– Senedd Cymru ar 27 Tachwedd 2018.
Daw hyn â ni at yr eitem nesaf, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar awdurdodau lleol, ac rydw i'n galw ar Darren Millar i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6875 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y rôl bwysig a chwaraeir gan awdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.
2. Yn cydnabod yr heriau ariannu y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu yng Nghymru ar hyn o bryd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) adolygu a chynyddu'r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2019-20; a
b) comisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru.
Diolch, Llywydd. Tra byddwn ni yn y Siambr hon yn trafod polisïau a deddfu, awdurdodau lleol Cymru, ein cynghorau ar draws y wlad, yn hytrach na Llywodraeth Cymru, sydd mewn gwirionedd yn y rheng flaen yn darparu llawer o'r gwasanaethau cyhoeddus y mae ein hetholwyr yn dibynnu i leihau anghydraddoldeb, amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed ac adeiladu cymdeithas decach a mwy ffyniannus. Mae ein cynghorau yn chwaraewyr mawr yn yr economi leol, sy'n cyflogi 10 y cant o weithlu Cymru, gan gynnwys 26,000 o athrawon. Ac mae ein cynnig heddiw yn cydnabod nid yn unig yr heriau sy'n wynebu awdurdodau lleol, ond mae hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried gwelliannau pellach i setliad niweidiol y flwyddyn nesaf, ac i gomisiynu adolygiad annibynnol o'r fformiwla ariannu hen ffasiwn y mae'n ei defnyddio i ddosbarthu arian i Lywodraeth Leol.
Ers 2009, mae'r awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gweld toriadau yn eu cyllid o £1 biliwn mewn termau real, sy'n cyfateb i 22 y cant. Ac os ydych yn eithrio arian ar gyfer ysgolion, mae'r cyllid craidd i gynghorau wedi lleihau tua 35 y cant mewn gwirionedd. Nawr, mae hyn ar adeg pan fo llawer o bwysau ariannol ar y cynghorau, gan gynnwys diffygion cyllid pensiwn, dyfarniadau cyflog y sector cyhoeddus a galw cynyddol am wasanaethau fel gofal cymdeithasol i oedolion, oherwydd poblogaeth sy'n heneiddio. Ar ben y toriadau a orfodwyd ar ein cynghorau, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn torri cyllid i ffrydiau ariannu eraill drwy grantiau a ddarperir ar gyfer cyllid ôl-16, er enghraifft, sydd wedi cael eu torri gan un rhan o bump yn y chwe blynedd diwethaf, er gwaethaf addewidion i ddiogelu gwariant ar addysg, a'r grant gwella addysg, a dorrwyd gan £13 miliwn yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Nawr, mae'r pwysau hwn wedi golygu goblygiadau enfawr i wasanaethau awdurdod lleol, gan gynnwys llyfrgelloedd, safleoedd sbwriel, canolfannau hamdden, llwybrau bysiau a hyd yn oed amlder casgliadau biniau. Ac, wrth gwrs, mae gostyngiadau yn y gyllideb wedi gorfodi ein cynghorau i roi mwy o faich ar deuluoedd sydd dan bwysau ledled y wlad o ran y trethi a delir ganddynt. Mae'r dreth gyngor band D cyfartalog yng Nghymru wedi treblu—wedi treblu—ers i Lafur Cymru ddod i rym yma yng Nghymru ym 1999. Mae llawer o ffioedd a thaliadau, a godir gan gynghorau, hefyd wedi gorfod mynd i fyny. Hefyd mae rhai newydd wedi ymddangos. Mae llawer o'n hawdurdodau lleol bellach yn codi tâl am elfen gofal plant clybiau brecwast y Llywodraeth sydd i fod am ddim, tra codir ffi am gasglu gwastraff gardd hefyd mewn llawer o ardaloedd. Ychydig ddyddiau yn ôl, tyrchwyd rhai o'r ffigurau ynghylch taliadau parcio awdurdod lleol: gwerth £10 miliwn ohonynt yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig. A phwy all amau nad yw hynny'n cyfrannu at y bwlch cyllido a amlygwyd o ganlyniad i setliadau gwael iawn a gafwyd gan lawer o'n hawdurdodau lleol? Ac, wrth gwrs, mae ffioedd fel y rheini yn atal pobl rhag siopa ar y stryd fawr. Nawr, rwy'n cydnabod bod cynghorau'n gorfod gwneud rhai dewisiadau anodd, ond maent yn gorfod gwneud y dewisiadau anodd hyn oherwydd y pwysau yr ydych chi, fel Llywodraeth, yn eu rhoi arnynt.
Ac, wrth gwrs, nid dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sydd wedi bod yn rhybuddio Llywodraeth Cymru o niwed posibl ei phenderfyniadau cyllido. Roedd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, Sophie Howe, yn glir iawn yn ei datganiad fis diwethaf bod Llywodraeth Cymru yn gwario gormod o'i chyllideb yn trin salwch, a dim digon o'i chyllideb ar wasanaethau ataliol a ddarperir gan gynghorau, sy'n helpu i gadw pobl yn iach ac i gynnal eu hannibyniaeth. Ysgrifennodd pob un o'r 22 arweinydd cyngor at y Prif Weinidog—oherwydd y sefyllfa o ran y gyllideb ddrafft—ychydig wythnosau yn ôl, yn rhybuddio y byddai'r setliad drafft a ddosbarthwyd ar y pryd ar gyfer 2019-20 yn arwain at, a dyfynnaf, doriadau enfawr mewn gwasanaeth a chodiadau sylweddol yn y dreth gyngor a fyddai, ac rwy'n dyfynnu, yn niweidiol i'n cymunedau. Mae hyd yn oed Gweinidog Llywodraeth Cymru wedi protestio ynghylch toriadau cyllid Llywodraeth Cymru i gynghorau gan gyd-lofnodi llythyr gyda gwleidyddion Llafur eraill, gan gynnwys aelodau o'r Cynulliad hwn, yn galw am adolygiad o'r ffordd yr ariennir cynghorau. Felly, rwy'n obeithiol iawn o'i chefnogaeth yn y cynnig hwn heddiw.
Nawr, rhan o'r broblem, wrth gwrs, yw bod Gweinidogion olynol Llywodraeth Cymru wedi methu â gweld eu perthynas â Llywodraeth Leol fel partneriaeth. Yn hytrach, maent wedi cymryd dull ymosodol iawn, gan gyfeirio'n benodol at ad-drefnu. Yn wir, mae rhai pobl wedi awgrymu ledled Cymru bod dal cyllid ar gyfer cynghorau lleol yn ôl yn ymgais fwriadol gan Lywodraeth Cymru i danseilio cyllid awdurdodau lleol, gan eu gwneud yn anghynaladwy, i roi gorfodi uno cynghorau yn ôl ar yr agenda yma yng Nghymru. Wrth gwrs, datgelodd yr Ysgrifennydd Cabinet presennol ei ddirmyg tuag at awdurdodau lleol yng Nghymru drwy amryfusedd pan gymharodd arweinwyr cynghorau ychydig wythnosau yn ôl, pan oeddent yn gofyn am fwy o arian ar gyfer Llywodraeth Leol, ag Oliver Twist newynog yn gofyn am fwy. Nid oedd yn syndod clywed corws o feirniadaeth, a galwadau am ymddiswyddiad Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl y sylwadau hynny, oherwydd, wrth gwrs, cafodd ei gymharu'n gwbl briodol â Mr Bumble, bedel creulon y tloty Dickensaidd. Nawr, y diffyg parch hwn, fe gredaf i, sy'n bygwth cyflawni gwasanaethau awdurdod lleol drwy'r cytundeb sydd gan Lywodraeth Cymru â llywodraeth leol. Credaf y byddai dyletswydd arnoch heddiw, yn eich ymateb i'r ddadl hon a'r cynnig, Ysgrifennydd y Cabinet, i ymddiheuro am y sylwadau a wnaethoch am awdurdodau lleol yn gofyn am adnoddau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau.
Roedd setliad drafft y flwyddyn hon yn dystiolaeth bellach fod cynghorau yn cael eu tanariannu, a bod y fformiwla ariannu yn hen ac yn anaddas i'r diben bellach. Mae'r achos o blaid diwygio'r fformiwla gyllido wedi dod yn fwyfwy grymus yn y blynyddoedd diwethaf. Mae'r fformiwla gyllido bresennol wedi bod yno ers 17 mlynedd. Mae'n seiliedig ar nifer o wahanol elfennau a dangosyddion, gan gynnwys faint o dreth gyngor y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y gall pob awdurdod lleol ei chodi, a data poblogaeth sy'n seiliedig ar gyfrifiad 1991—1991, a hynny er bod gennym wybodaeth cyfrifiad sy'n hollol gyfredol, ac amcangyfrifon o'r boblogaeth sy'n llawer mwy diweddar. Dan y fformiwla gyllido, mae'r bwlch rhwng yr awdurdodau lleol a ariennir orau a gwaethaf yn ehangu bob blwyddyn, ac ar hyn o bryd saif ar £600 y pen. Mae hynny'n ddegau o filiynau o bunnoedd o dangyllido ar gyfer awdurdodau lleol gwledig gan mwyaf lle, oherwydd daearyddiaeth, mae darparu gwasanaethau yn aml yn llawer drutach. Mae arweinydd Cyngor Bro Morgannwg yn gwbl briodol wedi ymosod ar danariannu ysgolion mewn awdurdodau a ariennir yn wael, ac rwy'n credu—ac rwy'n siŵr y bydd eraill yn y Siambr hon yn credu—bod pob plentyn yn y wlad hon yn haeddu'r cyfle i gyflawni eu llawn botensial. Ond sut mae'n deg os oes gennym loteri cod post o ran gwariant ar ysgolion, oherwydd y trefniadau ar gyfer dosbarthu arian gan y Llywodraeth hon? Does dim maes chwarae gwastad ar gyfer plant yma yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, galwodd arweinydd Cyngor Sir Benfro, y mae eu trigolion yn wynebu cynnydd poenus o 12.5 y cant o gynnydd yn eu treth gyngor eleni, am i'r fformiwla gyllido gael ei hadolygu.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi addasu rhywfaint o ymylon y fformiwla gyllido— ychwanegu ychydig o gyllido teneurwydd poblogaeth, gwneud trefniadau, rhoi arian gwaelodol ar waith—y gwir amdani yw nad yw hyn yn datrys y broblem mewn ffordd eang. Dyna pam mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi disgrifio'r fformiwla gyllido fel, a dyfynnaf, rhywbeth sy'n cael ei dal at ei gilydd gan dâp cryf a phlaster glynu. Felly, mae nifer cynyddol o gynghorau wedi pasio cynigion ledled Cymru eleni, yn galw am arian gwell a fformiwla gyllido newydd. Mae gan lawer o'r cynghorau hynny gynrychiolwyr Llafur sydd wedi cefnogi'r galwadau hynny a chefnogi'r pleidleisiau hynny. Felly, rydym yn gwybod bod yr hyder yn y fformiwla yn isel iawn. Mae wedi arwain at gryn amrywiaeth yn y lefel o gronfeydd wrth gefn a ddelir gan awdurdodau lleol Cymru hefyd. Felly, gwyddom, er enghraifft, fod Cyngor Rhondda Cynon Taf, sydd wedi'i ariannu'n dda, ac sy'n cael ei redeg gan Lafur, yn eistedd yn braf ar werth £152 miliwn o gronfeydd wrth gefn, bron wyth gwaith y lefel o gronfeydd wrth gefn yn Sir Fynwy sy'n cael ei rhedeg gan y Ceidwadwyr, bron saith gwaith lefel y cronfeydd wrth gefn yng Nghonwy—[Torri ar draws.] Byddaf yn falch o dderbyn ymyriad.
