Part of the debate – Senedd Cymru am 6:06 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Byddaf yn dod at fy sylwadau am Ms Rudd mewn eiliad, ond byddwn i'n cytuno â'r hyn yr ydych chi wedi'i ddweud.
Nawr, os ydym ni'n cyfuno'r modd y mae credyd cynhwysol yn gweithio gydag, er enghraifft, rheolau budd-daliadau tai, na fydd ond yn talu cost ystafell mewn tŷ a rennir i bobl ifanc, sy'n arwain at fenywod ifanc sy'n agored i niwed yn cael eu gorfodi yn aml i rannu â thenantiaid eraill cwbl anaddas, a'r cymal trais rhywiol ffiaidd y mae Leanne Wood eisoes wedi cyfeirio ato, ynghyd â llawer o enghreifftiau eraill y gallwn i sôn amdanyn nhw, mae'n cyflwyno system fudd-daliadau sydd wedi'i seilio ar y camargraff mai'r dyn yw'r enillydd cyflog a'r camargraff o bobl dlawd, diog ac annheilwng. Mae'n system wreig-gasaol a dyna oedd ei bwriad o'r cychwyn.
A dylai'r gwleidyddion a gyflwynodd y system honno deimlo cywilydd llwyr, ond nid ydynt, oherwydd bod y system yn cyflawni'r hyn yr oedden nhw'n dymuno iddi ei wneud. Ac o ran sylwadau Jane Hutt a sylwadau Mark Isherwood ynghylch Amber Rudd, nid wyf i'n credu y bydd hi'n cael lliniaru yn y modd y mae hi'n dweud yr hoffai ei wneud, oherwydd nid yw'r effeithiau hyn yn ddamweiniol. Ac mae'n rhaid imi ddweud wrth fy ffrindiau ar ochr arall y Siambr honno—ac mae rhai ohonyn nhw'n ffrindiau i mi—bod angen iddyn nhw edrych yn hir ac yn galed arnyn nhw eu hunain os ydyn nhw'n credu eu bod yn gallu cefnogi hyn. Rwyf i wir yn meddwl: ydyn nhw'n wirioneddol falch o hyn? Roedd gen i feddwl gwell ohonyn nhw.
Ond nid oes gan y Llywodraeth unrhyw gyfiawnhad dros hunanfoddhad yn y fan yma, ac mae tôn eu gwelliant hunanglodforus braidd yn peri siom. Nid wyf i'n credu y byddai unrhyw blaid neu gyfuniad o bleidiau a allai gael eu hethol i lywodraethu yn y Senedd hon yn trin ein dinasyddion tlotaf yn y modd y mae Llywodraeth Dorïaidd y DU yn ei wneud. Fel yr ydym ni wedi clywed eisoes, mae'r Alban a Gogledd Iwerddon wedi cymryd rheolaeth weinyddol o gredyd cynhwysol, ond nid yw'n ymddangos bod ein Llywodraeth ni yn dymuno gwneud hynny. A des i o hyd i ddyfyniad gan un o'r ymgeiswyr i fod yn arweinydd y Blaid Lafur. Dywed:
Nid wyf i'n frwd dros ddatganoli systemau treth a budd-daliadau. Mae'n ymddangos i mi mai nhw sy'n clymu'r DU at ei gilydd... Os ydych chi'n cefnogi ailddosbarthu, y systemau treth a budd-daliadau yw'r ffordd i wneud hynny. O ran y cwestiwn allweddol ynghylch tlodi, rwy'n credu bod Cymru yn elwa
—'yn elwa'—ar fodel ailddosbarthu y DU.
Wel, mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Siambr hon nad yw'r mecanwaith ailddosbarthu hwnnw yn gwasanaethu ein dinasyddion tlotaf yn dda iawn ar hyn o bryd, ydy 'e? Ac nid wyf i'n siŵr bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y sawl yr oeddwn i'n ei ddyfynnu, yn gallu sefyll yn y fan yma mewn gwirionedd—neu eistedd yn y fan yma—ac amddiffyn y safbwynt hwnnw.
Nid oes neb yn honni y byddai cymryd rheolaeth dros weinyddu credyd cynhwysol yn datrys yr holl broblemau sydd gennym ni yn y system niweidiol hon. Ond yr hyn yr ydym ni'n ei geisio, wrth gwrs, fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, yw rheolaeth lawn ar y system fudd-daliadau. Ond gallai, fel y mae Sefydliad Bevan wedi ei ddweud, wneud gwahaniaeth gwirioneddol, yn enwedig o ran sut y caiff budd-daliadau eu talu, ac rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd John Griffiths yn hyn o beth yn gynharach yn y ddadl hon.
Dirprwy Lywydd, trwy gefnogi'r cynnig gwreiddiol ac annog y Siambr hon i wrthod y gwelliant, rwy'n annog y Llywodraeth hon, ein Llywodraeth ni, Llywodraeth Cymru, i ddangos rhywfaint o ddewrder ac o leiaf gofyn am reolaeth weinyddol o'r credyd cynhwysol er mwyn gallu gwneud yr hyn y mae Gogledd Iwerddon a'r Alban yn ei wneud ar ran eu dinasyddion tlotaf. Mae ein dinasyddion tlotaf angen i ni weithredu nawr, ac nid ydyn nhw angen dogma unoliaethol.