– Senedd Cymru am 6:37 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Rydym wedi cyrraedd yr amser pleidleisio, felly oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, byddaf yn bwrw ymlaen i agor y pleidleisiau. Iawn. Diolch.
Y bleidlais gyntaf, felly, y prynhawn yma yw'r un ar y ddadl, Astudiaeth Ddichonoldeb i Oriel Gelf Gyfoes i Gymru ac Astudiaeth Ddichonoldeb i Amgueddfa Chwaraeon i Gymru. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 12, neb wedi ymatal, 36 yn erbyn, felly ni dderbyniwyd y gwelliant.
Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 47, neb wedi ymatal, neb yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 2.
Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 10, 10 wedi ymatal, 28 yn erbyn, felly ni dderbyniwyd gwelliant 3.
Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 38, 10 wedi ymatal, neb yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 4.
Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 20, neb wedi ymatal, 28 yn erbyn, felly ni dderbyniwyd gwelliant 5.
Galwaf am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd, a gyflwynwyd yn enw Julie James.
Cynnig NDM6873 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi’r astudiaethau dichonoldeb ar 'Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru—Astudiaeth Ddichonoldeb' ac 'Amgueddfa Chwaraeon i Gymru—Astudiaeth Ddichonoldeb'.
2. Yn croesawu’r dadansoddi a’r argymhellion yn y ddau adroddiad, ynghyd â’r cyfleoedd a’r heriau sydd ynghlwm wrthynt.
3. Yn cydnabod bod gofyn gwneud rhagor o waith cyn y gall penderfyniadau gael eu gwneud ynghylch camau gweithredu yn y dyfodol.
4. Yn croesawu’r argymhelliad y dylid sefydlu Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol yn Wrecsam.
5. Yn croesawu’r argymhelliad y dylid gweithio tuag at adeiladu pencadlys cenedlaethol parhaol ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes i Gymru.
Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig wedi'i ddiwygio 37, 10 wedi ymatal, un yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig.
Symudwn yn awr i bleidleisio ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar awdurdodau lleol. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 13, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, ni dderbyniwyd y cynnig.
Symudwn yn awr i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 29, neb wedi ymatal, 19 yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 1.
Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 47, neb wedi ymatal, un yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 2.
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM6875 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y rôl bwysig a chwaraeir gan awdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.
2. Yn cydnabod yr heriau ariannu y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu yng Nghymru ar hyn o bryd.
3. Yn gresynu bod y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar ddim ond ar gael o ganlyniad i'r arian canlyniadol o ddatganiad hydref Llywodraeth y DU.
4. Yn croesawu’r pecyn o gynigion ariannu ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol i wella’r grant cynnal refeniw yn 2019-20, er mwyn mynd i’r afael â’r pwysau wrth inni wynebu nawfed flwyddyn polisi cyni Llywodraeth y DU.
5. Yn nodi bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru’n cefnogi’r cyhoeddiad fel cam arwyddocaol ymlaen sy’n dangos ymdrech ar y cyd i wrthbwyso effaith cyni yng Nghymru.
6. Yn nodi bod y setliad llywodraeth leol yn cael ei ddosbarthu drwy fformiwla gan ddefnyddio bron i 70 o ddangosyddion penodol, y cytunwyd arnynt gyda llywodraeth leol, dan oruchwyliaeth arbenigwyr annibynnol, ac yn seiliedig ar yr angen cymharol i wario a’r gallu cymharol i godi incwm yn lleol.
Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig wedi'i ddiwygio 34, un wedi ymatal, 13 yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Trown yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar dlodi. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig wyth, dau wedi ymatal, 38 yn erbyn, felly ni dderbyniwyd y cynnig.
Symudwn i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 10, dau wedi ymatal, 36 yn erbyn, felly ni dderbyniwyd y gwelliant.
Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 28, neb wedi ymatal, 20 yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 2.
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM6874 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r datganiad gan rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol a thlodi eithafol yn sgil ei ymweliad â'r Deyrnas Unedig.
2. Yn derbyn canfyddiadau’r adroddiad:
a) bod costau cyni wedi’u hysgwyddo i raddau annheg gan bobl dlawd, menywod, lleiafrifoedd ethnig, plant, rhieni sengl a phobl anabl;
b) mai Cymru sydd â’r gyfradd tlodi cymharol uchaf yn y Deyrnas Unedig;
c) bod y gweinyddiaethau datganoledig wedi ceisio lliniaru effeithiau gwaethaf cyni, a hynny er gwaethaf dioddef gostyngiadau sylweddol yn eu cyllid grant bloc; a
d) ei bod yn 'warthus' bod rhaid i genhedloedd datganoledig wario arian i ddiogelu pobl rhag polisïau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
3. Yn croesawu ffocws Llywodraeth Cymru ar drechu tlodi, a’i galwadau parhaus ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â diffygion niferus Credyd Cynhwysol.
Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig wedi'i ddiwygio 28, dau wedi ymatal, 18 yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio.
Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.