Nid wyf yn herio'r ffigurau hynny, oherwydd, yn amlwg, cawsant eu cyhoeddi yr wythnos diwethaf, ond a ydych hefyd yn cydnabod, o'r rhai yr ydych chi newydd sôn amdanynt ar gyfer Rhondda Cynon Taf, fod cyfran fwy eisoes wedi'i dyrannu ac felly nid yw ar gael i'w defnyddio?
Mae honno'n ffordd hawdd gan gyfrifydd o allu neilltuo arian parod a'i dynnu allan o'r hyn a ystyriant yn briodol ac i ddiogelu a chyfiawnhau'r hyn a gredaf sy'n lefelau afresymol o wariant.
Gadewch imi ddyfynnu rhai ffigurau eraill i chi hefyd. Mae Llafur mewn awdurdodau lleol a arweinir gan Lafur yn eistedd ar 57 y cant o'r £1.4 biliwn a ddelir mewn cronfeydd wrth gefn ar draws Cymru. Mae deg awdurdod lleol wedi cynyddu eu cronfeydd wrth gefn ers 2016, er gwaethaf cyni, ac mae hyn yn golygu bod y cynnydd yn Nhorfaen, er enghraifft, wedi mynd o 2 y cant i 21 y cant o'u harian mewn cronfeydd wrth gefn. Credaf fod hyn yn hollol hurt, ac yn sicr nid yw'n deg.
Nid yw'n deg chwaith i awdurdodau lleol yn y gogledd, sydd wedi gweld eu setliadau yn waeth na'r rhai yn y de yn gyson. Felly, mae gennym ardaloedd gwledig wedi'u gosod yn erbyn ardaloedd trefol, mae gennym ardaloedd sydd â phoblogaethau hŷn yn erbyn y rheini â phoblogaethau iau, ac mae gennym y gogledd a'r de wedi'u gosod yn erbyn ei gilydd o ganlyniad i'r fformiwla gyllido ofnadwy hon, sydd wedi hen chwythu ei phlwc.
Felly, mae gennym y pwysau hyn, ac mae'n rhaid inni ymdrin â nhw, a dyna pam rydym yn galw am adolygiad annibynnol—nid gwas bach y Llywodraeth sy'n cael ei benodi i wneud adolygiad, nid adolygiad mewnol o fewn Llywodraeth Cymru o'r fformiwla gyllido hon, ond adolygiad annibynnol gan rywun sydd â chymwysterau addas i edrych ar yr holl elfennau gwahanol hyn yn y fformiwla gyllido ac i feddwl am rywbeth sy'n decach i ddinasyddion Cymru, ni waeth lle y gallent fod yn byw.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, os yw'n gwrando, i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James.
Gwelliant 1—Julie James
Dileu popeth ar ôl 2 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu’r pecyn o gynigion ariannu ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol i wella’r grant cynnal refeniw yn 2019-20, er mwyn mynd i’r afael â’r pwysau wrth inni wynebu nawfed flwyddyn polisi cyni Llywodraeth y DU.
Yn nodi bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru’n cefnogi’r cyhoeddiad fel cam arwyddocaol ymlaen sy’n dangos ymdrech ar y cyd i wrthbwyso effaith cyni yng Nghymru.
Yn nodi bod y setliad llywodraeth leol yn cael ei ddosbarthu drwy fformiwla gan ddefnyddio bron i 70 o ddangosyddion penodol, y cytunwyd arnynt gyda llywodraeth leol, dan oruchwyliaeth arbenigwyr annibynnol, ac yn seiliedig ar yr angen cymharol i wario a’r gallu cymharol i godi incwm yn lleol.
Yn cynnig yn ffurfiol.
Galwaf ar Dai Lloyd i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2:
Yn gresynu bod y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar ddim ond ar gael o ganlyniad i'r arian canlyniadol o ddatganiad hydref Llywodraeth y DU.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
parhau i chwilio am ffyrdd i ddarparu rhagor o arian ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru ar gyfer 2019/20.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n falch o gynnig y gwelliannau yn y ddadl hon, gan adlewyrchu'r pwysau ariannol ar awdurdodau lleol—wel, nid yn unig yn fy rhanbarth i, ond ledled Cymru. Yn amlwg, rwyf wedi bod yn cael llythyrau oddi wrth bobl mewn awdurdodau lleol yr wyf yn ymwneud â nhw, felly rwy'n hapus i ymateb ac i ddadlau'r achos dros gyllid llywodraeth leol.
Yn amlwg, nid wyf yn mynd i ailadrodd y ddadl eto am Oliver Twist a chwarae ar eiriau Dickensaidd gwahanol, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn falch o gael nodi, ond rwy'n canolbwyntio fy nghyfraniad ar bwynt ehangach gwariant awdurdod lleol a'i gyfraniad at holl agenda'r Llywodraeth yma yng Nghymru, ar draws y portffolio.
Ar un adeg, treuliais lawer o flynyddoedd yn gynghorydd sir yn Abertawe. Rwy'n deall y pwysau ar lefel cynghorydd—yn amlwg, nid fi yw unig gyn gynghorydd sir Abertawe yma. Ond hefyd ar un adeg, roeddwn yn feddyg teulu llawn-amser. Rwy'n parhau i fod yn feddyg teulu y dyddiau hyn, er, yn amlwg, wedi aberthu fy ngyrfa feddygol ar allor gwleidyddiaeth. Nid oes gennyf bellach fuddiant ariannol mewn unrhyw beth o ran bod yn feddyg teulu ac, yn wir, nid wyf mwyach yn cymryd cyflog am fy ngwaith parhaus fel meddyg teulu. Ond hyd yn oed yn ôl yn yr adeg pan oeddwn yn feddyg teulu llawn-amser, roeddwn yn bryderus am les fy nghleifion a pham eu bod yn mynd yn sâl bob amser. Rydym bob amser yn cael ein hannog gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol i fynd ar drywydd y rheswm pam mae pobl yn mynd yn sâl yn y lle cyntaf. Felly, fe'm cymhellwyd i ysgrifennu at gyfarwyddwr tai lleol ac egluro oni fyddai'n syniad da mynd i'r afael â thai gwael yn Abertawe i atal fy nghleifion rhag mynd yn sâl. A'r hyn a ddarganfûm fel meddyg teulu oedd y byddwn yn ysgrifennu llythyrau, a wyddoch chi beth, ni fyddai dim yn digwydd. Nid oedd unrhyw gydnabyddiaeth yn dod o fod wedi cael y llythyrau ac yn sicr dim ateb. Felly, sefais yn y pen draw fel ymgeisydd i'r cyngor. Dyna beth mae rhywun yn ei wneud, ynte? Sefais fel ymgeisydd i'r cyngor ac, yn y pen draw, enillais sedd yn ward y Cocyd. Ac yna byddwn yn ysgrifennu llythyrau at y cyfarwyddwr tai fel cynghorydd—yn dal fel meddyg teulu, ond fel cynghorydd gyda disgwyliad o ateb a rhaglen weithredu, a fyddai'n dilyn, bellach yn gynghorydd, ddim byd i'w wneud â bod yn feddyg teulu.
Ond roeddwn yn falch o fod yn gynghorydd sir oherwydd daeth yn amlwg, hyd yn oed i ni yn y gwasanaeth iechyd, fod y ffactorau sy'n dylanwadu ar iechyd da mewn gwirionedd yn gorwedd y tu allan i'r gwasanaeth iechyd a'r hyn y gallem ei wneud fel meddygon a nyrsys; mae'n gorwedd mewn llywodraeth leol. Dyna pam yr oeddwn yn falch o fod yn gynghorydd sir lleol, oherwydd mae iechyd yr amgylchedd o fewn llywodraeth leol, mae tai o fewn llywodraeth leol, trafnidiaeth gyhoeddus, cynllunio, addysg, gwasanaethau cymdeithasol—mae nhw i gyd yn gorwedd o fewn llywodraeth leol. Felly, mae gan lywodraeth leol ran enfawr i'w chwarae i fynd i'r afael â'r penderfynyddion iechyd gwael hynny, y materion hynny sy'n gwneud pobl yn sâl yn y lle cyntaf. Rydym fel pwyllgor iechyd bellach yn gwneud adolygiad o weithgarwch corfforol, swyddogaethau canolfannau hamdden, meysydd chwarae ysgolion, ysgolion, addysgu—hollbwysig yn hynny o beth o ran addysg. Swyddogaeth llyfrgelloedd, yn amlwg, cyfleusterau dysgu, dysgu gydol oes—o'r pwys mwyaf ar gyfer aros yn iach. Mae gwaith traws-bortffolio yma. Ac ydynt, mae pobl eisiau gweld mwy o wariant ar iechyd, ond credaf, yn ehangach, byddwn yn gwarantu y byddai pobl am weld mwy o wariant ar atal iechyd gwael. Fel gweithiwr iechyd proffesiynol, nid wyf wedi fy nhrwytho mewn gallu hybu iechyd, ac mae'r gwariant pwrpasol o fewn y gwasanaeth iechyd ar gyfer atal salwch yn druenus o isel. Rydym yn dibynnu ar atal salwch yn digwydd mewn mannau eraill, a'r mannau eraill hynny yw mewn llywodraeth leol, mynd i'r afael â'r penderfynyddion iechyd gwael hynny sydd ar y tu allan i'r GIG, ond y tu mewn i lywodraeth leol.
