1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 27 Tachwedd 2018.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar wella signal ffonau symudol yng nghanolbarth Cymru? OAQ53016
Gwnaf. Mae gwaith yn parhau ar ddarpariaeth ein cynllun gweithredu symudol. Mae hyn yn cynnwys cyhoeddi ein dogfen 'Polisi Cynllunio Cymru' newydd yn fuan iawn, sy'n cydnabod pwysigrwydd economaidd signal symudol a hawliau datblygu priodol a ganiateir ar gyfer seilwaith ffonau symudol.
Diolch am eich ateb, arweinydd y tŷ. Wrth gwrs, nid yw'r cynllun gweithredu symudol yr ydych chi'n sôn amdano wedi cyflawni unrhyw gamau pendant hyd yma. Rydym ni wedi gweld polisi a chanllawiau cynllunio yn cael eu diweddaru yn yr Alban ac yn Lloegr hefyd. Mae hynny wedi helpu i baratoi'r ffordd ar gyfer cyflwyno 5G ac wedi helpu i gyflymu'r broses ar gyfer mastiau ffonau symudol newydd. Mae adroddiad a gomisiynwyd gennych chi ar hawliau datblygu a ganiateir o ran telathrebu symudol yn argymell cynnydd i uchder mastiau ffonau symudol i 20 metr neu 25 metr, er gwaethaf y ffaith eich bod chi wedi dweud yn y gorffennol nad oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi hyn. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y statws o ran gweithredu'r argymhellion hyn, ac ymrwymo i ddyddiad cyhoeddus pan fydd y diwygiadau hyn yn cael eu cyflawni?
Gallaf. Yr hyn a ddywedais mewn gwirionedd, os cofiwch chi, oedd ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud yn siŵr bod yr hyn yr ydym ni'n ei argymell yng Nghymru yn addas i'w ddiben yng Nghymru, yn enwedig yn ein parciau cenedlaethol hardd iawn. Roeddem ni'n sicr eisiau sicrhau bod pobl Cymru yn hapus iawn â'r hyn yr oeddem ni'n ei gynnig o ran seilwaith. Russell George, rydych chi a minnau wedi cael y sgyrsiau hyn yn aml iawn dros y blynyddoedd diwethaf. Byddwn yn cyhoeddi 'Polisi Cynllunio Cymru' newydd yn fuan; bydd hwnnw'n nodi rhai o'r gwahanol hawliau datblygu a ganiateir fel y dywedasoch. Ceir nifer o bethau eraill yr ydym ni'n dal i'w trafod yn y cynllun gweithredu symudol ynghylch y ffordd y defnyddir y seilwaith hwnnw, ac ni wnaf eu hailadrodd yn y fan yma, gan y bydd y Llywydd yn dechrau tapio ei bysedd ar y ddesg. Ond ceir nifer fawr o bethau a fydd yn cael eu hystyried yn y fan yna, cyfres ohonyn nhw yr ydym ni'n gobeithio y byddant yn helpu. Ond, yn y pen draw, nid yw hyn wedi'i ddatganoli i Gymru. Yn y pen draw, yr hyn sydd ei angen arnom ni yw camau gweithredu gan Lywodraeth y DU i—
Cwestiwn cynllunio yw hwn.
Ie, mae polisi cynllunio wedi'i ddatganoli i Gymru, ond ni fydd hynny'n—. Nid yw'n fwled arian. Yr hyn a fyddai'n fwled arian yw cyflwyno signal daearyddol 100 y cant i weithredwyr ffonau symudol ledled Cymru, neu, os nad yw hynny'n mynd i gael ei wneud yn y gwerthiannau sbectrwm, yna caniatáu trawsrwydweithio mewn ardaloedd gwledig. Mae hwn yn destun cryn drafodaeth rhyngom. Os na fyddwn ni'n gwneud hynny, ni fyddwn byth yn cael y signal y mae ef, rwy'n gwybod, wir ei eisiau, ac yn sicr ar yr ochr hon i'r tŷ yr ydym ni wir ei eisiau.
Arweinydd y tŷ, ddoe yn y ffair aeaf cyhoeddais ddogfen ymgynghori ar ddyfodol economaidd i Bowys. Ac yno yn y sioe, a hefyd mewn negeseuon e-bost yr wyf i wedi eu derbyn ers hynny, rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth yn tynnu sylw at yr anawsterau a wynebir gyda'r mynediad gwael at 4G yn ardaloedd y Drenewydd a Llanidloes. Nawr, rwy'n sylweddoli o'ch ymateb i Russell George bod rhai elfennau o'r agenda hon nad ydyn nhw wedi'u datganoli, ond beth arall allwch chi ei wneud, oherwydd mae'r busnesau hynny yn dweud wrthym ni bod y mynediad symudol gwael yn cael effaith wirioneddol ar eu gallu i ehangu?
Ie, ac mae gen i bob cydymdeimlad â nhw. Yn anffodus, gwerthwyd y sbectrwm 4G yn y fath fodd fel y gallwch chi ei gadw a byth ei ddefnyddio, ac mae hynny'n rhan fawr o'r drafodaeth gyda Llywodraeth y DU am werthu sbectrwm yn y dyfodol, oherwydd nid ydym ni'n meddwl mai gallu ei brynu ac yna ei gadw a byth gwneud dim byd ag ef yw'r ffordd ymlaen am resymau amlwg. Rydym ni'n bwriadu, fodd bynnag, gwneud yn siŵr y gallwn ni wneud y defnydd mwyaf posibl o adeiladau cyhoeddus, mannau cyhoeddus, a'r technolegau newydd sy'n croesi ar draws symudol a band eang, fel y gallwn, er enghraifft, ddarlledu signal Wi-Fi oddi ar adeiladau cyhoeddus. Felly, rydym ni'n ystyried yn weithredol i weld beth arall y gallwn ni ei wneud i alluogi, er enghraifft, galwadau Wi-Fi. Yn anffodus, ni allwn newid y sefyllfa 4G, ond rydym ni'n lobïo Ofcom a Llywodraeth y DU yn gyson i newid y ffordd y cedwir y sbectrwm ac i newid y signalau rhwymedigaeth ddaearyddol yn hynny, oherwydd mae nhw'n gwbl anobeithiol ar hyn o bryd.
Tynnwyd cwestiwn 4 [OAQ53014] yn ôl. Cwestiwn 5, felly—Leanne Wood.