Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 27 Tachwedd 2018.
A wnaiff Mark Isherwood gydnabod bod asesiad y Llywodraeth ei hun yn 2011 wedi amlygu bod rhai o'r problemau hyn sy'n codi oherwydd credyd cynhwysol, yn enwedig o ran sut y maen nhw'n effeithio ar fenywod, yn hysbys. Roedden nhw'n hysbys yn yr asesiad hwnnw, sy'n ddogfen gyhoeddus. Sut y gall Amber Rudd—sut y gallwch chi gredu Amber Rudd yn awr pan ddywed ei bod hi'n mynd i liniaru'r effeithiau hyn pan yr oedd y Llywodraeth yr ydych chi'n ei chefnogi yn gwybod beth fyddai'r effeithiau hynny yn 2011?