Felly, byddwn yn pwyso ar Ysgrifennydd y Cabinet—rwy'n siŵr ei fod yn ymwybodol o'r pwyntiau hynny—i gael y drafodaeth draws-bortffolio honno ynghylch sut y gall gwariant llywodraeth leol mewn gwirionedd helpu i leihau'r gwariant ar iechyd ac i'r gwrthwyneb. Ac, o ran iechyd, i orffen, hoffwn weld llwybrau agored ac am ddim ar gyfer llywodraeth agored i dderbyn atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol iechyd yn uniongyrchol. Nid dros y blynyddoedd yn unig y cafodd fy llythyrau tai eu gwrthod, ond nawr, os wyf yn barnu y byddai fy nghleifion yn elwa o atgyfeirio addysg, ni allaf atgyfeirio at addysg nac i'r gwasanaethau cymdeithasol—ni allaf atgyfeirio'n uniongyrchol i'r gwasanaethau cymdeithasol. Mae'n sefyllfa chwerthinllyd, a chredaf y byddai llawer o'r galw am Ddeddf awtistiaeth yn cael ei ddileu gyda chydweithio gwirioneddol. Pe byddech yn caniatáu i weithwyr proffesiynol gofal iechyd sylfaenol allu atgyfeirio'n uniongyrchol at adrannau llywodraeth leol, byddai pethau'n gwella sylweddol. Byddwn yn erfyn, wrth orffen, ar i Ysgrifennydd y Cabinet ymgysylltu ag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i'r perwyl hwn. Diolch yn fawr.
Wrth gwrs, rhannaf yr un rhanbarth â Dai Lloyd, Gorllewin De Cymru. Mae'n gartref i dri awdurdod lleol. Maen nhw i gyd yn cael eu rhedeg gan Lafur, o gryn dipyn. Beth? Dim 'ie wir'? Roeddwn i'n rhyw ddisgwyl i rywun ddweud 'woohoo' ar y pwynt hwnnw. Ac, wrth gwrs, mae hyn wedi bod am flynyddoedd lawer, ar wahân i un neu ddau arbrawf byrhoedlog gan yr etholwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe.
Efallai yr hoffai Llywodraeth Cymru ddadlau nad yw Gorllewin De Cymru, o'i gymharu â rhannau eraill o Gymru, wedi gwneud cynddrwg yn y setliad llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rwy'n siŵr y byddai fy nghyd-Aelodau o wahanol rannau o Gymru, yn enwedig yng nghefn gwlad a'r gogledd, yn dadlau hynny hefyd. Yn bwysicach i'm hetholwyr, serch hynny, bydd y tri chyngor Llafur hyn yn dweud, ar ôl wyth mlynedd o doriadau mewn termau real gan Lywodraeth Cymru, y setliad eleni yw'r diwedd iddyn nhw hefyd.
Felly, byddaf yn dechrau gyda Phen-y-bont ar Ogwr. Roedd eu harweinydd yn rhybuddio, yn ôl yn yr haf, am doriadau nid yn unig i lyfrgelloedd a phyllau nofio ond i gymorthdaliadau bysiau a darpariaeth feithrin. Felly, rydym ar fin cyflwyno gofal plant am ddim i rai tair a pedair oed drwy ddeddfwriaeth ar adeg pan mae'n bosib y torrir ar ddarpariaeth Pen-y-bont ar Ogwr. Ers hynny, mae arweinydd y cyngor wedi diweddu ei ymrwymiad i warchod ysgolion, ac wrth gwrs rydym eisoes yn gwybod am y gwahaniaeth fesul pen y caiff plant mewn ysgolion yng Nghymru o'u cymharu â Lloegr. Mae ef hefyd wedi diweddu ei ymrwymiad i warchod cyllidebau gwasanaethau cymdeithasol, gan nodi, pan fydd Llywodraeth y DU yn rhoi £950 miliwn yn ychwanegol i Lywodraeth ei blaid, bydd cyngor ei blaid ef yn cael cyfran.
Mae rhan fawr o'r arian ychwanegol, wrth gwrs, wedi mynd at y gyllideb iechyd genedlaethol—yn amlwg, mae Dai wedi cyfeirio at hyn—ond pan ddaw'n fater o gronni cyllidebau ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, yn achos Pen-y-bont, y cyngor sy'n cyfrannu 72 y cant o'r gyllideb honno, a'r gwasanaeth iechyd fydd mewn gwirionedd yn cael yr hwb o gyllideb eleni. Mae hynny, yn wir, yn swnio'n anghywir i mi. Ar yr un pryd, mae'r un arweinydd cyngor yn mynd i orfod dod o hyd i £4 miliwn ar gyfer cyflogau athrawon— nid pensiynau, cyflogau. Er gwaethaf sicrwydd gan yr Ysgrifennydd addysg y bydd pob un geiniog a gaiff Llywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU ar gyfer cyflogau athrawon yn mynd at y diben hwnnw, mae'r arweinydd yn honni nad yw ond yn cael ffracsiwn o'r hyn y byddai'n ei gael i dalu am y gost.
Yn Abertawe, lle mae'r cyngor yn chwarae rhan bwysig yn rhanbarth dinas Bae Abertawe, mae'r arweinydd hefyd wedi cyfeirio at gyflogau athrawon, gan ddweud nad yw ond wedi cael £606,000 o'r £7 miliwn sydd ei angen arno drwy Lywodraeth Cymru. Ac, fel y cyhoeddodd hefyd na ellir diogelu unrhyw wasanaethau, dywedodd yn swta, a dyfynnaf:
Weithiau mae'n teimlo nad oes gennym Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Llywodraeth Leol. Dylai ostwng ei ben mewn cywilydd.
Ac, mewn ymateb i'r sen Oliver Twist nid anenwog, roedd yr arweinydd cyngor Llafur hwn yn barod i gwrdd â Mr Bumble gyda, dyfynnaf, 'y ffiol gardod fwyaf ', oherwydd fe'u gyrrwyd i hynny: cardota.
Cyhoeddodd Castell-nedd Port Talbot eu bod—dyfyniad eto—
yn mynd yn agos iawn at fethu â rhedeg gwasanaethau yn ddiogel.
Ac nid dim ond siarad am y grant cynnal refeniw y maen nhw. Bydd mil o blant Sipsiwn a Theithwyr sy'n agored i niwed yn ardal y fwrdeistref sirol yn colli eu cymorth wrth i'r grant gael ei dorri o £250,000 i £85,000—a dim ond £85 y plentyn yw hynny. Ac mae hynny er gwaethaf y Gweinidog cyllid yn dweud y byddai miliynau ar gael i blant Sipsiwn a Theithwyr yn ei ddatganiad yn cyhoeddi'r gyllideb ddrafft. Mae hyn, wrth gwrs, yn cael effaith ganlyniadol i'r grant cynnal refeniw yng Nghastell-nedd Port Talbot a'r cyllid ar gyfer cynhwysiant, iechyd ac addysg. Ac, wrth i Gastell-nedd Port Talbot golli allan, uno llechwraidd sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru, yn rhoi cymorth Sipsiwn a Theithwyr i ddim ond pedwar cyngor i weithredu'n rhanbarthol—wel, mae amheuaeth gref na fydd y llwybr hwn o ariannu ei hun yn cael ei gynnal.
Yn y pen draw, Castell-nedd Port Talbot sy'n ei dweud fel y mae, ac rwy'n dyfynnu eto:
Ni all Llywodraeth Cymru barhau i ddefnyddio cyni fel esgus dros beidio â chaniatáu i Lywodraeth Leol ddarparu gwasanaethau hanfodol i bob etholwr.
Ac mae cynghorau Llafur hyd yn oed wedi cael llond bol ar y byji'n taro'r un hen gloch, yn enwedig pan ydym yn cael 20 y cant yn fwy y pen yng Nghymru nag yn Lloegr o ran cyllid. Ac, er bod yn rhaid i rai cynghorau esbonio pam nad ydynt yn defnyddio'r cronfeydd wrth gefn hynny y gellir eu defnyddio, ac eraill yn gorfod esbonio sut mae rheoli gwael wedi arwain at ostyngiad mewn incwm a enillir, maen nhw, fel y dywed arweinydd Llafur Ogwr, wedi cyrraedd diwedd y ffordd.
Mae pump o'r saith Aelod Cynulliad etholaeth o orllewin De Cymru yn aelodau o Lywodraeth Cymru a bydd fy etholwyr eisiau cael esboniad ganddynt. [Torri ar draws.] Rydych chi wedi eich arbed. A fyddant yn dweud yn gyhoeddus bod y cynghorau hyn, yn ôl pob tebyg, yn cael eu diogelu rhag y gwaethaf o'r toriadau oherwydd eu bod yn cael eu gwarchod gan gynrychiolaeth Lafur—y neges wleidyddol y bydd eu cefnogwyr eisiau ei chlywed? Neu a fyddant yn honni, wrth gwrs, nad oes unrhyw amddiffyniad pleidiol o'r fath— mae'r cyfan yn seiliedig ar angen? Os felly, a allant esbonio pam mae'r angen yn parhau mor uchel yn ardaloedd eu cynghorau eu hunain pan fyddant wedi bod mewn Llywodraeth ers dwy flynedd? Neu a fydd yn rhaid iddynt gyfaddef, er eu bod yn ffurfio dros draean o'r Llywodraeth, nad ydynt wedi cael unrhyw drosoledd i wella'r setliad llywodraeth leol hwn yn ystyrlon?
Nawr, mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisiau cael gwared ar y tâp cryf a'r plaster glynu dros yr hen fformiwla hon sydd wedi gweld dyddiau gwell, fel y mae CLlLC. Ond rwy'n dweud wrth fy nghyd-Aelodau Llywodraeth yng Ngorllewin De Cymru —. Nid wyf yn siarad â chi, Ysgrifennydd y Cabinet; ond gyda fy nghyd-Aelodau yng Ngorllewin De Cymru. Nid yw'n ymwneud â chynghorau ar flaen y ciw ar gyfer symiau canlyniadol munud olaf y DU—mae'n ymwneud â chi ar flaen y ciw i ddiwygio'r fformiwla gyllido o fewn Llywodraeth. Diolch.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Wel, a gaf i ddweud, ar nodyn cadarnhaol, rwyf yn falch iawn o glywed pobl newydd yn cymryd diddordeb mewn llywodraeth leol ac yn cefnogi llywodraeth leol o feinciau'r wrthblaid? Rwyf wedi arfer â Siân Gwenllian a David Lloyd yn cefnogi llywodraeth leol dros y blynyddoedd diwethaf—felly, rwy'n falch o weld pobl eraill yn ymuno.
A gawn ni edrych—? [Torri ar draws.] A gawn ni edrych—? A gaf i atgoffa pobl nad oedd mor bell â hynny yn ôl pan oedd y Ceidwadwyr am dorri cyllid Llywodraeth leol? Ac maen nhw'n dal— [Torri ar draws.] Ac maen nhw'n dal heb benderfynu o ble'r ydym yn mynd i gymryd yr arian. Os ydych yn edrych ar y fformiwla, a yw'r fformiwla'n berffaith? Na. Ond pam ddaeth hi i mewn? Daeth i mewn er mwyn sicrhau bod awdurdodau yn cael eu hariannu'n ddigonol drwy ein grant cynnal trethi. Ond roedd hynny cyn y cymerwyd safle'r ardrethi busnes, ac yna cawsant eu dileu o lywodraeth leol.
