1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 27 Tachwedd 2018.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio canabis at ddibenion meddyginiaethol? OAQ52980
Gwnaf. Newidiodd y gyfraith ar ganabis meddyginiaethol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ar 1 Tachwedd 2018. Caiff meddygon arbenigol benderfynu erbyn hyn a ddylid rhagnodi cynhyrchion seiliedig ar ganabis i'w defnyddio ar sail feddyginiaethol pan fo hynny'n briodol yn glinigol.
Fel yr ydych chi wedi ei ddweud, o 1 Tachwedd 2018, mae newidiadau i'r ddeddfwriaeth camddefnyddio cyffuriau wedi caniatáu i gynhyrchion seiliedig ar ganabis didrwydded gael eu rhagnodi gan rai meddygon at ddefnydd meddyginiaethol lle ceir angen clinigol arbennig. Ar y pryd, dywedodd ein prif swyddog fferyllol, Andrew Evans, bod nifer y bobl yng Nghymru y byddai canabis meddyginiaethol yn cael ei ragnodi iddynt yn debygol o fod yn fach iawn. Mae'r canllawiau dros dro a gyhoeddwyd yn gyfyngol, ac mae elusennau fel y Gymdeithas MS yn dweud na fydd dim yn newid yn y tymor byr i'r 10,000 o bobl yn y DU sy'n byw gyda MS a allai gael rhyddhad o boen a gwingiadau'r cyhyrau trwy ddefnyddio canabis meddyginiaethol.
Nawr, mae Sativex wedi'i drwyddedu ar gyfer y driniaeth o sbastigedd yn unig, ac wedyn nid yw ond ar gael i grŵp bach o bobl sy'n byw gydag MS sy'n bodloni'r meini prawf. Nawr bod y ddeddfwriaeth wedi cael ei newid, a all y GIG yng Nghymru sicrhau bod canabis meddyginiaethol ar gael i bawb a fyddai'n elwa arno, neu a oes angen i ni barhau i hongian ar gynffonau'r GIG yn Lloegr? Ac a wnaiff Llywodraeth Cymru adolygu'r canllawiau dros dro ar ragnodi canabis meddyginiaethol fel nad yw mynediad at y driniaeth wedi ei gyfyngu mor llym?
Ie, rwy'n rhannu pryder yr Aelod. Rydym ni i gyd wedi cael etholwyr sydd wedi bod yn cysylltu â ni ynghylch y defnydd o ganabis meddyginiaethol. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig cyflwyno'r sefyllfa wirioneddol fel yr ydym ni'n ei gweld. Felly, cyn y newid i'r gyfraith, gellid rhagnodi Sativex i drin sbastigedd a sglerosis ymledol, pan oedd hynny'n briodol yn glinigol. Ar hyn o bryd, mae saith cwmni fferyllol yn datblygu oddeutu 21 o feddyginiaethau newydd sy'n cynnwys deilliadau canabis neu gyfansoddion canabis synthetig. Wrth i bob meddyginiaeth fod yn barod, bydd yn mynd drwy'r prosesau hirsefydlog sydd ar waith i sicrhau ei bod yn ddiogel ac yn effeithiol ac yn briodol i'w defnyddio. Y prosesau rheoli ansawdd, yn amlwg yw'r ffordd fwyaf diogel i roi mynediad i gleifion at y cyfansoddyn meddygol gweithredol mewn canabis. Mae'r Aelod yn gwybod yn iawn nad yw dosbarthiad cyfreithiol cyffuriau yn fater sydd wedi'i ddatganoli i Gymru. Mae'n dal i fod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU, ac mae'n rhywbeth na allwn ni gymryd camau annibynnol arno. Ond, rydym ni'n credu ei bod hi'n fwyaf priodol edrych ar sail y DU gyfan ar gyfer y defnydd o ganabis meddyginiaethol ac, wrth i'r sail dystiolaeth dyfu ac wrth i'r cynhyrchion sydd ar gael gynyddu, yna bydd y meddyginiaethau sydd ar gael, wrth gwrs, ar gael yn fwy eang yng Nghymru, fel y byddant mewn rhannau eraill o'r DU.
Arweinydd y tŷ, gall camddefnyddio canabis, wrth gwrs, fod yn beryglus dros ben. Gall fod yn llwybr i sylweddau llawer caletach, a all arwain at ddifetha bywydau pobl. A wnewch chi ymuno â mi felly i gondemnio gweithredoedd comisiynydd heddlu a throseddu gogledd Cymru, Arfon Jones, am ei ymddygiad anghyfrifol o ymweld â chlybiau canabis, sy'n hyrwyddo gweithgarwch anghyfreithlon, gan gynnwys bod yn ŵr gwadd ar 23 Hydref mewn clwb canabis preifat yn Llundain? Mae'r math hwn o ymddygiad yn anfon negeseuon cymysg, a dweud y gwir, i bobl ifanc yn ein gwlad. Ac a ydych chi'n cytuno y dylai comisiynwyr heddlu gynorthwyo pobl a'r heddlu i gynnal y gyfraith mewn gwirionedd, nid annog pobl i'w thorri?
Wel, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn peidio â chymysgu'r defnydd o ganabis meddyginiaethol â'r defnydd anghyfreithlon o gyffur rhagnodedig. Felly, nid wyf i'n mynd i fynd i lawr y twll cwningen y mae'r Aelod wedi ei agor o fy mlaen. Rwy'n credu ei bod yn bwysig dros ben gwahaniaethu yn amlwg iawn rhwng y defnydd o gyffuriau anghyfreithlon—sef yr hyn y mae'r Aelod yn sôn amdano—a diben y cwestiwn hwn, sef trafod y canabis meddyginiaethol sydd ar gael yn GIG Cymru.