Diwygiadau i'r Cod Priffyrdd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 28 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 1:35, 28 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ym mis Hydref y bydd yn adolygu canllawiau rheolau’r ffordd fawr ar sut y dylai defnyddwyr ffyrdd ymddwyn mewn perthynas â beicwyr a cherddwyr. A bydd yn tynnu sylw at beryglon pasio agos, ac yn annog pobl i fabwysiadu dull yr Iseldiroedd—dull o agor drws car gyda'r llaw sydd bellaf oddi wrth y llyw, i orfodi gyrwyr i edrych dros eu hysgwyddau am draffig sy’n pasio. Rwy'n credu bod y rhain yn ddatblygiadau sydd i’w croesawu’n fawr. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i dynnu sylw at y canllawiau hyn a fyddai'n hawdd eu mabwysiadu yn fy marn i, cyn belled â bod pobl yn gwybod amdanynt ac yn eu dilyn? A beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i godi ymwybyddiaeth o’r rhain ymhlith pobl yng Nghymru?