Mae'r hyn sydd angen i'r cyngor ei wario yn cael ei gyfrifo mewn asesiad o wariant safonol. Ac mae'n rhyfeddol, mewn gwirionedd, pan edrychwch ar y tabl cynghrair o asesiadau gwariant safonol ar gyfer addysg a gwariant ar gyfer addysg, pa mor agos y maent i'w gilydd. Yr hyn sy'n achosi i'r swm fynd i fyny ac i lawr yn bennaf yw newid yn y boblogaeth. Dyna'r prif sbardun—
A fydd yr Aelod yn ildio?
Gwnaf, yn sicr.
Mae'n cyfeirio at newid yn y boblogaeth, ond mae bron 30 mlynedd, yn sicr, bellach ers y cymerwyd y cyfrifiad. Mae rhwng traean a hanner y bobl a gafodd eu mesur bellach wedi marw, yn ôl pob tebyg. A yw hynny'n sail briodol ar gyfer mesur poblogaeth, neu a yw oherwydd mai'r cynghorau Llafur sydd â'r poblogaethau sy'n gostwng?
Wel (1) nid yw hynny'n wir, ac roeddwn yn sôn am newidiadau o flwyddyn i flwyddyn.
Roedd ardrethi busnes wedi'u canoli ac yn cael eu casglu'n lleol ac yna eu hailddosbarthu gyda'r grant cynnal ardrethi yn rhan o gyllid allanol crynswth. Nawr, sut caiff yr arian ei ddosbarthu? Mae Blaenau Gwent yn cael £1,587 a Sir Fynwy yn cael £995. Ydy hynny'n deg? Wel, mae 8.8 y cant o eiddo Blaenau Gwent ym mand D; mae 65.8 y cant o eiddo Sir Fynwy ym mand D. Felly, mae cynnydd o 1 y cant yn y dreth gyngor ym Mlaenau Gwent a chynnydd o 1 y cant yn y dreth gyngor yn Sir Fynwy yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Y cyfartaledd yw £1,344 y pen. I hanner y cynghorau byddai'n fwy; i hanner, byddai'n llai.
Rwy'n mynd i ddarllen y cynghorau allan yn eu trefn, er mwyn rhoi hyn ar gofnod. Y cyntaf yw Blaenau Gwent, yn ail yw Merthyr, y trydydd yw Rhondda Cynon Taf, y pedwerydd yw Castell-nedd Port Talbot, y pumed yw Sir Ddinbych, y chweched yw Caerffili, mae Tor-faen yn seithfed, Casnewydd yn wythfed, Gwynedd yn nawfed, Sir Gaerfyrddin yn ddegfed, Ynys Môn yw'r unarddegfed, y deuddegfed yw Pen-y-bont ar Ogwr, Ceredigion yw'r trydydd ar ddeg, Powys yw'r pedwerydd ar ddeg, Conwy yn bymthegfed, Sir Benfro yn unfed ar bymtheg, Abertawe yn ail ar bymtheg, Wrecsam yn ddeunawfed, Sir y Fflint yn bedwaredd ar bymtheg, Caerdydd yn ugeinfed, Bro Morgannwg yn unfed ar hugain a Sir Fynwy yn ail ar hugain.
Clywn yn gyson alwadau am i'r fformiwla dyrannu arian gael ei newid. Gan fy mod yn cynrychioli Abertawe, sydd yn yr ail safle ar bymtheg, gallwn i ddweud sut y byddai o fudd i ni, ond, pe byddech yn rhoi swm penodol i bawb, byddai'r 12 uchaf, o ran faint y maen nhw'n ei gael, yn y pen draw yn cael llai, a byddai'r 11 ar y gwaelod yn cael mwy, oni bai bod swm ychwanegol o arian yno. Roeddwn yn aelod o'r is-grŵp dosbarthu flynyddoedd lawer yn ôl, pan wnaeth fân newid i'r fformiwla priffyrdd. Roedd yn 52 y cant y boblogaeth, 48 y cant hyd ffyrdd; aeth i 50 y cant ar gyfer pob un. Yr hyn ddigwyddodd yn y fan honno oedd y bu enillwyr a chollwyr. Enillodd Powys a Gwynedd, collodd Caerdydd a Chasnewydd.
Am bob un sy'n dweud y dylid rhoi mwy o sylw i deneurwydd poblogaeth a gwledigrwydd, mae rhywun sy'n dweud bod angen inni roi mwy o ystyriaeth i dlodi ac amddifadedd. Bydd cynghorau fel Sir Benfro yn dweud, gyda rhywfaint o gyfiawnhad, fod eu poblogaeth yn cynyddu'n aruthrol yn ystod misoedd yr haf, a thrwy hynny eu costau. Bydd cynghorau fel Caerdydd yn dweud bod ganddyn nhw ddigwyddiadau mawr a mewnlifiad dyddiol o bobl, a bod hynny'n cynyddu eu costau. Mae pawb yn dweud bod angen rhagor o gyllid arnynt.
Ac yn fy marn i, mewn gwirionedd, gallech chi newid y fformiwla—. Mae pawb yn credu: byddwch chi'n newid y fformiwla a bydd pawb ar eu hennill. Mae hynny'n amhosibl yn ariannol ac yn anwybodus yn rhifyddol. Os oes gennych chi yr un swm o arian i'w ddosbarthu rhwng 22 o gynghorau, bydd gennych chi enillydd a chollwr bob tro. Mae Llywodraeth leol wedi derbyn cynnydd ers y cyhoeddwyd y cyllid cychwynnol. Dylai Cymru fod â £800 miliwn ychwanegol, yn seiliedig ar wariant 2008, yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, ffigur nad yw neb eto wedi anghytuno ag ef. Rydym ni'n cael cam gan San Steffan. Mae rhai pobl yn dweud—[Torri ar draws.] Mae rhai pobl yn dweud—
A wnewch chi gymryd ymyriad, Mike, ar hynny?
Gwnaf.
Rydych chi wedi clywed dro ar ôl tro, am bob £1 a werir, yn y diwedd rydym yn cael £1.20 yma yng Nghymru. Sut mae hynny'n ein twyllo?
Oherwydd nad ydym yn cael yr arian y dylem fod yn ei gael pe byddem wedi codi o ran—[Torri ar draws.] Pe byddem wedi codi o ran ble'r oeddem 10 mlynedd yn ôl.
Wrth gwrs, mae rhai yn dweud y bydd uno cynghorau yn datrys rhan o'r broblem. Ar gyfer hynny, mae gennyf ddau air—Betsi Cadwaladr—neu dri gair—Cyfoeth Naturiol Cymru. Gellir cael rhagor o arian ychwanegol—[Torri ar draws.] Gellir cael rhagor o arian ychwanegol—[Torri ar draws.] Gellir cael rhagor o arian ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol gan, er enghraifft, drafnidiaeth a datblygu economaidd. Pan mae angen mwy o arian ar lywodraeth leol i gefnogi gwasanaethau presennol, nid yw'n helpu pan ddarperir arian wedi'i neilltuo ar gyfer rhywbeth newydd. Bydd yn rhaid talu cost pensiynau athrawon. Nid yw cynghorau yn dweud wrth ysgolion, 'Rhaid ichi ei dalu o effeithlonrwydd'; maent yn edrych i geisio dod o hyd i'r arian ar eu cyfer.
Yn olaf, nid yw'n ddigon da gosod gwasanaethau cyhoeddus yn erbyn ei gilydd neu ofyn am fwy o arian ar gyfer pob gwasanaeth cyhoeddus—un yr wythnos. Y swm o arian a gawn ni yw'r grant bloc—ac roeddent yn arfer dweud ei fod yn grant bloc, nes i rai pobl fy meirniadu i, ond dyna'r swm o arian sydd gennym ni i'w ddefnyddio. A gaf i ofyn, wrth i'r Ceidwadwyr grynhoi, a allant esbonio o ble y daw'r arian ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol? Ac, os ydynt yn ei dynnu allan o iechyd, sut yn union?
Diolch am y cyfle i ymateb ac i wneud sylw neu ddau ynglŷn â gwelliannau Plaid Cymru. Rwy'n cytuno â chynnwys y cynnig, heb os, a chryfhau ydy ein bwriad ni efo'n gwelliannau ni heddiw yma. O ran gwelliant y Llywodraeth, rydym ni'n mynd i glywed gan y Gweinidog, heb os, am effaith polisïau llymder y Llywodraeth Geidwadol rŵan, a chyn hynny y Llywodraeth Geidwadol a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan, ac, wrth gwrs, rydw i'n cytuno'n llwyr. Allaf i ddim faddau y torri mileinig sydd wedi bod ac sydd wedi gwasgu gymaint ar wasanaethau cyhoeddus ers ddim yn bell o ddegawd erbyn hyn. Ideoleg sydd wedi gyrru hyn, rydym ni'n gwybod, ac fel y byddwn ni'n trafod mewn dadl arall yn nes ymlaen y prynhawn yma, y tlotaf sy'n dioddef. Ond, trafod yn fan hyn rydym ni'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi dewis ei wneud efo'r gyllideb sydd ganddi hi. Ydy, mae'r gyllideb wedi cael ei gwasgu dros y blynyddoedd ond, eleni, yn erbyn cefnlen o gynnydd bach yn y cyfanswm arian sydd ar gael ar gyfer 2019-20, mae llywodraeth leol yn amlwg yn parhau i fod yn flaenoriaeth isel iawn i'r Llywodraeth Lafur yma. Yr wythnos ddiwethaf, wrth gwrs, mi gawsom ni gyhoeddiad gan yr Ysgrifennydd cyllid fod yna rywfaint yn rhagor o arian yn mynd i gael ei ddyrannu i gynghorau Cymru o'i gymharu â'r gyllideb ddrafft, a heb os mae pob un geiniog yn help, ond mae'n rhaid gofyn pam ei bod hi wedi cymryd consequentials o'r gyllideb Brydeinig i Lywodraeth Cymru roi briwsion i'r cynghorau yma.
Mae'r ffigurau gennym ni, wrth gwrs. Mi wnaeth cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ddangos cynnydd o 2.4 y cant yn y gyllideb gwariant refeniw ar gyfer 2019-20, ond wrth i'r arian yna gynyddu—nid o lawer, ond mae o'n gynnydd—beth welsom ni ond toriad o 1.9 y cant yng nghyllideb llywodraeth leol? Dewis gwleidyddol, felly, oedd y penderfyniad i dorri, nid rhywbeth lle nad oedd dewis ond gwneud hynny. Llymder Llafur ydy hyn.
