Part of the debate – Senedd Cymru am 5:18 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Wel, onid yw hi'n ddiddorol bod Llywodraeth y DU, yn ei grant bloc, yn rhoi £1.20 i bob person yng Nghymru am bob £1 sy'n cael ei wario yn Lloegr? A pham? Oherwydd bod mwy o angen yma yng Nghymru. Ond nid yw'r angen hwnnw yn cael ei adlewyrchu yn y fformiwla ar gyfer llywodraeth leol o safbwynt Cymru wledig a'r anghenion ledled Cymru.