Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 27 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:44, 27 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'n gydnabyddedig iawn bod hanes eich Llywodraeth o ran amseroedd aros y GIG ymhell o fod yn foddhaol. Er enghraifft, mae'r archwilydd cyffredinol wedi adrodd yn ddiweddar y bu cynnydd o 55 y cant ers 2015 i nifer y cleifion y caiff eu hapwyntiadau dilynol eu gohirio ddwywaith cyn hired ag y dylent. Nawr, mae radioleg yn un maes lle mae targedau yn cael eu bodloni ar hyn o bryd, ond mae hyn oherwydd bod byrddau iechyd fwyfwy yn cynnig contractau allanol i'r sector preifat. Mae adroddiad yr archwilydd cyffredinol yn nodi bod perfformiad o ran amseroedd aros wedi cael ei helpu trwy sicrhau capasiti ychwanegol o'r sector preifat mewn ymateb i'r hyn y mae'n ei ddisgrifio fel

'anawsterau o ran recriwtio a chadw staff, oherwydd bod y cyfarpar sganio’n hen ac yn annigonol, ac oherwydd gwendidau TG' yn y GIG. Onid yw'n wir bod yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn bolisi o breifateiddio llechwraidd fel plastr i guddio problemau strwythurol tymor hwy yn y GIG yng Nghymru?