Ni all llywodraeth leol Cymru ond gweld hwn fel cyni'r Blaid Lafur yma yn Llywodraeth Cymru, yn dwysau degawd bron o doriadau cyni Torïaidd dwfn ac, i mi, anfaddeuol. Mae torri gwariant gan bron 2 y cant pan fo cyllid refeniw cyffredinol i fyny dros 2.4 y cant—neu 2.4 y cant—yn ymwneud â llywodraeth leol ddim yn cael y flaenoriaeth yr ydym ni ar feinciau Plaid Cymru yn ddweud y mae'n ei haeddu. Nawr, fe wnaeth symiau canlyniadol cyllideb y DU lacio'r gafael cryf ar gynghorau Cymru, ond rwy'n cwestiynu pam y dewisodd Llywodraeth Cymru roi'r cynghorau yn y gafael cryf iawn hwnnw yn y lle cyntaf.
Beth ydym ni'n ei weld mewn mannau eraill yn y gyllideb hon? Rydym yn gweld cynnydd sylweddol unwaith eto yn y gwariant ar iechyd. Nawr, nid wyf yn mynd i ddadlau yn erbyn rhoi arian i iechyd a gofal cymdeithasol, ond mae'n rhaid inni weld darparu gwasanaethau cyhoeddus yn y cylch. Mae llywodraeth leol yn rhan bwysig o ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol. Gan fod y cynghorau'n cael eu hamddifadu o arian, mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn ei chael hi'n anodd, a bydd y pwysau wedyn ar ofal iechyd eilaidd drud yn codi a chodi, maen nhw'n gorwario, mae arian ychwanegol yn cael ei gyfeirio atyn nhw mewn cyllideb ar ôl cyllideb. Mae'n sefyllfa ddieflig. A ydym yn gweld yma y Llywodraeth yn ymateb i alwad gyhoeddus am fwy o arian ar gyfer iechyd? O bosib, efallai fod hynny'n wir, ond mae angen inni weld buddsoddi yn y pethau hynny sy'n helpu i ddarparu gofal iechyd, nid dim ond y GIG. Ac mae hynny nid yn unig yn golygu ariannu ysbytai, mae'n golygu ariannu cynghorau fel y gallant ddarparu gofal cymdeithasol cadarn, fel y gallant ddarparu gwasanaethau hamdden cryf fel y cedwir pobl yn iach, er mwyn i addysg gael y buddsoddiad sydd ei angen arno, oherwydd addysg yn amlwg yw'r llwybr ar gyfer gwneud yn siŵr bod pobl yn cael yr offer i'w harfogi i wneud y penderfyniadau iawn.
Diolch. Felly a fyddech wedyn yn dweud y byddech yn dymuno torri'r £30 miliwn ar gyfer y gyllideb gofal cymdeithasol neu'r £20 miliwn ar gyfer y gyllideb gofal iechyd meddwl? Ble fyddech chi'n rhoi'r toriadau hynny os nad ydych yn dymuno, fel y dywedasoch, torri'r gyllideb iechyd yn awr?
Mae yna grantiau penodol, ac yn sicr, croesawaf unrhyw arian ychwanegol sy'n canfod ei ffordd i mewn i gyllidebau llywodraeth leol. Ond oni fyddwn ni'n edrych ar gyllideb llywodraeth leol yn gyffredinol ac yn rhoi iddynt y rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain ar wariant, ni fyddant yn gallu wynebu'r wasgfa gyffredinol arnynt, a bydd hynny yn y pen draw yn rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau iechyd meddwl, ac ar ofal.
Felly, gadewch imi orffen. Nid yw hyn yn gynaliadwy. Gwn fod cronfeydd wrth gefn yn rhedeg allan yn gyflym iawn yn ardal fy nghyngor i. Mae angen strategaeth arnynt nawr i adeiladu eu cronfeydd wrth gefn, ac ni allant weld y tu hwnt i'r flwyddyn nesaf, pan maen nhw'n poeni y bydd pethau'n hyd yn oed yn waeth nag ydynt nawr. Nid yw'n gynaliadwy, ac nid wyf yn barod i roi'r gorau i alw ar y Llywodraeth hon i chwilio am yr arian ychwanegol sydd ei angen ar lywodraeth leol. Efallai y bydd rhai cynghorau wedi cael eu darbwyllo i beidio â gwneud mwy o sŵn ynghylch hyn ar hyn o bryd, er mwyn cymryd y pwysau oddi ar y Gweinidog hwn a'i Lywodraeth, ond nid wyf i'n barod i ildio eto.
Mae Llywodraeth Leol yng Nghymru yn wynebu argyfwng ariannu. Ers 2009, mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cael toriad mewn termau real o 22 y cant i'w cyllidebau—£1 biliwn o doriadau cyllid oherwydd polisi Llywodraeth Cymru. Dan y cynigion ariannu drafft gwreiddiol, byddai 15 o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gweld gostyngiad yn y cyllid. Afraid dweud, derbyniwyd y cynigion â chryn siom gan arweinwyr llywodraeth leol Cymru, siom a wnaeth droi'n ddicter yn gyflym pan wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol eu cymharu ag Oliver Twist, bob amser yn gofyn am fwy.
Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe y dylai'r Prif Weinidog ymbellhau oddi wrth sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet ac ystyried a yw'n briodol iddo aros yn y cabinet yn ei sefyllfa bresennol... Nid ymddiheuraf am ofyn am fwy o adnoddau gan Lywodraeth Cymru i arbed y gwasanaethau hynny a ddarperir gan athrawon, gweithwyr ieuenctid, llyfrgellwyr a gweithwyr gofal sy'n gweithio'n galed iawn i ddiogelu cymunedau yng Nghymru.
Yn gyntaf, yr adlach hwn—gwnaeth y Llywodraeth hon, sydd fel Scrooge, dro pedol llawn cywilydd. Diolch i arian ychwanegol y bydd Cymru yn ei dderbyn oherwydd cyllideb y Canghellor yn yr Hydref, canfuwyd bod mwy o arian ar gael i gynghorau Cymru. Fodd bynnag, hyd yn oed pan oedd y trefniadau newydd yn cael eu hystyried, erys y ffaith fod yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cael toriad mewn cyllid, yr wythfed flwyddyn yn olynol o doriadau i gyllidebau cynghorau mewn termau real.
Mae'r cynghorau hefyd wedi wynebu problemau a achosir gan fformiwla ariannu nad yw'n addas i'r diben. Yn gyntaf, y corws o anfodlonrwydd ynghylch y trefniadau ariannu presennol—mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrthod mewn modd dirmygus ymgysylltu â'r sector. Tynnodd setliad dros dro llywodraeth leol ar gyfer 2019-20 sylw at raniad clir rhwng cynghorau yn y gogledd ac yn y de. Mae pob un o'r chwe chyngor yn—[Torri ar draws.] Ie, ewch ymlaen, Mike.
Y cyllid allanol agregedig chweched uchaf yw sir Ddinbych.
Iawn, diolch yn fawr am yr ystadegyn, ond credaf y gwyddoch yn well na—. Mae eich Llywodraeth wedi torri'r cyllid ar gyfer y cynghorau mwyaf ffyniannus yng Nghymru. Byddai pob un o'r chwe chyngor yn y gogledd wedi gweld toriad o hanner 1 y cant o leiaf yn eu cyllideb. Byddai tri wedi derbyn toriad cyllideb o 1 y cant eisoes.
Unwaith eto, bydd cynghorau gwledig yn dioddef o'u cymharu ag awdurdodau trefol dan arweiniad Llafur. Mae'r fformiwla gymhleth ac annheg hon wedi arwain at sefyllfa lle mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi gallu storio cronfeydd wrth gefn na ellir eu defnyddio o £152 miliwn. Mae hwnnw'n ffigur syfrdanol. Eto, mae cynghorau Sir Fynwy a Phowys wedi gorfod cyflwyno toriadau i'r gyllideb i fantoli eu llyfrau.
Mae'r Llywodraeth Lafur hon yn gyson wedi methu â chydnabod y problemau penodol a wynebir gan awdurdodau cynghorau gwledig yng Nghymru wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Ceir costau uwch wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig, a bydd gweithredoedd y Llywodraeth hon yn anochel yn arwain at doriadau i wasanaethau a chodiadau yn y dreth gyngor. Ym 1997, y dreth gyngor band D cyfartalog yng Nghymru oedd £490. Bellach mae bron yn £1,492, cynnydd anhygoel o dros 200 y cant. Mae hynny i gyd yn ystod y Llywodraeth Lafur. Mae codiadau uchel iawn yn y dreth gyngor wedi cael effaith ddinistriol ar aelwydydd Cymru. Mae Cyngor ar Bopeth wedi labelu'r dreth gyngor fel y broblem dreth fwyaf yng Nghymru.
Mae awdurdodau lleol wedi ceisio sicrhau bod cymaint o arian â phosib yn cael ei gyfeirio at wasanaethau rheng flaen drwy dorri gwastraff a biwrocratiaeth ddiangen. Ond bydd fformiwla ariannu annheg y Blaid Lafur yn golygu y bydd pobl, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, yn wynebu toriadau niweidiol mewn gwasanaethau cyhoeddus a biliau treth gyngor cynyddol. Mae angen adolygiad strategol o'r fformiwla gyllido i sicrhau setliad tecach. Mae angen fformiwla gyllido sy'n ystyried anghenion cefn gwlad Cymru ac sy'n sicrhau na chaiff cynghorau gwledig eu cosbi mwyach. Galwaf ar y Cynulliad i gefnogi ein cynnig a sicrhau mwy o degwch i awdurdodau lleol yng Nghymru. Diolch i chi.
Rwy'n codi i gefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru i'r cynnig hwn gan y Torïaid, ac rwy'n edrych ar yr olygfa gywilyddus o'r Torïaid gyferbyn â mi yn codi i ddweud bod awdurdodau lleol yn cael trafferthion—wel, gadewch inni fod yn onest, yn blwmp ac yn blaen, ysgwydwch y goeden arian hud honno, a byddwn yn cael mwy o arian, mwy o werth am ein harian o wneud hynny.
Rwyf i yn un, wedi blino clywed am gyni, felly hefyd pobl Islwyn sy'n dioddef oherwydd yr ideoleg wleidyddol, greulon hon—ideoleg sydd wedi methu â lleihau diffyg y DU—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Nid wyf i wedi gorffen eto, diolch. Fe wnaf yn nes ymlaen—[Chwerthin.]—ond mewn gwirionedd mae wedi cynyddu diffyg y DU—[Torri ar draws.] Fe wnaf hyn yn nes ymlaen, iawn.
