6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Awdurdodau Lleol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 27 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:04, 27 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Mae yna grantiau penodol, ac yn sicr, croesawaf unrhyw arian ychwanegol sy'n canfod ei ffordd i mewn i gyllidebau llywodraeth leol. Ond oni fyddwn ni'n edrych ar gyllideb llywodraeth leol yn gyffredinol ac yn rhoi iddynt y rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain ar wariant, ni fyddant yn gallu wynebu'r wasgfa gyffredinol arnynt, a bydd hynny yn y pen draw yn rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau iechyd meddwl, ac ar ofal.

Felly, gadewch imi orffen. Nid yw hyn yn gynaliadwy. Gwn fod cronfeydd wrth gefn yn rhedeg allan yn gyflym iawn yn ardal fy nghyngor i. Mae angen strategaeth arnynt nawr i adeiladu eu cronfeydd wrth gefn, ac ni allant weld y tu hwnt i'r flwyddyn nesaf, pan maen nhw'n poeni y bydd pethau'n hyd yn oed yn waeth nag ydynt nawr. Nid yw'n gynaliadwy, ac nid wyf yn barod i roi'r gorau i alw ar y Llywodraeth hon i chwilio am yr arian ychwanegol sydd ei angen ar lywodraeth leol. Efallai y bydd rhai cynghorau wedi cael eu darbwyllo i beidio â gwneud mwy o sŵn ynghylch hyn ar hyn o bryd, er mwyn cymryd y pwysau oddi ar y Gweinidog hwn a'i Lywodraeth, ond nid wyf i'n barod i ildio eto.