Part of the debate – Senedd Cymru am 6:09 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Nid trethi gwyrdd sy'n gwneud pobl yn dlawd. Polisïau bwriadol Llywodraeth y DU o ran sut maen nhw'n dewis trethu a dosbarthu budd-daliadau sy'n ei wneud. Mae'n rhaid imi gytuno ag ef ar un peth—nad yw'r TAW ar nwyddau hanfodol yn dreth flaengar, felly mae'n rhaid inni ddod o hyd i dreth arall yn ei lle. Pe byddem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae hynny'n rhywbeth y gallem ni ei wneud, ond mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar y presennol, ar yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud i bobl yn sgil y dewisiadau y maen nhw'n eu gwneud yn eu cyllidebau.