Rydym ni wedi bod yn dioddef nawr am naw mlynedd hir, ac nid yw'n beth i chwerthin yn ei gylch i bobl yn fy etholaeth i, sy'n dioddef canlyniadau cyni a diwygio lles. Mae hyn ar wahân—[Torri ar draws.] Mae hyn ar wahân i feirniadaeth Y Cenhedloedd Unedig ar dreth ystafell wely yn achosi digartrefedd a beirniadaeth Y Cenhedloedd Unedig ar gredyd cynhwysol a diwygio lles. Mae'n hollol gysylltiedig, ac yn achosi tlodi ac achosi niwed gwirioneddol i'n pobl. Ac er bod Llywodraeth Dorïaidd y DU nawr wedi mynd i'r arfer o ddatgan bob hyn a hyn bod cyni wedi dod i ben, wel, mewn gwirionedd, mae'r dioddef yn parhau, wrth i'r hunanladdiadau a'r marwolaethau nawr gael eu priodoli'n uniongyrchol i gyff gwawd yr asesiad budd-dal anabledd a thaliad annibyniaeth personol. Ac fe wn i, fel cyn-gynghorydd, yn uniongyrchol, pa mor werthfawr a pha mor bwysig yw llywodraeth leol fel cangen gyflenwi democratiaeth Cymru ac i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar y rheng flaen, a'r bobl sy'n agored i niwed fydd y rhai a fydd yn parhau i ddefnyddio gwasanaethau llywodraeth leol ar gyfer y gwasanaeth rheng flaen cyntaf.
Ond mae'n ffaith ddiamod bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi amddiffyn llywodraeth leol yng Nghymru rhag effeithiau gwaethaf naw mlynedd o gyni ac yn wyneb toriad—
A wnewch chi ildio nawr?
Gadewch imi orffen—ac yn wyneb toriad o £850 miliwn i'n cyllideb gan Lywodraeth y DU ers 2010. Mae hynny'n ffaith.
Diolch yn fawr iawn i chi am dderbyn ymyriad. Cytunaf yn llwyr â chi, fel y dywedais i yn fy sylwadau yn gynharach am effeithiau dinistriol cyni Torïaidd, ond onid y realiti y tro hwn yw bod gennym ni gynnydd o 2.4 y cant yn y gyllideb gyffredinol ynghyd â gostyngiad o 2 y cant yng nghyllidebau llywodraeth leol?
Diolch ichi am hynna. Rwy'n credu na ellir gwahanu oddi wrth y ffaith, ers 2010, y bu toriad o £850 miliwn i Gymru. Mae hyn yn strategol, mae hyn yn hirdymor, ac rydym ni'n gwybod bod mwy i ddod oni bai y bydd etholiad cyffredinol, a cheir ffaith eithaf syml yn y fan yma: Os yw eich côt yn rhy dynn, byddwch yn gwlychu.
Fe wnes i gyfarfod ag aelodau etholedig o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yr wythnos diwethaf—[Torri ar draws.] Wel, gadewch imi egluro fy sylw: Os nad oes gennych chi ddigon o arian yn dod i mewn, ni fyddwch yn gallu darparu'r gwasanaethau y mae eich pobl eu hangen. Galwais ar arweinydd y cyngor i ddod i'r Cynulliad, oherwydd fy mod i'n bryderus iawn ynghylch statws llywodraeth leol fel y cyfryw ar draws y DU, i drafod gyda mi heb flewyn ar dafod yr heriau sy'n wynebu cynghorau a'r defnydd doeth o gronfeydd wrth gefn, ond y ffaith yw bod cynghorau yn ofnus pan eu bod yn edrych ar draws y dŵr at Loegr. Dywedodd y South Wales Argus ar 12 Tachwedd, bod toriadau o £89 miliwn wedi'u gwneud gan yr awdurdod ers 2008. Bydd angen dod o hyd i £60 miliwn arall dros y pum mlynedd nesaf. Ac fe wn i na siaradodd unrhyw wleidydd Llafur â mi ynghylch dod i mewn i fywyd cyhoeddus i gwtogi gwasanaethau cyhoeddus. Dyma anadl einioes y gymuned. Ni ddywedodd unrhyw wleidydd Llafur yr wyf i yn ei adnabod wrthyf mai dyna pam y daeth i mewn i lywodraeth leol.
Mae'n ffaith bod llywodraeth leol yn darparu gwasanaethau sydd er lles uniongyrchol ac yn effeithio ar y bobl dlotaf yn ein cymdeithas. Llywodraeth leol sy'n talu am seibiant, gofal, cerddoriaeth, chwaraeon a gwasanaethau cymorth anstatudol ar gyfer ein pobl, ac rwy'n cymeradwyo agwedd benderfynol cynghorwyr Llafur Cymru a'n dinasyddion, sy'n parhau i godi llais ynghylch yr angen i ymladd yn ôl yn erbyn cyni Ceidwadol.
Diolch i Lywodraeth Lafur Cymru a'n hawdurdodau lleol yng Nghymru ni fydd yn rhaid iddyn nhw reoli toriadau o fwy na 0.5 y cant. Ac mae hyn yn gwbl groes—[Torri ar draws.]—os dymunaf i barhau, ac rwyf i'n dymuno os caf—. Mae hyn yn gwbl groes i'r sefyllfa yn Lloegr, lle mae cyllidebau cynghorau wedi eu chwalu'n llwyr. Ac fe fyddwn i'n cymryd mwy o sylw o'r blaid gyferbyn pe na bydden nhw, lle maen nhw mewn Llywodraeth, wedi cael y cyff gwawd o doriadau i lywodraeth leol a gafodd Lloegr. Mae ymchwil gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol wedi canfod y bydd llywodraeth leol gwirionedd—erbyn 2025. Nid yw'n iawn fod y Ceidwadwyr gyferbyn yn galw am fwy o arian ac ar yr un pryd yn torri, dros amser, yn strategol, cyllideb Cymru. Mae'n annidwyll ar y mwyaf ac yn ffars.
Mae toriadau'r Torïaid mewn llywodraeth leol yn Lloegr yn annheg iawn. Fe daron nhw rai o'r cynghorau mwyaf anghenus yn galetach na neb. Mae'r 10 uchaf—[Torri ar draws.] Gadewch imi orffen. Mae'r 10 uchaf o gynghorau mwyaf difreintiedig Lloegr yn wynebu toriadau sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol, gyda naw yn sicr o wynebu toriadau dros dair gwaith yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Felly, ble mae'r tosturi Ceidwadol yn y fan yna tuag at y bobl dlotaf yn ein cymdeithas, lle'r ydych chi'n llywodraethu?
Gwn fod pobl Cymru yn cael eu trin yn well gan gynghorau Llafur Cymru, a reolir gan Lywodraeth Lafur Cymru, ac yn olaf, awgrymaf Dirprwy Lywydd, bod y Torïaid gyferbyn yn ysgwyd y goeden arian hud y daethon nhw o hyd iddi ar gyfer Gogledd Iwerddon—yr £1 biliwn a roesoch chi iddyn nhw—a'i roi yn ôl i Gymru. Diolch.
Hoffwn i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw a chefnogi cynnig Ceidwadwyr Cymru, yn arbennig ein cynnig yn galw am adolygiad annibynnol o'r fformiwla gyllido ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru sydd mor hen ffasiwn ac sydd wirioneddol angen ei diwygio.
Pan ddechreuais i feddwl am fy nghyfraniad heddiw, roeddwn i'n meddwl, 'Wel, fe chwythaf i'r llwch oddi ar fy araith y llynedd, y flwyddyn cyn hynny, neu'r flwyddyn cyn hynny hyd yn oed; yr un y mae Mike Hedges yn ymyrryd arni hi bob blwyddyn.' Felly, dyna dystiolaeth, rwy'n credu, Mike, ein bod ni'n siarad am hyn ar yr ochr hon bob blwyddyn oherwydd eich bod chi'n ymyrryd bob blwyddyn. Ond, eleni, yr oeddwn i'n meddwl, yn hytrach na gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet i gyfrannu tuag at yr hyn yr wyf i'n ei ddweud, fe ofynnaf i chi gyfrannu at yr hyn y mae arweinydd Cyngor Sir Powys yn ei ddweud. Ysgrifennodd hi at holl Aelodau'r Cynulliad sy'n cael eu cynrychioli yn ardal Cyngor Sir Powys, ac roeddwn yn meddwl, yn fy nghyfraniad i, y byddwn yn ailadrodd i chi yr hyn a ddywedodd hi, felly gallwch ei hateb hi'n uniongyrchol. Mae ei llythyr yn nodi'r bwlch cyllid o £14 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf ar gyfer Cyngor Sir Powys, ac £20 miliwn arall dros y tair blynedd dilynol, ac mae hi'n sôn nad yw'r gostyngiadau yn y gyllideb yn ystyried y gost o ddarparu gwasanaethau ar draws rhannau helaeth o'r siroedd gwledig megis Powys. Aiff ymlaen i ddweud bod
Powys wedi bod yn y sefyllfa annichonadwy o gael y setliad cyllideb gwaethaf, neu'r setliad gwaethaf ar y cyd mewn naw allan o ddeng mlynedd.
I roi hyn mewn cyd-destun, yn y 10 mlynedd diwethaf rhwng 2010 a 2020, byddai tua £100 miliwn wedi bod ar gael yn ein cyllideb, ac mae hyn ar adeg pan fo awdurdodau lleol eraill ledled Cymru yn gweld cynnydd yn eu setliadau. Dyma'r enghraifft yr oedd Darren Millar yn sôn amdani yn ei sylwadau agoriadol am y rhaniad rhwng ardaloedd trefol a gwledig Cymru. [Torri ar draws.] Ie, Mike, fel bob tro.
Fel bob amser—os oedd rhaid i Russell George fy herio i. Ym Mhowys mae cymorth y pen yn y pedwerydd safle ar ddeg uchaf yng Nghymru a'i phroblem yw colli poblogaeth.
Wel, onid yw hi'n ddiddorol bod Llywodraeth y DU, yn ei grant bloc, yn rhoi £1.20 i bob person yng Nghymru am bob £1 sy'n cael ei wario yn Lloegr? A pham? Oherwydd bod mwy o angen yma yng Nghymru. Ond nid yw'r angen hwnnw yn cael ei adlewyrchu yn y fformiwla ar gyfer llywodraeth leol o safbwynt Cymru wledig a'r anghenion ledled Cymru.
Y mae'n cael ei adlewyrchu.
A bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu ymateb i hynny yn ei sylwadau terfynol.
Hefyd, mae arweinydd Cyngor Sir Powys yn sôn am yr arbedion effeithlonrwydd sydd eisoes wedi'u gwneud mewn rheoli a swyddfeydd cefn. Yr hyn a ddywed hi mewn llythyr ataf i ac at Aelodau Cynulliad eraill yn ein hardal ni yw nad yw'r dull hwn yn gynaliadwy mwyach gan fod y toriadau yn rhy ddwfn.
Rhy ddwfn. Toriadau llym. Mae hi'n sôn am gyllidebau ysgol; colli swyddi—wrth gwrs, yr awdurdod lleol yw'r cyflogwr mwyaf yn yr ardal; gostyngiadau mewn gwasanaeth; priffyrdd; cynnal a chadw; cyflwyno neu gynyddu taliadau i rai o'r gwasanaethau cyhoeddus, megis mynwentydd, gwastraff gardd, meysydd parcio ac ati.
