Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 28 Tachwedd 2018.
Diolch yn fawr iawn. Yn unol â'n cynllun gweithredu economaidd, rydym yn parhau'n ymrwymedig i gefnogi busnesau bach drwy wasanaeth Busnes Cymru, sydd wrth gwrs yn cynnig cyngor dwyieithog a chymorth i ddechrau a thyfu busnesau. Ac yn ogystal, rydym yn darparu cymorth i fusnesau bach baratoi ar gyfer Brexit, gyda phecyn cydnerthu busnes Brexit pwrpasol gwerth £7.5 miliwn.