoleg arloesol hon a allai helpu cleifion i gadw cymaint mwy ohonynt eu hunain ar ôl cael llawdriniaeth ar yr ymennydd?