Felly, rydym ni, ar yr ochr hon i'r Siambr, ar y meinciau hyn, rydym ni eisiau sicrhau bod cynghorau lleol yn cael eu grymuso i wneud y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu cymunedau. Yn anffodus, bu tuedd tuag at ganoli cyllid drwy gyflwyno grantiau penodol Llywodraeth Cymru yn hytrach na grymuso'r cynghorau hynny, cynghorau tref, cynghorau cymuned, cynghorau sir ledled Cymru, i wneud penderfyniadau ariannol yn lleol yn eu hardaloedd eu hunain—penderfyniadau sy'n addas ar gyfer eu cymunedau eu hunain. Felly, gadewch i ni weld ymagwedd fwy hyblyg a gadewch i ni weld cynnydd yn y grant cynnal refeniw yn hytrach na grantiau penodol gan Lywodraeth Cymru, ac yna caniatáu i awdurdodau lleol i ddiogelu mwy o'r gwasanaethau sy'n bwysig iddyn nhw.
Fe ddof â'm cyfraniad i ben drwy ddarllen y paragraff olaf ond un oddi wrth arweinydd Cyngor Sir Powys ataf i ac aelodau eraill y Cynulliad:
Nid yw'n rhy hwyr i wyrdroi'r sefyllfa. Mae cyllideb y Canghellor wedi darparu cymorth ychwanegol ar gyfer bloc Cymru, a dylai llywodraeth leol fod y cyntaf yn y ciw i gael adnoddau ychwanegol. Powys yw'r awdurdod sydd wedi dioddef yn fwy na'r rhan fwyaf; dylai fod ar flaen y ciw hwnnw.
Wel, rwy'n cytuno ag arweinydd Cyngor Sir Powys, a gadewch inni gytuno i gynnal adolygiad annibynnol o'r fformiwla gyllido ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru, Ysgrifennydd y Cabinet, a gadewch i ni weld system deg sy'n gweithio ar gyfer pob rhan o Gymru.
Diolch. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno y bu'n ddadl ddyrchafol arall ar natur cyni yn y fan yma. Rwy'n credu nad yw'n glod i'r lle hwn nac i wleidyddiaeth, pan fo Aelodau Ceidwadol yn codi a difrïo polisïau ac effaith polisïau Llywodraeth y maen nhw'n honni eu bod yn ei chefnogi yn y Deyrnas Unedig tra eu bod, ar yr un pryd, yn golchi eu dwylo o'r holl gyfrifoldeb am effeithiau'r polisïau hynny. Ond gadewch i mi ddweud un peth, wrth imi ddechrau fy sylwadau y prynhawn yma. Gadewch imi ddweud hyn; beth bynnag a wnawn ni i'r fformiwla neu gyda'r fformiwla o ran ei symud hi ymlaen, ei datblygu, ni fyddaf i byth, fel Ysgrifennydd Cabinet, yn gwyro'r fformiwla i gefnogi cynghorau Llafur neu gynghorau yn fy rhanbarth arbennig i.
Fe glywsom ni yn ystod yr awr ddiwethaf, Ceidwadwr ar ôl Ceidwadwr yn codi ac yn dweud wrthym ni, yn y bôn, y dylai'r fformiwla gael ei gwyro. Maen nhw wedi gosod cymuned yn erbyn cymuned yn y wlad hon y prynhawn yma ym mhob un o'u sgyrsiau. Nid wyf i am wneud hyn. Ond fe ddywedaf i wrthych chi beth yr wyf i'n mynd i'w wneud, gadewch imi ddweud wrthych chi beth yr wyf i'n mynd i'w wneud. Pan fyddaf yn cael llythyr gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi'i lofnodi gan bob un o'r pedwar arweinydd gwleidyddol, yn dweud wrthyf eu bod yn gofyn am adolygiad o'r fformiwla honno, fe fyddaf yn caniatáu hynny. Ni fyddaf yn ei rwystro. Gadewch imi ddweud hyn; cyflwynwyd y fformiwla am y tro cyntaf, wrth gwrs, gan un o'm rhagflaenwyr, Aelod dros Flaenau Gwent, ond nid wyf i'n teimlo fy mod yn berchen arni mewn unrhyw ffordd, rwy'n teimlo ei bod yn fformiwla i'w rhannu rhyngom ni a llywodraeth leol. Felly, gadewch inni glywed y llais hwnnw, gadewch inni glywed beth sydd gan arweinwyr y cynghorau hynny i'w ddweud. Gadewch inni glywed eu llais, ac os byddan nhw'n gofyn am yr adolygiad sylfaenol hwnnw, yna fe fyddwn o du ei ganiatáu. Ond, bydd yn canolbwyntio ar anghenion pobl ac nid diwallu anghenion pleidiau gwleidyddol. Felly, ni fydd yn adolygiad Torïaidd; fe fydd yn adolygiad dan arweiniad y lle hwn, yn annibynnol ar bleidiau gwleidyddol, ac yn annibynnol ar y dichell gwleidyddol a glywsom ni y tu ôl imi.
Onid y pwynt pwysig heddiw ydy nid y fformiwla—ac rydym yn mynd lawr rhyw gors yn trafod y fformiwla gyllidol—onid y pwynt pwysig fan hyn ydy bod yna gynnydd wedi bod yn y gyllideb eleni a oedd yn rhoi cyfle euraidd i’r Llywodraeth yma ddechrau symud y pwyslais tuag at wasanaethau ataliol ym myd llywodraeth leol? Rydych chi wedi colli’r cyfle honno.
Roeddwn i'n ymateb i un rhan o'r ddadl: Fe fyddaf yn dod at rannau eraill o'r ddadl maes o law. Fy rhagdybiaeth oedd eich bod eisiau ymyrryd ar yr agweddau yn ymwneud â fformiwla o hyn. Ond fe fyddwn yn cyfeirio at rannau eraill o hyn.
Fodd bynnag, yr hyn yr hoffwn i ei wneud, yw cael ychydig mwy o—sut gallaf i fynegi hyn—ddadl ddyrchafedig ynghylch sut yr ydym ni'n ariannu llywodraeth leol a'r heriau sy'n ein hwynebu. Gadewch imi ddweud hyn; dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi gweld effaith sylweddol o ganlyniad i gyni. Rydym ni wedi gweld gostyngiad o 8 y cant, mewn termau real yn y gyllideb sydd ar gael i'r Llywodraeth hon ers 2009 a 2010. Rydym ni wedi gweld effaith polisi economaidd a pholisi ariannol wedi methu o Lundain. Mae wedi methu â chyflawni pob un o'i amcanion. Un o'r amcanion hynny—[Torri ar draws.] Nid wyf am dderbyn ymyriad arall ar hyn o bryd. Mae wedi methu â chyflawni unrhyw un o'i hamcanion, a dyna pam, rwy'n amau, y taflodd y Canghellor presennol y cyfan i'r bin.
Gadewch imi ddweud hyn: Mae'r Ceidwadwyr yn dweud wrthym ni y bydden nhw'n gwneud pethau mewn ffordd wahanol, ac maen nhw'n iawn, fe fydden nhw. Fe fydden nhw—fe fydden nhw— oherwydd, yn Lloegr, maen nhw'n lleihau cyllid craidd y Llywodraeth, nid gan 10 y cant nac 20 y cant, ond i sero. I sero. Fe'i gostyngwyd i ddim byd o gwbl. Ond nid ydych chi'n clywed hynny gan y lleisiau hyn yma, na'i glywed gan gynghorwyr Ceidwadol ychwaith. Rwyf i wedi gweld yr un llythyrau a welwyd gan eraill yn y fan yma, ond rwy'n dal i ddisgwyl gweld llythyr gan arweinydd y Ceidwadwyr mewn unrhyw le yng Nghymru—ac fe dderbyniaf yr ymyriad os oes gan rywun un—lle y maen nhw'n dweud, eu bod nhw eisiau'r un polisïau sy'n cael eu dilyn gan Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn Lloegr yn cael eu dilyn yma yng Nghymru. [Torri ar draws.] Nid wyf i wedi ei weld hyd yn hyn, ac rwy'n sylwi bod yr ymyriadau y tu ôl imi wedi tewi.
Yr hyn yr ydym ni wedi ei weld—[Torri ar draws.] Yr hyn yr ydym ni wedi ei weld—[Torri ar draws.] Maen nhw'n dawel nawr. Maen nhw'n dawel nawr, oherwydd eu bod yn cydnabod—[Torri ar draws.] Oherwydd eu bod yn cydnabod—[Torri ar draws.] Maen nhw'n cydnabod bod 24 y cant o doriad mewn gwariant ar gyfer cynghorau yn Lloegr yn cymharu â 12 y cant yng Nghymru—nid 35 y cant, Darren. Fe gawsoch eich rhifau'n anghywir unwaith eto; mae angen ymchwilydd newydd arnoch chi ac mae angen ysgrifennwr areithiau newydd arnoch chi hefyd. Felly, gadewch imi ddweud hyn wrthych chi. Nid oes unrhyw—[Torri ar draws.] Nid oes unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru yn wynebu unrhyw beth tebyg i'r un gostyngiadau mewn gwariant ag y mae cyngor cyfartalog yn Lloegr—dim un, dim un o gwbl.
Ond gadewch i mi fynd ymhellach na hynny, a dyma'r ddadl wirioneddol y mae'n rhaid inni ei chael y prynhawn yma, a daeth Rhun ap Iorwerth yn agos iawn at ddweud y pethau hyn. Gadewch imi ddweud hyn: Y peth hawddaf yn y byd yw ailadrodd ac ymarfer dadleuon—rydym ni wedi clywed o leiaf un Aelod yn dweud ei fod wedi traddodi'r un araith dair gwaith yn ystod y tair blynedd diwethaf—ond nid yw hynny'n ymateb digonol. Mae'n ymateb annigonol i'r heriau a wynebwn. Fe wyddom ni fod Canghellor yn dweud mewn araith bod cyni ar ben, yn dibynnu ar sefyllfaoedd gwahanol, yn arwain at ostyngiadau sylweddol yng ngrant bloc Cymru hyd at 2021-22, naill ai gan -3 y cant, -0.5 neu-0.8 y cant. Felly, byddwn ni'n dal yn gweld gostyngiadau. Ac fe wyddom ni—a dyma'r her, Rhun—nid yw'n ddigon da i gynnig sylwebaeth a chynnig dadansoddiad o'r gwahanol feysydd o ariannu, oherwydd ni fyddai neb yn anghytuno â chi, ond mae'n rhaid i chi wneud penderfyniadau. Nid ydym ni'n eistedd yn y Siambr hon i roi sylwebaeth. Rydym ni'n eistedd yn y Siambr hon i wneud penderfyniadau, ac os ydych chi'n cwestiynu faint o arian a werir ar iechyd, yr ymagwedd onest yw nid ei feirniadu, ond dadlau o blaid ei dorri. Dadlau o blaid ei dorri.
