Defnyddio Canabis at Ddibenion Meddyginiaethol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 27 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:56, 27 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Fel yr ydych chi wedi ei ddweud, o 1 Tachwedd 2018, mae newidiadau i'r ddeddfwriaeth camddefnyddio cyffuriau wedi caniatáu i gynhyrchion seiliedig ar ganabis didrwydded gael eu rhagnodi gan rai meddygon at ddefnydd meddyginiaethol lle ceir angen clinigol arbennig. Ar y pryd, dywedodd ein prif swyddog fferyllol, Andrew Evans, bod nifer y bobl yng Nghymru y byddai canabis meddyginiaethol yn cael ei ragnodi iddynt yn debygol o fod yn fach iawn. Mae'r canllawiau dros dro a gyhoeddwyd yn gyfyngol, ac mae elusennau fel y Gymdeithas MS yn dweud na fydd dim yn newid yn y tymor byr i'r 10,000 o bobl yn y DU sy'n byw gyda MS a allai gael rhyddhad o boen a gwingiadau'r cyhyrau trwy ddefnyddio canabis meddyginiaethol.

Nawr, mae Sativex wedi'i drwyddedu ar gyfer y driniaeth o sbastigedd yn unig, ac wedyn nid yw ond ar gael i grŵp bach o bobl sy'n byw gydag MS sy'n bodloni'r meini prawf. Nawr bod y ddeddfwriaeth wedi cael ei newid, a all y GIG yng Nghymru sicrhau bod canabis meddyginiaethol ar gael i bawb a fyddai'n elwa arno, neu a oes angen i ni barhau i hongian ar gynffonau'r GIG yn Lloegr? Ac a wnaiff Llywodraeth Cymru adolygu'r canllawiau dros dro ar ragnodi canabis meddyginiaethol fel nad yw mynediad at y driniaeth wedi ei gyfyngu mor llym?