Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Ie, mae polisi cynllunio wedi'i ddatganoli i Gymru, ond ni fydd hynny'n—. Nid yw'n fwled arian. Yr hyn a fyddai'n fwled arian yw cyflwyno signal daearyddol 100 y cant i weithredwyr ffonau symudol ledled Cymru, neu, os nad yw hynny'n mynd i gael ei wneud yn y gwerthiannau sbectrwm, yna caniatáu trawsrwydweithio mewn ardaloedd gwledig. Mae hwn yn destun cryn drafodaeth rhyngom. Os na fyddwn ni'n gwneud hynny, ni fyddwn byth yn cael y signal y mae ef, rwy'n gwybod, wir ei eisiau, ac yn sicr ar yr ochr hon i'r tŷ yr ydym ni wir ei eisiau.