1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 27 Tachwedd 2018.
1. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu ffyniant economaidd yng Ngogledd Cymru? OAQ52981
Mae ein cynllun gweithredu economaidd 'Ffyniant i Bawb' yn nodi sut yr ydym ni'n bwriadu cefnogi economi Cymru dros y degawd nesaf a thu hwnt, a sut y gallwn gyfuno'r adnoddau, yr arbenigedd a'r wybodaeth sydd gennym ni yng Nghymru i gryfhau ein sylfeini economaidd a diogelu economi Cymru ar gyfer y dyfodol.
Diolch. Ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn agor y drws i fargen twf ar gyfer y gogledd, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i ddatganoli pwerau i lawr a buddsoddi yn y rhanbarth yn rhan o'r fargen. Cyflwynwyd y cais i'r ddwy Lywodraeth fis Rhagfyr diwethaf, gan gynnwys galwadau i Lywodraeth Cymru ddirprwyo pwerau i'r gogledd, fel y gallai weithredu mewn swyddogaeth weithredol mewn meysydd penodol. Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU o £120 miliwn ar gyfer y fargen twf, sut ydych chi'n ymateb i'r datganiadau a wnaed o'r llwyfan yng nghynhadledd bargen twf y gogledd ar 1 Tachwedd, a drefnwyd gan y bwrdd uchelgais economaidd, 'Rydym ni wedi clywed am ymrwymiad Llywodraeth y DU ond yn poeni am yr ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru mewn sefyllfa mwg a drychau.' Felly, ble mae'r arian, pryd bydd yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, ac a fydd hyn yn derbyn y cais neu yn hytrach yn dylunio system, fel y mae'n ymddangos yw'r gwir, lle mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod â'r ysgogiadau hynny, ac nad yw'r galwadau i ddirprwyo yn mynd o'i phlaid o anghenraid?
Nid yw hwnnw'n ddarlun yr ydym ni'n ei adnabod. Mae trafodaethau rhwng partneriaid y gogledd a Llywodraethau Cymru a'r DU yn symud ymlaen yn dda ar gynnig twf y gogledd. Roedd swyddogion o'r ddwy Lywodraeth a phartneriaid yn y gogledd yn bresennol mewn gweithdy yr wythnos diwethaf i drafod a chytuno ar becyn o gynigion a'r camau nesaf i alluogi cyflawniad y cytundeb. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfarfod â phartneriaid ddydd Gwener yr wythnos hon, rwy'n credu, a bydd hynny i gyd yn rhan annatod o'r weledigaeth gyffredinol ar gyfer y gogledd. Felly, o'n safbwynt ni, heblaw'r ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi darparu'r pecyn cyfan o arian yr oeddem ni'n ei ddisgwyl, mae'r fargen yn mynd rhagddi'n dda.
Rydym i gyd yn edrych ymlaen am gyhoeddiad cynnar ynglŷn ag unrhyw gefnogaeth y byddai'r Llywodraeth yn ei roi i'r gwaith yna, wrth gwrs, ond os ydym ni o ddifrif ynglŷn â ffyniant economaidd gogledd Cymru, yna byddai Brexit ddim yn digwydd o gwbl.
Mae'n ddrwg gen i, Llyr, mae fy mheth cyfieithu'n ysbeidiol, mae arna i ofn.
A allwch chi fenthyg un y Gweinidog cyllid? [Chwerthin.]
Mae'n ddrwg gen i. Rhoddwn gynnig arall arni.
Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr. Roeddwn i jest yn gwneud y pwynt y byddwn ni i gyd yn edrych ymlaen at glywed cyhoeddiad buan, gobeithio, gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn ag unrhyw gefnogaeth y bydd y Llywodraeth yn ei rhoi i'r cynllun twf yn y gogledd. Ond y pwynt roeddwn i eisiau ei wneud oedd: os ydym ni o ddifrif ynglŷn â ffyniant economaidd yn y gogledd, yna byddai Brexit ddim yn digwydd o gwbl. Ac rŷm ni wedi gweld, drwy adroddiad gan y London School of Economics yn ddiweddar iawn nawr, wrth gwrs, yr impact y bydd sawl senario gwahanol yn ei gael. Ond o gofio, wrth gwrs, dibyniaeth economi gogledd Cymru ar weithgynhyrchu, ar y sector amaeth a bwyd, a phwysigrwydd strategol porthladd Caergybi, onid yw hi'n glir bod aros o fewn y farchnad sengl yn gwbl greiddiol yn hyn o beth? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau, nid yn unig bod Llywodraeth Prydain yn barod i gadarnhau hynny, ond bod eich plaid chi eich hunan yn San Steffan yn barod i ddadlau dros hynny?
Ydy, mae'n eglur bod y cytundeb negodi presennol y mae Prif Weinidog y DU yn ei geisio, trwy unrhyw ddull angenrheidiol, i ennyn rhywfaint o gefnogaeth y mae wir ei hangen arno yn annoeth o ganlyniad i'w llinellau coch. Mae hi wedi dysgu rhyw fymryn o'n cynigion, ond llawer rhy ychydig ac yn llawer rhy hwyr. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod mai'r cwbl y mae'r rhagolygon diweddar o nifer o ffynonellau yn ei wneud yw tanlinellu rhagolygon economaidd Brexit 'dim cytundeb' a chaled, ac mae unrhyw Brexit sy'n ein tynnu ni allan o'r farchnad sengl a'r undeb tollau yn peri problemau hefyd.