Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Gallaf, yn sicr. Yn rhan o'r rhaglen aer glân a sefydlwyd yr haf hwn, fel yr wyf i newydd ei ddweud, sefydlwyd prosiect tystiolaeth, arloesedd a gwelliannau ar gyfer ansawdd aer. Bydd hwnnw'n edrych ar ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer llygredd aer a'u holl effeithiau posibl, ac ar gyfer eu mabwysiadu o bosibl yng Nghymru. Mae'r canllawiau yn seiliedig ar gasgliadau gwyddonol am agweddau iechyd cyhoeddus llygredd aer yn unig, ac nid ydynt yn ystyried ymarferoldeb technegol nac agweddau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol ar gyflawni'r lefelau hynny. Felly, mae gennym ni swyddogion yn asesu agweddau ymarferol o'r fath ar hyn o bryd fel y gallwn seilio targedau yn y dyfodol ar dystiolaeth, i sicrhau eu bod yn cyflawni'r newid mwyaf effeithiol, gan helpu i gyflawni ein nodau llesiant. Mae gennym ni fynediad at amrywiaeth eang o ysgogiadau eisoes i fwrw ymlaen â chamau i wella ansawdd aer, gan gynnwys cynllunio, seilwaith, deddfwriaeth, rheoliadau a mesurau cyfathrebu. Mae'r Gweinidog wedi nodi y byddem yn ystyried deddfu hefyd, os byddwn yn canfod nad yw'r gyfres honno o fesurau yn ddigonol ar gyfer gweithredu'r safonau yn ymarferol.