Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Rwy'n codi i gefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru i'r cynnig hwn gan y Torïaid, ac rwy'n edrych ar yr olygfa gywilyddus o'r Torïaid gyferbyn â mi yn codi i ddweud bod awdurdodau lleol yn cael trafferthion—wel, gadewch inni fod yn onest, yn blwmp ac yn blaen, ysgwydwch y goeden arian hud honno, a byddwn yn cael mwy o arian, mwy o werth am ein harian o wneud hynny.
Rwyf i yn un, wedi blino clywed am gyni, felly hefyd pobl Islwyn sy'n dioddef oherwydd yr ideoleg wleidyddol, greulon hon—ideoleg sydd wedi methu â lleihau diffyg y DU—