1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 27 Tachwedd 2018.
8. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i fabwysiadu terfynau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer allyriadau o ronynnau? OAQ52997
Rydym yn ystyried pob dewis i wella ansawdd aer yng Nghymru. Yn rhan o'r rhaglen aer glân, mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi sefydlu prosiect tystiolaeth, arloesedd a gwelliannau ar gyfer ansawdd aer, a fydd yn ystyried y defnydd ymarferol o ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer llygredd aer yng Nghymru.
Arweinydd y tŷ, rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol bod hwn yn fater pwysig iawn sy'n ymwneud â phryderon fy nghyd-Aelod dros Orllewin Casnewydd, sef bod llygredd a thagfeydd yn faterion difrifol dros ben pan ddaw i iechyd y cyhoedd. Efallai y byddwch yn ymwybodol bod adroddiad fis diwethaf, a gyhoeddwyd gan sefydliad iechyd y cyhoedd yn Lloegr, ar effeithiau amlygiad hirdymor ar afiachusrwydd cardiofasgwlaidd h.y. mae'n lladd mwy ohonom ni nag y mae angen iddo. Ac er y mynegwyd llawer o bryder ynghylch y lefelau o ocsidau nitrogen yn yr amgylchedd, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n ystyried gronynnau mewn cyfuniad â nhw, oherwydd gronynnau sydd fwyaf niweidiol, gan eu bod nhw'n treiddio'r fentriglau lleiaf, ac yn enwedig yr effaith ar blant. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech chi ddweud wrthyf pa ystyriaeth, os o gwbl, y mae'r Llywodraeth wedi ei rhoi hyd yma i fabwysiadu terfynau Sefydliad Iechyd y Byd, sy'n amlwg yn sylweddol well na therfynau'r Undeb Ewropeaidd.
Gallaf, yn sicr. Yn rhan o'r rhaglen aer glân a sefydlwyd yr haf hwn, fel yr wyf i newydd ei ddweud, sefydlwyd prosiect tystiolaeth, arloesedd a gwelliannau ar gyfer ansawdd aer. Bydd hwnnw'n edrych ar ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer llygredd aer a'u holl effeithiau posibl, ac ar gyfer eu mabwysiadu o bosibl yng Nghymru. Mae'r canllawiau yn seiliedig ar gasgliadau gwyddonol am agweddau iechyd cyhoeddus llygredd aer yn unig, ac nid ydynt yn ystyried ymarferoldeb technegol nac agweddau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol ar gyflawni'r lefelau hynny. Felly, mae gennym ni swyddogion yn asesu agweddau ymarferol o'r fath ar hyn o bryd fel y gallwn seilio targedau yn y dyfodol ar dystiolaeth, i sicrhau eu bod yn cyflawni'r newid mwyaf effeithiol, gan helpu i gyflawni ein nodau llesiant. Mae gennym ni fynediad at amrywiaeth eang o ysgogiadau eisoes i fwrw ymlaen â chamau i wella ansawdd aer, gan gynnwys cynllunio, seilwaith, deddfwriaeth, rheoliadau a mesurau cyfathrebu. Mae'r Gweinidog wedi nodi y byddem yn ystyried deddfu hefyd, os byddwn yn canfod nad yw'r gyfres honno o fesurau yn ddigonol ar gyfer gweithredu'r safonau yn ymarferol.
Yn ôl ym mis Mawrth, arweinydd y tŷ, gofynnais i'r Prif Weinidog pa swyddogaeth arweinyddiaeth yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei chymryd i leihau marwolaethau cynamserol drwy ansawdd aer gwael. Rydym ni'n gwybod bod 2,000 o bobl y flwyddyn yn marw'n gynamserol bob blwyddyn drwy ansawdd aer gwael yma yng Nghymru. Mae hynny'n 6 y cant o'r holl farwolaethau yng Nghymru, neu bump bob dydd. Mae'r rheini'n ffigurau mawr dros ben y mae hanfodol i ni fynd i'r afael â nhw, a phan fyddwch chi'n siarad â sefydliadau penodol, maen nhw'n dweud bod gwaith da yn cael ei wneud yn annibynnol, ond nid mewn modd cydlynol. A fyddai'r Llywodraeth yn ddigon meddwl agored i gynnal uwchgynhadledd o'r holl bartneriaid perthnasol i geisio bwrw ymlaen â'r agenda hon, fel y gallwn ni weld, erbyn 2021, pan fydd y Cynulliad hwn yn torri ar gyfer yr etholiadau, welliant gwirioneddol i'r ffigurau hynny a gostyngiad sylweddol i'r marwolaethau cynamserol drwy ansawdd aer gwael yma yng Nghymru?
Byddem. Fel y dywedais, mae gennym ni'r astudiaethau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd, ac rwy'n siŵr, ar ôl i ni gytuno ar rai o'r agweddau ymarferol, y byddwn ni'n ymgynghori ar ffordd ymlaen ar hynny. Ni allaf siarad ar gyfer y maes penodol hwn, ond fel rheol byddem yn ceisio ymgynghori ac ymgysylltu ag amrywiaeth mor eang o randdeiliaid â phosibl—yn enwedig y rhai â gwybodaeth arbenigol am sut i weithredu safonau ymarferol mewn aer glân, sef, wedi'r cyfan, fel mae'r Aelod yn ei nodi, yr hyn yr ydym ni i gyd ei eisiau.
Wel, mae aer budr yn lladd ein dinasyddion, ac mae'n difetha bywydau ein plant. Nawr, mae Plaid Cymru wedi amlinellu rhai o'n cynigion o ran mynd i'r afael ag allyriadau o gerbydau, monitro llygredd, ffioedd llygredd a thagfeydd, creu ardaloedd aer glân, ond gan hefyd roi'r sail gyfreithiol honno sydd ei hangen arnyn nhw. Nawr, soniasoch efallai y byddwch chi'n ei ystyried. Wel, rwyf yn eich annog, os gwelwch yn dda, fel Llywodraeth, i gefnogi cynigion Plaid Cymru ar gyfer Bil aer glân i Gymru.
Ie, fel y dywedais, mae gennym ni amrywiaeth o fesurau ar waith, ac mae angen i ni edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud gydag ysgogiadau cyfredol, gan gynnwys bod gennym ni—. Er enghraifft, ymgynghorwyd yn gynharach eleni ar fynd i'r afael â chrynodiadau nitrogen deuocsid ar ymyl y ffordd. Roedd y ddogfen honno'n nodi sut y byddwn yn lleihau crynodiadau o nitrogen deuocsid o amgylch ffyrdd yng Nghymru lle mae lefelau yn uwch na'r terfyn. Bydd y cynllun hwnnw'n cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y mis hwn. Mae gennym ni fframwaith ardal aer glân Cymru hefyd. Bydd y fframwaith terfynol yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn. Mae gennym ni nifer o astudiaethau eraill ac ati, fel y dywedais, ar y gweill. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw cael y gyfres fwyaf gynhwysfawr o fesurau ar waith ac yna edrych i weld beth y gellid ei ychwanegu drwy gael Deddf aer glân. Yn sicr, nid yw hynny oddi ar y bwrdd, ond efallai na fydd yn angenrheidiol. Yr hyn yr hoffem ni ei wneud yn sicr yw bwrw ymlaen â phethau cyn gynted â phosibl.
Diolch i arweinydd y tŷ, yn ateb ar ran y Prif Weinidog.