Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Arweinydd y tŷ, gall camddefnyddio canabis, wrth gwrs, fod yn beryglus dros ben. Gall fod yn llwybr i sylweddau llawer caletach, a all arwain at ddifetha bywydau pobl. A wnewch chi ymuno â mi felly i gondemnio gweithredoedd comisiynydd heddlu a throseddu gogledd Cymru, Arfon Jones, am ei ymddygiad anghyfrifol o ymweld â chlybiau canabis, sy'n hyrwyddo gweithgarwch anghyfreithlon, gan gynnwys bod yn ŵr gwadd ar 23 Hydref mewn clwb canabis preifat yn Llundain? Mae'r math hwn o ymddygiad yn anfon negeseuon cymysg, a dweud y gwir, i bobl ifanc yn ein gwlad. Ac a ydych chi'n cytuno y dylai comisiynwyr heddlu gynorthwyo pobl a'r heddlu i gynnal y gyfraith mewn gwirionedd, nid annog pobl i'w thorri?