Rwy'n credu mai'r pwynt a wnes i ynghylch hynny, ac fe'i gwnaf ef eto, oedd bod y rhain yn benderfyniadau, ydynt, y gallwn edrych arnyn nhw yng nghyd-destun heddiw, ond y dylem ni fod yn edrych arnyn nhw yng nghyd-destun blynyddoedd. Rydym ni wedi bod yn siarad am amser maith am yr angen i feddwl yn drawsffurfiol ynghylch sut yr ydym ni'n gwario arian ar iechyd a gofal cymdeithasol—nid yw wedi digwydd. Bellach, o ganlyniad i'r adolygiad seneddol, efallai y byddwn ni'n gweld rhywfaint o newid, ond mae hyn yn fethiant ar ran bron i 20 mlynedd o Lywodraeth a arweinir gan Lafur.
Byddwn i'n awgrymu, mewn nifer o ffyrdd, ei fod yn fethiant ar ran y dosbarth gwleidyddol yn hytrach nag unrhyw blaid wleidyddol benodol, oherwydd gadewch imi ddweud hyn; oherwydd mae pethau'n mynd i waethygu. Oherwydd mae pethau'n mynd i waethygu. Gwelodd pob un ohonom ni, ac rwy’n siŵr y darllenodd sawl un ohonom ni adroddiad y Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd Cenedlaethol ddoe, a oedd yn trafod effaith Brexit. Gallem ni weld economi'r DU yn gostwng gan rhwng 2.8 y cant a 5.5 y cant. Fe wyddom ni y bydd hynny'n arwain at ostyngiad sylweddol yn y trethi a gesglir; fe wyddom ni y bydd yn arwain at ostyngiad sylweddol yn y cyllid sydd ar gael i ni; ac fe wyddom ni os ydym o ddifrif ynglŷn â'r math o gynnydd mewn gwariant sy'n cael ei drafod y prynhawn yma, y byddai'n rhaid inni gynyddu cyfraddau treth incwm Cymru gan 5, 6 neu 7 y cant er mwyn gwneud iawn am y gostyngiadau hynny, ac a ydych chi'n barod i ddadlau o blaid hynny? A ydych chi'n barod i ddadlau o blaid hynny?
Yr hyn yr wyf am ei ddweud, ac rwyf yn dweud hyn wrth Aelodau ar bob ochr i'r Siambr y prynhawn yma, yw nad yw dadl ddi-fudd ynghylch sut yr ydym ni'n dyrannu arian yn ymateb digonol i'r heriau a wynebir gan lywodraeth leol na gan feysydd eraill o wariant o fewn Llywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i ni ofyn cwestiynau llawer mwy anodd a llawer mwy llym, oherwydd yn y dyfodol bydd gennym ni ostyngiadau sylweddol yn y cyllid sydd ar gael i ni, ac mae hynny'n golygu gofyn cwestiynau anodd am strwythurau llywodraethu. Mae'n golygu gofyn cwestiynau anodd ynghylch sut yr ydym ni'n darparu gwasanaethau. Mae'n golygu gofyn cwestiynau treiddgar iawn i ni'n hunain ac i'n cyd-Aelodau ynghylch sut y byddwn ni'n llwyddo i greu strwythurau darparu gwasanaethau ac atebolrwydd a llywodraethu lleol a all gyflawni a diogelu'r gwasanaethau hynny, nid yn unig yn yr oes o gyni ond yr oes o gyni a daniwyd gan Brexit. Drwy gerdded i ffwrdd o'r ddadl honno, rydym ni'n cerdded i ffwrdd oddi wrth y cyfrifoldeb y mae ein swyddi yn ei osod arnom. Rwy'n gwybod fy mod i'n trethu eich amynedd, Dirprwy Lywydd—Fe orffennaf i gyda'r pwynt hwn: Nid oes angen unrhyw ddarlith arnaf o gwbl gan blaid Geidwadol Cymru a'u dagrau ffug ynghylch y toriadau i gyllid cyhoeddus a'u heffaith ar wasanaethau cyhoeddus. Nid oes ar neb angen y dagrau ffug hynny. Nid oes ar neb eisiau'r dagrau ffug hynny. Yr hyn yr ydym ni ei eisiau—[Torri ar draws.] Yr hyn yr ydym ni eisiau—a'r hyn y byddaf yn ei harwain, a'r hyn y bydd y Llywodraeth hon yn ei harwain—yw dadl ynghylch sut yr ydym yn darparu ac yn amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus ar adeg pan fo'r bobl y tu ôl i mi, sy'n hapus i weiddi, yn cynnig mwy o'r un peth a dim syniadau newydd. Fe fyddwn ni'n arwain newid yn Llafur Cymru, a byddwn yn arwain newid teg i bawb ym mhob rhan o'r wlad hon.
Mae'n rhaid i'r Aelodau sylweddoli pan fyddwch chi i gyd yn dechrau gweiddi, y byddaf yn caniatáu i'r Gweinidog barhau. Felly, os ydych yn teimlo eich bod—[Torri ar draws.] Felly, os ydych yn teimlo—gan fy mod wedi clywed llawer iawn o sylwadau eisteddog, fe fydd yn rhaid ichi eistedd a gwrando, oherwydd byddaf yn caniatáu i Weinidogion—a dim ond Gweinidogion, rwy'n ychwanegu'n gyflym iawn—i barhau. Felly, dyna ni. Meddyliwch am hynny ar gyfer y ddadl nesaf. Galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl. Mark, mae gennych chi bedwar munud.
Diolch. Diolch i bawb a gyfrannodd. Fel yr amlygodd Darren Millar, roedd llythyr gan arweinwyr llywodraeth leol, a lofnodwyd ganddyn nhw i gyd, yn rhybuddio y byddai toriadau i wasanaethau ataliol yn ddarbodaeth ffug. Fel y dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrth y pwyllgor, cafwyd cyhoeddiad bod £30 miliwn yn mynd i fyrddau partneriaeth rhanbarthol, ond mae hynny yn llinell gyllideb y GIG. Pam na wnewch chi'r £30 miliwn hynny'n gronfa gwariant ataliol?
Gan grynhoi'r materion ehangach—. Fel y dywedodd Darren, ceir amheuon bod Ysgrifennydd y Cabinet yn defnyddio tactegau llechwraidd i orfodi cynghorau i uno ac, fel y dywedodd, ni yw'r fformiwla gyllido ar gyfer llywodraeth leol Llywodraeth Cymru sy'n 17 oed, yn addas i'r diben mwyach. Fel gweithiwr iechyd proffesiynol, roedd Dr Dai Lloyd yn tynnu sylw at yr angen i weld mwy o arian yn cael ei wario ar atal salwch mewn llywodraeth leol, a'r angen i ganiatáu i feddygon teulu atgyfeirio i'r gwasanaethau cymdeithasol. Dywedodd Suzy Davies fod awdurdodau lleol yn agos at beidio â gallu cynnal gwasanaethau yn ddiogel ac na all Llywodraeth Cymru barhau i ddefnyddio cyni fel esgus. Cyflwynodd Mike Hedges amddiffyniad fformiwläig o fformiwla hen ffasiwn. Cynigiodd Rhun ap Iorwerth welliannau Plaid Cymru 2 a 3, ac fe fyddwn ni'n eu cefnogi. Nododd hefyd ei bod hi wedi cymryd symiau canlyniadol gan Lywodraeth y DU i berswadio Llywodraeth Cymru i roi briwsion i lywodraeth leol. Ac, fel y dywedodd, cyni Llafur yw hyn. Cyfeiriodd Mohammad Asghar at y tro pedol gwaradwyddus a gyflawnodd Llywodraeth Cymru diolch i gyllid ychwanegol gan Ganghellor y DU. Cawsom yr araith arferol yn cael ei bloeddio gan Rhianon Passmore am y cyni a etifeddwyd gan Lywodraeth y DU yn 2010. Tynnodd Russell George sylw at y rhaniad yn y fformiwla gyllido rhwng ardaloedd trefol a gwledig Cymru a dywedodd y dylai awdurdodau lleol fod ar flaen y ciw ar gyfer cyllid ychwanegol oddi wrth y Canghellor.
Y cwbl a gawsom ni gan Ysgrifennydd y Cabinet Mr Bumble oedd yr anllythrennedd economaidd arferol, taflu'r baich a'r dichell gwleidyddol. Wrth gwrs, cyfeiriodd at yr effaith ar yr economi pe byddai Llafur yn pleidleisio i wrthod y fargen Brexit a gafodd ei negodi rhwng Llywodraeth y DU a phob un o'r 27 o aelodau'r UE. Ar hyn o bryd, am bob £1 a gaiff ei gwario gan Lywodraeth Geidwadol y DU ar faterion datganoledig, rhoddir £1.20 i Gymru. Ond mae talwyr y dreth gyngor yng Nghymru yn dwyn baich penderfyniadau gwael Llywodraeth Cymru dros bron i ddau ddegawd. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet unwaith eto'n cymharu cyllid rhwng Cymru a Lloegr, gan honni bod cynghorau yno'n waeth eu byd. Ond mae polisi cyllido llywodraeth leol wedi ymwahanu'n sylweddol ers datganoli; er enghraifft, cyllid uniongyrchol ar gyfer ysgolion yn Lloegr, nid yng Nghymru, a chadw ardrethi busnes yno, nid yma. Mae'n amhosibl gwneud y cymariaethau canran y mae'n parhau i'w gwneud.
Rydym ni hefyd yn gwybod bod gennym fformiwla gyllido gymhleth a hen ffasiwn, sy'n rhy fiwrocrataidd ac sy'n arwain at gyllid llywodraeth leol ar sgiw. Felly, ar y nodyn hwnnw, fe orffennaf i drwy ddyfynnu cyngor sir dan arweiniad Llafur yng Nghymru, oherwydd yr wythnos diwethaf, dan arweiniad Llafur fe lansiodd Cyngor Sir y Fflint ei ymgyrch #CefnogiGalw yn y cyngor llawn gyda phob cynghorydd ym mhob plaid yn cefnogi'n unfryd y bwriad o fynd, rwy'n dyfynnu, â'r frwydr i lawr i'r adran lywodraeth leol yng Nghaerdydd i gael cyfran deg o'r cyllid cenedlaethol. Rwy'n falch iawn o ddangos fy nghefnogaeth iddyn nhw ac rwy'n ddiolchgar bod y bobl sy'n byw yn sir y Fflint, a Wrecsam a'r cynghorau eraill dan anfantais erbyn hyn yn gwrthsefyll bwlis yn y Blaid Lafur yng Nghaerdydd, nad ydyn nhw'n gwrando, sydd wedi rhoi'r gorau i fod yn atebol ac y dylen nhw fynd unwaith ac am byth.
Y cynnig yw—[Torri ar draws.] Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Rydym yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.