Ffyniant Economaidd yng Ngogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 27 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 1:33, 27 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Ydy, mae'n eglur bod y cytundeb negodi presennol y mae Prif Weinidog y DU yn ei geisio, trwy unrhyw ddull angenrheidiol, i ennyn rhywfaint o gefnogaeth y mae wir ei hangen arno yn annoeth o ganlyniad i'w llinellau coch. Mae hi wedi dysgu rhyw fymryn o'n cynigion, ond llawer rhy ychydig ac yn llawer rhy hwyr. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod mai'r cwbl y mae'r rhagolygon diweddar o nifer o ffynonellau yn ei wneud yw tanlinellu rhagolygon economaidd Brexit 'dim cytundeb' a chaled, ac mae unrhyw Brexit sy'n ein tynnu ni allan o'r farchnad sengl a'r undeb tollau yn peri problemau hefyd.