Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Wel, ni allwn anghytuno mwy gyda'r Aelod a dweud y gwir. Yn amlwg, mae'n rhaid i ni drefnu i wasanaethau gael eu darparu yn y modd gorau posibl, ond ceir egwyddor eglur, benderfynol, a fynegwyd yn gyhoeddus, agored a thryloyw yn y fantol, sef: pan fo hynny'n bosibl, rydym ni'n eu darparu gan staff sector cyhoeddus, yn rhad ac am ddim ar y pwynt darparu. Yn amlwg, ceir rhai achosion lle mae'n rhaid i ni ddefnyddio darparwyr sector preifat yn y tymor byr fel trefniant wrth gefn i wneud yn siŵr bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu, a'r Aelod fyddai'r cyntaf i sefyll ar ei draed a'n beirniadu ni pe na byddem ni'n gwneud hynny. Ond mae'n amlwg nad oes llwybr i breifateiddio ar sail eang, fel y mae ef yn ei awgrymu.